Mae cyfres animeiddio ddystopaidd a chomedi oruwchnaturiol animeiddiedig i oedolion ymhlith prosiectau addawol sy'n cael hwb ariannol yr wythnos hon wrth i'r diwydiant animeiddio Cymreig ddod i Gaerdydd.
Mae 31 o brosiectau cyfryngau digidol a theledu sydd wedi eu lleoli yng Nghymru wedi cael cyllid gan Cymru Greadigol fel rhan o ymgyrch i helpu timau cynhyrchu cartref ddatblygu prosiectau'n llawn, gan gynyddu'r tebygolrwydd y bydd prosiect yn cael ei gomisiynu, ei gymeradwyo a'i gynhyrchu.
Gydag uchafswm o £35,000 ar gael fesul prosiect, dyfarnwyd tua £840,000 i'r gwahanol brosiectau ar draws cwmnïau animeiddio, cwmnïau teledu, cwmnïau gemau a thechnoleg ymgolli, gan gynnwys animeiddiadau newydd gan Riot Times Pictures a Pokedstudio a phrosiect datblygu gemau gan Sugar Creative Studio Ltd.
Mae'r cyhoeddiad ariannu yn cyd-fynd â gŵyl animeiddio pedwar diwrnod o hyd a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd.
Mae Lleuad Llawn / Full Moon, cyfres gomedi oruwchnaturiol animeiddiedig i oedolion am hunaniaeth Gymreig a chwiar mewn byd hudol, yn brosiect gan Riot Times Pictures. Dywedodd Adam Knopf, Cyfarwyddwr Riot Times Pictures:
"Rydym wedi cael ein swyno gan y prosiect hwn a'r talentog Efa Blosse Mason a Zina Wegrzynski sydd wedi creu byd a chymeriadau hudol.
"Mae cael cefnogaeth Cymru Greadigol wedi rhoi amser i ni ddatblygu cyfres yr ydym yn gobeithio y bydd yn ymuno â hanes anhygoel animeiddio Cymreig ac yn swyno cynulleidfaoedd lleol a rhyngwladol am flynyddoedd i ddod."
Mae Pokedbots, a gynhyrchir gan Pokedstudio o Gaerdydd, yn beilot ar gyfer cyfres animeiddio sydd wedi ei gosod yn y flwyddyn 2043 lle mae robotiaid maleisus a phwerus yn cymryd y ddaear drosodd. Dywedodd Jonathan Ball, Darlunydd a Sylfaenydd Pokedstudio:
"Mae Pokedbots yn seiliedig ar gasgliad o docynnau anghyfnewidadwy a werthwyd gennym ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae'r peilot yn estyniad cyffrous o'u bydysawd.
"Mae'r cyllid gan Cymru Greadigol yn ein galluogi i gyflogi animeiddwyr lleol a thalent dylunio ac yn helpu i dyfu'r diwydiant animeiddio yma yng Nghymru."
Meddai Hannah Blythyn, Gweinidog y Diwydiannau Creadigol yng Nghymru:
"Bydd y cyllid rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn cefnogi prosiectau newydd sbon o ddiwydiannau creadigol Cymru a fydd, yn ei dro, yn galluogi twf pellach yn y sector.
"Mae'r ŵyl yr wythnos hon yn gyfle gwych i ddathlu ein sector animeiddio ffyniannus. Rydym am ddatblygu'r llwyddiant hwn a sicrhau bod Cymru'n parhau i fod yn fan lle gall darlunwyr, animeiddwyr a thimau cynhyrchu talentog gynhyrchu eu gwaith gorau."
Mae Gŵyl Animeiddio Caerdydd hefyd yn cael ei hariannu'n rhannol gan Ddigwyddiadau Cymru Llywodraeth Cymru, yn unol â'r Strategaeth Digwyddiadau Mawr newydd, gyda'r nod o gefnogi ei datblygiad a'i thwf parhaus dros y ddau ddigwyddiad nesaf, 2026 a 2028. Mae'r ŵyl yn dathlu hunaniaeth, iaith a diwylliant cenedlaethol Cymru drwy animeiddio. Mae hefyd yn ceisio ehangu mynediad at gynulleidfaoedd a chefnogi’r gwaith o ymgysylltu â nhw, cyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol a chreu gofod gŵyl cynhwysol sy'n darparu cyfleoedd i ddatblygu sgiliau.