Neidio i'r prif gynnwy

Present

  • Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
  • Rebecca Evans AS
  • Vaughan Gething AS
  • Lesley Griffiths AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
     
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Julie Morgan AS
  • Lynne Neagle AS
  • Lee Waters AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rachel Garside-Jones, Cyfarwyddwr Dros Dro, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Matthew Hall, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol
  • Nia James, Cyfarwyddwr Dros Dro, Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Judith Paget, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

Eitem 1: Cofnodion y Cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 11 Mawrth.

Eitem 2: Eitemau’r Prif Weinidog

Ymddiswyddiad Prif Weinidog Cymru

2.1 Cafodd Vaughan Gething ei longyfarch gan y Prif Weinidog ar ddod yn arweinydd newydd y Blaid Lafur yng Nghymru.

2.2 Fe wnaeth y Prif Weinidog atgoffa'r Cabinet y byddai'n cyflwyno ei ymddiswyddiad i'w Fawrhydi'r Brenin yn hwyr brynhawn dydd Mawrth. Byddai pleidlais yn y Senedd y diwrnod canlynol ar enwebiad y Prif Weinidog newydd, a byddai angen i'r penodiad hwn wedyn gael ei gymeradwyo gan Ei Fawrhydi.

Eitem 3: Busnes y Senedd

3.1 Ystyriodd y Cabinet gynnwys Grid y Cyfarfodydd Llawn, gan nodi.

3.2 bod amser pleidleisio wedi ei drefnu ar gyfer 7:30pm ddydd Mawrth a thua 5:55pm ddydd Mercher.

Eitem 4: Unrhyw fater arall

4.1 Daeth y Prif Weinidog â’r cyfarfod i ben drwy fynegi ei ddiolch i gydweithwyr Gweinidogol am eu cefnogaeth yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn enwedig o ystyried heriau cyni, Brexit, y pandemig, y rhyfel yn Wcráin a'r argyfwng costau byw. Roedd Gweinidogion wedi ymateb i'r heriau hyn mewn ffyrdd dyfeisgar, pwrpasol, synhwyrol a threfnus, ac roeddent yn parhau i gyflawni'r Rhaglen Lywodraethu yn ystod y cyfnod anodd hwn yn erbyn cefndir o gyllidebau sy'n lleihau. Bu 21 o Ddeddfau Senedd, gan gynnwys rhywfaint o ddeddfwriaeth nodedig, megis Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), ynghyd â mesurau i fynd i'r afael â'r argyfyngau Hinsawdd a Natur.

Cododd Aelodau'r Cabinet ar eu traed i ddangos eu gwerthfawrogiad tuag at y Prif Weinidog.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mawrth 2024