Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o gyfres o wybodaeth gyda'r bwriad o sicrhau tryloywder mewn materion cyhoeddus, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data blynyddol ar lefelau'r cronfeydd a gedwir wrth gefn gan awdurdodau lleol.  1Mae lefelau'r cronfeydd a gedwir wrth gefn gan Awdurdodau Lleol Cymru yn fater i'r aelodau etholedig yn lleol.  Wrth gwrs, mae'n bwysig i etholwyr lleol ac aelodau etholedig ddeall manylion lleol a pholisïau awdurdodau ynghylch gosod a chadw cyllid wrth gefn. Mae'r wybodaeth yn y datganiad hwn yn gosod enghreifftiau ehangach a'r tueddiadau dros gyfnod o amser.  

Mae'n synhwyrol adeiladu a chadw cronfeydd wrth gefn at ddibenion penodol, gan gynnwys trawsnewid gwasanaethau i ateb y pwysau ariannol parhaus rwy'n cydnabod y mae cynghorau'n ei wynebu. Bydd angen o hyd i awdurdodau gadw cronfeydd wrth gefn ar gyfer pethau fel yswiriant a rhwymedigaethau Mentrau Cyllid Preifat, a all fod yn sylweddol. Gall llithriadau ar gyfer mathau penodol o brosiectau effeithio ar amseriad tynnu o'r cronfeydd wrth gefn. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cadw darpariaeth wrth gefn, yng nghyd-destun dyraniadau gwariant o £14.5 biliwn ac yn gymesur i'r amrywiaeth o beryglon sy'n wynebu'r Llywodraeth ar draws pob portffolio.

Disgwylir i Awdurdodau Lleol amlinellu, mewn ffordd glir a hygyrch i'r cyhoedd, sut y gosodwyd lefel y cronfeydd hapddigwyddiadau cyffredinol a manylion am y gweithgareddau neu'r eitemau i'w hariannu o bob cronfa wrth gefn wedi'i chlustnodi.
Dim ond unwaith y gellir defnyddio cronfeydd wrth gefn. Mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i amddiffyn awdurdodau lleol rhag toriadau gwariant gwaethaf Llywodraeth y DU. Er bod pob awdurdod, wrth gwrs, yn wynebu amgylchiadau penodol, mae'r dystiolaeth yn dangos bod lefelau'r cronfeydd wrth gefn sy'n cael eu cadw gan rai awdurdodau lleol wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.  Rhaid i awdurdodau sy'n cynyddu lefelau eu cronfeydd wrth gefn egluro sut mae'r penderfyniadau ariannu hyn er budd eu cymunedau. Os yw'r cronfeydd wrth gefn yn cael eu cadw rhag ofn na lwyddir i gyflawni newidiadau a gynlluniwyd i wasanaethau er mwyn ateb pwysau ar y gyllideb, bydd angen i awdurdodau ystyried a yw eu cynlluniau yn rai realistig.
 
Rwy'n credu y bydd awdurdodau lleol Cymru yn dymuno defnyddio eu cronfeydd wrth gefn mewn ffordd strategol i ysgogi'r newidiadau sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau. Bydd angen iddynt ystyried sut i ddefnyddio'r cronfeydd sydd ar gael i gydweithio gydag eraill i sicrhau arbedion effeithlonrwydd tymor hir. Dylai pob awdurdod barhau i sicrhau bod eu cronfeydd wrth gefn yn ddigonol ar gyfer anghenion wedi'u cynllunio neu hapddigwyddiadau yn y dyfodol, heb osod cyfyngiadau gormodol ar wariant presennol. Dylai awdurdodau lleol sydd â lefelau uchel o gronfeydd wrth gefn o gymharu â'u gwariant adolygu'r dibenion ar gyfer eu cadw i sicrhau bod eu hangen o hyd. Dylai diben cadw cronfeydd wrth gefn gael ei gyfathrebu'n glir drwy'r cyfrifon blynyddol, yn arbennig os ydynt yn cynyddu.

Mae'r wybodaeth sydd wedi'i hatodi yn rhoi cyd-destun i gronfeydd wrth gefn yr awdurdodau gan gyfeirio at eu gwariant blynyddol fel bod modd cymharu rhwng awdurdodau o wahanol feintiau a dros gyfnod o amser. Mae'r atodiad hefyd yn dangos amrywiad a symudiad ar draws awdurdodau ar yr un sail ar gyfer pob awdurdod ym mis Mawrth 2011, 2016 a 2018.  

Mae'r data diweddaraf sydd ar gael yn dangos, ar ddiwedd mis Mawrth 2018, bod cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi i bob awdurdod lleol yn £866 miliwn. Mae'r rhain yn gronfeydd a neilltuwyd ar gyfer prosiectau neu ddibenion penodol. Mae awdurdodau hefyd yn cadw cronfeydd wrth gefn heb eu clustnodi i fynd i'r afael â sefyllfaoedd na ellir eu rhagweld. Ar ddiwedd mis Mawrth 2018 roedd gweddill y cronfeydd hyn yn £198 miliwn.

Cyfartaledd y cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi fel canran o wariant Cymru ym mis Mawrth 2018 oedd 12.1% o gymharu â 10.9% ym mis Mawrth 2011. Gwelwyd cynnydd o £122 miliwn yn y lefelau ers mis Mawrth 2011; mae unarddeg awdurdod wedi gweld gostyngiad dros y cyfnod hwn a unarddeg wedi gweld cynnydd.

Yn yr un modd, mae lefelau cronfeydd wrth gefn heb eu neilltuo wedi cynyddu £41 miliwn ers mis Mawrth 2011. Gwelodd pump awdurdod lefelau is dros y cyfnod, ond gwelodd un deg saith lefelau uwch.

1https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/whole-government-accounts/publications/whole-government-accounts-reserves/?skip=1&lang=cy