Neidio i'r prif gynnwy

Sut i roi eich barn i'r awdurdod priffyrdd perthnasol am ffyrdd sydd â therfyn o 20mya.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut y gallwch gyfrannu

Newidiodd y terfyn cyflymder ar y rhan fwyaf o ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig i 20mya ym mis Medi 2023. 

Ym mis Gorffennaf 2024 gwnaethom gyhoeddi canllawiau diwygiedig ar gyfer awdurdodau priffyrdd i’w helpu i asesu ar ba ffyrdd y gellid codi’r terfyn cyflymder i 30mya.

Rydym am i chi roi gwybod i'ch awdurdod priffyrdd os ydych yn credu y dylai ffordd benodol:

  • newid o 20mya i 30mya
  • newid o 30mya I 20mya
  • aros yn 20mya

Wrth roi adborth rhaid i chi:

  • fod yn glir ac yn fanwl ynghylch pa ran o'r ffordd rydych chi'n sôn amdani
  • roi rhesymau am eich barn

Bydd yr awdurdodau priffyrdd yn adolygu eich adborth ochr yn ochr â’r canllawiau newydd ar eithriadau i benderfynu a yw’n briodol newid y terfyn cyflymder. Mae hyn yn debygol o gymryd sawl mis.

 phwy y dylech gysylltu

Ffyrdd awdurdodau lleol

Dylech roi adborth am ffyrdd awdurdodau lleol drwy gysylltu â'ch awdurdod lleol yn uniongyrchol.

Cefnffyrdd

Mae cefnffordd yn ffordd bwysig y mae Llywodraeth Cymru yn awdurdod priffyrdd ar ei chyfer, nid yr awdurdod lleol. Enghreifftiau o gefnffyrdd yw'r A40, A5, a'r A4076.  Gallwch weld map o holl gefnfyrdd Cymru ar MapDataCymru.

Gallwch roi adborth am derfynau 20 a 30mya ar gefnffyrdd trwy e-bostio TrunkRoads20mph@llyw.cymru. Neu gallwch anfon eich adborth at eich Awdurdod Lleol a bydd yn cael ei rannu gyda ni os yw'n gysylltiedig â chefnffordd.