Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Heddiw, mae Tata Steel wedi cyhoeddi ei fod wedi gwrthod yr adroddiad aml-undeb a gomisiynwyd gan Bwyllgor Dur y DU. Mae'r newyddion hyn yn newyddion ofnadwy i'r undebau a'r gweithlu ymroddedig a ffyddlon sydd wedi gweithio'n galed i ddatblygu cynnig amgen ar gyfer dyfodol ffatri Port Talbot a'r safleoedd ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi.
Mae'n anodd gorbwysleisio’r hyn y mae'r diwydiant dur yn ei olygu i gymunedau ledled Cymru. Mae’r bwriad i roi’r gorau i ddefnyddio ffwrneisi chwyth i gynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiwrnod trist iawn i Gymru a bydd, yn anochel, yn ychwanegu at bryder gweithwyr a'u teuluoedd, yn ogystal â phryder pobl mewn cymunedau lleol a'r gadwyn gyflenwi ehangach.
Er bod Tata yn cydnabod ei fod yn ddarn credadwy o waith, mae'n hynod siomedig nad yw wedi derbyn yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad aml-undeb a baratowyd gan Syndex ynglŷn â’r newid i wneud dur ym Mhort Talbot mewn ffordd sy’n is o ran carbon.
Mae Gweinidogion wedi mynd ati’n gyson i fynegi’n pryderon ynglŷn â pha mor gyflym y mae’r newid arfaethedig yn digwydd. Gallai'r ymgynghoriad rhwng Tata a'r undebau fod wedi bod yn gyfle i sicrhau cyfnod pontio hirach a thecach a fyddai wedi lleihau nifer y swyddi a gâi eu colli. Rydym yn credu y gellid ac y dylid bod wedi taro bargen well ar gyfer dur a'r gweithlu, rhwng Tata a Llywodraeth y DU.
Mae'n hanfodol bod Tata, costied a gostio, yn ceisio osgoi diswyddiadau gorfodol o fewn ei weithlu ffyddlon, a byddwn yn ceisio'r sicrwydd hwnnw. Yng ngoleuni'r penderfyniad hwn heddiw, mae'n rhaid i Tata gynnig y fargen orau bosibl i'w weithlu, gan gynnwys cymryd camau i gydnabod a meithrin sgiliau.
Mae angen hefyd i Tata fynd ati ar fyrder i ddarparu manylion am yr effeithiau ar ei weithlu a'i gadwyn gyflenwi, ac ynghylch pryd y gwelir yr effeithiau hynny, er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'n partneriaid yn gallu’u cynorthwyo yn y ffordd orau bosibl. Bydd y gefnogaeth honno’n cynnwys darparu cymorth wedi'i deilwra i feithrin sgiliau a hyfforddi er mwyn iddynt fedru cynllunio ar gyfer dyfodol cadarnhaol.
Rydym yn pryderu am yr effaith y bydd y penderfyniad hwn yn ei chael ar faint yr allbwn ar draws holl safleoedd Tata yng Nghymru, nid yn unig ar Bort Talbot, ond hefyd ar y gweithfeydd ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi. Mae angen inni weld gweledigaeth glir gan y cwmni, a fydd yn cynnwys buddsoddiad sylweddol ym mhob safle, gan gynnwys Port Talbot a Llan-wern, ac a fydd hefyd yn parhau i harneisio'r arloesedd yn ein prifysgolion.
Bydd dur yn rhan bwysig o'n dyfodol economaidd ac mae'n ddeunydd hanfodol yn ein hymdrechion i gyrraedd sero net. O gerbydau trydan i dyrbinau gwynt ar y môr, dur yw'r edau a fydd yn rhedeg drwy’r economi, heddiw ac yfory. Mae Llywodraeth Cymru o'r farn bod dyfodol hyfyw ar gyfer gwneud dur yng Nghymru, sy'n beth da o ran twf gwyrdd ac sy'n hanfodol er mwyn ein cadw ni i gyd yn ddiogel.
Rydym yn cydnabod aruthredd y newyddion hyn heddiw i bawb yr effeithir arnynt. Byddwn yn parhau i weithio gyda Bwrdd Pontio Tata i weithredu'n gyflym er mwyn cynnig cefnogaeth i'r gweithwyr, y teuluoedd, y busnesau a’r cymunedau y mae’r newid hwn gan Tata yn effeithio arnynt, ond byddwn hefyd yn edrych ar y tymor canolig a'r tymor hwy er mwyn sicrhau dyfodol positif i'r rhanbarth.