Dyddiadau cau hawlio taliadau cymhelliant Iaith Athrawon Yfory ar gyfer addysg gychwynnol athrawon cyfrwng Cymraeg
Cynnwys
Trosolwg
Mae cynllun cymhelliant Iaith Athrawon Yfory yn darparu grant o £5000 i fyfyrwyr cymwys.
Rhaid i fyfyrwyr fod yn dilyn rhaglen addysg gychwynnol athrawon ôl-raddedig. Rhaid iddynt un ai astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu addysgu’r Gymraeg fel pwnc.
Mae’r grant yn cael ei dalu mewn 2 randaliad:
- £2500 ar ôl i’r myfyriwr ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC)
- £2500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus
Rhaid hawlio’r taliadau o fewn blwyddyn i:
- Ennill SAC
- Gwblhau cyfnod sefydlu
Dyddiadau cau ar gyfer hawlio pob un o’r rhandaliadau ar gyfer myfyrwyr llawnamser
Blwyddyn y cynllun (dechrau'r rhaglen) | Statws Athro Cymwysedig (SAC) wedi'i ddyfarnu o | Dyddiad cau ar gyfer hawlio taliadau SAC | Wedi cwblhau’r cyfnod sefydlu o | Dyddiad cau ar gyfer hawlio taliadau sefydlu |
---|---|---|---|---|
2018 i 2019 | 01/08/2019 | 31/08/2020 | 01/08/2020 | 31/12/2023 |
2019 i 2020 | 01/08/2020 | 31/08/2021 | 01/08/2021 | 31/12/2024 |
2020 i 2021 | 01/08/2021 | 31/08/2022 | 01/08/2022 | 31/12/2025 |
2021 i 2022 | 01/08/2022 | 31/08/2023 | 01/08/2023 | 31/12/2026 |
2022 i 2023 | 01/08/2023 | 31/08/2024 | 01/08/2024 | 31/12/2027 |
2023 i 2024 | 01/08/2024 | 31/08/2025 | 01/08/2025 | 31/12/2028 |
2024 i 2025 | 01/08/2025 | 31/08/2026 | 01/08/2026 | 31/12/2029 |
2025 i 2026 | 01/08/2026 | 31/08/2027 | 01/08/2027 | 31/12/2030 |
Bydd y dyddiadau cau ar gyfer hawlio flwyddyn yn ddiweddarach i fyfyrwyr rhan-amser.
Myfyrwyr a gychwynnodd raglen AGA rhwng 2018 a mis Awst 2023
Bydd angen ichi hawlio’r ddau randaliad oddi wrth Lywodraeth Cymru. Darllenwch y canllawiau ar y broses dalu.
Myfyrwyr a gychwynnodd raglen AGA ar ôl mis Medi 2023
Bydd rhandaliadau’n cael eu talu gan bartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. Darllenwch y canllawiau ar gyfer y broses dalu sy'n berthnasol i'ch blwyddyn astudio.