Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ddogfen Gymeradwy O - rhifyn 2022 (Cymru), yn gosod safonau ar gyfer lleihau risg gorgynhesu mewn adeiladau preswyl newydd. (Sylwch, o bryd i'w gilydd, y gellir diwygio'r ddogfen hon i gynnwys unrhyw gwestiynau cyffredin newydd) 

Adran 1 (Lliniaru perygl gorgynhesu yn yr haf)

  1. Allwch chi ymhelaethu ar y diffiniad o 'Ardal Rydd' yn gysylltiedig a Rhan O os gwelwch yn dda?

Ymhellach i'r diffiniad yn Atodiad A fel arfer hwn fydd yr ardal agored geometrig a ddarperir gan ffenestr agored (ffenestri cwbl agored fel arfer â cyfernod rhyddhau (Cd) o 0.62). Byddai mathau eraill o agoriadau fel caeadau wedi'u gwahanu yn acwstig neu agoriadau cyfyngedig yn debygol o gael cyfernod rhyddhau llawer is ac felly byddai angen i'r ardal agored geometrig a ddarperir fod yn gyfrannol fwy i gyfateb i'r un ardal rydd â'r un a ddarperir gan ardal rydd geometrig ffenestr nodweddiadol. Efallai y bydd dylunwyr/datblygwyr yn dymuno defnyddio ardal gyfatebol os yw'n bodloni neu'n rhagori ar % yr ardal rydd ofynnol a gwerth cyfeirnod y Cd yn dal yn 0.62.
 

  1. Ar gyfer modelu Deinamig, a yw ffeiliau tywydd diwrnod cyfredol yn cael eu defnyddio i gydymffurfio? 

Mae'r Rheoliadau yn ofyniad gofynnol a gall dyluniadau ystyried goblygiadau penodol i'r safle ac ymgorffori ffactorau lliniaru pellach a thrwy hynny fynd i'r afael â newidiadau posibl i'r tywydd yn y dyfodol ac addasu i hinsawdd yn y dyfodol cyn y newid disgwyliedig. Nid yw hwn yn ofynnol er mwyn cydymffurfio a'r Rheoliad.

Adran 2 (Defnyddioldeb)

  1. Sut y gellir bodloni'r safonau ar gyfer ffenestri dianc a gwarchod ar gyfer Dogfen Gymeradwy O yn ymarferol?

Mae rhywfaint o oddefgarwch adeiladu yn dderbyniol greu ffenestr sy'n fodd o ddianc, gydag agoriad ar uchder o 1100mm uwchben y llawr. Er y disgwylir i'r uchder gwarchod 1100mm mewn Dogfen Gymeradwy O gael ei gyflawni, goddefgarwch adeiladu rhesymol yw + 0 / - 100mm. 

  1. Nid yw Dogfen Gymeradwy O yn cynnwys unrhyw gyfyngiadau ar sŵn ond yn nodi y dylid ei leihau mewn ystafelloedd gwely yn y nos?

Nid oes cyfyngiadau sŵn wedi'u nodi o fewn Dogfen Gymeradwy O (Cymru). Mae sŵn allanol a llygredd aer yn ystyriaethau perthnasol wrth wneud cais am Ganiatâd cynllunio. Mae'r canllawiau yn Nogfen Gymeradwy O ar gyfer sŵn yn y nos yn mynnu nad yw'r dyluniad/strategaeth gorgynhesu yn gwrthdaro â dogfennaeth a ddarperir i'r awdurdod cynllunio lleol i fodloni problemau sŵn allanol.  

  1. Mae paragraffau 2.8 a 2.9 o adran 2 yn darparu canllawiau ar gyfer agoriadau sy'n rhan o'r strategaeth gorgynhesu, fodd bynnag, lle nad yw cydymffurfio â chanllawiau yn adran 1 wedi ei gwneud yn ofynnol i ddilyn paragraffau 1.2 ac 1.3, pa agoriadau sy'n cael eu hystyried yn rhan o'r strategaeth gorgynhesu?

'Mae gofyniad O1(2)(a) yn nodi "rhaid ystyried diogelwch unrhyw ddeiliad, a'u mwynhad rhesymol o'r adeilad"  Mae'r canllawiau yn adran 2 yn cynnwys nodyn sy'n cyd-fynd â pharagraff 2.1 sy'n datgan ' Mae'r adran hon yn gymwys i unrhyw adeiladau preswyl o fewn cwmpas y gofyniad O1 fel y manylir yn Nhabl 0.1 gan gynnwys y rhai lle nad yw paragraffau 1.2 i 1.3 yn Adran 1 yn gymwys.'. 

Felly, bydd angen i'r dylunydd/datblygwr sicrhau bod gofyniad O1(2)(a) wedi'i fodloni, ynghyd â'r corff rheoli adeiladu. Ar gyfer agoriadau mewn adeiladau nad ydynt wedi'u cynllunio gan ystyried paragraffau 1.2 i 1.3, bydd angen i'r dylunydd/datblygwr ystyried y canllawiau ym mharagraffau 2.8 a 2.9, ac (yn unol â'r Corff Rheoli Adeiladu) asesu pa agoriadau y dylid eu defnyddio ar gyfer rhyddhau gwres (agoriadau sy'n hwyluso croesawyru h.y. ar draws dwy neu fwy sefyllfa gyfochrog),  yn debygol o fod ar agor am gyfnodau hir, a pheri risg o ddisgyn o uchder. Fel arfer, gallai'r rhain fod yn agoriadau mewn ystafelloedd gwely a/neu brif ystafelloedd y gellir byw ynddynt (e.e. ystafell fyw) sy'n uwch na lefel y llawr gwaelod. Yna gellir defnyddio'r wybodaeth uchod ar gyfer adran 3 (darparu gwybodaeth).

Sylwch ar y canllawiau ym mharagraff 2.10 lle gall gwarchod at ddibenion y Ddogfen Gymeradwy - O (nid Dogfen Gymeradwy - K) gynnwys caeadau atal plant. 
 

  1. Lle nad yw'r ffenestri'n rhan o'r strategaeth Gorgynhesu beth yw'r safonau gwarchod?

Mae'r canllawiau ym mharagraff 2.8 yn nodi y gallai agoriadau y bwriedir iddynt fod ar agor am gyfnodau hir i leihau'r risg o orgynhesu achosi risg uwch o ddisgyn o uchder. Dim ond cyfran yr agoriadau y gellir eu hagor gyda risg isel iawn y bydd preswylwyr yn disgyn o uchder y dylid eu hystyried yn rhan o'r strategaeth liniaru gorgynhesu. Mae hyn ond yn berthnasol i ffenestri a ddefnyddir yn y strategaeth gorgynhesu (gan gynnwys agoriadau a nodwyd ar gyfer rhyddhau gwres lle na ddilynir paragraffau 1.2 i 1.3 – gweler cwestiwn 5 uchod).

Lle na ddefnyddir ffenestr fel rhan o'r strategaeth gorgynhesu, dylid dilyn isafswm uchder gwarchod Dogfen Gymeradwy K Dylid hysbysu'r perchennog, fel rhan o ddarparu gwybodaeth (adran 3) am y strategaeth gorgynhesu, am unrhyw ffenestri na fwriedir iddynt fod ar agor fel rhan o'r strategaeth ac felly nad ydynt wedi'u hadeiladu i safonau gwarchod Dogfen Gymeradwy O.
 

  1. Sut ydw i'n defnyddio'r safon dolen ffenestr 650mm i amddiffyn pobl rhag cwympo?

The 650mm standard is the dimension that should be used to calculate the safe opening angle of a window. This opening angle should be used in the free area calculations (with a limit of 60°). It is not necessary to use a physical restrictor to meet this standard. 

Adran 3 – (Darparu gwybodaeth)

  1. Pan nad yw cydymffurfio â chanllawiau yn adran 1 wedi ei gwneud yn ofynnol i ddilyn paragraffau 1.2 ac 1.3, pa wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer adran 3 (darparu gwybodaeth) ?

Efallai na fydd llawer o'r canllawiau ym mharagraff 3.2 o Ddogfen Gymeradwy O yn berthnasol lle na ddilynwyd paragraffau 1.2 ac 1.3, fodd bynnag, yn ogystal a thynnu sylw at agoriadau i'w defnyddio ar gyfer rhyddhau gwres yn effeithiol (gweler cwestiwn 5 a 6), dylai dylunwyr a/neu ddatblygwyr ddarparu gwybodaeth gyffredinol i leihau gorgynhesu sy'n berthnasol i ddyluniad yr adeilad.  Darperir templed Canllaw Ynni Cartref (HEG) gyda thestun enghreifftiol er budd y dylunydd/datblygwr i'w deilwra i anghenion darpar berchennog y tŷ.

Templed ar gyfer Canllaw Ynni Cartref (llyw.cymru)

Atodiad B (Rhestr Wirio)

  1. Os nad yw cydymffurfio â chanllawiau yn adran 1 wedi ei gwneud yn ofynnol i ddilyn paragraffau 1.2 ac 1.3, a oes angen cwblhau'r rhestr gwirio cydymffurfiaeth yn atodiad B?

Bwriad y rhestr gwirio cydymffurfio yw helpu dylunwyr/datblygwyr i ddangos i'r corff rheoli adeiladu bod yr adeilad wedi'i adeiladu fel y'i dylunwyd i leihau'r risg o orgynhesu yn unol â'r dull symlach neu'r dull modelu thermol deinamig. Felly, lle na ddefnyddir y dulliau hyn (h.y. pan na ddilynir paragraffau 1.2 ac 1.3) nid yw'r rhestr gwirio cydymffurfiaeth yn berthnasol.