Neidio i'r prif gynnwy

Mae amserlen newydd ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi'i gadarnhau heddiw gan yr Ysgrifennydd Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Cadarnhad y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gael yn 2025
  • Bydd y cyfnod pontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn dechrau yn 2026
  • "Rydyn ni wastad wedi dweud na fyddai'r Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod ac rwy'n glynu wrth hynny" - Yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies

Wrth siarad mewn cynhadledd i'r wasg yn Fferm Sealands ym Mhen-y-bont ar Ogwr, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod newid yr amseriadau yn rhan o'i 'ymrwymiad i ymgysylltu'n ystyrlon â'r sector ffermio'.

Dywedodd: 

Ers fy niwrnod cyntaf yn y rôl hon, rwyf wedi bod allan yn cyfarfod â'n ffermwyr ac yn gwrando arnynt, yn clywed eu barn ac yn ystyried yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud.

Bydd fy ymrwymiad i ymgysylltu'n ystyrlon â'r sector ffermio, Cydweithwyr Plaid Cymru o dan y Cytundeb Cydweithredu a rhanddeiliaid eraill ar y newidiadau sydd eu hangen yn golygu newid yn yr amserlen weithredu.

Rydyn ni wastad wedi dweud na fyddai'r Cynllun yn cael ei gyflwyno nes ei fod yn barod ac rwy'n glynu wrth hynny.

Cadarnhaodd wedyn y byddai Cynllun y Taliad Sylfaenol yn parhau i fod ar gael yn 2025, gyda'r cyfnod pontio i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig yn dechrau o 2026, gyda chyhoeddiad i ddilyn ar uchafswm y Taliad Sylfaenol.

Bydd cynlluniau buddsoddi gwledig presennol, fel y cynlluniau grantiau bach, yn parhau i gefnogi newidiadau i'r seilwaith.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio ar gynllun newydd ar raddfa tirwedd a fydd yn adeiladu ar brofiad cynlluniau cydweithio blaenorol.  

Bydd yr amserlen newydd hon yn rhoi cyfle i weithio drwy nifer o agweddau pwysig.

Daeth Ysgrifennydd y Cabinet i ben drwy ddweud: 

Gyda'n gilydd gallwn greu dyfodol lle mae ein ffermwyr yn cynhyrchu’r bwyd gorau o Gymru i'r safonau uchaf, gan ddiogelu ein hamgylchedd gwerthfawr.

Rydyn ni'n gwrando a byddwn ni'n parhau i wrando.

Rhaid i ni barhau i weithio mewn partneriaeth i gwblhau cynllun sy'n gweithio yn y tymor hir.

Dyma'r cam nesaf i gyflawni hynny.