Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Mae'r Tîm Cymorth Allforio yn Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r Tîm Dadansoddwyr Masnach mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddol, Llywodraeth Cymru i gynnal arolwg ar-lein i ofyn am adborth ar ei Rhaglen Clwstwr Allforio. Nod yr arolwg hwn yw asesu boddhad ac ymgysylltiad aelodau'r Clwstwr â'r Rhaglen, deall yr effaith y mae'r gefnogaeth yn ei chael, nodi unrhyw ganlyniadau a gyflawnwyd a deall cefndir y busnesau sy'n ymateb. Bydd canlyniadau'r arolwg yn llywio penderfyniadau ynghylch unrhyw estyniad posibl i'r Rhaglen i 4ydd flwyddyn a thu hwnt.

Llywodraeth Cymru yw'r rheolwr data ar gyfer yr ymchwil. Bydd y Tîm Dadansoddwyr Masnach yn dileu data personol cyn ysgrifennu eu hadroddiad terfynol ac ni fyddant yn darparu data personol adnabyddadwy i eraill yn Llywodraeth Cymru oni bai eich bod yn gofyn i ni, neu wedi rhoi caniatâd penodol, i wneud hynny. 

Bydd y wybodaeth a gesglir yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfranogiad yn yr ymchwil hwn yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, fel aelodau o'r Clwstwr Allforio, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig iawn i Lywodraeth Cymru wrth wneud penderfyniadau ynghylch cyfeiriad y Rhaglen Clwstwr Allforio yn y dyfodol.

Pa ddata personol ydym ni’n ei ddal ac o ble gawn ni’r wybodaeth hon?

Mae Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (GDPR y DU) yn diffinio data personol fel hyn: ‘unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol drwy gyfeirio at ddynodwr’.

Darparwyd enwau cyswllt cyfranogwyr a chyfeiriadau e-bost i Dîm Dadansoddwyr Masnach Llywodraeth Cymru gan Dîm Cymorth Allforio Llywodraeth Cymru sy'n dal eich manylion oherwydd eich cyfranogiad yn y Rhaglen Clwstwr Allforio.

Nid yw'r ymchwil hon yn bwriadu i gasglu data personol ychwanegol gennych chi. 

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol; os nad ydych am gymryd rhan neu am dderbyn ebyst atgoffa, plis atebwch yr e-bost gwahoddiad yn mynegi eich dymuniad i optio allan, fel y gallwn dileu eich manylion. Bydd y Tîm Dadansoddwyr Masnach yn defnyddio cyfeiriadau e-bost at ddibenion yr arolwg hwn yn unig. 

Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil (e.e. fel rhan o gwestiwn penagored), byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion a roddwch, neu gysylltu â'ch hunaniaeth. 

Os byddwch yn codi ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn dileu’r manylion o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth ar gyfer yr ymchwil yma yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl graidd Llywodraeth Cymru.

Mae cymryd rhan yn beth hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru allu casglu gwybodaeth a thystiolaeth y gall weithredu arni am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r llywodraeth. Gallai’r wybodaeth a gasglwn yn yr ymchwil hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i:

  • Archwilio ffyrdd y gellid gwella'r gwaith o gyflawni'r Rhaglen Clwstwr Allforio bresennol; a
  • Llywio penderfyniadau ynghylch unrhyw estyniad posibl i'r Rhaglen Clwstwr Allforio i 4ydd flwyddyn a thu hwnt.

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Mae data personol a ddarperir i Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw ar weinyddion diogel, ac ar gyfer y prosiect hwn crëwyd ffolder sydd â mynediad wedi'i gyfyngu i'r tîm ymchwil uniongyrchol yn unig. Bydd eich manylion cyswllt ac unrhyw ddata personol rydych chi'n dewis ei ddarparu yn cael eu storio yn y ffolder gyfyngedig hon. Ni fydd yr ymchwilwyr yn darparu unrhyw wybodaeth bersonol wrth adrodd canfyddiadau i'r Tîm Cymorth Allforio.

Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU ac yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir trwy'r feddalwedd. 

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri rheolau diogelwch data. Os bydd amheuaeth o dorri rheolau yn digwydd, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny. 

Bydd y Tîm Dadansoddwyr Masnach yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i gynhyrchu adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol. 

Am faint ydym ni’n cadw eich data personol?

Bydd unrhyw ddata personol a gesglir yn yr arolwg yn cael ei ddileu gan y Tîm Dadansoddwyr Masnach o fewn chwe mis o gyhoeddi'r adroddiad terfynol. Mae hyn yn cynnwys tynnu eich manylion cyswllt o'r ffolder ymchwil a ddefnyddir ar gyfer y prosiect.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw eich manylion at y diben gwreiddiol fel rhan o'r Rhaglen Clwstwr Allforio.

Hawliau unigol

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU (GDPR y DU), mae gennych yr hawliau a ganlyn mewn perthynas â’r wybodaeth bersonol a ddarparwch yn rhan o’r arolwg hwn, yn benodol mae gennych yr hawl:

  • cyrchu copi o’ch data eich hun
  • gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • gwrthwynebu neu gyfyngu ar y prosesu (dan amgylchiadau penodol)
  • gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’ (dan amgylchiadau penodol)
  • gwneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheolydd annibynnol dros ddiogelu data.

Dyma’r manylion cysylltu ar gyfer Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, 
Water Lane, 
Wilmslow, 
Cheshire, 
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am y ffordd y bydd y data a rowch yn rhan o’r astudiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, neu os ydych eisiau arfer eich hawliau gan ddefnyddio Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data’r DU, cysylltwch â:

Enw: Mair Smith
E-bost: Mair.Smith007@gov.wales
Rhif ffôn: 03000250958

Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru ar:

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru