Sarah Murphy AS Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Cynnwys
Cyfrifoldebau'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Cynnwys
Cyfrifoldebau
- Gwasanaethau iechyd meddwl
- Atal hunanladdiad
- Dementia
- Niwroamrywiaeth
- Anabledd dysgu
- Gwasanaethau caethiwed
- Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
- Tybaco a Fepio
- Camddefnyddio sylweddau
- Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
- Gweithgarwch corfforol a hamdden egnïol yng Nghymru
- Arloesi, technoleg a thrawsnewid digidol ym maes iechyd
- Iechyd menywod
- Iechyd Aelodau a Chyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog
Bywgraffiad
Cyn cael ei hethol, graddiodd Sarah o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd gydag MA mewn Cyfryngau Digidol a Chymdeithas a bu'n gweithio i'r Labordy Cyfiawnder Data. Roedd ei gwaith ymchwil yn canolbwyntio ar ddefnydd llywodraethau'r DU a llywodraethau rhyngwladol o ddata mawr a dulliau dylunio algorithmig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â deallusrwydd artiffisial yn y gweithle. Cyhoeddwyd ei gwaith yn Transfer: European Journal of Labour and Research.
Ar 11 Medi 2024, penodwyd Sarah yn Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.