Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

  1. Mae'r canllawiau hyn i'ch helpu chi, fel gweithredwr busnes lladd-dy i gydymffurfio â Rheoliadau Defnydd Mandadol o Deledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai (Cymru) 2024. Byddwn yn cyfeirio at y rhain fel 'y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng'.
  2. Er y dylai'r canllawiau hyn eich helpu i wybod beth sydd angen i chi ei wneud, nid yw'n ddehongliad diffiniol o'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng, a gyhoeddir yma: The Mandatory Use of Closed Circuit Television in Slaughterhouses (Wales) Regulations 2024 (legislation.gov.uk).
  3. Mae'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng ond yn berthnasol i ladd-dai yng Nghymru.
  4. Fel cwmni busnes lladd-dai yng Nghymru mae'n rhaid i chi:
    1. Osod a gweithredu system teledu cylch cyfyng (CCTV) ym mhob rhan o'r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol
    2. Cadw’r delweddau CCTV am 90 diwrnod o’r dyddiad y cawsant eu ffilmio.
    3. Sicrhau bod y delweddau CCTV ar gael i arolygwyr er mwyn iddynt allu eu gweld, eu copïo neu gymryd meddiant ohonynt.

Erbyn pryd mae angen i chi gydymffurfio?

  1. Bydd y diwygiadau i’r prif Reoliadau yn dod i rym mewn dwy ran.
    1. Daeth Rhan Un i rym ar 1 Mehefin 2024; dyma'r gofynion i:
      1. osod a gweithredu'r System CCTV
      2. cadw lluniau a gwybodaeth CCTV
    2. Bydd Rhan Dau yn dod i rym ar 1 Rhagfyr 2024 – sef y troseddau a'r pwerau i archwilio, cymryd meddiant a gorfodi o fewn Rheoliadau 5 i 14 o'r Rheoliadau Teleddu Cylch Cyfyng.
  2. Gallwch osod a gweithredu system CCTV a chadw delweddau a gwybodaeth CCTV o 1 Mehefin 2024, ond mae'n rhaid eich bod wedi gosod a bod yn gweithredu'r system CCTV erbyn 1 Rhagfyr 2024.
  3. Bydd pwerau o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid Adeg Eu Lladd (Cymru) 2014 (WATOK) yn dal i fod yn berthnasol. Gall arolygwyr archwilio a chymryd meddiant o gofnodion, a all gynnwys recordiadau CCTV lle mae systemau CCTV eisoes wedi'u gosod.

Dyletswydd i osod a gweithredu system CCTV

  1. Rhaid i chi osod a gweithredu system CCTV sy'n diwallu anghenion y Rheoliadau CCTV erbyn 1 Rhagfyr 2014.
  2. Rhaid gosod eich camerâu CCTV i sicrhau bod golwg gyflawn a chlir ar bob man lle mae anifeiliaid byw.
  3. Dylai eich camerâu cylch cyfyng gynnwys mannau dadlwytho, gwalfeydd, trin, ffrwyno, stynio, gwaedu a lladd. Dylech gymryd camau i sicrhau nad oes mannau dall. Efallai na fydd camerâu sy'n symud neu'n troi ar eu pennau eu hunain yn darparu darlun parhaus neu gyflawn o fan.
  4. Rhaid i'ch system CCTV fod yn gweithio ac yn recordio bob amser pan fo anifeiliaid byw yn y lladd-dy, gan gynnwys danfon anifeiliaid y tu allan i oriau gwaith arferol.
  5. Mae'n rhaid i'ch system CCTV ddarparu delwedd gyflawn a chlir; rhaid i'r llun fod yn ddigon eglur er mwyn i chi allu adnabod pobl yn y lluniau a delweddau wedi'u recordio.
  6. Rhaid i chi sicrhau bod y system CCTV yn gallu dangos lluniau clir yn y golau sydd ar gael. Mewn ardaloedd o oleuadau isel, er enghraifft llinellau gefynnu dofednod, dylech ystyried a oes angen camerâu isgoch.
  7. Dylai eich system CCTV gynhyrchu recordiadau mor agos at amser real ag sy'n ymarferol bosibl (isafswm 15 ffrâm yr eiliad a argymhellir). 
  8. Dylid gosod eich camerâu CCTV mewn mannau lle mae'n anodd i arolygwyr gael mynediad atynt, er enghraifft mewn ardaloedd lladd cyfyng a systemau stynio a nwy.
  9. Rhaid cadw eich camerâu CCTV mewn cyflwr da. Dylech sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n rheolaidd i sicrhau bod delweddau'n glir. Dylai eich camerâu cylch cyfyng gael eu lleoli mewn lle hawdd i'w gwasanaethu, ond eto eu hamddiffyn rhag difrod. Dylech gael amserlen gynnal a chadw wedi'i chynllunio a'i chofnodi.
  10. Mae'n rhaid i'ch system CCTV allu recordio yn barhaus. Rhaid iddo allu cynhyrchu delweddau a gwybodaeth i'w harchwilio neu i'w cludo i ffwrdd gan archwilydd, heb atal gweithrediad cyffredinol y system.
  11. Rhaid i chi drwsio'r system CCTV cyn gynted â phosibl os bydd yn torri. Os na fyddwch yn gwneud hyn, bydd hysbysiad gorfodi yn cael ei anfon atoch.
  12. Os oes gennych gamerâu CCTV eraill, er enghraifft am resymau diogelwch neu ganfod namau, ni fyddai'r rhain yn cael eu hystyried yn rhan o'r "system CCTV" fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng ac ni fyddent yn dod o dan ofynion y Rheoliadau CCTV. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad yw camera yn rhan o'r system CCTV gall Milfeddyg Swyddogol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ddefnyddio'r pwerau presennol o dan Reoliadau Lles Anifeiliaid ar Adeg Lladd (Cymru) 2014 (WATOK) i archwilio, copïo neu gymryd meddiant o gofnodion os yw'r camera'n cofnodi digwyddiad lles anifeiliaid.

Manylebau technegol

  1. Dylech ddewis system CCTV briodol i gydymffurfio â'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng.
  2. Nid yw'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng yn diffinio gofynion system CCTV, felly rydym yn argymell eich bod yn talu sylw i Safonau Prydeinig perthnasol. Gallwch ddod o hyd i fanylion Safonau Prydeinig ar gyfer gosodiadau CCTV yn Recommended standards for the surveillance camera industry - GOV.UK (www.gov.uk)

Dyletswydd i gadw delweddau a gwybodaeth CCTV

  1. Mae'n rhaid i chi gadw a storio recordiadau CCTV bob dydd am o leiaf 90 diwrnod. Ar ôl i chi storio delwedd am 90 diwrnod gellir ei ddileu.
  2. Rhaid i'ch system CCTV allu storio, prosesu a throsglwyddo (er enghraifft, symud i ddyfeisiau storio symudol neu ddangos ar fonitor teledu) delweddau a gwybodaeth o'r un ansawdd â'r recordiad gwreiddiol.
  3. Dylai fod gan staff lladd-dy a ddewisir gennych chi, fel y Swyddog Lles Anifeiliaid, wybodaeth weithredol o alluoedd storio, prosesu a throsglwyddo'r system CCTV.
  4. Dylech fod â'r holl godau mynediad a chyfrineiriau angenrheidiol ar gael i hwyluso mynediad i'r delweddau CCTV sydd wedi'u storio a gwybodaeth i'r arolygydd.  Er eich sicrwydd eich hun, efallai y byddwch am gael cynrychiolydd yn bresennol pan fydd archwilwyr yn gweld, copïo neu gymryd meddiant o recordiadau neu offer.
  5. Dylech ofyn am gyngor gan gyflenwr eich system CCTV am atebion storio priodol sy'n bodloni gofynion y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng.

Pŵer i archwilio a chymryd meddiant

  1. Mae'n rhaid i chi, neu staff a ddewiswyd gennych sydd â gwybodaeth weithredol o'ch system CCTV, ddarparu mynediad i offer, delweddau a gwybodaeth CCTV i arolygydd. Gall yr arolygydd weld delweddau a gwybodaeth fyw neu wedi'u storio. Gall yr arolygydd ofyn am help y dylech ei ddarparu yn ddi-oed a gallant ofyn am ddogfennau a chofnodion i'w harchwilio neu eu copïo. Os byddwch yn cadw unrhyw ran o'ch data a gedwir oddi wrth eich safle, rhaid i chi barhau i sicrhau ei fod ar gael yn ddi-oed.
  2. Y Milfeddyg Swyddogol (OV) yn y lladd-dy sy'n arwain ar les anifeiliaid fydd yr archwilydd a fydd yn gofyn am weld y lluniau CCTV fel arfer. Gall y Milfeddyg Swyddogol ofyn am weld lluniau wedi'u storio o unrhyw ddiwrnod neu amser yn ystod y 90 diwrnod diwethaf pan oedd y lladd-dy yn gweithredu. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn ymwybodol o ddigwyddiad lles anifeiliaid neu i wirio prosesau ac arferion lladd-dai yn y gorffennol.
  3. Yn ôl y gyfraith, caniateir i archwilydd archwilio'r system CCTV ac unrhyw ddelweddau a gwybodaeth a gofnodir ganddi. Caiff yr arolygydd—
    1. gopïo delweddau a gwybodaeth
    2. gymryd meddiant o offer system CCTV, os oes angen, gan gynnwys cyfrifiaduron ac offer arall a ddefnyddir fel rhan o'r system CCTV.
  4. Os byddwch yn gwneud copïau o ddelweddau neu wybodaeth ar gyfer yr archwilydd, maent yn llai tebygol o fod angen cymryd meddiant o offer. Os bydd yr arolygydd yn cymryd yr offer, bydd yr arolygydd neu'r person sy'n ymchwilio yn gyfrifol am ddiogelu'r data personol ar y ffilm.
  5. Pan fydd arolygydd yn cymryd unrhyw ran o'r system CCTV, rhaid iddo ddarparu derbynneb ysgrifenedig o'r eitemau a gymerir a'u dychwelyd pan nad oes eu hangen mwyach. Pan ddefnyddir eitemau fel tystiolaeth mewn achos llys, byddant yn cael eu dychwelyd atoch cyn gynted â phosibl ar ôl i'r achos llys ddod i ben.
  6. Dylech sicrhau bod offer wrth gefn ar gael, fel cyfryngau storio, rhag ofn y bydd arolygydd yn cymryd unrhyw offer sy'n gysylltiedig â CCTV. Bydd hyn yn galluogi'r system CCTV i barhau i gofnodi a ffilmio data a delweddau a gallwch barhau i gydymffurfio â'r Rheoliadau CCTV.
  7. Os nad oes gennych system CCTV ddigon da ar waith ar ôl cymryd meddiant o'r offer, gall yr arolygydd gyhoeddi hysbysiad gorfodi, i'w gwneud yn ofynnol i chi newid offer a nodi pa mor gyflym y mae'n rhaid gosod yr offer newydd.

Hysbysiadau gorfodi

  1. Gall arolygydd gyhoeddi hysbysiad gorfodi sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi a/neu eich staff gymryd camau os yw'r arolygydd yn credu eich bod yn torri'r Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng. Mae enghreifftiau o'r math o weithredu y gallai arolygydd ei geisio, gynnwys: atgyweiriadau neu newidiadau eraill i'r system CCTV i gydymffurfio â'r Rheoliadau CCTV, arafu neu atal gweithrediad, neu atal defnyddio offer penodol, nes bod y broblem gyda'r system CCTV yn cael ei gywiro.
  2. Gall arolygydd gyflwyno hysbysiad gorfodi yn y ffyrdd canlynol:
    1. Ei gyflwyno'n bersonol;
    2. Ei adael yng nghyfeiriad y person, 
    3. Ei anfon drwy'r post. 
      Os bydd arolygydd yn methu â chael cyfeiriad, gellir atodi hysbysiad i'r safle dan sylw.
  3. Bydd yr hysbysiad gorfodi yn cynnwys:
    1. Eich enw;
    2. Amser a dyddiad yr hysbysiad;
    3. Sut rydych chi wedi torri'r Rheoliadau CCTV;
    4. Beth sy'n rhaid i chi ei wneud i gywiro pethau;
    5. Erbyn pryd fydd yn rhaid i chi wneud hynny;
    6. Sut allwch chi apelio.
  4. Rhaid i'r person sy'n derbyn yr hysbysiad dalu unrhyw gostau sy'n deillio o hysbysiad gorfodi. Os na chydymffurfir â'r hysbysiad gorfodi, caiff arolygydd drefnu i'r mater gael ei ddatrys, a'r person y cafodd yr hysbysei gyflwyno iddo i dalu am hynny.
  5. Unwaith y bydd arolygydd yn fodlon bod cydymffurfio a'r hysbysiad, bydd yn cyflwyno hysbysiad cwblhau.
  6. Os yw'r arolygydd yn credu bod gennych fwy i'w wneud o hyd, dywedir wrthych pam a beth i'w wneud yn ysgrifenedig, a sut y gallwch apelio.
  7. Gall arolygydd newid neu dynnu hysbysiad gorfodi yn ôl, yn ysgrifenedig, ar unrhyw adeg.

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi

  1. Gallwch apelio os ydych chi'n meddwl:
    a) na ddylech fod wedi derbyn hysbysiad gorfodi
    b) y dylech fod wedi derbyn hysbysiad cwblhau
  2. bydd gwybodaeth ar sut i apelio yn yr hysbysiad gorfodi, neu yn yr hysbysiad yn eich hysbysu o'r penderfyniad i beidio â rhoi hysbysiad cwblhau.
  3. Rhaid i chi apelio o fewn 28 diwrnod. Defnyddiwch y ffurflen apel a dilynwch y broses
  4. Mae'n rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ymateb i chi a'r tribiwnlys o fewn 28 diwrnod. Unwaith y byddant wedi gwneud hyn, rhaid i chi ymateb i'r tribiwnlys a'r ASB o fewn 14 diwrnod.
  5. Os bydd eich apêl yn mynd i wrandawiad tribiwnlys, bydd y Llys yn pennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad sy'n addas i bawb. Bydd y Barnwr yn rhoi cyfle teg i bawb siarad. Gallwch ofyn i'r Barnwr gadw gwrandawiad neu wybodaeth benodol yn y gwrandawiad yn breifat ond mater i'r Barnwr yw penderfynu ar hyn.
  6. Gallwch ofyn i rywun eich cynrychioli yn y gwrandawiad. Nid oes angen iddynt feddu ar gymhwyster cyfreithiol, ond rhaid i chi ddweud wrth y tribiwnlys a'r ASB os nad ydynt.
  7. Os ydych am arbed amser gallwch gytuno i'r tribiwnlys wneud penderfyniad ar eich achos heb wrandawiad. Gelwir hyn yn 'orchymyn cydsynio'. Fodd bynnag, gall y gwrandawiad barhau os ydych chi neu'r ASB yn mynnu hynny.
  8. Gallwch ysgrifennu at y tribiwnlys os penderfynwch nad ydych am barhau â'ch apêl. Fel arfer, bydd y tribiwnlys yn cytuno i ganslo eich apêl - efallai na fydd yn ei ganslo os yw'n credu bod ganddo reswm da dros fwrw ymlaen.

Troseddau

  1. Rydych yn cyflawni trosedd os na fyddwch yn:
    1. Gosod system CCTV sy'n darparu delweddau cyflawn a chlir o bob rhan o'r lladd-dy lle mae anifeiliaid byw yn bresennol;
    2. Gweithredu system CCTV sy'n gallu gweithredu'n ddi-dor;
    3. Cadwch eich system CCTV yn weithredol ac mewn cyflwr da pan fydd anifeiliaid byw yn bresennol;
    4. Cadw a storio data, recordiadau neu ddelweddau am 90 diwrnod o'r dyddiad casglu.
  2. Cyflawnir trosedd os nad ydych chi neu'ch staff yn cydymffurfio â hysbysiad gorfodi.
  3. Rydych hefyd yn cyflawni trosedd os:
    1. Ydych yn atal arolygydd rhag cyflawni ei ddyletswyddau;
    2. Nad ydych yn darparu gwybodaeth neu gymorth yn ddi-oed;
    3. Nad ydych yn caniatáu i arolygydd gael mynediad at y system CCTV;
    4. Ydych yn darparu gwybodaeth a allai fod yn ffug neu achosi i archwilydd gael ei gamarwain yn ei ymchwiliad;
    5. Ydych yn methu â darparu dogfen, cofnod, delweddau, gwybodaeth neu ddata i arolygydd pan ofynnir amdanynt.

Cosbau

  1. Os cewch eich dyfarnu'n euog o drosedd, efallai y bydd gofyn i chi dalu dirwy ar gollfarn. Ni fydd y ddirwy hon yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Diogelu data

  1. Pan fo recordiadau CCTV yn cynnwys delweddau neu sain o bobl y gellir eu hadnabod, rhaid i'r rheolwr data (hynny yw, fel gweithredwr y busnes) sicrhau bod y data personol hwn yn cael ei brosesu yn unol â gofynion diogelu data.
  2. Deddf Diogelu Data 2018 (DPA 2018) a GDPR y DU yw'r prif ddarnau o ddeddfwriaeth diogelu data i Gymru ac mae angen cadw at eu gofynion ar ddiogelu personau naturiol o ran prosesu a dileu data personol bob amser. Gellir dod o hyd i ofynion DPA 2018 yma: Mae Deddf Diogelu Data 2018 (legislation.gov.uk) a gofynion GDPR y DU yma: GDPR y DU. Gallwch gael arweiniad ar eich cyfrifoldebau o wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO): https://ico.org.uk.
  3. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi hefyd gyfeirio at Gyngor yr ICO ar gyfer sefydliadau bach sy'n torri diogelu data i lawr yn rannau y gellir eu rheoli.
  4. Ymhellach, mae gan yr ICO ganllawiau sy'n ymwneud yn benodol â CCTV a gwyliadwriaeth sy'n addas ar gyfer busnesau mawr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
  5. Rhaid i reolwyr data sy'n prosesu data personol gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a thalu ffi iddynt. Gallwch gael cyngor ar sut mae hyn yn effeithio arnoch yn: Cwestiynau Cyffredin Cofrestru | ICO.
  6. Mae'r gyfraith diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gynnal asesiad effaith ar ddiogelu data (DPIA) pan fydd prosesu yn debygol o arwain at risg uchel i hawliau a rhyddid unigolion. Mae gan yr ICO ganllawiau ar DPIAs a templed DPIA y gallwch eu defnyddio os dymunwch. 
  7. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau, pan fydd eich cyflogeion yn cael eu monitro fel sy'n ofynnol gan y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng, y gwneir hyn yn unol â chyfreithiau diogelu data. Os ydych yn monitro cyflogeion mewn ffordd nad yw yn ofynnol o dan y Rheoliadau Teledu Cylch Cyfyng, byddwch yn gyfrifol am nodi'r sail gyfreithiol berthnasol a sicrhau bod unrhyw fonitro yn angenrheidiol, yn gymesur ac yn unol â'r deddfau diogelu data hynny. Mae gan yr ICO ganllawiau ar arferion cyflogaeth a diogelu data: monitro gweithwyr.  
  8.  Mae'r Hawl i gael gwybod yn ofyniad allweddol o dan GDPR y DU, ac mae canllawiau Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn awgrymu nifer o ddulliau y gellir hysbysu unigolion am sut y bydd eu data personol yn cael eu defnyddio. Mae hyn yn cynnwys hysbysiadau preifatrwydd a hysbysu'r holl bersonél am osod y systemau CCTV, trwy ysgrifennu atynt a gosod arwyddion. Mae canllawiau'r ICO yn nodi, pan fyddwch yn penderfynu defnyddio gwyliadwriaeth sain, bod angen cymryd camau ychwanegol i'w gwneud hi'n glir i unigolion bod hyn yn digwydd yn ogystal ag unrhyw recordiad gweledol sydd eisoes yn digwydd. 
  9. Hawliau unigol – Mae gan unrhyw un y mae eu data personol yn cael ei ei brosesu gennych hawliau mewn perthynas â'u data personol, fel yr hawl i gael mynediad. Mae'r adran hon o ganllawiau'r ICO yn esbonio beth yw'r hawliau hynny.
  10. Diogelwch – Un o brif egwyddorion GDPR y DU yw eich bod yn prosesu data personol yn ddiogel drwy fesurau technegol a sefydliadol priodol. Mae gwneud hyn yn gofyn i chi ystyried pethau fel dadansoddi risg, polisïau sefydliadol, a mesurau corfforol a thechnegol.

Comisiynydd Camerau Gwyliadwriaeth

  1. Mae gan y Comisiynydd Camerâu Gwyliadwriaeth rôl statudol o dan Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 i ddarparu Cod Ymarfer sydd wedi argymell safonau. Mae'r Cod hwn yn berthnasol i'r rhai sy'n gweithredu systemau camerâu gwyliadwriaeth mewn mannau cyhoeddus, ac felly ni fydd yn uniongyrchol berthnasol i ladd-dai. Fodd bynnag, mae'r Comisiynydd yn annog mabwysiadu Cod Camera Gwyliadwriaeth yr Ysgrifennydd Cartref yn wirfoddol fel canllaw defnyddiol ar osod a defnyddio'r systemau CCTV. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn: Cod Ymarfer Camera Gwyliadwriaeth

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill. 

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth: 

Y Gangen Lles Anifeiliaid 
Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays 
CF10 3NQ 

E-bost: llesanifeiliaidcymru@llyw.cymru

Cyhoeddir y ddogfen ganllaw hon ar ffurf electronig yn unig a gellir ei chyrchu ar wefan Llywodraeth Cymru Lles anifeiliaid | Is-bwnc | LLYW.CYMRU