Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
Rwyf wedi derbyn ymddiswyddiad Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) heddiw. Mae’n ymateb priodol yng ngoleuni adroddiad diweddar Swyddfa Archwilio Cymru sy'n amodi'r cyfrifon am y trydydd tro ac yng ngoleuni pryderon a beirniadaeth gan bob plaid yn y Cynulliad. Rwyf wedi ysgrifennu at Diane McCrea i ddiolch iddi am ei gwasanaeth.
Byddaf yn penodi Cadeirydd dros dro ar Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru tra byddaf yn cynnal proses i benodi Cadeirydd newydd. Rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynnal proses a gynlluniwyd i benodi pum aelod newydd i'r Bwrdd. Gyda'i gilydd, bydd y Cadeirydd ac Aelodau’r Bwrdd yn rhan o dîm newydd a fydd yn arwain ac yn symud y sefydliad yn ei flaen, gan roi pwyslais ar sicrhau llywodraethiant da wrth gyflawni amcanion y sefydliad o ran rheoleiddio a’r amgylchedd.
Rwyf yn cyfarfod yn rheolaidd â phobl ymroddedig a phroffesiynol sy’n gweithio i CNC, yn adeiladu amddiffynfeydd rhag llifogydd, yn gwarchod rhywogaethau prin, yn gwella ansawdd ein hafonydd neu’n rheoleiddio’n diwydiannau mawr. Maent yn gweithio’n ddiflino i warchod ac i wella amgylchedd naturiol gwerthfawr Cymru.
Mae’r Prif Weithredwr yn cymryd pryderon Swyddfa Archwilio Cymru o ddifrif, fel sy'n cael ei gydnabod yn yr adroddiad, ac mae’n rhoi’r newidiadau angenrheidiol ar waith i sicrhau sefydliad cyflenwi sy’n arddel llywodraethiant cryf. I helpu yn hynny o beth, bydd aelod o staff uwch Llywodraeth Cymru yn cael ei secondio i CNC. Bydd hynny’n caniatáu i CNC barhau i ddatblygu’r rôl bwysig sydd ganddo o ran diogelu a gwella’r amgylchedd yng Nghymru.