Blaenoriaethau ac amcanion
Y 3 blaenoriaeth graidd ac amcanion cysylltiedig y Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cynnwys
Blaenoriaeth 1: datblygu a deall cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau ac ymyriadau a alluogir gan AI
Mae angen i ni weithio gyda sefydliadau yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i ddeall eu gofynion. Bydd hyn yn ein helpu i ddefnyddio AI i ddatrys problemau go iawn a gwella gwasanaethau. Nod y comisiwn yw:
- nodi'r rhwystrau i fabwysiadu AI moesegol
- cymryd camau pendant i edrych ar sut i leihau neu ddileu'r rhwystrau hyn
- blaenoriaethu meysydd a allai elwa o ddefnyddio offer AI yn y tymor byr a'r tymor canolig
Blaenoriaeth 2: mapio'r ecosystem bresennol
Y tu hwnt i ddefnyddio AI mewn rhai meysydd, mae angen deall a dangos tystiolaeth o ran sut y gall y system iechyd, gofal cymdeithasol a gwyddorau bywyd ehangach gefnogi a galluogi'r gwaith o weithredu AI. Mae hynny’n cynnwys:
- grwpiau diddordeb
- datblygu sgiliau
- galluoedd technegol a rheoleiddiol
- cysylltiadau ag addysg uwch a grwpiau staff
Blaenoriaeth 3: galluogi AI diogel, cyfrifol a moesegol
Bydd y Comisiwn yn cydweithio ar draws y sector a chyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol i ddod o hyd i'r ffyrdd gorau o ddiwallu anghenion y sector. Byddwn yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi'r defnydd diogel a moesegol o AI er budd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.