Neidio i'r prif gynnwy

Dyddiadau cau ar gyfer hawlio'r cymelldaliadau ar gyfer y Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth

Overview

Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth yn darparu grant o £15,000 i fyfyrwyr cymwys. 

Mae’r grant yn cael ei dalu mewn rhandaliadau yn ystod rhaglen AGA y myfyriwr ac ar ddechrau ei yrfa.

Rhaid hawlio'r taliadau o fewn blwyddyn i:

  • ennill SAC
  • cwblhau'r cyfnod sefydlu

Dyddiadau cau ar gyfer hawlio pob un o'r rhandaliadau ar gyfer myfyrwyr llawnamser

Dyddiadau cau ar gyfer hawlio (myfyrwyr llawnamser)
Blwyddyn y cynllun (dechrau'r rhaglen)Statws Athro Cymwysedig (SAC) wedi'i ddyfarnu oDyddiad cau ar gyfer hawlio taliadau SACWedi cwblhau'r cyfnod sefydlu oDyddiad cau ar gyfer hawlio taliadau sefydlu
2022 i 202301/08/202331/08/202401/08/202431/12/2027
2023 i 202401/08/202431/08/202501/08/202531/12/2028
2024 i 202501/08/202531/08/202601/08/202631/12/2029

Bydd y dyddiadau cau ar gyfer hawlio flwyddyn yn ddiweddarach ar gyfer myfyrwyr rhan-amser.

Myfyrwyr a ddechreuodd rhaglen AGA ar ôl fis Medi 2022

Telir y rhandaliadau gan bartneriaethau AGA a Llywodraeth Cymru. Darllenwch y canllawiau ar gyfer y broses dalu sy'n berthnasol i'r flwyddyn astudio.