Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ac arweiniad i ymgeiswyr rhaglen addysg gychwynnol athrawon Prifysgol Aberystwyth mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2024 i 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r wybodaeth ganlynol ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi gwneud cais i Bartneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) Aberystwyth, ac sydd wedi derbyn cynnig i astudio Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) drwy Bartneriaeth AGA Aberystwyth o fis Medi 2024. 

Nid yw Partneriaeth AGA Aberystwyth wedi'i hailachredu'n llwyddiannus i ddarparu rhaglen AGA sy'n arwain at statws athro cymwysedig (SAC). Yn sgil hynny, mae'r Bartneriaeth wedi tynnu ei darpariaeth TAR yn ôl ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025. Os ydych chi wedi gwneud cais i Bartneriaeth AGA Aberystwyth, ac wedi derbyn cynnig o le i astudio yn y Brifysgol o fis Medi hwn ymlaen, bydd y cynnig hwnnw'n cael ei dynnu'n ôl gan y brifysgol. 

Dod o hyd i raglen AGA arall

Mae chwe Phartneriaeth AGA arall wedi'u lleoli ledled Cymru sy'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn addysgu cynradd ac uwchradd drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Gallwch gysylltu â nhw'n uniongyrchol i drosglwyddo eich cais.

Ewch i Addysgwyr Cymru neu UCAS i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni sydd ar gael i chi. 

Yna dylech gysylltu ag unrhyw rai o’r darparwyr eraill y gallai fod gennych ddiddordeb ynddynt drwy e-bost uniongyrchol, a rhowch 'Trosglwyddo cais Aberystwyth' fel pennawd ar gyfer pwnc eich e-bost. 

Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe 

Dr Russell Grigg, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon
g.r.grigg@swansea.ac.uk 

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Nic Evans, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon 
n.j.evans@uwtsd.ac.uk 
teachered@uwtsd.ac.uk 

Partneriaeth Addysg Gychwynnol Athrawon Prifysgol De Cymru 

Lisa Taylor, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon
lisa.taylor@southwales.ac.uk

Partneriaeth Caerdydd 

Cameron Stewart, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon (Ymgysylltu â Myfyrwyr) neu Dr Anna Bryant, Cyfarwyddwr Addysg Gychwynnol Athrawon (Ymchwil)
CGStewart@cardiffmet.ac.uk 
ANBryant@cardiffmet.ac.uk 

CaBan Bangor

Hazel Wordsworth, Cyfarwyddwr AGA
hazel.jones@bangor.ac.uk 

Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored

Dr Sarah Stewart, Cyfarwyddwr TAR (Cymru)
TAR-Cymru@open.ac.uk 

Trosglwyddo eich cynnig o le

Os ydych chi eisoes wedi derbyn cynnig gan Brifysgol Aberystwyth fel dewis cyntaf neu ail ddewis, dylech chi gysylltu â nhw i drefnu iddynt gytuno ar y newidiadau sydd eu hangen. Ac yna byddan nhw’n rhoi gwybod i UCAS am y newidiadau hynny.

Os nad ydych chi wedi cael ymateb i'ch cais gwreiddiol gan Brifysgol Aberystwyth, neu os ydych chi wedi cael cynnig ganddynt ond heb dderbyn y cynnig eto, yna dylech chi gysylltu ag UCAS yn uniongyrchol dros y ffôn i roi gwybod iddynt am eich dewis newydd. 

Mae UCAS yn ymwybodol o'r sefyllfa ac yn barod i'ch helpu i drosglwyddo eich cais fel ei bod mor hawdd â phosibl i chi. Gallwch chi gysylltu ag UCAS drwy ffonio 0371 468 0468.

Nid yw Partneriaeth AGA y Brifysgol Agored yn defnyddio UCAS. Os ydych chi wedi penderfynu trosglwyddo eich cais i Bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored byddan nhw'n eich helpu chi i wneud cais drwy eu proses ymgeisio.

Cyllid myfyrwyr

Os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am gyllid myfyrwyr ac wedi datgan eich bod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae modd newid hwnnw. Gallwch wneud newidiadau i'ch cwrs a'ch Prifysgol drwy eich cyfrif ar-lein.