Ystadegau, Dogfennu
Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010: Ionawr i Fawrth 2024
Data ar atgyfeiriadau ac amserau aros ar gyfer Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Gofal Sylfaenol Lleol (asesiadau ac ymyriadau therapiwtig) ay gyfer Ionawr i Fawrth 2024.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Rhan 1: Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl Sylfaenol Lleol (LPMHSS)
O dan 18 oed
- Cafodd 1,120 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2024.
- Ym mis Mawrth 2024, roedd 86.1% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 56.2% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2024.
18 oed a throsodd
- Cafodd 4,901 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2024.
- Ym mis Mawrth 2024, roedd 61.3% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 82.1% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2024.
Pob oedran
- Cafodd 6,021 o atgyfeiriadau eu derbyn ar gyfer asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2024.
- Ym mis Mawrth 2024, roedd 66.8% o asesiadau LPMHSS yn cael eu cynnal o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y derbyniwyd yr atgyfeiriad.
- Cafodd 75.4% o ymyriadau therapiwtig eu dechrau o fewn 28 o ddiwrnodau yn dilyn asesiad LPMHSS ym mis Mawrth 2024.
Rhan 2: Cynlluniau Gofal a Thriniaeth
O dan 18 oed
- Roedd 991 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mawrth 2024. O'r rhain, roedd gan 852 (86.0%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
18 oed a throsodd
- Roedd 18,340 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mawrth 2024. O'r rhain, roedd gan 14,271 (77.8%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Pob oedran
- Roedd 19,331 o gleifion yn derbyn gwasanaethau Iechyd Meddwl eilaidd ddiwedd mis Mawrth 2024. O'r rhain, roedd gan 15,123 (78.2%) Gynllun Gofal a Thriniaeth (CTP) dilys.
Rhan 3: Asesiadau ar Ddefnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd
- Yn ystod mis Mawrth 2024, roedd 97.7% o adroddiadau ar ganlyniadau asesiadau yn cael eu hanfon o fewn 10 diwrnod gwaith wedi i asesiad Rhan 3 gael ei gynnal.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Helen Roberts
E-bost: hss.performance@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099