Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2018-19 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2018-19 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2017.
Mae’n nodi nifer cyfyngedig o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, ac yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 27 Mehefin a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 10 Gorffennaf.