Gwerthusiad o’r Gronfa Iach ac Egnïol: adroddiad terfynol (crynodeb)
Adroddiad terfynol yn dwyn ynghyd canfyddiadau gwerthusiad rhaglen o bedair blynedd y Gronfa Iach ac Egnïol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Diben y rhaglen a’r partneriaid
Mae'r papur hwn yn adrodd ar Werthusiad Rhaglen y Gronfa Iach ac Egnïol (HAF), buddsoddiad o £5.8m+ mewn 17 o brosiectau rhwng 2019 a 2023 lle’r oedd modd i sefydliadau'r sector gwirfoddol a chyrff cyhoeddus ymchwilio sut i gefnogi'r rhai sy’n byw bywydau segur i fynd ati i gadw’n heini. Cafodd y rhaglen ei chynllunio a’i chyflawni gan bartneriaeth ar y cyd rhwng pedwar corff, sef dau dîm polisi Llywodraeth Cymru (Anghydraddoldebau Iechyd a Chymunedau Iach yn yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a Changen Polisïau Chwaraeon yn yr Adran Diwylliant a Chwaraeon), Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Bu’r GIE yn canolbwyntio ar y rhai sy'n wynebu rhwystrau sylweddol rhag byw bywydau heini. Ei nod oedd cynyddu lefel eu gweithgarwch corfforol yn gynaliadwy a hybu eu lles meddyliol. Ni chafodd y gweithgareddau er mwyn cyflawni’r nodau eu presgripsiynu, felly roedd modd i ystod eang o fudiadau fanteisio ar y GIE a sicrhau dulliau arloesol.
Defnyddiwyd ystod o ddulliau ar gyfer Gwerthuso'r Rhaglen, gan gynnwys adolygiadau dogfennol a chyfweliadau lled-strwythuredig gyda chynrychiolwyr y Rhaglen a'r Prosiect.
Canfyddiadau a chasgliadau allweddol
Roedd y GIE yn llwyddiant ar y cyfan. Cyflawnwyd yn effeithiol fel Rhaglen, yn seiliedig ar gydweithio a rhannu cyllideb anarferol/unigryw rhwng dwy Adran y Llywodraeth, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chwaraeon Cymru. Fe'i sefydlwyd mewn modd rhagorol gan lunio fframwaith cadarn ac eglur ar gyfer gwahodd a chymeradwyo ceisiadau. Roedd yn darparu fframwaith gweithredu gan ddefnyddio trefniadau arloesol, gan gynnwys Swyddogion Achos dynodedig. Dangosodd hefyd hyblygrwydd wrth gefnogi addasiadau i fodelau cyllido a chyflawni ar ddyfodiad y pandemig. Dim ond un prosiect o'r 17 ddaeth i ben cyn ei hamser, a hynny am resymau anochel yn ymwneud â Covid. Mae Tîm y GIE i bob pwrpas wedi trefnu’r rhan fwyaf o'r galluogwyr angenrheidiol er mwyn cynnal Rhaglen lwyddiannus. Llwyddodd hefyd i gynhyrchu’r deilliannau canolraddol sydd ynghlwm â meddu ar ystod dda o Brosiectau effeithiol.
Darparwyd cynulleidfa targed ac ystod o weithgareddau daearyddol eang.
Proses y GIE (Pennod 2)
Roedd proses y GIE yn rhagorol ynghlwm ag ystod eang o feini prawf. Bu i’r partneriaid cenedlaethol gyflawni gwaith llywodraethu effeithiol a rhoi’r amodau ar gyfer datblygu Rhaglen effeithiol ar waith o ran atebolrwydd, strategaeth a dull, arweiniad ac asesu, ac adnoddau a chymorth, er y bu gofyn i’r gweithredwyr ynghlwm â’r rhaglen dalu rhywfaint am yr agwedd olaf.
Theori newid y GIE (Pennod 3)
Datgelodd ein gwaith ar y GIE mae’n debyg na fydd angen damcaniaeth benodol o newid ar y cyfuniad priodol o bobl, gyda diben amlwg, i lwyddo i lunio ymyrraeth gredadwy. Fodd bynnag, byddai damcaniaeth o'r fath yn cryfhau eglurder wrth gysylltu proses y Rhaglen â phwrpas y Rhaglen. Nododd y gwaith hwn fod gan y GIE theori sylfaenol bendant o newid. Amlygwyd y galluogwyr allweddol a oedd yn sail i gynllun a lansiad llwyddiannus y GIE, gan gynnwys strategaeth a phroses grant effeithiol; adnoddau a chefnogaeth briodol; canllawiau eglur a meini prawf asesu; atebolrwydd cadarn; arweinyddiaeth a llywodraethu cadarnhaol; a phrosesau monitro a gwerthuso. Roedd ein gwaith hefyd yn tynnu sylw at rôl hanfodol cydweithio. Roedd blaenoriaethau gweinidogol yn gryn ysgogiad i gydweithio, er enghraifft wrth rannu’r gyllideb rhwng adrannau Llywodraeth Cymru a hyd yn oed gyda phartneriaid allanol. Gall theori benodol o newid mewn rhaglen debyg i’r GIE, gyda Phrosiectau lluosog wedi'u hariannu ar sail y nifer o geisiadau, ddarparu prawf clir a chymharol syml o aliniad rhwng rhesymeg ymyrraeth ar lefel prosiect a rhaglen.
Cyflawni ac addasiadau Covid (Pennod 4)
Er gwaethaf heriau sylweddol y pandemig, mae gwaddol o ddysgu ac arloesi mewn ymateb i COVID-19, a llawer o ddeilliannau cadarnhaol yn yr addasiadau a wnaed gan Brosiectau ac a gefnogir gan y Rhaglen. Bu i sawl prosiect gadw’r newidiadau wnaethon nhw eu rhoi ar waith oherwydd eu llwyddiant a'u harloesedd. Roedd y newidiadau hyn yn gymysgedd o gyfleoedd ar-lein ac wyneb yn wyneb, gan ymestyn cyrhaeddiad Prosiectau a helpu i gael gwared ar rwystrau o ran ardal ddaearyddol a hyder i rai unigolion. Addaswyd dulliau hyfforddi, a chryfhawyd llythrennedd digidol, a bu i nifer o’r Prosiectau adael gwaddol o adnoddau rhithiol.
Bu i weithio mewn partneriaeth gryfhau yn sgil y pandemig, ac fe ddaeth arwyddocâd ymgysylltu â'r gymuned i alluogi prosiectau i gysylltu gyda’u grwpiau targed i'r amlwg fel thema bwysig. Profodd prosiectau yr angen i fuddsoddi amser ac adnoddau i ddeall eu cynulleidfa darged i lunio dulliau unigryw a phwrpasol i ddiwallu gwahanol anghenion.
Roedd teilwra dulliau monitro a chasglu data i weithgareddau a nodweddion penodol pob Prosiect yn hanfodol. Roedd dulliau safonol ddim ond yn addas ar gyfer rhai cyfranogwyr a gweithgareddau yn unig. Dewiswyd dulliau atodol gan Brosiectau mewn cydweithrediad â'u gwerthuswyr a/neu gynghorwyr mewnol eu hunain, ac o ganlyniad roedden nhw’n amrywio'n sylweddol.
Themâu allweddol (Pennod 5)
Y themâu allweddol a archwiliwyd fel rhan o'r Gwerthusiad Rhaglen drwy gydol y prif flynyddoedd cyflawni oedd (i) ymgysylltu â'r gymuned; (ii) cynaliadwyedd; a (iii) y broses ddysgu.
(i) Ymgysylltu â'r Gymuned
Weithiau roedd anghenion a gofynion cymunedau yn wahanol iawn i'r hyn yr oedd Prosiectau wedi'i ragweld ar y dechrau, yn enwedig yn ystod y pandemig. Roedd gwaith ymgysylltu â'r gymuned yn allweddol i addasu'n llwyddiannus yn ogystal â'r gallu i gynnig dulliau hyblyg, wedi'u teilwra. Roedd yr hyblygrwydd a gynigir ar lefel Rhaglen yn cefnogi Prosiectau i addasu eu cynlluniau. Canfuwyd bod cydweithio effeithiol yn annatod i ymgysylltu â'r gymuned a gweithredu dulliau sy'n canolbwyntio ar y gymuned, ynghyd ag arwyddocâd datblygu perthnasoedd cyn gynted â phosibl. Hyn i gyd er mwyn darparu sylfaen effeithiol ar gyfer cyflawni ac i helpu i lunio mathau a dulliau gweithgareddau a’r ymgysylltu a gynigir gan y prosiectau. Ysgogodd y pandemig arweinyddiaeth gymunedol gryfach gan hyrwyddo mwy o weithio trawsasiantaethol a chyfeirio rhwng gwasanaethau.
Roedd presenoldeb wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn hanfodol ar gyfer meithrin ymddiriedaeth a darparu cyfleoedd ar gyfer sgyrsiau un i un gyda chyfranogwyr newydd/darpar gyfranogwyr. Roedd meddu ar bresenoldeb ar lawr gwlad yn hanfodol ar gyfer ymgysylltu â buddiolwyr targed newydd, yn enwedig wrth weithio gyda chymunedau o Bobl Groenddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Hwylusodd y partneriaid hynny 'gyflwyniadau' i fuddiolwyr posibl. Roedd angen sicrhau bod staff y prosiect yn meddu ar y gallu i gydlynu a datblygu partneriaethau â sefydliadau a oedd yn gysylltiedig â chyfranogwyr. Bu i’r Prosiectau ganfod ei bod yn bosibl cynnig cefnogaeth fwy cyfannol i gymunedau ac unigolion drwy gysylltiadau a rhyng-gyfeirio.
Roedd yn rhaid i brosiectau a oedd wedi bwriadu gweithio ar y cyd â'r sector iechyd a datblygu llwybrau presgripsiynu ffurfiol trwy feddygfeydd Meddygon Teulu, addasu eu dulliau gweithredu oherwydd bod gweithlu'r GIG yn canolbwyntio ar ymateb i'r pandemig. Serch hynny, gwnaeth rhai gynnydd sylweddol a datblygwyd ystod eang o systemau atgyfeirio.
(ii) Cynaliadwyedd
Roedd cynaliadwyedd yn ystyriaeth gynnar a phwysig i'r Rhaglen ac fe'i cynlluniwyd yn y broses. Nod cwtogi’r cyllid yn raddol yn y flwyddyn olaf oedd annog ystyriaeth gynnar o lwybrau ymadael a chau pen y mwdwl ar Brosiectau.
Roedd ein hadolygiad llenyddiaeth a'n tystiolaeth gan Brosiectau yn awgrymu efallai na fydd cynaliadwyedd yn gofyn am brosiect i barhau yn ei ffurf bresennol. Efallai y bydd yn bosibl cyflawni effeithiau parhaol trwy feithrin arferion newydd sy'n dod yn 'brif ffrwd' neu i effeithio ar newid na ellir ei wrthdroi. Gall fod gwaddol o ddysgu i lywio polisïau ac ymarferion ar lefel strategol, ond hefyd cynaliadwyedd ar lefel y cyfranogwyr, a chynnal gweithgareddau drwy ymwneud â gwirfoddolwyr. Bydd materion cynaliadwyedd yn cael eu hystyried ymhellach mewn estyniad i'r Gwerthusiad a fydd ar waith yn 2024.
(iii) Proses dysgu lefel prosiect
Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddysgu drwy gydol y broses. Roedd y digwyddiadau ar-lein ynghlwm â’r Prosiectau yn llwyddiant ysgubol. Roedd llai o gyfleoedd ffurfiol ar gyfer dysgu traws-brosiectau a rhwydweithio, a drefnwyd yn ganolog, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Gallai rheolwyr y Prosiectau godi unrhyw gwestiynau oedd yn ymwneud â gwerthuso gyda'r Grŵp Gwerthuso a pharhaodd y gefnogaeth gan Swyddogion Achos drwy gydol y rhaglen. Croesawyd hyn, ond nid oedd yn cefnogi dysgu traws-Brosiectau. Roedd prosiectau'n teimlo y byddai'r GIE yn cael effaith barhaol ar syniadau, polisïau ac arferion eu sefydliadau eu hunain. Bu cydweithio â phartneriaid yn fodd i ddysgu a myfyrio’n barhaus ar y cynllun a'r camau gweithredu gorau posibl i ddiwallu anghenion buddiolwyr targed.
Bu i brosiectau wnaeth sefydlu trefniadau dysgu mewnol systematig elwa'n sylweddol ohonyn nhw. Mae gan adroddiadau terfynol prosiectau sawl enghraifft o drosglwyddo gwybodaeth. Mae prosiectau wedi bod yn ategu dysgu 'at i fyny' ond nid ydyn nhw’n sicr a yw hyn yn cael ei weithredu ac ym mhle. Ni chafwyd unrhyw weithdrefnau amlwg ar gyfer rhannu dysgu.
Cyflawniadau cyffredinol y prosiect (Pennod 6)
Dengys data monitro a gyflwynwyd gan Brosiectau bod 12,000+ o bobl wedi’u cofnodi fel rhai sydd wedi cymryd rhan ym Mhrosiectau’r GIE. Bu i bron i ddwy ran o dair o'r cyfranogwyr lle cofnodwyd rhywedd yn fenywod, sy’n rhannol gysylltiedig â buddiolwyr targed rhai Prosiectau. Nododd oddeutu naw y cant o'r cyfranogwyr lle cofnodwyd ethnigrwydd fel rhai nad ydyn nhw’n Wyn. Soniodd ychydig llai na chwarter y cyfranogwyr a roddodd ymateb i'r cwestiwn hwn am gyflwr iechyd neu anabledd. Roedd bron i draean o gyfranogwyr y GIE yn byw mewn ardaloedd degradd 1 a 2 ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD), sy'n cynrychioli'r ardaloedd mwyaf difreintiedig. Roedd bron i dri chwarter yn byw yn ardaloedd degradd 1 i 5 Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.
Cwblhawyd 10,000+ o adnoddau arolygu ar y waelodlin a 5,000+ yn ystod y broses ddilynol. O'r prosiectau a oedd yn defnyddio'r adnoddau CIE dynodedig, dangosodd pedwar gweithgaredd corfforol cynyddol ac roedd gan saith prosiect ddata amhendant. At hyn, dangosodd pump ohonyn nhw hwb mewn lles meddyliol ac roedd gan chwech ddata amhendant. Bu i wyth o'r un ar bymtheg o brosiectau a barhaodd i weithredu am dair blynedd neu fwy fodloni’r holl dargedau rhifiadol yr oedden nhw wedi'u gosod, gyda chwech yn bodloni'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Mewn llawer o achosion, roedd prosiectau'n rhagori ar rai o'u targedau o leiaf. Adroddodd yr holl Brosiectau ddeilliannau gwelliant o ran iechyd corfforol a lles meddyliol i fuddiolwyr ac awgrymwyd hefyd fod gan y GIE fanteision cymdeithasol sylweddol. Bu i ddau Brosiect ddadansoddi’r enillion cymdeithasol ar y buddsoddiadau a wnaed a nodwyd lluosrifau cadarnhaol o 3 i 5.
Mae'r GIE wedi meithrin dysgu am weithio gyda grwpiau targed ac mae wedi atgyfnerthu gwybodaeth bresennol ac wedi meddu ar gipolwg newydd. Bu i’r Prosiectau elwa o’r profiad o weithio gyda grwpiau nad oedden nhw wedi ymwneud gyda nhw’n flaenorol. Adroddodd prosiectau hefyd fanteision economaidd i bartneriaid a darparwyr sy'n gysylltiedig â'r GIE. Dangosodd sefydliadau'r prosiect eu gallu i addasu i amgylchiadau annisgwyl ac addasu eu prosesau i gyflawni eu deilliannau dymunol gan ddangos gwytnwch arbennig.
Cyflawniadau cyffredinol y rhaglen (Pennod 7)
Gobeithion a disgwyliadau’r gweithredwyr lefel rhaglen
Daeth y gweithredwyr allweddol i'r GIE gydag ystod o safbwyntiau. Roedden nhw’n cydnabod na fyddai'r GIE yn cynhyrchu newid i’r lefel poblogaeth. Roedd ganddo rôl fwy cyfyngedig ond gwerthfawr o hyd wrth archwilio ffyrdd o ymgysylltu â grwpiau anodd eu cyrraedd wrth gefnogi a hybu eu lles corfforol a meddyliol.
Rheoli’r rhaglen a’r prosiectau
Roedd rhai egwyddorion allweddol ar gyfer rheoli rhaglenni a phrosiectau yn amlwg wrth gynllunio a chyflwyno'r GIE. Roedd egwyddorion eraill, fel cofnodi’r dysgu, ymysg dyheadau Rhaglen y GIE ond roedden nhw’n cael eu gwireddu i raddau llai.
Dysgu a throsglwyddo polisi
Roedd dysgu a'r trosglwyddiad polisi cysylltiedig i ymyriadau a pharthau polisi eraill yn ganolog i'r GIE. Cynhyrchodd y GIE ddysgu defnyddiol ar lefel rhaglen. Mae'n ansicr a yw hynny'n cael ei drosglwyddo/ei ddefnyddio'n systematig eto, er y gallai'r Gwerthusiad hwn helpu i gyflawni hynny'n rhannol.
Ffyrdd o weithio
Bu i’r GIE roi 'ffyrdd o weithio' effeithiol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith. Llwyddodd y GIE i gyflawni’r 'pum ffordd o weithio' ar draws y Prosiectau drwy broses y GIE. Ar lefel Rhaglen, roedd y pum ffordd o weithio yn bwynt cyfeirio pwysig yn hytrach na chanllaw uniongyrchol ar weithredu, ac yn enwedig yn y camau ffurfiannol. Nid yw'r sefyllfa o ran arddangos y ffyrdd o weithio a hefyd cynhyrchu gwerth ganddyn nhw, wedi dod i ben eto. Mae yna werthusiadau lefel Prosiect gyda dysgu sylweddol i fanteisio arnyn nhw, yn ogystal â'r Gwerthusiad hwn.
Y prif faes ar gyfer cryfhau gwerth y GIE oedd casglu, codio ac ymhelaethu ar ddysgu lefel Rhaglen a lefel Prosiect, a sicrhau bod yr ased yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol. Ni chyflawnwyd hyn, yn rhannol o ganlyniad i amodau'r pandemig, ond hefyd gwendidau strwythurol mewn llywodraethu ac arweinyddiaeth, a oedd yn annibynnol i’r ymrwymiad a'r doniau wnaeth llawer o uwch weithredwyr yn y sefydliadau partner eu cyfrannu at y GIE.
Argymhellion
Dylai Llywodraeth Cymru barhau i ddefnyddio rhaglen ariannu tebyg i’r GIE lle mae'n rhoi dulliau newydd ar brawf ac yn chwilio am atebion arloesol. Dylid ond gwneud hyn lle mae'r galluogwyr allweddol sydd ynghlwm â rhaglen lwyddiannus wedi'u rhoi ar waith, a lle mae dull o'r fath yn addas ar gyfer y canlyniadau a fwriadwyd.
Dylai rhaglenni o'r fath ddilyn egwyddorion craidd rheoli prosiectau a rhaglenni, gan gynnwys darparu ar gyfer llywodraethu, arweinyddiaeth a throsglwyddo polisi yn ystod ac ar ddiwedd y rhaglen yn ogystal ag ar y cychwyn.
Dylid annog cydweithio gyda phartneriaid o bob adran y Llywodraeth a'r tu hwnt lle bo hynny'n briodol, a dylai gynnwys rhannu'r gyllideb, risg a llywodraethu.
Dylai fod strategaeth gyfathrebu ac ymgysylltu deinamig fel rhan o reoli prosiectau. Dylai hyn fod yn berthnasol i bob cam.
Dylai rhan benodol o gynllun y rhaglen fod yn drefniadau sydd wedi’u pwyso a mesur ar gyfer dysgu am a throsglwyddo polisïau, yn ddelfrydol trwy Gynllun Monitro, Gwerthuso, Atebolrwydd a Dysgu hollgynhwysol ac integredig.
Dylai ystyriaethau gwerth am arian, yn eu hystyr ehangaf, fod yn rhan o gynllun rhaglenni a'r broses ymgeisio am brosiect, gan gydnabod yr heriau cynhenid o fesur gwerth am arian buddion nad ydyn nhw’n ariannol, yn enwedig mewn prosiectau arloesol a phrawf.
Dylai dulliau Theori Newid fod yn rhan o'r cyflenwad o adnoddau sydd ar gael i'r rhai sy'n cynllunio ac yn gweithredu rhaglenni o'r fath.
Gall rôl Swyddog Achos ychwanegu gwerth wrth gysylltu lefelau'r Prosiect â Rhaglen i'r ddau gyfeiriad. Mae angen i arweinwyr y Rhaglen roi sylw parhaus i’r rôl.
Dylid gwneud trefniadau penodol i fanteisio ar ddysgu ar lefel Prosiect a Rhaglen a sicrhau ei fod yn cael ei ddwyn i sylw gweithredwyr gweithredol a llywodraethu perthnasol, a'i roi ar waith yn ddiriaethol.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: UK Research and Consultancy Services Ltd
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Dr Eleri Jones
Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ebost: ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 32/2024
ISBN digidol 978-1-83625-003-6