Fframwaith trin camddefnyddio sylweddau ar gyfer plant a phobl ifanc: asesiad effaith integredig
Adolygiad o effeithiau ein dull gweithredu ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau ymysg plant a phobl ifanc.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Un thema allweddol yng Nghynllun Cyflawni ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau 2019 i 2022 yw darparu cymorth pellach i deuluoedd a gofalwyr pobl sy'n camddefnyddio sylweddau. Cafodd y Cynllun Cyflawni ei ddiweddaru yn 2021 yn sgil pandemig COVID-19. Mae Byrddau Cynllunio Ardal (BCAau) a rhanddeiliaid eraill yn gweithredu yn unol â’r cynllun hwn ar hyn o bryd. Bydd blaenoriaethau’r dyfodol o ran camddefnyddio sylweddau yn cael eu hystyried a bydd trafodaethau yn cael eu cynnal â rhanddeiliaid pan fydd hynny’n briodol.
Mae'r cynllun cyflawni yn cyd-fynd â’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac rydym wedi sicrhau bod y canlyniadau camddefnyddio sylweddau yr ydym yn ceisio eu cyflawni yn glir yn y cyfraniad a wnânt at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Drwy gydol y blaenoriaethau a'r ymrwymiadau a nodir yn y cynllun cyflawni, gan gynnwys y rhai mewn perthynas â phlant a phobl ifanc, mae ffocws ar gael effaith hirdymor ar unigolion a theuluoedd ac mae atal camddefnyddio sylweddau yn ffocws yn llawer o'r gwaith sydd i'w wneud.
Mae defnyddio a chamddefnyddio sylweddau ymhlith plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yn cynrychioli ffocws a her gymdeithasol benodol yng Nghymru a'r DU ehangach, gyda llawer o niwed yn parhau i fod wedi'i guddio rhag gwasanaethau cymorth a thriniaeth. Mae'r niweidiau sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau yn cynnwys, er enghraifft:
- y rhai sy'n effeithio ar iechyd corfforol gan gynnwys gwenwyndra acíwt, haint a marwolaethau cynamserol o wenwyn, hunanladdiadau, damweiniau neu drais ac ymosodiad
- niweidiau seicolegol, yn rhai acíwt a chronig, yn enwedig ymhlith y rhai ag anghenion lluosog a chymhleth gan gynnwys anhwylderau iechyd meddwl
- a chysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol
Ymhlith y niweidiau tymor hwy mae colli cyfle oherwydd diffyg addysg gyflawn, cyflogaeth, anghydraddoldebau ariannol ac iechyd. Gall plant a phobl ifanc fod yn fwy agored i niwed oherwydd eu bod hwy eu hunain neu eu rhieni’n camddefnyddio sylweddau ac maent mewn mwy o berygl o gam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol, camfanteisio a throseddau cyfundrefnol.
Mae'r fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau hwn (y fframwaith) yn ddogfen ganllaw ac fe'i cynlluniwyd i lywio a chynorthwyo cynllunwyr a darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol i ddylunio a darparu gwasanaethau atal a thriniaeth cynaliadwy a theg o ansawdd uchel i'r rhai sydd mewn perygl o broblemau camddefnyddio sylweddau, neu sy'n cael profiad ohonynt.
Mae'r gynulleidfa arfaethedig ar gyfer y canllawiau hyn yn cynnwys cynllunwyr gwasanaeth, comisiynwyr, darparwyr camddefnyddio sylweddau ac iechyd ehangach, cyfiawnder troseddol a gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda'r rhai sydd mewn perygl o gychwyn, neu sy’n cael profiad o ddefnydd cyffuriau neu alcohol problemus hanesyddol neu gyfredol.
Mae'r fframwaith yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa bresennol yng Nghymru a'r DU ehangach ac yn amlinellu'r dystiolaeth i lywio gwelliannau. Darperir dolenni i ddogfennau strategaeth a pholisi perthnasol ynghyd â chrynodeb o'r dystiolaeth sy'n ymwneud â datblygiad gofynnol gwasanaethau sydd â'r nod o wella iechyd a lles plant a phobl ifanc.
1.1 Hirdymor
Mae datblygu'r 'fframwaith - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig' ar gyfer plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth yng 'Nghynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022'.
Y nod hirdymor yw:
- creu llwybr, o ymgysylltu cynnar i gynllunio pontio ac ymadael ar gyfer alcohol a chyffuriau; gan y gallai unigolyn fod â phroblemau defnyddio cyffuriau ac alcohol, bydd y broses asesu a'r llwybr yn cael eu cynllunio i fod yn hyblyg ac yn gynhwysol hyd at gymorth dilynol a chynllunio ymadael
- canolbwyntio ar y gofynion datblygu'r gweithlu gan gynnwys adlinio a hyfforddiant
- nodi'r dangosyddion allweddol i fesur cynnydd, perfformiad a chyflawniad o ran 'gwasanaeth rhagorol, diogel a chyfwerth' mewn perthynas â chamddefnyddio sylweddau a gofynion iechyd a gofal cymdeithasol cysylltiedig, a systemau arloesi technolegol, llywodraethu gwybodaeth a gwybodaeth sy'n angenrheidiol sy’n cwmpasu lleoliadau cyfiawnder troseddol a chymunedol
1.2 Atal
Mae Llywodraeth Cymru wedi diffinio atal fel gweithio mewn partneriaeth i gyd-gynhyrchu'r canlyniadau gorau posibl, gan ddefnyddio'r cryfderau a'r asedau sydd gan bobl a lleoedd i’w cyfrannu.
Dim ond drwy ymgysylltu cynnar a chredadwy, asesu integredig a chydweithio gyda dull sy’n seiliedig ar anghenion a lleihau niwed y gellir cyflawni gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc mewn perthynas â defnyddio sylweddau a chamddefnyddio sylweddau. Mae darparu ymyriadau addysgol, gwasanaethau atal a thriniaeth wedi'u targedu ar gyfer plant a phobl ifanc yn elfennau allweddol o ddiogelu a gwella eu hiechyd a'u lles. Bydd darparu ymgysylltiad ac ymyriadau effeithiol gyda chymorth integredig a phwrpasol yn y blynyddoedd cynharach a hyd at 25 oed yn lleihau poblogaeth yr unigolion sy'n datblygu problemau camddefnyddio sylweddau gydol oes a'r niwed cynhenid sy'n gysylltiedig â defnydd sydd wedi’i hen sefydlu.
Nod ffocws y gwasanaethau sy'n cynnig ymgysylltiad cynnar yw gohirio neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o ddefnyddio i gamddefnyddio sylweddau, gan gyfyngu ar y niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi symud ymlaen i ddibyniaeth.
1.3 Integreiddio
Mae sawl fframwaith trawsbynciol sy'n tynnu sylw at y cyfrifoldebau ar y cyd am blant a phobl ifanc ac mae'r rhain wedi'u hystyried gydag amserlenni perthnasol wedi'u hamlygu o fewn y fframwaith. Mae'r rhain yn cynnwys:
a) Deddf GIG (Cymru) 2006
b) Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
c) Deddf Cydraddoldeb Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol 2010
d) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
e) Deddf Plant 1989
f) Deddf Plant 2004
g) Mesur Plant a Theuluoedd Cymru (2010)
h) Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
i) Deddf Cydraddoldeb 2010
j) Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011
k) Deddf Galluedd Meddyliol 2005
l) Deddf Galluedd Meddyliol (Diwygio) 2019: Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid
m) Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
n) Cyfreithiau Cyffuriau’r DU
Rhaglen Lywodraethu (RhL) - Mae camddefnyddio sylweddau yn fater trawsbynciol felly er nad yw'n cael ei grybwyll yn benodol fel ymrwymiad RhL, mae'n effeithio ar nifer o ymrwymiadau allweddol y RhL na fyddant yn cael eu cyflawni ar gyfer y rhai mwyaf agored i niwed heb gymorth i wasanaethau camddefnyddio sylweddau; yn fras, y rhain yw iechyd meddwl, tai a digartrefedd a phlant a theuluoedd. Bydd hyn yn helpu i gyflawni ymrwymiadau’r RhL mewn perthynas â:
- darparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar drothwy gofal
- archwilio diwygio gwasanaethau presennol yn radical ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal
- blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella atal, mynd i'r afael â stigma a hyrwyddo dull ‘dim drws anghywir’ o gefnogi iechyd meddwl
- diwygio gofal sylfaenol, gan ddod â gwasanaethau meddygon teulu ynghyd gyda fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, cymuned a'r trydydd sector
- darparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill
1.4 Cydweithio
Er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r camau a nodir yn y fframwaith hwn, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'n gwaith o gefnogi gwasanaethau camddefnyddio sylweddau drwy ein BCAau a byrddau iechyd. Mae BCA yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau yn seiliedig ar angen lleol a byddwn yn parhau â'n gwaith gyda nhw i sicrhau eu bod yn parhau i ddarparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion y boblogaeth, gan gynnwys plant a phobl ifanc.
Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn sicrhau bod ein hymyriadau yn 'gydgysylltiedig' ar draws y llywodraeth fel y dangosir yn yr adran integreiddio, gan gydnabod bod anghenion unigolion yn mynd y tu hwnt i'w defnydd o sylweddau, trwy ddatblygu dull person cyfan i’w cefnogi.
Mae cydweithio da yn hanfodol os yw'r cymorth gorau posibl yn cael ei ddarparu i unigolion a chymunedau. Rydym yn cydnabod mai un elfen allweddol o ddarparu gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yw bod BCAau yn gweithio'n agos gyda phartneriaethau a strwythurau eraill, megis byrddau partneriaeth rhanbarthol, byrddau gwasanaethau cyhoeddus a strwythurau eraill, er mwyn darparu'r cymorth gorau posibl i'r unigolyn a'r gymuned ehangach.
1.5 Cymryd rhan
I oruchwylio datblygiad y fframwaith hwn ar gyfer plant a phobl ifanc, sefydlwyd grŵp llywio yn 2018. Yn ogystal, gwahoddwyd grwpiau rhanddeiliaid cenedlaethol i fynychu dau ddiwrnod ymgysylltu i gytuno ar welliant ac argymhellion terfynol y fframwaith yn dilyn ymgysylltiad cychwynnol.
Cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad 12 wythnos hefyd rhwng 30 Medi a 23 Rhagfyr 2022 i ofyn am adborth pellach gan randdeiliaid a phartneriaid.
Daw'r dystiolaeth o fewn y gronfa dreftadaeth ranbarthol o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cronfeydd data llyfryddiaethol, cyfathrebu personol ag academyddion blaenllaw, digwyddiadau casglu rhanddeiliaid a thystiolaeth a chyfweliadau â hysbyswyr allweddol. Roedd y cronfeydd data a ffynonellau gwefan yn cynnwys MEDLINE, MEDLINE Daily Update, 'Allied and Complementary Medicine Database' (AMED), 'British Nursing Index' (BNI) ac 'Excerpta Medica dataBASE' (EMBASE). Roedd y gwefannau yn cynnwys 'National Institute for Health and Care Excellence' (NICE), yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, Llywodraeth Cymru, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
1.6 Effaith
Drwy weithredu'r prif argymhellion o fewn y fframwaith, dylid sicrhau:
- bod yr holl wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn darparu gwasanaeth cynhwysol ac addasol i bawb hyd at 25 oed
- gweithredu offeryn asesu unedig a modiwlaidd electronig ar draws gwasanaethau yng Nghymru sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at <25
- datblygu gwasanaethau ymyrraeth arbenigol cynhwysfawr a ddarperir drwy greu un asiantaeth, neu ddod ag asiantaethau ar wahân at ei gilydd, i weithredu fel endid unigol i gefnogi'r rhai sydd â gwendidau lluosog neu gymhleth gan gynnwys defnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anawsterau dysgu neu risg o droseddu ac aildroseddu rhwng 15 a 25 oed
1.7 Costau ac arbedion
Rhagwelir y bydd y camau gweithredu o fewn y fframwaith yn cael eu gyflawni drwy gyllid presennol ar gyfer gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hyn ac yn 2024 i 2025 maent yn buddsoddi dros £67 miliwn yn yr agenda camddefnyddio sylweddau. Mae hyn yn cynnwys dros £41 miliwn yn uniongyrchol i gefnogi BCAau camddefnyddio sylweddau sy'n comisiynu gwasanaethau'n lleol yn seiliedig ar angen. Darperir cyllid wedi’i glustnodi ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc ac mae hwn wedi cynyddu £1 miliwn yn 2024 i 2025, gan fynd â chyfanswm y buddsoddiad wedi'i glustnodi i £6.25 miliwn.
Mae corff sylweddol o dystiolaeth i gefnogi'r elw cymdeithasol ar fuddsoddiad a chanfu adolygiad diweddar y fonesig Carol Black fod "pob £1 sy'n cael ei gwario ar hyn o bryd ar leihau niwed a thriniaeth yn rhoi £4 o enillion iechyd a chyfiawnder cyfunol ar fuddsoddiad".
1.8 Mecanwaith
Bydd Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, BCAau camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector yn gyfrifol am sicrhau bod y fframwaith yn cael ei ddarparu ar gyfer plant a phobl ifanc.
Adran 2. Beth fydd yr effaith ar les cymdeithasol?
2.1 Pobl a chymunedau
Dylai'r fframwaith gael effaith gadarnhaol sylweddol ar y rhai sydd mewn perygl o'r niweidiau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau trwy sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn y lle cywir, gan wella canlyniadau gwell iddynt, eu teuluoedd a'u cymunedau ehangach. Nod y fframwaith yw cael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc trwy ohirio neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o 'ddefnyddio' i 'gamddefnyddio' sylweddau, gan gyfyngu ar y niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi symud ymlaen i ddibyniaeth.
2.2 Hawliau plant
Mae 'Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant' (CRIA) wedi'i gwblhau.
2.3 Cydraddoldeb
Mae asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gwblhau.
2.4 Prawfesur gwledig
Nod y fframwaith yw cael effaith gadarnhaol ar yr holl wasanaethau sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai yn y gymuned wledig yng Nghymru. Anela’r fframwaith at sicrhau bod y rhai y mae angen cymorth a thriniaeth arnynt yn gallu eu cael yn ôl yr hangen. Mae BCAau camddefnyddio sylweddau yn gyfrifol am sicrhau bod gwasanaethau priodol ar gael mewn lleoliadau gwledig, yn enwedig gan gynnwys darparu gwasanaethau allgymorth, integreiddio â gofal sylfaenol a defnyddio technolegau digidol.
2.5 Iechyd
2.5a Sut (naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol), ac i ba raddau (effaith sylweddol/gymedrol/fach), y bydd y cynnig yn effeithio ar benderfynyddion iechyd?
Bydd y fframwaith yn helpu i wella'n sylweddol y canlyniadau iechyd i blant a phobl ifanc ac aelodau teulu'r rhai sy'n camddefnyddio sylweddau. Dylai plant a phobl ifanc sy'n cael y cymorth cywir gael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.
2.5b. A allai fod effaith iechyd wahaniaethol ar grwpiau penodol?
Mae camddefnyddio sylweddau yn fater iechyd a gofal cymdeithasol sy'n effeithio ar boblogaeth gyfan Cymru, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Bydd nod y fframwaith yn helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn y lle cywir, gan wella canlyniadau gwell iddynt, eu teuluoedd a'u cymunedau ehangach.
2.6 Preifatrwydd
Bydd yr hysbysiad preifatrwydd canlynol yn cael ei gyhoeddi fel rhan o'r ymgynghoriad:
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a rowch fel rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â hwy neu'n cynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o ymatebion i'r ymgynghoriad, yna efallai y bydd y gwaith hwn yn cael ei gomisiynu i'w wneud gan drydydd parti achrededig (er enghraifft sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud o dan gontract yn unig. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion llym ar gyfer prosesu a diogelu data personol.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn iawn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Efallai y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, cyhoeddir enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) y person neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb gyda'r ymateb. Os nad ydych am i'ch enw neu'ch cyfeiriad gael ei gyhoeddi, rhowch wybod i ni’n ysgrifenedig pan fyddwch yn anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth rhyddid gwybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw ran o'ch data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am dair blynedd ar y mwyaf.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i:
- gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a chael ati
- mynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hwnnw
- (mewn rhai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
- (mewn rhai amgylchiadau) mynnu bod eich data’n cael ei ‘ddileu’
- (mewn rhai amgylchiadau) cludadwyedd data
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Y manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yw:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu
0303 123 1113
Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Adran 3. Beth fydd yr effaith ar les diwylliannol a'r iaith Gymraeg?
3.1 Lles diwylliannol
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer diwylliant yw 'Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg ac sy'n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau a chwaraeon a hamdden'. Mae diwylliant yn cynnwys amgueddfeydd, archifau, llyfrgelloedd a'r celfyddydau. Mae treftadaeth yn cynnwys yr amgylchedd hanesyddol adeiledig yn ogystal â threftadaeth anniriaethol fel traddodiadau. Mae'r celfyddydau'n cwmpasu sectorau perfformio a chreadigol gan gynnwys cerddoriaeth, llenyddiaeth, theatr a chelf, tra bod chwaraeon a hamdden yn cynnwys chwaraeon elitaidd a chymunedol yn ogystal â chyfleoedd i gymryd rhan mewn hamdden awyr agored ehangach.
3.1a Sut gall y cynnig gyfrannu'n weithredol at y nod o hyrwyddo a diogelu diwylliant a threftadaeth ac annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden? (Ar gyfer y Gymraeg gweler adran 3.2)
Gallai rhan o'r gwaith i gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau gynnwys y celfyddydau, chwaraeon ac amrywiol weithgareddau cysylltiedig, yn enwedig fel rhan o raglen o weithgaredd dargyfeirio.
3.1b A yw'n bosibl y gallai'r cynnig gael effaith negyddol ar hyrwyddo a diogelu diwylliant a threftadaeth, neu allu pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden? Os felly, pa gamau y gallwch eu cymryd i osgoi neu leihau'r effaith honno (er enghraifft drwy ddarparu cyfleoedd eraill)?
Na, ni fydd y polisi yn cael effaith negyddol.
3.2 Y Gymraeg
Mae asesiad o effaith ar y Gymraeg wedi'i gwblhau.
Adran 4. Beth fydd yr effaith ar les economaidd?
Mae cefnogi twf yn economi Cymru, a thrwy hyn trechu tlodi, wrth wraidd rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru.
4.1 Busnes, y cyhoedd ac unigolion
Mae niweidiau tymor hwy i blant a phobl ifanc sy'n camddefnyddio sylweddau yn cynnwys colli cyfle oherwydd diffyg addysg gyflawn, cyflogaeth, anghydraddoldebau ariannol ac iechyd. Gall plant a phobl ifanc fod yn fwy agored i niwed am eu bod hwy eu hunain neu eu rhieni’n camddefnyddio sylweddau ac maent mewn mwy o berygl o gam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol, camfanteisio a throseddau cyfundrefnol.
Mae yna gyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos bod cyflogaeth yn hanfodol i iechyd meddwl da tra bod diweithdra yn arwain at ddirywiad mewn iechyd a lles. Gall cwblhau addysg a dod o hyd i waith fod yn gam pwysig iawn tuag at wella, gwella hunan-barch a hyder, a lleihau straen a phryder. Eto i gyd cydnabyddir yn eang fod y rhai sy'n cael budd-daliadau diweithdra sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn aml yn wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio dod o hyd i waith.
4.2 Y sector cyhoeddus gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill
Mae plant a phobl ifanc sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau yn aml yn cyflwyno anghenion cymhleth sy'n effeithio ar y sector cyhoeddus mewn llawer o ffyrdd fel tai a digartrefedd, teuluoedd sydd ar drothwy gofal ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Nod y fframwaith yw cefnogi plant a phobl ifanc yn well, ac felly teimlir na fydd y fframwaith hwn yn effeithio'n negyddol ar y sector cyhoeddus.
4.3 Trydydd sector
Mae'r trydydd sector yn darparu cefnogaeth hanfodol i'r rhai y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt. Nod y fframwaith yw cefnogi plant a phobl ifanc yn well ac felly teimlir na fydd y fframwaith hwn yn effeithio'n negyddol ar y trydydd sector.
4.4 Effaith ar gyfiawnder
Nid yw'r fframwaith yn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol newydd, yn creu, dileu na diwygio trosedd nac yn effeithio ar y system gyfiawnder, felly nid ystyrir bod angen asesiad o'r effaith ar gyfiawnder.
Adran 5. Beth fydd yr effaith ar les amgylcheddol?
O dan Adran 9 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi, cyhoeddi a gweithredu polisi adnoddau naturiol a chymryd pob cam rhesymol i'w weithredu ac annog eraill i gymryd camau o'r fath. Cyhoeddwyd y 'Polisi adnoddau naturiol' ym mis Awst 2017.
5.1 Adnoddau naturiol
5.1a Sut bydd y cynnig yn cyflawni un neu fwy o'r blaenoriaethau cenedlaethol yn y Polisi Adnoddau Naturiol (PAN)?
Nid yw hyn yn berthnasol mewn perthynas â'r 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc'.
5.1b A yw'r cynnig yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd cenedlaethol canlynol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?
Bydd y fframwaith yn helpu i gyflawni blaenoriaethau allweddol yng 'Nghynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022' (cafodd y cynllun ei ddiweddaru yn 2021 a’r cynllun hwn y gweithredir yn unol ag ef ar hyn o bryd), sy'n cefnogi gweithredu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac economaidd ac a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar y ddau faes. Mae lleihau niwed, cyflogadwyedd ac adferiad wrth wraidd y cynllun cyflawni sy'n cyd-fynd â 'Cymru iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol' ac yn gweld dull system gyfan o ymdrin ag iechyd a gofal cymdeithasol, yn rhagweld anghenion iechyd, yn atal salwch ac yn lleihau tlodi ac anghydraddoldebau iechyd.
5.2 Bioamrywiaeth
Nod Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) Llywodraeth Cymru yw gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth, ac mae'n ailddatgan ymrwymiad i atal colled bioamrywiaeth erbyn 2020. Wedi ystyried y 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc' yn erbyn amcanion y CGAN, nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol ar fioamrywiaeth. Yn yr un modd, ni fydd unrhyw effeithiau sylweddol uniongyrchol tebygol ar unrhyw ardal cadwraeth arbennig nac ardal gwarchodaeth arbennig ar gyfer adar, ac felly nid oes angen cynnal asesiad rheoliadau cynefinoedd. Ystyrir nad oes angen asesiad amgylcheddol strategol ac asesiad effaith ar gyllidebau carbon.
5.3 Newid hinsawdd
Wedi ystyried y 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc' nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol ar ddatgarboneiddio a newid yn yr hinsawdd.
5.4 Asesiad Amgylcheddol Strategol (SEA)
Gweler adran 5.2.
5.5 Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA)
Gweler adran 5.2.
5.6 Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA)
Gweler adran 5.2.
Adran 6. Dyletswydd economaidd-gymdeithasol: beth fydd yr effaith ar anfantais economaidd-gymdeithasol?
6.1 Y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
Mae'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus perthnasol, gan gynnwys Gweinidogion Cymru, roi sylw dyledus i'r angen i leihau anghydraddoldeb canlyniad sy'n deillio o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'r ddyletswydd hon yn berthnasol i benderfyniadau sydd o natur strategol yn unig.
I gael gafael ar ganllawiau statudol ac adnoddau pellach, ewch i'r dudalen wefan bwrpasol ar gyfer y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol.
Er mwyn dangos bod 'sylw dyledus' wedi'i roi, cedwir trywydd archwilio tystiolaeth ar gyfer yr holl benderfyniadau a wneir o dan y ddyletswydd. Bydd yr asesiad effaith hwn yn rhan o'r trywydd tystiolaeth hwn. Nodwch sut rydych wedi ystyried effeithiau economaidd-gymdeithasol, a sut rydych wedi cynnwys eraill yn yr asesiad hwn.
Mae asesiad effaith ar ddyletswydd economaidd-gymdeithasol wedi'i gwblhau.
Adran 7. Casgliad
7.1 Sut mae'r bobl y mae’r cynnig yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi’u cynnwys wrth ei ddatblygu?
I oruchwylio datblygiad y fframwaith hwn ar gyfer plant a phobl ifanc, sefydlwyd grŵp llywio yn 2018. Yn ddiweddarach, gwahoddwyd grwpiau rhanddeiliaid cenedlaethol i fynychu dau ddiwrnod ymgysylltu i gytuno ar welliant ac argymhellion terfynol y fframwaith yn dilyn ymgysylltiad cychwynnol. Yn ogystal, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad 12 wythnos yn gofyn am farn y rhai y gallai'r fframwaith effeithio arnynt. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng 30 Medi a 23 Rhagfyr 2022.
7.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, yn rhai cadarnhaol a negyddol?
Dylai gweithredu'r prif argymhellion o fewn y fframwaith sicrhau:
- bod yr holl wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn darparu gwasanaeth cynhwysol ac addasol i bawb hyd at 25 oed
- gweithredu offeryn asesu unedig a modiwlaidd electronig ar draws gwasanaethau yng Nghymru sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at <25
- datblygu gwasanaethau ymyrraeth arbenigol cynhwysfawr a ddarperir drwy greu un asiantaeth, neu ddod ag asiantaethau ar wahân at ei gilydd, i weithredu fel endid unigol i gefnogi'r rhai sydd â gwendidau lluosog neu gymhleth gan gynnwys defnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anawsterau dysgu neu risg o droseddu ac aildroseddu rhwng 15 a 25 oed
Mae'r fframwaith yn cefnogi blaenoriaethau allweddol yng 'Nghynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022' (cafodd y cynllun ei ddiweddaru yn 2021 yn sgil COVID-19; mae BCAau a rhanddeiliaid yn parhau i weithredu yn unol â’r cynllun hwn ar hyn o bryd), sy'n mynd ati'n gadarnhaol i ymdrin â chamddefnyddio sylweddau mewn modd ataliol gyda lleihau niwed wrth wraidd ei ddull. Mae'n ceisio cael effaith gadarnhaol ar iechyd, addysg, cyflogadwyedd ac adferiad.
Nid yw'r cynigion polisi fel y’u nodir yn y ddogfen ymgynghori yn cael unrhyw effaith ar nodau neu ffyrdd llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Fodd bynnag, fe’u datblygwyd yn unol â'r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Nid oes unrhyw faterion negyddol yn gysylltiedig â lles cymdeithasol pobl a chymunedau yng Nghymru nac ar les diwylliannol Cymru nac ar yr iaith Gymraeg. Nid oes unrhyw faterion negyddol ar les economaidd busnesau a'r cyhoedd, yr amgylchedd, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn na'r agenda trechu tlodi.
7.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
- yn sicrhau’r cyfraniad mwyaf posibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant
- yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn rhoi cyfle unigryw i gydlynu gweithredu aml-sector effeithiol ar effeithiau dinistriol camddefnyddio sylweddau. Mae'r ddeddf yn gosod cyfrifoldebau statudol ar gyrff sector cyhoeddus i weithredu mewn modd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu anghenion llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Bydd yr achos i wella'r ddarpariaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc drwy'r fframwaith hwn yn helpu i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau a bydd yn cael effeithiau cadarnhaol ar lesiant, yn ogystal ag economi ehangach Cymru.
7.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben?
Bydd Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, BCAau camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector yn gyfrifol am sicrhau bod y fframwaith hwn yn cael ei gyflenwi ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae monitro gwasanaethau camddefnyddio sylweddau yn cael ei adolygu ar hyn o bryd fel rhan o ddatblygu fframwaith canlyniadau camddefnyddio sylweddau Cymru a bydd anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd yn rhan o hyn.
Asesiadau effaith llawn
A. Asesiad o'r effaith ar hawliau plant
Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'i brotocolau dewisol wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.
1. Amcanion polisi
Un thema allweddol yng 'Nghynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022' (a gafodd ei ddiweddaru yn 2021 yn sgil COVID-19; mae BCAau a rhanddeiliaid yn parhau i weithredu yn unol â’r cynllun hwn ar hyn o bryd), yw darparu cefnogaeth bellach i deuluoedd a gofalwyr pobl sy'n camddefnyddio sylweddau.
Mae defnyddio a chamddefnyddio sylweddau ymhlith plant a phobl ifanc hyd at 25 oed yn cynrychioli ffocws a her gymdeithasol benodol yng Nghymru a'r DU ehangach, gyda llawer o niweidiau wedi’u celu o hyd rhag gwasanaethau cymorth a thriniaeth. Mae'r niweidiau sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau yn cynnwys, er enghraifft, y rhai sy'n effeithio ar iechyd corfforol gan gynnwys:
- gwenwyndra acíwt, haint a marwolaethau cynamserol o wenwyn, hunanladdiadau, damweiniau neu drais ac ymosodiad
- niwed seicolegol, acíwt a chronig, yn enwedig ymhlith y rhai ag anghenion lluosog a chymhleth gan gynnwys anhwylderau iechyd meddwl
- chysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol
Ymhlith y niweidiau tymor hwy mae colli cyfle oherwydd diffyg addysg gyflawn, cyflogaeth, anghydraddoldebau ariannol ac iechyd. Gall plant a phobl ifanc fod yn fwy agored i niwed oherwydd eu bod hwy eu hunain neu eu rhieni’n camddefnyddio sylweddau ac maent mewn mwy o berygl o gam-drin corfforol, emosiynol a rhywiol, camfanteisio a throseddau cyfundrefnol.
Mae'r fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau hwn yn ddogfen ganllaw ac fe'i cynlluniwyd i lywio a chynorthwyo cynllunwyr a darparwyr iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol i ddylunio a darparu gwasanaethau atal a thriniaeth o ansawdd uchel, cynaliadwy a theg i'r rhai sydd mewn perygl o gael problemau camddefnyddio sylweddau neu sy'n cael profiad ohonynt.
Mae'r gynulleidfa arfaethedig ar gyfer y fframwaith hwn yn cynnwys cynllunwyr gwasanaeth, comisiynwyr, darparwyr camddefnyddio sylweddau a darparwyr iechyd ehangach, cyfiawnder troseddol a gofal cymdeithasol sy'n gweithio gyda'r rhai sydd mewn perygl o gychwyn neu brofiad o ddefnydd cyffuriau neu alcohol problemus hanesyddol neu gyfredol.
Mae'r fframwaith yn rhoi trosolwg o'r sefyllfa bresennol yng Nghymru a'r DU ehangach ac yn amlinellu'r dystiolaeth i lywio gwelliannau. Darperir dolenni i ddogfennau strategaeth a pholisi perthnasol ynghyd â chrynodeb o'r dystiolaeth sy'n ymwneud â datblygiad gofynnol gwasanaethau sydd â'r nod o wella iechyd a lles plant a phobl ifanc.
2. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar bobl o bob oed, gan gynnwys plant a phobl ifanc, a hynny o ganlyniad i'w defnydd eu hunain a defnydd eu rhiant neu ofalwr.
Ar 31 Mawrth 2022, roedd 4,960 o blant yn derbyn gofal a chymorth oherwydd camddefnyddio sylweddau rhieni. Nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth y nodwyd bod eu camddefnyddio sylweddau eu hunain yn broblem oedd 630, sef 3.8 y cant o'r holl blant sy'n derbyn gofal a chymorth.
Roedd cyfanswm o 869 o waharddiadau ysgol o ganlyniad i alcohol neu gyffuriau ymhlith plant oed ysgol, sef cynnydd o 119 y cant o 2021 i 2022.
Roedd 401 o dderbyniadau yn ymwneud â phobl ifanc o dan 25 oed â chyflwr sy'n benodol i alcohol yn 2022 i 2023, sef gostyngiad o 34.6 y cant o'i gymharu â 2021 i 2022. Roedd gostyngiad yn nifer y derbyniadau am gyffuriau anghyfreithlon o 11.1 y cant ymhlith y garfan oedran hon yn 2022 i 2023 i gyfanswm o 692.
Yn benodol, gwyddom drwy'r gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod fod plant sy'n cael eu magu mewn cartrefi lle mae camddefnyddio sylweddau yn broblem, o bosibl, yn fwy tebygol o gael canlyniadau niweidiol yn ddiweddarach mewn bywyd.
Yn ystod yr ymgynghoriad ar y cynllun cyflawni ar gamddefnyddio sylweddau, un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer gweithredu a ddaeth i'r amlwg o'r adborth a gafwyd oedd yr angen i ddarparu cymorth pellach i deuluoedd a gofalwyr pobl sy'n camddefnyddio sylweddau. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddrafft strategaeth tlodi plant i Gymru 2023. Mae hyn yn nodi'r ymrwymiad y dylai mynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldeb fod yn sbardun canolog i bopeth a wnawn ar draws y llywodraeth. Mae aelwydydd lle mae rhieni’n camddefnyddio sylweddau yn aml yn gartrefi incwm isel am amrywiaeth o resymau cysylltiedig, gan gynyddu'r risg y bydd plant yn yr aelwydydd hyn yn destun tlodi. Golyga hyn fod cyflwyno'r cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn debygol o wneud cyfraniad cadarnhaol at fynd i'r afael â thlodi plant.
Rydym wedi ymgysylltu ag ystod o weithwyr proffesiynol i sicrhau bod barn pobl ifanc yn cael ei hystyried a byddwn yn cryfhau hyn ymhellach wrth i'r fframwaith gael ei weithredu.
3. Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith
Yn flaenorol, roedd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian cyfatebol i raglen heddlu ysgolion Cymru. Fodd bynnag, mae Gweinidogion Cymru wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd ar gyfer 2024 i 2025 a chanolbwyntio ar ddiogelu gwasanaethau rheng flaen ac achub bywydau. Ar 31 Mawrth 2024, daeth Gweinidogion Cymru â chyfraniad Llywodraeth Cymru at y rhaglen i ben. Mae’n anodd rhag-weld effaith hyn gan fod y rhaglen yn cael ei mesur yn bennaf yn nhermau allbynnau gwersi. Mae’r rhaglen wedi bod yn bartneriaeth â’r heddlu gan eu bod hwythau’n darparu cyllid i roi’r rhaglen ar waith. Mae’r heddlu wrthi’n ystyried beth fydd eu rôl mewn ysgolion yn y dyfodol. Yn rhan o’r gwaith hwn, deallwn y byddant yn casglu barn rhanddeiliaid ynghylch eu model nhw ar gyfer ymwneud â’r sector addysg yn y dyfodol.
Credir y bydd y 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc' yn cael effaith gadarnhaol ar blant, pobl ifanc a'u teuluoedd er mwyn helpu i liniaru unrhyw effeithiau posibl.
Nod y fframwaith yw sicrhau eu bod yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn y lle cywir, gan wella canlyniadau gwell iddynt hwy, eu teuluoedd a'u cymunedau ehangach. Dylai gweithredu'r prif argymhellion o fewn y fframwaith sicrhau:
- bod yr holl wasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc yn darparu gwasanaeth cynhwysol ac addasol i bawb hyd at 25 oed
- gweithredu offeryn asesu unedig a modiwlaidd electronig ar draws gwasanaethau yng Nghymru sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc hyd at <25
- datblygu gwasanaethau ymyrraeth arbenigol cynhwysfawr a ddarperir drwy greu un asiantaeth, neu ddod ag asiantaethau ar wahân at ei gilydd, i weithredu fel endid unigol i gefnogi'r rhai sydd â gwendidau lluosog neu gymhleth gan gynnwys defnyddio sylweddau, iechyd meddwl ac anawsterau dysgu neu risg o droseddu ac aildroseddu rhwng 15 a 25 oed
Sut mae eich cynnig yn gwella neu'n herio hawliau plant, fel y nodir gan erthyglau CCUHP a'i brotocolau dewisol? Cyfeiriwch at yr erthyglau i weld pa rai sy'n berthnasol i'ch polisi eich hun.
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol, erthygl 3
Dylai pob sefydliad dan sylw weithio tuag at yr hyn sydd orau i'r plentyn.
Yn gwella (X)
X.
Yn herio (X)
Dim.
Esboniad
Mae camddefnyddio sylweddau yn fater iechyd mawr sy'n effeithio ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae'r fframwaith yn darparu canllawiau i helpu darparwyr i ddylunio a darparu gwasanaethau atal a thriniaeth cynaliadwy a theg o ansawdd uchel i'r rhai sydd mewn perygl o broblemau camddefnyddio sylweddau neu sy’n cael profiad ohonynt.
Nod darparu ymgysylltiad cynnar yw oedi neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o 'ddefnyddio' i 'gamddefnyddio' sylweddau, cyfyngu ar y niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi symud ymlaen i ddibyniaeth.
Mae angen ymrwymiad gan bob rhan o'r llywodraeth a phartneriaid allweddol sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau i sicrhau ein bod yn cyrraedd a chefnogi pawb sydd mewn angen er mwyn iddynt gael y lefel gywir o gymorth, ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir.
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol, erthygl 6
Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw. Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn goroesi ac yn datblygu'n iach.
Yn gwella (X)
X.
Yn herio (X)
Dim.
Esboniad
Mae corff cynyddol o dystiolaeth ryngwladol am yr effaith hirdymor negyddol ar ganlyniadau iechyd a lles a all ddeillio o ddod i gysylltiad â thrawma plentyndod cyn 18 oed. Mae'r dystiolaeth hefyd yn cysylltu amlygiad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod â risg uwch o fabwysiadu ymddygiadau niweidio iechyd yn ystod y glasoed, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau. Felly, mae camddefnyddio sylweddau yn broblem ac yn ffactor risg.
Mae plant y rhai y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi effeithio arnynt yn fwy tebygol o ddatgelu eu plant eu hunain i brofiadau felly, gan greu cylch o niwed, y mae angen i ymyrraeth gynnar ganolbwyntio ar ei dorri.
Nod y fframwaith yw gohirio neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o 'ddefnyddio' i 'gamddefnyddio' sylweddau, cyfyngu ar y niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi symud ymlaen i ddibyniaeth.
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol, erthygl 12
Mae gan blant yr hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd yn eu barn hwy, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw, a’r hawl i’w barn gael ei hystyried.
Yn gwella (X)
X.
Yn herio (X)
Dim.
Esboniad
Dylid ystyried barn pawb sy'n defnyddio gwasanaethau camddefnyddio sylweddau fel rhan o gynllunio triniaeth a gofal. Nodir yr egwyddorion hyn yn 'Llyfr oren y canllawiau clinigol'.
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol, erthygl 19
Dylai llywodraethau sicrhau bod plant yn cael gofal priodol, a'u hamddiffyn rhag trais, camdriniaeth ac esgeulustod gan eu rhieni neu unrhyw un arall sy'n gofalu amdanynt.
Yn gwella (X)
X.
Yn herio (X)
Dim.
Esboniad
Gwyddom drwy'r gwaith ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, fel y nodir uchod, fod plant sy'n cael eu magu mewn cartrefi lle mae camddefnyddio sylweddau yn broblem, o bosibl, yn fwy tebygol o gael canlyniadau niweidiol yn ddiweddarach mewn bywyd. Yng ngoleuni hyn, mae angen ymgysylltu'n gynnar i oedi neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o 'ddefnyddio' i 'gamddefnyddio' sylweddau, gan gyfyngu ar y niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi dilyniant i ddibyniaeth.
Roedd y fframwaith hwn yn flaenoriaeth allweddol yng 'Nghynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau Llywodraeth Cymru 2019 i 2022'. Mae'r cynllun cyflawni hwn hefyd yn nodi:
- bod BCAau i sicrhau bod gwasanaethau arbenigol ar gael i blant a theuluoedd i ddarparu cefnogaeth
- sicrhau bod systemau ar y cyd ar waith ar gyfer y camau adnabod ac atal cynnar i helpu i leihau nifer y plant sy'n cael eu cymryd i ofal o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau
- darparu gwasanaethau hygyrch ac amserol i rieni sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau fel eu bod yn cael eu helpu i gadw'r uned deuluol gyda'i gilydd trwy reoli risg
- sicrhau ar y cyd bod gwasanaethau ar gael yn hawdd i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad gofal y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar eu bywydau
- bod BCAau a gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol yn sicrhau mynediad hawdd at wasanaethau pontio pwrpasol i bobl ifanc sydd â phroblemau camddefnyddio sylweddau a phrofiad gofal
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol, erthygl 24
Mae gan blant yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân fel y byddant yn cadw'n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn.
Yn gwella (X)
X.
Yn herio (X)
Dim.
Esboniad
Nod cyffredinol y fframwaith yw gohirio neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o 'ddefnyddio' i 'gamddefnyddio' sylweddau, gan gyfyngu'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi symud ymlaen i ddibyniaeth.
Bydd hyn yn helpu i leihau'r niwed a achosir gan gyffuriau ac alcohol i'r unigolyn a’r gymdeithas ehangach, sy'n cynnwys dirywiad mewn iechyd corfforol a meddyliol.
Erthyglau CCUHP neu brotocol dewisol, erthygl 33
Dylai'r Llywodraeth ddarparu ffyrdd o amddiffyn plant rhag cyffuriau peryglus.
Yn gwella (X)
X.
Yn herio (X)
Dim.
Esboniad
Nod cyffredinol y fframwaith yw gohirio neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o 'ddefnyddio' i 'gamddefnyddio' sylweddau, gan gyfyngu'r niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi symud ymlaen i ddibyniaeth.
Mae'r fframwaith yn nodi mesurau cymdeithasol ac addysgol i amddiffyn plant rhag defnyddio’n anghyfreithlon gyffuriau narcotig a sylweddau seicotropig fel y'u diffinnir yn y cytuniadau rhyngwladol perthnasol a'i nod yw atal defnyddio plant wrth gynhyrchu a masnachu sylweddau o'r fath yn anghyfreithlon.
4. Cyngor a phenderfyniad gweinidogol
Cafodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ar y pryd wybod bod yr asesiad effaith hwn wedi'i gwblhau a bod y gwaith yn gyson â gofynion CCUHP, yn enwedig yr erthyglau a amlinellir uchod.
5. Cyhoeddi'r Asesiad o Effaith ar Hawliau Plant (CRIA)
Bydd y CRIA yn cael ei gyhoeddi ynghyd â'r fframwaith terfynol ar wefan Llywodraeth Cymru fel rhan o'r asesiad effaith integredig.
6. Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc
Rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid i ddatblygu'r fframwaith ac wedi ystyried barn plant a phobl ifanc. Fel rhan o'n proses ymgynghori a'r gwaith monitro a gweithredu parhaus, byddwn yn parhau i ofyn am farn plant a phobl ifanc ar lefel ranbarthol, drwy ein byrddau cynllunio ardal, a thrwy ymgysylltu cenedlaethol.
7. Monitro ac adolygu
Cafodd y CRIA hwn ei adolygu yn ystod y cyfnod ymgynghori ac fe’i hailystyriwyd cyn cyhoeddi'r ddogfen. Mae’r CRIA hwn hefyd wedi’i ystyried yn sgil y ffaith y daeth cyfraniad Llywodraeth Cymru at raglen heddlu ysgolion Cymru i ben ar 31 Mawrth 2024. Mae fersiwn o’r fframwaith sy'n gyfeillgar i blant hefyd wedi'i gynhyrchu.
B. Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi cyfrifoldeb ar awdurdodau cyhoeddus i roi sylw dyledus i'r angen i ddileu gwahaniaethu a hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn berthnasol i'r broses o adnabod angen a risg a wynebir gan y plentyn unigol a'r broses asesu. Ni ddylid trin yr un plentyn neu grŵp o blant yn llai ffafriol nag eraill o gwbl o ran gallu cael at wasanaethau effeithiol sy'n diwallu eu hanghenion penodol. Nod y 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc' yw gwella'r ddarpariaeth o wasanaethau i blant a phobl ifanc a disgwylir iddo gael effaith gadarnhaol ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: oedran
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Mae corff cynyddol o dystiolaeth ryngwladol am yr effaith hirdymor negyddol ar ganlyniadau iechyd a lles a all ddeillio o ddod i gysylltiad â thrawma plentyndod cyn 18 oed. Mae'r dystiolaeth hefyd yn cysylltu amlygiad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod â risg uwch o fabwysiadu ymddygiadau niweidio iechyd yn ystod y glasoed, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau. Felly, mae camddefnyddio sylweddau yn broblem ac yn ffactor risg.
Mae plant y rhai y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi effeithio arnynt yn fwy tebygol o ddatgelu eu plant eu hunain i brofiadau felly, gan greu cylch o niwed, y mae angen i ymyrraeth gynnar ganolbwyntio ar ei dorri.
Nod darparu ymgysylltiad cynnar yw oedi neu leihau'r tebygolrwydd y bydd pobl ifanc yn symud o 'ddefnyddio' i 'gamddefnyddio' sylweddau, cyfyngu ar y niwed sy'n gysylltiedig â defnyddio, ac osgoi symud ymlaen i ddibyniaeth.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: anabledd
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Mae camddefnyddio sylweddau yn fater iechyd a gofal cymdeithasol sy'n effeithio ar boblogaeth gyfan Cymru, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o bob nodwedd. Bydd nod y fframwaith yn helpu i sicrhau bod pob defnyddiwr gwasanaeth, waeth beth fo'i anabledd, yn cael y cymorth cywir ar yr adeg gywir yn y lle cywir, gan wella canlyniadau gwell i unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau ehangach.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: ailbennu rhywedd
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Ni fydd y fframwaith yn effeithio ar ailbennu rhywedd. Bydd yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: beichiogrwydd a mamolaeth
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: hil
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: crefydd, cred ac anghrediniaeth
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: rhyw / rhywedd
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: cyfeiriadedd rhywiol (lesbiaidd, hoyw a deurywiol)
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: priodas a phartneriaeth sifil
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd yn cefnogi darpariaeth gwasanaeth effeithiol ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: plant a phobl ifanc hyd at 18 oed
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig?
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd y fframwaith yn cael effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc drwy ddarparu ymyrraeth gynnar fel bod niweidiau tymor hwy yn cael eu hatal, cyn iddynt ddigwydd. Mae hyn yn cynnwys atal amlygiad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Nodwedd neu grŵp gwarchodedig: aelwydydd incwm isel
Beth yw effeithiau cadarnhaol neu negyddol y cynnig
Cadarnhaol.
Rhesymau dros eich penderfyniad (gan gynnwys tystiolaeth)
Bydd y fframwaith yn cefnogi plant a phobl ifanc o bob aelwyd, gan gynnwys aelwydydd incwm isel, a'r effeithiau pellach oherwydd yr argyfwng costau byw. Mae yna gyfoeth o dystiolaeth sy'n dangos bod addysg a chyflogaeth yn hanfodol i iechyd meddwl da tra bod diweithdra yn arwain at ddirywiad mewn iechyd a lles.
Gall cwblhau addysg a dod o hyd i waith fod yn gam pwysig iawn tuag at adferiad, gwella hunan-barch a hyder, a lleihau straen a phryder.
Sut fyddwch chi'n lliniaru effeithiau?
Amherthnasol.
Hawliau dynol a chonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig
Disgwylir i’r 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc' gael effaith gadarnhaol ar hawliau dynol.
Mae'r fframwaith yn cefnogi 'Cynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022' a bydd yn helpu i gyflawni ymrwymiadau’r RhL mewn perthynas â:
- darparu cymorth arbenigol ychwanegol i blant ag anghenion cymhleth a allai fod ar drothwy gofal
- archwilio diwygio gwasanaethau presennol yn radical ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal
- blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella atal, mynd i'r afael â stigma a hyrwyddo dull ‘dim drws anghywir’ o gefnogi iechyd meddwl
- diwygio gofal sylfaenol, gan ddod â gwasanaethau meddygon teulu ynghyd gyda fferylliaeth, therapi, tai, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, cymuned a'r trydydd sector
- sicrhau gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill
Ystyrir bod y 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc' yn gydnaws â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Yn benodol, i leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau ac alcohol yn unol ag erthygl 2, 'yr hawl i fywyd', ac mae camau i annog pobl i gael gwaith ac addysg yn unol â phrotocol 1, erthygl 2, yr hawl i addysg.
Hawliau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd neu Ardal Economeg Ewropeaidd (UE / AEE) a'r Swistir
Ar ôl ystyried y 'Fframwaith triniaeth camddefnyddio sylweddau - darpariaeth gwasanaeth camddefnyddio sylweddau integredig ar gyfer plant a phobl ifanc' nid oes unrhyw effeithiau uniongyrchol ar hawliau dinasyddion yr UE/AEE a'r Swistir.
C. Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r strategaeth newydd, gyda'r targed o filiwn o siaradwyr wedi'i gynnwys yn ei rhaglen lywodraethu. Mae ffyniant y Gymraeg hefyd wedi'i gynnwys yn un o'r 7 nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae gennym hefyd ddyletswydd statudol i ystyried yn llawn effeithiau ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut mae ein polisïau yn effeithio ar yr iaith a'r rhai sy'n ei siarad.
Mae gan Strategaeth Cymraeg 2050 dair thema gysylltiedig:
Mae safonau'r Gymraeg a osodir ar Lywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol iddi roi ystyriaeth lawn wrth wneud penderfyniadau polisi i unrhyw effaith bosibl ar y Gymraeg, ym mhob maes polisi, er mwyn sicrhau polisïau mwy cadarn sy'n cyd-fynd â'r dyhead i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol i bolisïau Llywodraeth Cymru nac unrhyw effeithiau niweidiol ar y Gymraeg.
Gofynnwyd cwestiynau hefyd ynghylch effaith y polisi ar y Gymraeg fel rhan o'r broses ymgynghori ffurfiol ac mae adborth gan y rheini wedi'i ymgorffori yn y fframwaith, gan gryfhau'r paragraffau sy'n ymwneud â'r Gymraeg.
Mae'r fframwaith yn cyfeirio'n glir at Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a strategaeth y Gymraeg - Cymraeg 2050. Dylai'r gwasanaethau a amlinellir yn y fframwaith gydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas â'r Gymraeg a sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg.
Mae'r fframwaith yn cefnogi blaenoriaethau allweddol yng 'Nghynllun cyflawni ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2019 i 2022' (cafodd y cynllun ei ddiweddaru yn 2021 yn sgil COVID-19; mae BCAau a rhanddeiliaid yn parhau i weithredu yn unol â’r cynllun hwn ar hyn o bryd), ac un o'r canlyniadau yw sicrhau bod 'siaradwyr Cymraeg a'u teuluoedd yn gallu cael cymorth ar gyfer materion camddefnyddio sylweddau drwy eu hiaith eu hunain'.
Dylai'r gwasanaethau a amlinellir yn y fframwaith gydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol mewn perthynas â'r Gymraeg a sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg. Dylent hefyd sicrhau bod cymorth yn cael ei gynnig yn weithredol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ni nodwyd unrhyw effeithiau andwyol ar y Gymraeg gan swyddogion. Mae'r fframwaith yn annog defnyddio'r Gymraeg, niferoedd siaradwyr Cymraeg neu gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Mae'r fframwaith yn cyfeirio at Cymraeg 2050 ac yn nodi pwysigrwydd cydnabod cysyniad angen iaith. Dylai cael gwasanaethau yn Gymraeg, yn enwedig pan fydd pobl ar eu mwyaf agored i niwed, fod yn rhan annatod o ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r fframwaith yn cyfeirio at fframwaith strategol Llywodraeth Cymru 'mwy na geiriau' a'i nod o gryfhau'r ddarpariaeth Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a chefnogi siaradwyr Cymraeg i gael gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf.
Yn ogystal, mae strategaeth y gweithlu ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cyfeirio at y Gymraeg ac yn cynnwys camau i wella sgiliau Cymraeg y gweithlu.
D. Asesiad dyletswydd economaidd-gymdeithasol
Pa dystiolaeth sydd wedi cael ei hystyried i ddeall sut mae'r cynnig yn cyfrannu at anghydraddoldebau profiad canlyniad o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol?
Mae cysylltiad cryf rhwng camddefnyddio sylweddau â chanlyniadau iechyd gwael, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, tlodi a marwolaethau cynnar.
Grwpiau difreintiedig ac amddifadedd
Mae baich marwolaethau o ganlyniad i gamddefnyddio cyffuriau ac alcohol yn disgyn fwyaf ar gymunedau difreintiedig. Yn 2021, Cymru ynghyd â gweddill y DU wnaeth gofnodi'r lefel uchaf o farwolaethau sy'n benodol i alcohol.
Mae'r berthynas rhwng lefel amddifadedd ac unigolion yng Nghymru a dderbyniwyd i'r ysbyty mewn perthynas ag alcohol neu gyffuriau anghyfreithlon yn 2022 i 2023 yn glir. Roedd cyfran yr holl gleifion a dderbyniwyd am gyflyrau sy'n benodol i alcohol a oedd yn byw yn y 10 y cant o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig 2.9 gwaith yn uwch na'r rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig. Ymhlith y rhai a dderbyniwyd am gyflyrau sy'n ymwneud â defnyddio cyffuriau anghyfreithlon, roedd y cyferbyniad hyd yn oed yn fwy trawiadol - roedd derbyniadau 7.4 gwaith yn uwch ymhlith y rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r rhai lleiaf difreintiedig, a hynny efallai’n adlewyrchu cyfraniad ychwanegol ffactorau gan gynnwys troseddoli ar amddifadedd a'r effaith gysylltiedig ar ymddygiad iechyd a risg. Mae'r annhegwch iechyd eithafol a nodwyd yn gofyn am weithredu gwasanaeth a pholisi traws-sectoraidd dwys i atal gwaharddiad a gwella canlyniadau iechyd mewn unigolion sydd eisoes wedi’u hymyleiddio.
Plant, pobl ifanc a theuluoedd
Mae camddefnyddio sylweddau yn ffactor sylweddol mewn achosion amddiffyn plant ac fe'i dyfynnir yn aml fel ffactor ar gyfer y plant hynny sydd "ar drothwy gofal".
Yn 2021 i 2022 roedd 17,190 o blant yn derbyn gofal a chymorth yng Nghymru, i fyny o 16,675 yn 2020 i 2021, sef cynnydd o 3.1 y cant. O'r rhain, roedd 4,960 o blant, sef 28.9 y cant, lle rhestrwyd camddefnyddio sylweddau rhieni fel ffactor yn eu hatgyfeiriad (i fyny o 30.9 y cant yn 2021).
Ar 31 Mawrth 2022, roedd 630 o blant yn derbyn gofal a chymorth lle nodwyd bod eu camddefnyddio sylweddau eu hunain yn broblem, sef 3.7 y cant o'r holl blant a oedd yn derbyn gofal a chymorth, lle'r oedd data ar gael.
Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod
Mae corff cynyddol o dystiolaeth ryngwladol am yr effaith hirdymor negyddol ar ganlyniadau iechyd a lles a all ddeillio o ddod i gysylltiad â thrawma plentyndod cyn 18 oed. Mae'r dystiolaeth hefyd yn cysylltu amlygiad i brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod â risg uwch o fabwysiadu ymddygiadau niweidio iechyd yn ystod y glasoed, gan gynnwys camddefnyddio sylweddau. Felly, mae camddefnyddio sylweddau yn broblem ac yn ffactor risg. Mae plant y rhai y mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod wedi effeithio arnynt yn fwy tebygol o ddatgelu eu plant eu hunain i brofiadau felly, gan greu cylch o niwed, y mae angen i ymyrraeth gynnar ganolbwyntio ar ei dorri.
Er bod gallu atal camddefnyddio sylweddau yn y lle cyntaf yn brif flaenoriaeth, rydym yn cydnabod pwysigrwydd gweithredu hefyd i leihau effaith negyddol camddefnyddio sylweddau a gwella'r canlyniadau cadarnhaol i bawb yr effeithir arnynt.
Y nod yw sicrhau bod adnoddau'n cael eu cyfeirio at wasanaethau teg, effeithiol a chost-effeithiol a thrwy integreiddio polisïau economaidd a chymdeithasol ehangach trwy weithio ar draws y llywodraeth a'r sector cyhoeddus ehangach. Dylid cynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion unigolion a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu a sicrhau eu bod ar gael i bawb beth bynnag fo'u cefndir neu amgylchiadau.
Pandemig COVID-19
Mae'r effeithiau economaidd eisoes yn effeithio'n ddifrifol ar lawer o blant, pobl ifanc a theuluoedd ond hefyd canlyniadau cyfnodau clo gyda cholled anochel cefnogaeth ac addysg. Rydym yn gwybod y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu teimlo, ar eu caletaf ac yn anghymesur, gan y cymunedau mwyaf difreintiedig a'r rhai sy'n byw mewn tlodi.
Mae'r fframwaith yn cynghori bod angen gwasanaethau i ddarparu ymateb amlasiantaethol, amlddisgyblaethol integredig, cyfannol a datblygiadol sensitif, sy'n briodol yn ddiwylliannol ac yn canolbwyntio ar anghenion yr oedolion ifanc, a chamddefnyddio sylweddau yn eu plith.
Awgryma’r fframwaith hefyd y dylid cytuno ar 'Fframwaith Cymwyseddau Proffesiynol' cenedlaethol ar gyfer gweithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc hyd at 25 oed (a'u teuluoedd) sy’n defnyddio sylweddau. Dylai'r fframwaith hwn gynnwys 'lles a gwytnwch sylfaenol sy'n cydnabod ac yn ymateb yn briodol i sensitifrwydd diwylliannol fel LHDTC+, lleiafrif ethnig, profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, digartrefedd, tlodi a dulliau sy'n seiliedig ar drawma', ymhlith pethau eraill.
Cloddio data Cymru: Y proffil blynyddol ar gyfer camddefnyddio sylweddau 2021 i 2022.
Sut allai'r cynnig waethygu ymhellach efallai anghydraddoldeb canlyniad a brofir o ganlyniad i anfantais economaidd-gymdeithasol?
Nod y fframwaith yw lleihau'r anghydraddoldebau a nodir uchod, gan wella canlyniadau'r rhai sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol.
Sut allai'r penderfyniad wella canlyniadau i'r rhai sy'n destun anfantais economaidd-gymdeithasol?
Mae'r fframwaith yn nodi argymhellion i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Dim ond drwy ymgysylltu cynnar a chredadwy, asesu integredig a chydweithio gyda dull lleihau niwed sy'n seiliedig ar anghenion y gellir cyflawni canlyniadau gwell mewn perthynas â defnyddio a chamddefnyddio sylweddau.
Mae darparu ymyriadau addysgol, gwasanaethau atal a thriniaeth wedi'u targedu ar gyfer plant a phobl ifanc yn elfennau allweddol o ddiogelu a gwella eu hiechyd a'u lles. Bydd darparu ymgysylltiad ac ymyriadau effeithiol gyda chymorth integredig a phwrpasol yn y blynyddoedd cynharach a hyd at 25 oed yn lleihau poblogaeth yr unigolion sy'n datblygu problemau camddefnyddio sylweddau gydol oes a'r niwed cynhenid sy'n gysylltiedig â defnydd sydd wedi’i hen sefydlu. Felly, dylai'r fframwaith weld canlyniadau gwell i bob plentyn a pherson ifanc.
Sut fyddwch chi'n monitro effaith y penderfyniad hwn?
Bydd Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, BCA camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol, awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector yn gyfrifol am sicrhau bod y fframwaith yn cael ei gyflenwi ar gyfer plant a phobl ifanc.
A oes angen casglu gwybodaeth fonitro newydd? Os felly, beth?
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn datblygu fframwaith canlyniadau camddefnyddio sylweddau a bydd anghenion monitro yn cael eu hystyried yn llawn fel rhan o'r broses hon.