Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip
Fel y gŵyr Aelodau, daeth cyfnod rhoi prosiect Cyflymu Cymru ar waith i ben ar 28 Chwefror eleni. Mae'n dda gen i fedru cyhoeddi, diolch i'r prosiect, bod gan bron 773,000 o gartrefi a busnesau yng Nghymru gyswllt band eang ffeibr cyflym.
O'r rhain, mae gan dros 717,000 ohonynt gyswllt o leiaf 30Mbps o gyflymder a'r gweddill gyswllt o fwy na 24Mbps.
Mae Cymru wedi bod yn geffyl blaen hefyd o ran defnyddio cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad, gyda bron 48,700 o'r holl gartrefi a busnesau sydd wedi'u cysylltu trwy'r Cynllun bellach â chyswllt o fwy na 100Mbps diolch i'r dechnoleg hon.
Mae hyn yn golygu na fyddai dros hanner y cartrefi a busnesau yng Nghymru sydd bellach â chyswllt band eang ffeibr cyflym wedi gallu cael y cyswllt hwnnw heb ein help ni. O gyfuno hynny â'r cysylltiadau a wnaed ar delerau masnachol, mae mwyafrif llethol cartrefi a busnesau Cymru wedi'u cysylltu â'r dechnoleg hon.
Nid ar chwarae bach y llwyddon ni i gysylltu band eang ar raddfa mor fawr a chyflym yn nhirwedd Cymru, yn enwedig yn yr ardaloedd gwledig. Ar adegau, roedd angen atebion arloesol, er enghraifft defnyddio dronau, a defnyddio blociau o gysylltwyr gan Openreach er mwyn cyflymu'r broses o greu cysylltiad Ffeibr i'r Adeilad.
Er ein bod ni i gyd yn gytûn bod rhagor eto i'w wneud a bod yna leoedd sy'n dal i aros am fand eang ffeibr cyflym iawn, peidied neb â dibrisio gorchest Cyflymu Cymru dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae croeso i Aelodau ymuno â Llywodraeth Cymru i ddathlu'r ffaith bod cymaint o adeiladau yn eu hetholaethau ac yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Cymru wedi'u cysylltu, diolch i'r prosiect.
Er na ellir gwadu llwyddiant Cyflymu Cymru i ddarparu'r seilwaith band eang sylfaenol ar gyfer cymaint o gartrefi a busnesau, yr allwedd i lwyddiant yn y pen draw yw bod pobl a busnesau'n ei ddefnyddio ac yn elwa ohono, yn gymdeithasol ac yn ariannol.
Mae pawb yn deall y gall band eang roi hwb i gynhyrchiant busnes. Mewn ymchwil ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd, gwelwyd y gallai cynnig gwasanaethau sy'n dibynnu ar fand eang gynyddu trosiant rhyw 111,000 o fusnesau bach a chanolig yng Nghymru. Amcangyfrifir mai band eang sy’n gyfrifol am bron £229m o werthiant busnesau bach a chanolig Cymru. O hwnnw, daw £124m (54%) o wasanaethau na fyddent wedi gallu eu cynnig heb fand eang.
Mae ein rhaglen gyfathrebu a marchnata i annog pobl i ddefnyddio band eang cyflym iawn yn mynd rhagddi ac mae rhaglen Cyflymu Cymru'n dal i helpu busnesau i gael y gorau o'u cysylltiadau band eang cyflym iawn.
Fel rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith, er bod gan y mwyafrif gysylltiad band eang ffeibr cyflym, mae yna gartrefi a busnesau o hyd sydd heb gysylltiad cyflym iawn ac rwyf eisoes wedi cyhoeddi cyfres o fesurau i ddatrys hyn.
Un o'r mesurau pwysicaf fydd dyfeisio rhaglen i olynu Cyflymu Cymru. Mae hon yn broses dendro gymhleth sy'n mynd rhagddi ond alla i ddim rhannu'r manylion â chi ar hyn o bryd. Cewch fwy o wybodaeth ar ôl i'r broses dendro ddod i ben.
Yn fy natganiad llafar ym mis Mai, addewais y byddwn yn rhoi'r diweddaraf ichi am ein hadolygiad o'r cynllun Talebau Gwibgyswllt yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ei chynllun Talebau Gigabit cenedlaethol. Mae fy swyddogion yn cydweithio â'r Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon i ystyried sut y gellid defnyddio'r cynlluniau orau i wella cysylltiadau band eang ar gyfer cartrefi a busnesau Cymru. Nid yw'r gwaith wedi'i orffen eto ond cewch ragor o wybodaeth gennyf cyn gynted ag y gallaf ei rhoi.
Yn yr un modd, mae gwaith yn mynd yn ei flaen i ddatblygu cynllun band eang newydd sy'n ymateb i'r galw ar lefel y gymuned. Bydd y gwaith hwn yn dibynnu ar ganlyniad y tendr ar gyfer y prosiect sy'n olynu Cyflymu Cymru ac a ddisgrifir uchod.
Fodd bynnag, beth bynnag fydd canlyniad y trafodaethau hyn, byddwn yn parhau i gefnogi prosiectau cymunedol sy'n darparu band eang cyflym iawn fel y prosiect llwyddiannus yn Llanfihangel-y-fedw na fyddai wedi bod yn bosib ei gynnal oni bai am ein cynllun talebau.
Fy ngobaith yw rhoi rhagor o wybodaeth i Aelodau ym mis Hydref.
niaethu yn erbyn y cymunedau hyn, lle bynnag y'i gwelwn.