Julie James AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio
Yn ystod y broses o graffu ar Fil Seilwaith (Cymru), bum yn gweithio gydag aelodau i gefnogi newidiadau i'r Bil ac ymrwymais y byddwn yn parhau i ymgysylltu ar yr is-ddeddfwriaeth.
Ers pasio'r Bil yng Nghyfnod 4, rwyf wedi cyhoeddi dau bapur ymgynghori byr a hoffwn glywed ymateb aelodau a rhanddeiliaid eraill iddynt.
Bydd y papur ymgynghori cyntaf yn ymdrin â'r broses ymgynghori cyn ymgeisio ac yn galw ar randdeiliaid, cymunedau lleol a phartïon eraill sydd â diddordeb am syniadau ac awgrymiadau ynghylch sut i gynnal yr ymgynghoriad cyn ymgeisio ac i gael cymaint â phosibl o bobl i gymryd rhan. Mae hwn ar gael yma: Bil Seilwaith (Cymru): y gofynion ar gyfer ymgynghori cyn ymgeisio | LLYW.CYMRU
Mae'r ail bapur ymgynghori yn ymdrin â ffïoedd ar gyfer y broses gydsynio ac yn ceisio barn a thystiolaeth ar sut i adennill costau. Mae hwn ar gael yma: Bil Seilwaith (Cymru): ffioedd ar gyfer swyddogaethau a gwasanaethau | LLYW.CYMRU
Yn dilyn y dystiolaeth hon, caiff y papur ymgynghori terfynol ei gyhoeddi, yn disgrifio'r broses gydsynio newydd. Rwy'n bwriadu cyhoeddi'r ymgynghoriad hwnnw yn ddiweddarach eleni.