Aelodaeth
Crynodeb o aelodaeth y Comisiwn AI ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r comisiwn yn cynnwys aelodau o'r canlynol:
- iechyd a gofal cymdeithasol
- gwyddorau bywyd
- llywodraeth leol
- addysg uwch
- arbenigwyr annibynnol
- Llywodraeth Cymru
Rôl ein haelodau yw:
- cefnogi'r defnydd o dechnolegau sy'n seiliedig ar AI i helpu staff i wneud penderfyniadau, galluogi gofal ataliol, a gwella gwasanaethau
- manteisio ar ddealltwriaeth fanwl ac awdurdod sy'n dod o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol, a'r sector cyhoeddus yn ehangach, ac ar arbenigedd ym meysydd gweithredu technegol, darparu gwasanaethau, a'r defnydd priodol o ddata
- deall a chymryd camau ategol i gyflymu'r broses o fabwysiadu technolegau a alluogir gan AI, gan ystyried anghenion staff a chleifion
- cydweithio i gefnogi'r gwaith o weithredu a defnyddio AI mewn modd diogel, cyfrifol a moesegol fel rhan o wneud penderfyniadau a darparu gwasanaethau ym maes iechyd a gofal