Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Heddiw rwy'n cyhoeddi cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer pennu Cerrig Milltir Cenedlaethol i Gymru, y cam nesaf wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith o weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Yn yr hydref, byddaf yn ymgynghori ar y meini prawf ar gyfer dewis cerrig milltir, a hefyd ar gynigion ar gyfer y set fach o Ddangosyddion Cenedlaethol a fydd yn gysylltiedig â nhw. Fy mwriad yw cyhoeddi'r set derfynol yn 2019.
Bydd y Cerrig Milltir Cenedlaethol yn helpu Gweinidogion i fesur unrhyw gynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant ar lefel genedlaethol, a byddant yn helpu i egluro, ar lefel genedlaethol, raddfa a chyflymder y newidiadau y mae angen eu gweithredu. I ategu'r asesiad hwn, bydd Adroddiadau Llesiant Blynyddol dilynol yn asesu'r cynnydd a wneir o ran cyflawni'r nodau, a hynny drwy gyfeirio at y cerrig milltir. Bydd y cerrig milltir o ddiddordeb i Gyrff Cyhoeddus a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wrth iddynt gynnal eu hasesiadau hwythau.
Mae'n debygol y bydd gwelliannau posibl i'r set o 46 o Ddangosyddion Cenedlaethol yn cael eu nodi wrth inni fwrw ymlaen â'r gwaith ar y Cerrig Milltir Cenedlaethol. Yn ddelfrydol, rydym yn awyddus i gynnal cysondeb y set o ddangosyddion gan mai’r nod yw asesu cynnydd yn y tymor hir, a bu ymgynghori sylweddol arnynt yn 2015. Serch hynny, byddwn yn defnyddio'r cyfle presennol i wneud newidiadau bach lle y gellir cyfiawnhau y bydd hynny’n eu gwella. Byddwn ni felly'n defnyddio'r broses ymgynghori i helpu i gasglu’r sylwadau diweddaraf ar ein Dangosyddion Cenedlaethol.
Cyfeiriadau gwefan:-
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:
http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?skip=1&lang=cy
Dangosyddion Cenedlaethol Cymru: