Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer Arolwg Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru 2024.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Lansiwyd Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru (PCSHC) yn 2014.  Cyhoeddwyd polisi Llywodraeth Cymru sy'n ei gwneud yn ofynnol i asesu lefelau Sgiliau Hanfodol pob dysgwr ôl-16 sy'n ymgymryd â darpariaeth Llywodraeth Cymru drwy Asesiadau Diagnostig Cychwynnol Llawn ar gyfer Sgiliau Hanfodol drwy'r PCSHC.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn adolygu'r polisi hwn ynghyd â pharhau i gaffael platfform PCSHC.  Mae Llywodraeth Cymru yn casglu gwybodaeth drwy gynnal arolwg o ddarparwyr hyfforddiant a defnyddwyr PCSHC i ddeall sut mae 'r pecyn cymorth yn cael ei ddefnyddio, pa werth y mae'n ei ychwanegu, ac unrhyw farn ar barhau i'w ddefnyddio. 

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data.  

Mae cymryd rhan yn y gwaith ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae'r ffaith eich bod yn cymryd rhan yn bwysig o ran helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru yn anfon negeseuon atgoffa drwy e-bost neu dros y ffôn, felly os nad ydych am gymryd rhan na chael negeseuon atgoffa, atebwch yr e-bost oedd yn eich gwahoddodd i gwblhau'r arolwg. 

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar gyfer Diogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn y gellir ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ddull adnabod. 

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn) ei darparwyr hyfforddiant sydd dan gontract.  Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu â chi i ofyn i chi gymryd rhan yn ein harolwg drwy'r manylion cyswllt sydd ganddi ar eich cyfer.  

Nid oes angen unrhyw ddata personol ychwanegol arnom yn yr arolwg, a gofynnir i chi gwblhau'r arolwg yn ddienw.  Fodd bynnag, rydym yn gofyn pa fath o ddysgu rydych chi'n ei ddarparu, a beth yw eich rôl mewn perthynas â Phecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru fel y gallwn ddeall cyd-destun eich ateb.  Os hoffech gymryd rhan mewn ymchwil pellach, gofynnwn i chi ddarparu eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost, ffôn) eto fel y gallwn gysylltu â chi. 

Os nad ydych yn dymuno cymryd rhan na chael eich atgoffa, byddwch cystal ag ateb yr e-bost yn eich gwahodd ac ni fyddwn yn cysylltu â chi eto ar gyfer y prosiect ymchwil hwn.  

Os byddwch yn gofyn cwestiwn neu’n gwneud cwyn, ac yn rhoi data personol er mwyn ichi allu cael ateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais ymlaen at Lywodraeth Cymru i ymateb. 

Beth yw’r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn y gwaith ymchwil hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.  Fel y person sy'n ymateb i'r arolwg ar ran eich darparwr hyfforddiant, ni chaiff eich gwybodaeth bersonol ei chynnwys mewn unrhyw gyhoeddiad fel rhan o'r gwaith ymchwil hwn. 

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig i Lywodraeth Cymru er mwyn casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gallwn weithredu arni mewn perthynas â'n gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Bydd yr wybodaeth a gesglir yn y gwaith ymchwil hwn yn cael ei defnyddio i wneud y canlynol: 

  • Deall sut mae Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru yn cael ei ddefnyddio, a pha werth mae'n ei ychwanegu
  • Llywio adolygiad o'r polisi sy'n gysylltiedig â phrofi sgiliau hanfodol
  • Llywio penderfyniadau caffael ac ariannu sy'n gysylltiedig â Phecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru. 

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Gwnaed copi o'ch data personol (manylion cyswllt) ar gyfer y gwaith ymchwil hwn a byddant yn cael eu storio mewn ffolder â chyfyngiadau arni y gellir ei hagor gan nifer cyfyngedig o swyddogion yn unig.   

Ni fydd swyddogion yn darparu unrhyw wybodaeth bersonol wrth gyflwyno adroddiadau am ganfyddiadau. 

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio meddalwedd o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd. 

Bydd y tîm Ymgysylltu Strategol Cyflogadwyedd a Sgiliau yn defnyddio'r wybodaeth a gasglwyd wrth ddatblygu polisïau a chaffael. 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?

Os cawsom eich data personol gan y timau yn Llywodraeth Cymru a gontractiodd y gwaith, bydd eich manylion cyswllt yn parhau i gael eu cadw ganddynt i gysylltu â chi fel rhan o'u rôl fel rheolwyr contract.  

Os cawsom eich manylion cyswllt ar gyfer yr ymchwil drwy ein cyswllt cychwynnol yn eich sefydliad a/neu drwy'r arolwg, byddant yn cael eu cadw ar gyfer y gwaith ymchwil hwn a'u dileu o fewn 24 mis ar ôl cwblhau'r prosiect. 

Hawliau'r unigolyn

O dan GDPR y DU, mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych yn ei rhoi fel rhan o'r gwaith ymchwil hwn. Yn benodol, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol: 

  • Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;  
  • Mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wallau yn y data hynny; 
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar weithgarwch prosesu (o dan amgylchiadau penodol); 
  • Gofyn i'ch data gael eu ‘dileu’ (o dan amgylchiadau penodol); 
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire,
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk 

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych ragor o gwestiynau am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data a roddir at ddibenion yr astudiaeth hon, neu os ydych yn dymuno arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r GDPR y DU, cysylltwch â: 

Blwch Post Pecyn Cymorth Sgiliau Hanfodol Cymru Llywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Dyma fanylion cyswllt Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:  

Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.