Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai, Llywodraeth Leol a Chynllunio, Julie James AS wedi penodi Ewan Jones yn Gadeirydd newydd ar Gomisiwn Dylunio Cymru Cyf (DCfW Ltd).
Sefydlwyd DCfW Ltd yn 2002 gan Lywodraeth Cymru fel corff cyhoeddus. Rôl y Comisiwn yw hyrwyddo dyluniad da ar gyfer ein lleoedd, adeiladau a mannau cyhoeddus a hyrwyddo manteision dylunio da i bawb.
Mae'r Comisiwn yn hyrwyddo dylunio da drwy annog safonau uchel o ran dylunio a phensaernïaeth i'r sectorau cyhoeddus a phreifat yng Nghymru drwy hyrwyddo dealltwriaeth ehangach o faterion dylunio a phwysigrwydd safonau da wrth wella'r amgylchedd adeiledig ar draws pob sector. Mae'r Comisiwn yn hyrwyddo arferion dylunio i greu lleoedd gwell ac mae'n arwain Creu Lleoedd Cymru, sef mudiad cydweithredol o sefydliadau ym maes yr amgylchedd adeiledig sy'n ymdrechu i wella ansawdd datblygiadau newydd ledled Cymru .
Mae'r Comisiwn Dylunio yn gweithio gyda chydweithwyr ym meysydd dylunio trefol, pensaernïaeth a dylunio tirwedd, peirianneg sifil, gwasanaethau adeiladu a'r proffesiynau amgylcheddol ehangach sy'n ymwneud â llunio cefn gwlad, dinasoedd, trefi a phentrefi Cymru.
Ar hyn o bryd mae gan Fwrdd DCFW bum Comisiynydd, gan gynnwys y Cadeirydd. Mae'r Bwrdd yn chwarae rhan allweddol o ran eirioli gwaith DCFW, gofalu am lywodraethu a gwella cysylltiadau cyhoeddus. Mae tymor tri Chomisiynydd wedi dod i ben yn ddiweddar a byd d cynlluniau ar gyfer ymgyrch recriwtio agored yn dechrau o dan y cadeirydd newydd.
Mae Ewan Jones yn Bartner yn Grimshaw, practis pensaernïol, a sefydlwyd yn y DU, gydag enw da rhyngwladol am ragoriaeth mewn dylunio. Gyda thros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio ar brosiectau seilwaith, masnachol ac addysg yn y DU, Ewrop ac Awstralia, mae gwaith dylunio Ewan yn hyrwyddo integreiddio pensaernïaeth, peirianneg ac adeiladu i greu lleoedd penodol sy'n gysylltiedig â'u cyd destun unigol.
Mae'r prosiectau hyn yn cynnwys Adeilad St Botolph a phencadlys Banc Lloyds yn Ninas Llundain, y Wobr Stirling a gyrhaeddodd restr fer Bijlmer ArenA Station yn Amsterdam, a Phont Droed Dinas Casnewydd. Gweithiodd yn helaeth ar ddyluniadau Grimshaw ar gyfer Gorsaf Euston HS2 ac mae'r prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd yn cynnwys adeiladu Traphont Colne Valley ar gyfer HS2 a dylunio manwl ar gyfer Cyfnewidfa Caerffili.
Wedi'i eni yng Nghasnewydd a'i fagu ym Mhorthcawl, mae Ewan wedi gweithio gyda Chomisiwn Dylunio Cymru (DCfW) ers 2005, gan gynnwys tymor o 10 mlynedd fel comisiynydd, ac ar hyn o bryd mae'n cadeirio adolygiadau dylunio a phaneli cynghori cleientiaid ar gyfer DCfW.
"Ar ôl gweithio o fewn DCfW am bron i 20 mlynedd, rwy'n hynod ymwybodol o'r rôl y mae'n ei chwarae wrth hyrwyddo ac annog safonau dylunio uchel, a'r gwerth y mae'n ei gynnig drwy ei staff, adolygwyr dylunio a chomisiynwyr. Rwy'n falch iawn o gyfrannu ymhel lach fel cadeirydd DCfW, gan helpu i ddylunio lleoedd ac adeiladau yn well i bawb yng Nghymru. Fy mhrif gyfrifoldeb, gyda'r bwrdd, fydd diffinio strategaethau fel y gall y comisiwn barhau i gael dylanwad cadarnhaol ar bolisïau, cleientiaid a phrosiectau."cleientiaid a phrosiectau."
Bydd y penodiad hwn yn parhau gydol tymor presennol y Senedd (hyd at fis Mawrth 2026) yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus (GOV.UK), ac fe'i gwnaed ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol.