Neidio i'r prif gynnwy

Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl: adroddiad blynyddol ar y cynllun cyflawni 1 Ionawr i 31 Rhagfyr 2023

Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r cynnydd a wnaed yn erbyn ein strategaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl. Mae'n disgrifio ein llwyddiannau ar y cyd, gan weithio gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol, y trydydd sector a gofalwyr di-dâl.

Mae'r ddogfen drosolwg hon yn tynnu sylw at ein blaenoriaethau a'n llwyddiannau dros y flwyddyn galendr ddiwethaf, gan gynnwys:

  • y gronfa seibiannau byr
  • y gronfa gymorth i ofalwyr
  • y rhaglen ymwybyddiaeth o ofalwyr
  • cefnogi gofalwyr wrth ryddhau cleifion o'r ysbyty
  • y prosiect cerdyn adnabod gofalwyr ifanc

Y gronfa seibiannau byr

Mae ein cynllun seibiannau byr gwerth £9 miliwn (2022 i 2025) yn parhau i gynnig mwy o gyfleoedd i ofalwyr di-dâl gymryd saib o'u rôl fel gofalwyr a byw eu bywydau eu hunain ochr yn ochr â gofalu. Gellir defnyddio'r cyllid ar gyfer gwyliau byr, teithiau dydd a ffyrdd arloesol eraill o gael saib, fel mynychu dosbarth cadw'n heini bob wythnos neu fynd i'r sinema gyda ffrindiau.

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yw'r corff cydgysylltu cenedlaethol ar gyfer y cynllun, ac mae'n cydweithio â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a’r trydydd sector ledled Cymru i hybu dyfeisgarwch a hyrwyddo arferion da. Ei nod yw darparu 30,000 o seibiannau byr i ofalwyr di-dâl ledled Cymru dros y cyfnod o 3 blynedd.

Lansiwyd Amser, sef cynllun grant y trydydd sector, ym mis Ionawr 2023, fel agwedd ychwanegol ar y gronfa seibiannau byr. Gweinyddir y cynllun hwn gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sy'n gweithio gyda dros 30 o grwpiau gofalwyr lleol i ddarparu mwy o gyfleoedd ar gyfer seibiannau byr. Mae'r cynllun wedi denu gofalwyr nad oeddent yn hysbys cynt i wasanaethau. Mae'n gwneud mwy na darparu seibiannau mawr eu hangen o gyfrifoldebau gofalu, mae'n codi ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth i ofalwyr yn fwy cyffredinol.

Y gronfa gymorth i ofalwyr

Mae ein cronfa gymorth i ofalwyr gwerth £4.5 miliwn (2022 i 2025) yn galluogi gofalwyr di-dâl i gael mynediad at grantiau bach a gwasanaethau cymorth sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth ariannol. Gweinyddir y gronfa gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ac mae'n galluogi gofalwyr ar incwm isel i brynu eitemau hanfodol sylfaenol fel bwyd neu wisg ysgol, yn ogystal â thalu biliau cyfleustodau sy'n ddyledus. Mewn rhai ardaloedd, roedd 70% o'r ymgeiswyr yn ofalwyr anhysbys cynt. Bellach, mae gan y gofalwyr hyn fynediad at wybodaeth cyngor a chymorth.

Cefnogi gofalwyr di-dâl ar adeg derbyn a rhyddhau cleifion o'r ysbyty 

Rydym wedi rhoi £1 miliwn i'r 7 bwrdd iechyd lleol yng Nghymru gefnogi gofalwyr di-dâl pan fydd y person y maent yn gofalu amdano yn cael ei dderbyn i’r ysbyty neu’n cael ei ryddhau. Mae gan fyrddau iechyd gynlluniau a mentrau ar waith i nodi a chefnogi gofalwyr, gan gynnwys pan fydd angen lefelau uwch o ofal ar adeg rhyddhau. Mae'r cynlluniau hyn hefyd yn galluogi gofalwyr i ystyried sut y gellir cefnogi eu hanghenion iechyd a lles eu hunain i'w helpu i gyflawni eu rôl fel gofalwyr. Mae'r cyllid hwn yn parhau i fod ar gael yn 2024 i 2025.

Ymwybyddiaeth o ofalwyr

Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ariannu Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gyflawni'r prosiect ymwybyddiaeth o ofalwyr. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar gynyddu'r gydnabyddiaeth, y parch a'r gefnogaeth i ofalwyr di-dâl ar draws lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn helpu i godi ymwybyddiaeth o hawliau gofalwyr di-dâl ac yn eu cefnogi i gymryd mwy o ran. Darperir hyfforddiant i weithwyr cymdeithasol ac ymarferwyr gofal iechyd. Mae canllawiau ac egwyddorion arferion da hefyd wedi'u sefydlu. Mae hyn yn cynnwys canllaw ar y broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty, hyfforddiant a phecyn cymorth wedi'i gydgynhyrchu sy'n galluogi lleoliadau gofal iechyd a thimau profiad cleifion i gydnabod gofalwyr di-dâl. 

Cardiau adnabod i ofalwyr ifanc

Mae'r cerdyn adnabod gofalwyr ifanc yn gweithredu ar draws pob awdurdod lleol yng Nghymru. Bwriedir iddo fod yn adnodd allweddol y gall gofalwyr ifanc ei ddefnyddio i ddangos eu bod yn ofalwyr i athrawon a staff mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal â gwasanaethau iechyd lleol fel meddyg teulu neu fferyllydd. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal adolygiad o'r cynllun i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cydnabod mewn ysgolion a cholegau a'u bod yn ymwybodol o'r cerdyn adnabod ac yn gallu cael mynediad ato'n hawdd.

Cynrychiolaeth gofalwyr

Rydym yn parhau i gefnogi'r Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc, a sefydlwyd gennym yn 2022. Mae'r bwrdd, sy'n cynnwys gofalwyr ifanc yn unig, yn darparu adnodd gwerthfawr i graffu ar bolisïau Llywodraeth Cymru a llywio ystyriaethau polisi o safbwynt gofalwyr ifanc.

Yn ystod y flwyddyn, fe wnaethom sefydlu lleoedd ar gyfer aelodau newydd ar y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Ofalwyr Di-dâl. Bellach, mae 3 lle ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion a gofalwyr ifanc. Mae gofalwyr di-dâl yn dod â phrofiad bywyd gwerthfawr i'r grŵp, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o'n sefydliadau cenedlaethol ar gyfer gofalwyr.

Gwybodaeth, cyngor a chymorth ac asesiadau o anghenion gofalwyr

Comisiynodd Llywodraeth Cymru Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i arwain adolygiad cyflym o sut mae hawliau gofalwyr di-dâl yn cael eu bodloni. Cyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Tachwedd 2023.

Mewn ymateb, sefydlodd Llywodraeth Cymru grŵp gorchwyl a gorffen ym mis Ionawr 2024, sy'n cynnwys cynrychiolwyr rhanddeiliaid allweddol. Ffocws y gwaith pwysig hwn yw hyrwyddo arferion gorau cenedlaethol wrth ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl a chynnal asesiadau o anghenion gofalwyr. Rydym yn cydweithio â gofalwyr di-dâl, awdurdodau lleol a byrddau iechyd.

Deddf absenoldeb i ofalwyr

Mae ein strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl yn cydnabod y rôl bwysig y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth alluogi gofalwyr di-dâl i weithio ochr yn ochr â'u rôl fel gofalwyr. Daeth deddf absenoldeb i ofalwyr 2023 i rym ar 6 Ebrill 2024 ac mae'n cyflwyno'r hawl i weithwyr, sy'n darparu neu'n trefnu gofal ar gyfer perthynas neu ddibynnydd, gael wythnos o absenoldeb di-dâl y flwyddyn. Rydym yn croesawu'r ddarpariaeth hon ac wedi gweithio gyda Llywodraeth y DU ar y bil wrth iddo ddatblygu. Rydym yn gweithio'n agos gyda Gofalwyr Cymru i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau a bod gofalwyr sy'n gweithio yn ymwybodol o'u hawliau o dan y ddeddf.