Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r gwasanaeth hwn yn darparu cyhoeddiadau a gynhyrchwyd gan y canlynol:

  • Llywodraeth Cymru
  • Llywodraeth Cynulliad Cymru
  • Y Swyddfa Gymreig
  • Cyrff cyhoeddus cysylltiedig Cymru

Mae’r archif yn cadw’r canlynol ac yn darparu mynediad iddynt:

  • cyhoeddiadau nad ydynt bellach yn cael eu cadw ar llyw.cymru gan bod fersiynau mwy newydd wedi eu disodli 
  • cofnod hanesyddol o eitemau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru 

Mae ystod eang o gyhoeddiadau wedi eu cynnwys yno, er enghraifft:

  • cylchlythyron
  • adroddiadau ystadegol 
  • strategaethau
  • ymgyngoriadau
  • nodiadau cyngor technegol

Yn aml, mae testun llawn cyhoeddiad ar gael ar-lein.

Pan nad yw cyhoeddiad ar gael ar-lein gallwch ofyn i gael gweld y fersiwn bapur. Gallwch wneud hyn ar-lein, drwy ffonio 0300 0604400 neu anfon e-bost at ymholiadau-llyfrgell@llyw.cymru. Byddwn yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith os oes unrhyw oedi gyda’ch cais.