Mae’r rhain yn adroddiadau manwl sy’n deillio o arolwg ar-lein a gynhaliwyd ym mis Chwefror 2024 ymhlith cysylltiadau defnyddwyr Croeso Cymru.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg ailgysylltu Croeso Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Adroddiad y DU ac Iwerddon
- Cymerodd tri o bob pum ymholwr i Croeso Cymru wyliau neu seibiant byr yng Nghymru yn 2023. Mae hyn yn cyd-fynd â chyfradd ymweliadau'r flwyddyn flaenorol ar gyfer y farchnad hon.
- Mis Medi oedd y mis mwyaf poblogaidd i ymweld â Chymru yn 2023. Roedd ymweld yn ystod misoedd yr haf ychydig yn llai poblogaidd o'i gymharu â 2022, gyda chynnydd mewn ymweliadau yn ystod y gwanwyn.
- Roedd boddhad â phrofiad twristiaeth Cymru yn 2023 yn parhau i fod yn sefydlog, gyda bron i bedwar o bob pum person a deithiodd i Gymru yn nodi bod eu taith yn 'Ardderchog'.
- Dywedodd bron i dri o bob deg o bobl a deithiodd i Gymru fod cyfathrebiadau Croeso Cymru wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ymweld â Chymru yn 2023. Yn ogystal, dywedodd bron i dri o bob deg o bobl eu bod wedi cael eu dylanwadu i ymweld â Chymru y tu allan i dymor yr haf.
- Dywedodd bron i dri chwarter yr ymholwyr ei bod yn debygol neu'n sicr y byddent yn ymweld â Chymru yn 2024. Gan adlewyrchu'r profiad cadarnhaol i ymwelwyr, dywedodd bron i naw o bob deg o bob a deithiodd i Gymru yn 2023 y byddent yn dychwelyd yn 2024.
Adroddiad yr Almaen
- Cymerodd ychydig o dan chwarter yr ymholwyr wyliau neu seibiant byr yng Nghymru yn 2023, cynnydd o'i chymharu â 2022.
- Misoedd yr haf oedd yr adeg fwyaf poblogaidd i ymweld â Chymru yn 2023, er bod cyfraddau is o ymwelwyr ym mis Awst a mis Medi, o'i chymharu â 2022.
- Roedd 85% o'r rhai a deithiodd i Gymru yn dweud bod eu profiad o ymweld â Chymru 2023 yn 'Ardderchog', gostyngiad bach o'i chymharu â 2022.
- Dywedodd tua thri o bob deg a deithiodd i Gymru fod cyfathrebiadau Croeso Cymru wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i ymweld â Chymru yn 2023, gyda 36% yn nodi eu bod wedi cael eu dylanwadu i ymweld â rhan o Gymru nad oeddent wedi mynd iddi o'r blaen.
- Dywedodd ychydig dros dri o bob deg ymholwr ei bod yn debygol neu'n sicr y byddent yn ymweld â Chymru yn 2024, gyda'r ffigur hwn yn codi i ychydig o dan hanner ymhlith y rhai a ymwelodd yn 2023.
Adroddiadau
Adroddiad y DU ac Iwerddon, 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 8 MB
PDF
8 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Adroddiad yr Almaen, 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 7 MB
PDF
7 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.