Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Ar ôl i’r cyfrifoldeb am etholiadau llywodraeth cenedlaethol a lleol gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2017, mae Gweinidogion Cymru wedi dechrau ar raglen diwygio etholiadol a nodir fwyaf gan estyn yr etholfraint i bobl 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys ar gyfer etholiadau’r Senedd a llywodraeth leol. Roedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddfwriaeth y DU) hefyd yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer diwygio etholiadol yn y dyfodol, yn enwedig o ran cofrestru awtomatig a’r defnydd dewisol o Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy mewn etholiadau llywodraeth leol. 

Trwy gydol yr agenda ddiwygio, daeth yn amlwg bod hygyrchedd etholiadau yn fater sydd angen sylw a daeth swyddogion yn ymwybodol o nifer o rwystrau a wynebir gan etholwyr, yn benodol pobl sydd â nodweddion gwarchodedig penodol, gan gynnwys pobl anabl.

Yn unol â hynny, mae Bil Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) a gyflwynwyd i’r Senedd ym mis Hydref 2023 yn cynnig ymrwymiadau pellach gan Lywodraeth Cymru ar gyfer moderneiddio a diwygio etholiadau Cymru, a chynyddu’r nifer sy’n cyfranogi mewn etholiadau yng Nghymru. Mae’r Bil yn cynnwys nifer o ddarpariaethau sydd â’r nod o wella hygyrchedd i bobl anabl ac mae hefyd yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r Model Cymdeithasol o Anabledd ym mhob agwedd ar ei gwaith. Mae hyn yn cynnwys cymryd camau i gael gwared ar y rhwystrau sy’n atal pobl anabl rhag gallu cyfranogi’n llawn yn y broses etholiadol. 

Yn ogystal â’i hagenda ddiwygio, mae gan Lywodraeth Cymru sawl ymrwymiad deddfwriaethol, gan gynnwys ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl yng nghyfraith Cymru; Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015), ac ynddi y nod llesiant o ‘Gymru fwy cyfartal’; a Dyletswydd Economaidd-gymdeithasol Llywodraeth Cymru, sy’n rhoi dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus i sicrhau y rhoddir sylw dyledus i’r angen i leihau anfanteision economaidd-gymdeithasol.

Bydd yr adolygiad tystiolaeth hwn yn cynorthwyo i gyflawni’r ymrwymiadau hyn drwy ei gyfraniad at ddatblygu sylfaen wybodaeth ynghylch anabledd ac anghydraddoldeb mewn prosesau democrataidd.

Mae’r adolygiad yn archwilio yn benodol hygyrchedd y broses ddemocrataidd yng Nghymru ac yn awgrymu mesurau i’w gwella, gan ddefnyddio tystiolaeth o genhedloedd cymaradwy eraill, yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae’n gwneud hyn drwy gynnal dadansoddiad llenyddol o’r meysydd polisi a’r byd academaidd sy’n ymwneud â hygyrchedd prosesau democrataidd; lleoli hygyrchedd proses ddemocrataidd Cymru mewn llenyddiaeth ehangach ar anabledd ac ymgysylltu democrataidd; a nodi enghreifftiau o arferion da, yn y DU ac yn rhyngwladol.

Rhwystrau i system etholiadol hygyrch

Mae bod yn berson anabl ynddo ei hun yn nodwedd penderfynu ystadegol arwyddocaol ar gyfer y nifer sy’n pleidleisio ac mae’n gysylltiedig â thebygolrwydd is o bleidleisio.

Mae ymchwil a wnaed yn yr Unol Daleithiau ac yn Ewrop ar gyfranogiad gwleidyddol pobl anabl yn ystod y degawdau diwethaf wedi canfod bod nifer y pleidleiswyr yn is ymhlith pobl anabl na phobl nad ydynt yn anabl, ac yn fwy felly ymhlith y rhai a oedd yn hŷn, yn dlotach neu ag amhariadau symudedd sylweddol (Schur et al., 2002; Priestley, 2016).

Dengys dadansoddiad data o’r Iseldiroedd, lle mae gan bron i un o bob wyth dinesydd amhariad hirdymor, fod pobl ag amhariadau corfforol a dysgu yn profi nifer enwedig o isel sy’n pleidleisio (Van Hees, Boeije a de Putter 2019). 

Mae data o Arolwg Cymdeithasol Ewrop (ESS) hefyd yn cadarnhau bod pobl anabl a oedd yn teimlo y gwahaniaethir yn eu herbyn hyd yn oed yn llai tebygol o bleidleisio na’r rhai nad oeddent yn teimlo y gwahaniaethir yn eu herbyn (Mattila a Papageorgio, 2016; Reher, 2018; Johnson a Powell, 2019). 

Noda ymchwil a gynhaliwyd yn yr Unol Daleithiau (Schur ac Adya, 2013) fod y nifer sy’n pleidleisio a chyfranogiad gwleidyddol yn is ymhlith pobl anabl, ac mae ymchwil yn y DU gan Clarke et al. (2006) yn awgrymu bod pobl anabl yn llai tebygol o bleidleisio yn etholiad cyffredinol 2005 na phobl nad oeddent yn anabl.

Mae’r patrwm hwn o niferoedd isel yn pleidleisio ymhlith pobl anabl yn nodwedd a gydnabyddir yn rhyngwladol ac yn aml cyfeirir ato yn y llenyddiaeth fel y ‘bwlch anabledd’ yn y nifer sy’n pleidleisio (Teglbjærg et al., 2022). 

Er gwaethaf datblygu a gweithredu deddfwriaeth yn ystod y degawdau diwethaf gan roi effaith i’r Confensiwn ar Hawliau Pobl Anabl, mae’r bwlch hwn wedi aros yn fawr oherwydd ‘effeithiau cyfunol a rhyngweithiol anhygyrchedd, ynysu cymdeithasol, llai o adnoddau economaidd, a chanfyddiadau bod y system wleidyddol yn anymatebol’ (Schur ac Adya, 2013; Priestley, 2016)

Fodd bynnag, ni ddylid drysu rhwng llai o debygolrwydd o bleidleisio a llai o ddiddordeb neu ymgysylltiad gwleidyddol.

Mae ymchwil yn awgrymu mewn gwirionedd fod pobl anabl yr un mor ymgysylltiol â materion gwleidyddol â’r boblogaeth gyffredinol, os nad yn fwy felly, er gwaethaf eu cyfraddau pleidleisio is.

Gall siomedigaeth â’r system wleidyddol annog rhai mathau o weithgareddau gwleidyddol; er enghraifft, mae iechyd gwael yn cymell pobl i gymryd rhan mewn camau sy’n uniongyrchol berthnasol i’w hanghenion yn aml, megis cymryd rhan mewn gwrthdystiadau sy’n gysylltiedig â pholisïau gofal iechyd cyhoeddus annigonol, neu gysylltu â gwleidyddion i geisio effeithio ar benderfyniadau sy’n mynd i wasanaethau iechyd lleol (Mattila, 2022).

Rhwystrau yn y broses gweinyddu etholiadol

Mae pleidleiswyr anabl yn wynebu nifer o rwystrau posibl i gyfranogi yn wleidyddol o’u cymharu â phleidleiswyr nad ydynt yn anabl, gan gynnwys diffyg gallu i gael gwybodaeth; heriau logistaidd yn ymwneud â lleoliad yr orsaf bleidleisio a’i hagosrwydd at drafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau parcio hygyrch; problemau yn yr orsaf bleidleisio ei hun; ac anawsterau â’r profiad o bleidleisio.

Mae llawer o’r rhwystrau i ymgysylltu democrataidd yn deillio o ddiffyg gallu i gael gafael ar wybodaeth, gan gynnwys yr wybodaeth a ddarperir wrth gofrestru pleidleiswyr a’r broses o bleidleisio (cyn yr etholiad ac yng nghanol yr etholiad, e.e., mewn gorsafoedd pleidleisio), llenyddiaeth etholiad (gan awdurdodau etholiadol yn ogystal â phleidiau gwleidyddol ac ymgeiswyr), darllediadau ar y cyfryngau a gwefannau, ac addysg ddinesig ehangach ar lythrennedd ac ymwybyddiaeth wleidyddol.

Yn aml, mae pobl anabl yn ei chael hi’n anodd trafod amgylchedd eu gorsaf pleidleisio dynodedig. Mae ardaloedd parcio sydd â rampiau cadair olwyn annigonol a chiwiau pleidleisio nad oes ganddynt seddi na chanllawiau, yn ogystal â llwybrau anhygyrch a diffyg parcio hygyrch, neu ddim parcio anabl o gwbl, y tu allan i orsafoedd pleidleisio i gyd wedi eu nodi fel rhwystrau presennol i fwrw pleidlais (Schur et al., 2017, Swyddfa’r Cabinet, 2018). 

Mae pleidleiswyr anabl hefyd yn cael problemau o ran methu â mynd o gwmpas gorsafoedd pleidleisio, gyda llawer yn nodi nifer o beryglon posibl i bobl mewn cadair olwyn ac â symudedd cyfyngedig, gan gynnwys drysau ar gau, coridorau cul, carpedi sydd wedi eu gosod yn wael a phroblemau â goleuadau. Amlygwyd hefyd fod defnyddio adeiladau megis neuaddau eglwys a chanolfannau cymunedol fel mannau pleidleisio yn enwedig o broblemus yn y cyd-destun hwn oherwydd bod gan lawer ohonynt nodweddion na ellid eu haddasu’n rhwydd (Capability Scotland, 2003).

Mae angen gwella a moderneiddio sylweddol ar y seilwaith a’r prosesau a ddefnyddir yn ystod etholiadau ac yn benodol mewn gorsafoedd pleidleisio, ac mae pleidleiswyr anabl yn adrodd problemau wrth ddarllen neu weld y papur pleidleisio a gweithio allan sut i bleidleisio; anawsterau â thechnoleg bleidleisio neu ddiffyg offer arbenigol megis dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol a dolenni sain cludadwy sydd ar gael; a phrofiadau o swyddogion etholiadol sy’n elyniaethus neu’n anwybodus (Y Comisiwn Etholiadol, 2017; Stanford, 2019). 

Cynigir pleidleisio o bell yn aml fel ateb i anhygyrchedd pleidleisio yn y cnawd ac fe’i defnyddir fel addasiad i rai pobl anabl; mae mwy o bobl anabl yn manteisio arno o’u cymharu â gweddill y boblogaeth, yn enwedig y rhai sydd ag amhariadau symudedd, oherwydd anawsterau wrth gael mynediad i orsafoedd pleidleisio (boed hynny drwy brofiad neu’n rhagweledig) (Y Comisiwn Etholiadol, 2017). 

Fodd bynnag, mae pleidleisio o bell yn llawn o’i faterion a’i heriau ei hun, gan gynnwys y print bach ar ffurflenni; y gofyniad i ddarparu llofnod a chymhlethdod cyfarwyddiadau cysylltiedig sy’n arwain at beidio â deall yr holl ofyniadau. Mae’r anhygyrchedd hwn o ran fformatau yn golygu bod pobl anabl yn dibynnu ar eraill am gymorth gyda’u pleidlais drwy’r post yn aml, hyd yn oed pan fyddai’n well ganddynt allu cwblhau’r bleidlais ar eu pennau eu hunain, sy’n codi pryder ynghylch cyfrinachedd a diogelwch eu pleidlais (Swyddfa’r Cabinet, 2018).

Mae tystiolaeth yn dangos bod yn well gan lawer o bobl, gan gynnwys pobl anabl, allu pleidleisio yn y cnawd; maen nhw’n ei weld fel rhan o theatr yr achlysur ac yn ymddiried yn y broses yn fwy wrth ei gwneud yn y cnawd, ac mae hefyd yn cynnig mwy o amser i etholwyr ddarllen a deall gwybodaeth na phan na fyddant yn pleidleisio yn y cnawd.

Mae angen monitro’n ofalus y cyfaddawd posibl rhwng staff gorsafoedd pleidleisio sy’n fwy rhagweithiol, annog cynorthwywyr pleidleisio a dewisiadau pleidleisio eraill y canfyddir eu bod yn fwy hygyrch (megis pleidleisio drwy’r post), ar un llaw, a’r posibilrwydd y gellid tanategu cyfrinachedd y bleidlais, ar y llaw arall.

Addasiadau ac ymyriadau i wella hygyrchedd

Gellid gweithredu amrywaieth o addasiadau posibl i brosesau etholiadol yn y cyfnod cyn etholiadau er mwyn gwell hygyrchedd y broses ddemocrataidd yng Nghymru.

Dylai’r rhai sy’n rheoli etholiadau yng Nghymru sicrhau bod yr holl ddeunyddiau cyn etholiad (gan gynnwys ffurflenni cofrestru a phapurau pleidleisio) a anfonir trwy’r post ar gael mewn fformatau hygyrch, megis fersiynau hawdd eu deall, gyda lluniau a fersiynau print bras, fersiynau braille a chyffyrddol. Hefyd, dylai deunydd fod ar gael ar-lein ar ffurf testun, sain a fideo, gyda fideos sydd wedi eu haddasu i wahanol ieithoedd gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, a chyda chapsiynau caeedig ar gael.

Mae angen gwell ymwybyddiaeth o’r cymorth sydd ar gael i bobl anabl i’w helpu nhw, eu gofalwyr a’u gweithwyr cymorth i ddeall y broses o gofrestru i bleidleisio a’r broses o bleidleisio, ac er mwyn galluogi’r bobl sy’n cynnal etholiadau i wybod pa gefnogaeth a chymorth y gellir eu darparu i bobl anabl (Y Comisiwn Etholiadol, 2017).

Dylai pobl anabl a allai gael trafferth gydag amgylcheddau anhysbys, gael crynodeb o’r hyn i’w ddisgwyl ar ddiwrnod yr etholiad, a ddarperir mewn fformat hygyrch. Dylai hyn gynnwys gwybodaeth am sut i adnabod rhywun yn yr orsaf bleidleisio a allai gynnig cymorth pe byddai angen cymorth, addasu deunyddiau etholiadol i lefel o ddealltwriaeth ar gyfer pobl ag anhawster dysgu, a darparu gwybodaeth am beth fydd angen ar y diwrnod, sut i gyrraedd yr orsaf bleidleisio a beth i'w ddisgwyl y tu mewn i’r orsaf bledleisio (Hees et al., 2017).

Gellid gwella profiadau pleidleiswyr gan awdurdodau lleol ledled Cymru drwy roi mwy o ystyriaeth i nodi adeiladau addas i’w defnyddio fel mannau pleidleisio, gwneud addasiadau yn ôl yr angen a gweithio gyda grwpiau lleol a sefydliadau sy’n cynrychioli pobl anabl perthnasol i sicrhau eu bod yn ystyried lleoliadau a chynllun o safbwynt pobl anabl sydd ag amryw amhariadau a chyflyrau iechyd. 

Mae nifer o addasiadau y gellid eu gwneud  i orsafoedd pleidleisio er mwyn gwneud y broses o bleidleisio yn y cnawd yn gwbl hygyrch.

Gall addasiadau posibl gynnwys sicrhau bod yr holl orsafoedd pleidleisio mewn lleoliadau sy’n hygyrch â phob dull o deithio a lle mae parcio hygyrch ar gael; sicrhau mynediad heb risiau a llawrydd i bob gorsaf bleidleisio a llwybr gwastad a di-rwystr drwy’r orsaf bleidleisio, gan gynnwys at y blwch pleidleisio a’r allanfa; a chreu prosesau i ymdrin â chiwiau ar gyfer y rhai y mae angen hynny arnynt.

Mae gweithdrefnau pleidleisio, ynghyd â dylunio a defnyddio papurau pleidleisio ac offer ategol mewn gorsafoedd pleidleisio, yn ddimensiynau pwysig o hygyrchedd i bobl anabl. Mae pleidleiswyr dall neu bleidleiswyr ag amhariad golwg mewn perygl arbennig o fethu â defnyddio pleidleisiau printiedig a deunydd etholiadol arall sy’n hanfodol i gyfranogi’n effeithiol mewn prosesau etholiadol (Fleming, 2009). 

Dylid parhau i ddarparu’r ddyfais pleidleisio cyffyrddol i bleidleiswyr dall a rhannol ddall, er y dylid sicrhau bod y dyfeisiau pleidleisio cyffyrddol a ddarperir i orsafoedd pleidleisio yn briodol ar gyfer hyd a maint y papurau pleidleisio ym mhob etholiad unigol. Gallai’r cyfuniad o ddyfais pleidleisio cyffyrddol a dyfais sain neu offer eraill helpu i sicrhau bod pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gallu pleidleisio heb gymorth, a chan hynny, yn annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Dylid ystyried lled ac uchder y bythau pleidleisio, a darparu dewisiadau hygyrch, er mwyn sicrhau bod bythau pleidleisio yn addas ar gyfer pobl mewn cadair olwyn a’r rhai sydd ag amhariadau symudedd. Hefyd, dylai’r holl wybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio fod ar gael mewn amrywiaeth o fformatau hygyrch, yn ogystal â mewn sawl iaith wahanol.

Ni ddylid ystyried pleidleisio o bell fel dewis arall rhwydd yn lle pleidleisio yn y cnawd, oherwydd bod yn well gan lawer o bobl, gan gynnwys pobl anabl, bleidleisio yn y cnawd. Er hynny, mewn llawer o amgylchiadau, gallai pleidleiswyr ddewis pleidleisio o bell oherwydd materion mynediad, ac mae ffyrdd y gellir ehangu a gwella pleidleisio o bell o bob math i sicrhau’r hygyrchedd gorau bosibl.

Mae gorsafoedd pleidleisio symudol (h.y., dod â blychau pleidleisio i fannau preswyl pobl) yn ddewis poblogaidd yn rhyngwladol, gan gynnwys yn y DU, Ewrop ac UDA. (Y Comisiwn Etholiadol, 2021; van Hees et al, 2019; Schur et al, 2017). Yr awgrym mwyaf ymarferol ynglŷn â phleidleisio symudol yw y dylai cynlluniau o’r fath dargedu llety lle mae sawl etholwr a allai ei chael hi’n anodd mynd i orsaf bleidleisio (er enghraifft, ysbytai, cartrefi gofal, cartrefi nyrsio a llety gwarchod).

Yn yr un modd â gwybodaeth cyn yr etholiad, dylai pleidleisiau drwy’r post, a’r wybodaeth sy’n gysylltiedig â phleidleisio drwy’r post, fod mewn fformatau hygyrch yn ogystal â sawl iaith. Dylid ategu hyn â gwybodaeth ar-lein ar ffurf testun, sain a fideo, gyda fideos sydd wedi eu haddasu i wahanol ieithoedd gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, a chyda chapsiynau caeedig ar gael.

Dylid cymryd camau i sicrhau bod y rhai sy’n pleidleisio o bell yn gallu gwneud hynny’n breifat ac yn annibynnol yn hytrach na dibynnu ar eraill am gymorth. 

Mae’n hanfodol gwneud newidiadau angenrheidiol rhwng etholiadau wrth wella canlyniadau i bobl anabl.

Dylid archwilio gorsafoedd pleidleisio am faterion hygyrchedd a dylai unrhyw broblemau a nodir arwain at atebion a fydd yn cael gwared ar rwystrau. Mae’n debygol y bydd costau ymlaen llaw ar gyfer hyn, ond mae’n hanfodol i gyflawni system pleidleisio hygyrch.

Dylai holl staff gorsafoedd pleidleisio gael eu hyfforddi i fod yn ymwybodol o anghenion posibl etholwyr, ac i reoli unrhyw addasiadau ar ddiwrnod yr etholiad. Hefyd, dylid cynnal ymgyrchoedd addysg dinesig, ar gyfer y cyhoedd a rhai sydd wedi eu targedu’n benodol ar gyfer pobl anabl, er mwyn gwneud etholwyr yn ymwybodol o’u hawl i bleidleisio yn ogystal â’u hysbysu am y broses o wneud hynny. Dylai’r rhai a anelir at bleidleiswyr anabl gael eu cynnal mewn cydweithrediad â grwpiau eiriolaeth.

Dylid monitro addasiadau i bob agwedd ar y system bleidleisio yn barhaus er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd a nodi unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol.

Diwygio etholiadol

Gallai newidiadau posibl i’r system etholiadol wella’r gallu i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd hefyd a chryfhau ymgysylltiad pleidleiswyr a’r nifer sy’n pleidleisio, gan gynnwys ymhlith pobl anabl.

Gallai newidiadau gynnwys llacio’r cyfyngiadau ynghylch pryd a lle y byddai’n ofynnol i bleidleiswyr bleidleisio (Peixoto Gomes et al., 2022); cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, neu ganiatáu i bleidleiswyr gofrestru i bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio; a symud oddi wrth y Cyntaf i’r Felin i system bleidleisio amgen, fwy cyfrannol.

Mae’n bosibl y byddai gallu dewis gorsaf bleidleisio, yn hytrach na chael un wedi ei neilltuo, yn caniatáu i bleidleiswyr anabl ddewis eu gorsaf bleidleisio yn seiliedig ar y graddau y mae pob lleoliad yn gweddu i’w hanghenion. Gallai’r gallu i bleidleisio ar ddiwrnodau lluosog ganiatáu gwelliannau tebyg i fynediad hefyd, oherwydd y byddai gan bleidleiswyr anabl fwy o hyblygrwydd mewn theori i ddewis yr amseroedd sydd fwyaf addas iddynt, neu, er enghraifft, amseroedd tawelach o’r dydd neu’r wythnos.

I bobl anabl, mae dileu’r gofyniad i gofrestru ymlaen llaw yn debygol o hwyluso’r broses o bleidleisio, oherwydd, ar gyfer pobl anabl yn benodol, gallai haenau o fiwrocratiaeth fod yn rhwystrau i gyfranogiad etholiadol (Matsubayashi ac Ueda, 2014). Yn ogystal, o ystyried y rhwystrau digidol sy'n wynebu llawer o bobl anabl a phobl ag anhawsterau dysgu, dylid gwneud y broses o gofrestru mor hygyrch â phosibl gan nad yw’r broses o gofrestru ar-lein yn opsiwn i rai pobl anabl (Good Things Foundation, 2024).

Gallai systemau pleidleisio eraill, megis Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, sy’n gofyn am newid yn y dull o bleidleisio ar ran yr etholwr (e.e., yr angen i ddewis nifer o ymgeiswyr neu ddefnyddio rhifau yn hytrach na chroesau), greu materion hygyrchedd. Os bydd unrhyw gynghorau yng Nghymru yn dewis newid o’r Cyntaf i’r Felin i Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau lleol, o dan bwerau Deddf Llywodraeth Leol (Etholiadau) 2021, dylid cynnwys hygyrchedd o’r cychwyn cyntaf. Ni ddylid gwneud unrhyw newidiadau o’r fath heb sicrhau yn gyntaf fod addasiadau rhesymol ar waith i ganiatáu i bobl anabl ddefnyddio’r systemau hyn yr un ffordd ag eraill, neu’n haws. Bydd hyn yn gofyn am addysg a hyfforddiant yn ogystal ag asesiad cyfanwerthol o addasiadau i’r wybodaeth a ddarperir i bleidleiswyr, ac i orsafoedd pleidleisio a dulliau pleidleisio o bell.

Argymhellion

Dylid darparu gwybodaeth cyn etholiad a cheisiadau a phleidleisiau drwy’r post mewn fformatau hygyrch. Mae hyn yn cynnwys fersiynau hawdd eu deall a rhai a lluniau; print bras; sain a fideo; papur pleidleisio ar gael mewn lliwiau heblaw du a gwyn; fersiynau braille a chyffyrddol a thestun electronig. Hefyd, dylai deunydd cyn yr etholiad fod ar gael ar-lein ar ffurf testun, sain a fideo, gyda fideos sydd wedi eu haddasu i wahanol ieithoedd gan gynnwys iaith arwyddion gyda chapsiynau caeedig ar gael. 

Dylai pob gorsaf bleidleisio fod â chyfuniad o ddyfais pleidleisio cyffyrddol a dyfais sain neu offer eraill er mwyn helpu i sicrhau bod pleidleiswyr dall a rhannol ddall yn gallu pleidleisio heb gymorth, a chan hynny, yn annibynnol ac yn gyfrinachol. 

Dylid datblygu ymgyrchoedd neu fentrau addysg a gwybodaeth gynhwysol i wella gwybodaeth pleidleiswyr am y system a’u hawliau pleidleisio. 

Dylai pobl anabl gael crynodeb o’r hyn i’w ddisgwyl ar ddiwrnod yr etholiad.

Dylai ymgynghoriadau gael eu cynnal gyda phobl anabl i lywio’r broses o ddewis safleoedd ac adeiladau addas ar gyfer gorsafoedd pleidleisio.

Dylid sicrhau bod yr holl orsafoedd pleidleisio mewn lleoliadau hygyrch gyda pharcio anabl yn cael ei ddarparu, digon o seddi ar gael mewn ciwiau a bod cyfleoedd i ‘neidio’r ciw’ os oes angen. Dylid addasu bythau pleidleisio hefyd i sicrhau eu bod yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai sydd ag amhariadau symudedd. 

Dylai pob aelod o staff pleidleisio gael eu hyfforddi’n gywir i adnabod ac ymateb i anghenion posibl yr holl etholwyr. 

Dylai Llywodraeth Cymru wneud ystyriaethau pellach ynghylch diwygio etholiadol ehangach gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gofrestru pleidleiswyr yr un diwrnod ac yn awtomatig, systemau pleidleisio eraill a phleidleisio hyblyg.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Joseph Healy, Prifysgol Caerdydd, ar interniaeth y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol i Lywodraeth Cymru

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Nerys Owens
Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Ebost: ymchwil.gwasanaethaucyhoeddus@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 28/2024
ISBN digidol 978-1-83625-024-1

Image
GSR logo