Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion Cyfredol

Llafar

Gweld y cofnodion.

2. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

[Papurau eitem 2]

3. LlC2025 - Diweddariad Cam 2

[Papurau eitem 3]

4. Diweddariad ariannol – Cyfnod 10

[Papurau eitem 4]

5. Unrhyw fater arall

Yn bresennol

  • Yr Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd) 
  • Carys Williams 
  • Gareth Lynn 
  • Aled Edwards 
  • Mike Usher 
  • Tim Moss 
  • Sioned Evans 
  • Tracey Burke 
  • Andrew Slade 
  • Dom Houlihan 
  • David Richards 
  • Amelia John 
  • Gawain Evans 
  • Rhiannon Lloyd-Williams 
  • Jessica Ward 

Yn mynychu 

  • Mutale Merrill 
  • Lou Bushell-Bauers 
  • Hawar Ameen 

Ysgrifenyddiaeth 

  • Alison Rees 

Ymddiheuriadau 

  • Judith Paget 
  • Nia James 

1. Croeso / Materion Cyfredol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod, gan nodi'r ymddiheuriadau. Cymeradwywyd cofnodion 26 Ionawr.

1.2 Croesawodd y Cadeirydd Mutale Merrill i'r cyfarfod. Mae Mutale yn arsylwi ar y cyfarfod cyn dechrau yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol ar 01 Ebrill.

1.3 Nododd y Cadeirydd mai cyfarfod heddiw fyddai cyfarfod bwrdd olaf Gareth Lynn, cyn iddo gamu i lawr o'i rôl fel Cyfarwyddwr Anweithredol. Ar ran y bwrdd, diolchodd y Cadeirydd i Gareth am ei holl gefnogaeth a chymorth.

1.4 Ymchwiliad Covid-19 - Soniodd y Cadeirydd am wrandawiadau Cymru ar gyfer yr Ymchwiliad Covid-19 a oedd wedi eu cynnal yn ystod y tair wythnos ddiwethaf, gan ddiolch i Alyson Francis a thîm yr Ymchwiliad am yr holl gefnogaeth y maent wedi ei chynnig i staff sy'n paratoi ar gyfer rhoi tystiolaeth.

1.5 Gwahoddodd y Cadeirydd Rhiannon Lloyd-Williams i roi trosolwg o drafodaethau'r Bwrdd Cysgodol o ran effaith y pandemig a'r Ymchwiliad Covid-19 ar staff. Nododd Rhiannon effaith drawmatig y pandemig a'r effeithiau negyddol ar staff yn sgil gorfod ail-fyw'r profiad trwy'r ymchwiliad a'r sylw i'r wasg. Awgrymodd y Bwrdd Cysgodol y dylid cyfathrebu mwy am yr amrywiaeth o becynnau cymorth sydd ar gael i staff. Nododd Dom Houlihan y pwyntiau a wnaed, a dywedodd y byddai'n trafod gyda'r Tîm Ymgysylltu â Staff o ran sut y gallai'r sefydliad drafod profiadau sy'n ymwneud â'r pandemig.

1.6 Cyllideb 2024-2025 – Nododd y Cadeirydd fod cyllideb 2024/25 wedi ei chymeradwyo gan y Senedd, a chyfeiriodd at y penderfyniadau heriol y bu'n rhaid eu gwneud wrth ei pharatoi.

1.7 Paratoadau ar gyfer pontio i'r Prif Weinidog newydd – dywedodd y Cadeirydd wrth y bwrdd ei fod wedi cael sgyrsiau cynhyrchiol ac adeiladol gyda'r ddau ymgeisydd am yr arweinyddiaeth, a rhoddodd ddiweddariad i'r bwrdd ynghylch penodiad Rachel Garside Jones yn Gyfarwyddwr Pontio'r Prif Weinidog.

2. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

2.1 Croesawodd y Cadeirydd Catrin Sully i'r cyfarfod a'i gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r bwrdd ynghylch monitro'r Rhaglen Lywodraethu. Nododd Catrin effaith sylweddol pwysau'r gyllideb ar y Rhaglen Lywodraethu; bydd angen i'r Prif Weinidog newydd ailosod y rhaglen o ystyried sefyllfa heriol y gyllideb.

2.2 Nododd Carys Williams nifer o anghysondebau rhwng y sgôr Coch Melyn Gwyrdd (RAG) a'r testun yn disgrifio statws ymrwymiadau yn y grid adrodd, a gofynnodd sut y gallai'r bwrdd helpu Carys a'i thîm i gyfleu'r angen am well cysondeb er mwyn ei gwneud yn haws i'r Prif Weinidog fonitro sut mae'r Rhaglen Lywodraethu yn cael ei chyflawni. Ategodd Gareth Lynn y sylwadau hyn.

2.3 Croesawodd Aled Edwards y diweddariad, gan nodi'r cynnydd a wnaed ar draws y Rhaglen Lywodraethu. Sylwodd Aled fod un o'r ymgeiswyr wedi disgrifio cynlluniau i sefydlu Uned Gyflawni yn ei faniffesto. Atebodd y Cadeirydd drwy ddweud y byddai angen cynnal trafodaeth bellach ar ffurf a swyddogaeth uned o'r fath.

2.4 Sicrhaodd Tracey Burke y bwrdd fod ei Thîm Uwch Arweinyddiaeth yn parhau i fonitro sut mae ymrwymiadau'r Rhaglen yn cael eu cyflawni, hyd yn oed wrth gymryd rhan mewn trafodaethau anodd ar gyfer pennu'r gyllideb. Holodd Tracey a oedd angen i Weinidogion gael lefel y manylion a ddarperir gan BIRT, ac awgrymodd y dylid datblygu ffordd fwy cymesur o adrodd i Weinidogion. Ategodd Sioned Evans y pwyntiau hyn, gan ddweud fod BIRT yn system adrodd dda ond nad yw'n rhoi trosolwg o brosiectau mawr i helpu Gweinidogion i adolygu'r cynnydd a wneir ar lefel strategol.

2.5 Croesawodd Rhiannon Lloyd-Williams y diweddariad, gan ddweud bod yr atodiad sy'n nodi cynnydd yn ddefnyddiol iawn. Awgrymodd y dylid cynnwys dull gweithredu tebyg ar gyfer yr ymrwymiadau hynny lle mae targedau cyflawni'n newid. Awgrymodd y Bwrdd Cysgodol hefyd y dylid ymgorffori BIRT yn LlC2025 er mwyn cefnogi gweithgarwch cynllunio.

2.6 Gwahoddodd y Cadeirydd Catrin i ymateb i'r pwyntiau a godwyd. Cytunodd Catrin y byddai'n fuddiol datblygu adroddiad mwy cryno i Weinidogion, ac awgrymodd y gallai newid i adrodd yn chwarterol helpu i wella cysondeb. Nododd Catrin yr her o ran nodi'r llwybr hanfodol tuag at gyflawni, yn enwedig mewn perthynas â’r ymrwymiadau hynny lle nad oes targedau rhifiadol.

3. LlC2025 - Diweddariad Cam 2

3.1 Gwahoddodd y Cadeirydd Tim Moss a Dom Houlihan i roi diweddariad i'r bwrdd ynglŷn â Cham 2 LlC2025, sy'n canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau ariannol y sefydliad. Gwahoddwyd y bwrdd i wneud sylwadau ar y cynnydd a wnaed, ac ar y parodrwydd i dderbyn risg mewn perthynas â'r rhaglen.

3.2 Agorodd y Cadeirydd y trafodaethau drwy wahodd Amelia John a Jessica Ward i gynnig eu syniadau fel hyrwyddwyr Cydraddoldeb a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar y bwrdd. Croesawodd Amelia y ffordd yr oedd rhaglen LlC2025 wedi ymgysylltu â rhwydweithiau staff a chynrychiolwyr yr Undebau Llafur, a phwysleisiodd bwysigrwydd asesu sut y byddai penderfyniadau'r rhaglen yn effeithio ar gydraddoldeb. Nododd Jessica bwysigrwydd ymgysylltu’n gynnar ac yn barhaus â staff sydd ar bob gradd ar draws y sefydliad wrth i'r rhaglen symud yn ei blaen, a'r angen i sicrhau bod iaith eglur yn cael ei defnyddio i annog cydweithwyr i gyfrannu at y trafodaethau.

3.3 Croesawodd Gareth Lynn y sicrwydd a ddarparwyd yn y papur, gan ofyn pa gamau fyddai'n cael eu cymryd pe na bai'r Cynllun Ymadael Gwirfoddol (VES) yn cyflawni'r arbedion gofynnol.

3.4 Nododd Carys Williams y cyfle i newid a gynigir gan LlC2025, a phwysleisiodd yr angen i flaenoriaethu cynnydd dros yr angen i sicrhau perffeithrwydd. Wrth sôn am y VES fel yr oedd wedi ei gynllunio, nododd Carys yr effaith bosibl ar ymgeiswyr aflwyddiannus.

3.5 Cytunodd Sioned Evans fod pwysleisio cynnydd dros yr angen i sicrhau perffeithrwydd yn ddull gweithredu gwell, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyfleu'r cynnydd a wneir i staff er mwyn dangos y newidiadau y mae LlC2025 yn eu cyflawni. O ran adnoddau, nododd Sioned yr angen i allu symud staff yn gyflym i feysydd o flaenoriaeth o fewn y sefydliad.

3.6 Awgrymodd Mike Usher fod yr elfen Newid Siâp yn y rhaglen LlC2025 yn cynnig y cyfleoedd gorau yn ogystal â'r heriau mwyaf, gan nodi y byddai wedi bod yn well cwblhau'r elfen hon o LlC2025 cyn yr elfen Newid Maint. Ychwanegodd Mike y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gallai weithio mewn modd mwy effeithiol gyda'i sefydliadau partner er mwyn cyflawni dros Gymru.

3.7 Gwahoddodd y Cadeirydd Mutale Merril i gynnig ei syniadau ar LlC2025. Nododd Mutale y risgiau sy'n gysylltiedig â cholli staff profiadol a medrus trwy VES, a'r angen i gadw'r cof corfforaethol.

3.8 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, dywedodd Rhiannon Lloyd-Williams bod awydd i weld newid yn y sefydliad, a phwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â staff a dod â nhw ar daith y rhaglen. Argymhellodd y Bwrdd Cysgodol y dylid datblygu matrics sgiliau gwirfoddol a gedwir yn ganolog i nodi staff sydd â setiau sgiliau penodol er mwyn cydweddu sgiliau ag anghenion busnes a helpu i greu gweithlu ystwyth.

3.9 Gwahoddodd y Cadeirydd Tim a Dom i ymateb i'r pwyntiau a godwyd. O ran ymgysylltu â staff, nododd Tim y cyfarfodydd misol ar gyfer dal i fyny, a gynhelir gyda'r Rhwydweithiau Staff, a chytunodd â phwyntiau a godwyd ynghylch ehangu mewnbwn a sicrhau bod iaith eglur yn cael ei defnyddio wrth gyfathrebu â staff. O ran y rhaglen Newid Maint a VES, cydnabu Tim y byddai wedi bod yn well ymgymryd â'r ymarfer Newid Siâp yn gyntaf, ond bod yr heriau ariannol y mae'r sefydliad yn eu hwynebu yn golygu bod angen iddo flaenoriaethu camau i leihau ei nifer o staff. Nododd Tim y pwyntiau a godwyd ynghylch y risg y gallai'r sefydliad golli sgiliau drwy VES a'r angen i weithio'n wahanol, yn fewnol a hefyd gyda sefydliadau partner, ac roedd yn cytuno â'r pwyntiau hynny. Ychwanegodd Dom ei bod yn annhebygol na fyddai digon o staff yn manteisio ar VES, ac felly mae'r risg o beidio â sicrhau'r arbedion angenrheidiol yn fach iawn.

3.10 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau'r bwrdd i roi sylwadau ar y parodrwydd i dderbyn risg mewn perthynas â LlC2025.

3.11 Agorodd Andrew Slade y drafodaeth drwy nodi nad yw peidio â gweithredu a gwneud dim newidiadau i siâp a maint y sefydliad yn opsiwn. Rhybuddiodd Andrew yn erbyn defnyddio dull gweithredu rhy fiwrocrataidd mewn perthynas â materion llywodraethu. Cytunodd Sioned Evans gan ddweud y dylid bod yn feiddgar, a phwysleisiodd fod y camau lliniaru a roddwyd ar waith yn allweddol i reoli risg. Ategodd Tracey Burke y sylwadau hyn.

3.12 Cytunodd Aled Edwards â'r pwyntiau a wnaed, a phwysleisiodd bwysigrwydd y bwriad i adeiladu partneriaethau a meithrin diwylliant sy'n ceisio dod o hyd i atebion i'r materion sy'n wynebu Cymru.

3.13 Gofynnodd Gareth Lynn ynghylch perchnogaeth o'r parodrwydd i dderbyn risg - ai parodrwydd Gweinidogion Cymru neu wasanaeth sifil Cymru yw'r parodrwydd hwnnw - a nododd y dull gweithredu a ddefnyddiwyd mewn perthynas â risg yn ystod y pandemig Covid-19. Cytunodd Aled Edwards gan ofyn sut mae'r gwersi a ddysgwyd a'r arferion da, o adegau pan mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd risgiau proffil uchel ac wedi cyflawni'r effeithiol, yn llywio'r parodrwydd i dderbyn risg mewn perthynas â LlC2025.

3.14 Gwahoddodd y Cadeirydd Tim Moss i ymateb i'r pwyntiau a godwyd. Dywedodd Tim y gallai craffu allanol greu diwylliant sy'n osgoi risg yn y sefydliad, a nododd y sylwadau a wnaed o ran y cynnydd yn y parodrwydd i dderbyn risg yn ystod y pandemig, gan awgrymu ei bod yn bosibl bod hynny wedi newid lefel y parodrwydd yn y sefydliad.

3.15 Diolchodd y Cadeirydd i Tim a Dom am eu cyflwyniad, gan ddod â'r eitem i ben.

4. Diweddariad Ariannol – Cyfnod 10

4.1 Cafodd Gawain Evans ei wahodd gan y Cadeirydd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r bwrdd am ragolygon alldro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24 a'r sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn ar 31 Ionawr 2024 (cyfnod 10). Nododd y Cadeirydd y penderfyniadau anodd a wnaed ynghylch cynlluniau gwariant er mwyn cyflawni'r sefyllfa bresennol. 

4.2 Ar ran y Bwrdd Cysgodol, nododd Rhiannon Lloyd-Williams y ddibyniaeth ar danwariant i gwrdd â diffygion, gan sôn am yr hyn y mae'n ei ddweud ynghylch cynllunio cyllidebol o fewn y sefydliad.

4.3 Tynnodd Tracey Burke sylw at ymdrechion parhaus timau ar draws y sefydliad i sicrhau bod taliadau'n cael eu prosesu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

4.4 Cydnabu Gareth Lynn yr heriau o weithio ar gylchoedd cyllideb blwyddyn o hyd, gan nodi y byddai'r adolygiad gwariant sydd ar fin digwydd yn cynnig cyfle i ganolbwyntio ar flaenoriaethau gwariant tymor canolig.

4.5 Gofynnodd Mutale Merrill sut y mae staff ar draws Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid yn cael gwybod am effeithiau cyllideb 2024/25. Atebodd Gawain fod swyddogion polisi, yn ogystal â staff cyllid, wedi bod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu'r gyllideb, a bod Arweinwyr Nawdd wedi trafod y sefyllfa gyda'u Cyrff Hyd Braich. Ychwanegodd Tim Moss ei fod yntau hefyd wedi bod mewn trafodaethau gyda'r Cyrff Hyd Braich a sefydliadau partner eraill ynglŷn â'r ffordd orau o gydweithio yn wyneb sefyllfa gyllidebol heriol, er mwyn inni allu cyflawni gyda'n gilydd er budd Gymru.

5. Unrhyw fater arall

5.1 Ni chodwyd unrhyw faterion busnes eraill, a bydd cyfarfod nesaf y Bwrdd yn cael ei gynnal ar 10 Mai.