Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid: 13 Mawrth 2024
Agenda a chrynodeb o Cyfarfod y Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid 13 Mawrth 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Sharon Lovell (SL) (Cadeirydd)
- David Williams (DW)
- Joanne Sims (JS)
- Lowri Jones (LJ)
- Sian Elen Tomos (ST)
- Marco Gil-Cervantes (MG)
- Shahinoor Alom (SA)
- Hannah Wharf, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Cymorth i Ddysgwyr (LlC) (HW)
- Dyfan Evans, Pennaeth Cangen Ymgysylltu â Phobl Ifanc, Llywodraeth Cymru (LlC) (DE)
- Dareth Edwards, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DaE)
- Gethin Jones, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (GJ)
- Donna Robins, Uwch Reolwr Strategaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (DR)
- Tom Kitschker, Swyddog Cymorth Tîm Cefnogi Dysgwyr (TK)
- Umaira Chaudhary, Swyddog Gwybodaeth Gwaith Ieuenctid, Llywodraeth Cymru (UC)
Ymddiheuriadau
- Simon Stewart (SSt)
- Deb Austin (DA)
Gwrthdaro buddiannau
Dim wedi ei ddatgan.
Cyfarfod 31 Ionawr 2024: cofnodion a chamau gweithredu
Cymeradwyodd y Bwrdd y cofnodion a'r camau gweithredu a gododd o'r cyfarfod diwethaf ar 31 Ionawr 2024. Adolygwyd y cynnydd a wnaed ar yn y camau gweithredu.
Cryfhau'r sail ddeddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid
Cynhaliwyd gweithdy am weddill y cyfarfod lle canolbwyntiodd aelodau'r Bwrdd ar ystyried tri maes allweddol mewn perthynas â chryfhau'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, sef:
- Egluro diffiniad(au) a swyddogaethau gwaith ieuenctid.
- Datblygu cylch cynllunio effeithiol ar gyfer gwaith ieuenctid.
- Cyflwyno hawl ddiwygiedig yn ymwneud â gwaith ieuenctid ar gyfer pobl ifanc.
Unrhyw fater arall
Cytunodd yr Aelodau i'r cynnig i sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen pwrpasol i weithredu fel seinfwrdd yn y cyfnod hyd at ac yn cynnwys ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion deddfwriaethol.
Dyddiad y cyfarfod nesaf: 29 Ebrill 2024