Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bydd yr Aelodau yn ymwybodol fy mod wedi comisiynu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i gynghori ar y defnydd o dâp a llieiniau rhwyll synthetig ar gyfer anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen a phrolaps organau'r pelfis. Roedd hyn yn dilyn y cymhlethdodau difrifol a brofodd rhai menywod a oedd wedi cael triniaeth yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys yng Nghymru.
Rwy'n falch o roi gwybod ichi fy mod wedi derbyn yr adroddiad yn awr ac rwy'n ei gyhoeddi heddiw.
Yr Athro Simon Emery o Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg oedd yn cadeirio'r grŵp ac roedd yr aelodau’n cynnwys clinigwyr ac academyddion o'r meysydd wro-gynaecoleg, llawdriniaethau'r colon a'r rhefr, gofal sylfaenol, gofal iechyd annibynnol, ffisiotherapi, rheoli ymataliaeth a phoen. Dewisodd cynrychiolwyr y cleifion beidio ag ymuno â'r grŵp ond rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o Grŵp Goroeswyr Triniaethau Rhwyll Cymru a chafodd yr wybodaeth yr oeddynt hwy am ei rhannu â mi ei hanfon ymlaen at y grŵp i’w hystyried.
Cyfarfu'r grŵp rhwng mis Hydref a mis Ionawr 2018 ac ystyriwyd profiadau menywod yng Nghymru, y data ar gyfer Cymru a oedd i'w cael ar y pryd, a barn rheoleiddwyr dyfeisiau meddygol a llywodraethau'r DU a ledled y byd.
Ystyriodd y grŵp yn fanwl y gofal a roddir ar hyn o bryd i fenywod sydd ag ymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen neu brolaps organau'r pelfis yng Nghymru. Mae’r grŵp wedi gwneud amryw o argymhellion sut y gellid gwella'r gofal hwn, yn arbennig o safbwynt strategaethau ataliol a rheoli ceidwadol yn y gymuned gan gynnig llawdriniaeth i glaf fel opsiwn pan fetho popeth arall. Mae'r grŵp hefyd wedi cynghori ar drefniadau cymorth a gofal ar gyfer y rheini sydd â phroblemau ar ôl iddynt gael llawdriniaeth.
Cydnabyddir hefyd fod angen gwella'r ffordd y mae data ar y triniaethau hyn yn cael eu casglu. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth well am y triniaethau sy'n cael eu rhoi, ac am y dyfeisiau a ddefnyddir ac adrodd ar unrhyw gymhlethdodau. Rhoddwyd cyngor hefyd ar yr wybodaeth sydd ei hangen ar gleifion i wella'r penderfyniadau clinigol sy'n cael eu gwneud a sicrhau bod y broses gydsynio yn fwy cadarn, ac yn seiliedig ar roi'r holl ffeithiau i gleifion.
Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ddydd Mawrth nesaf, 8 Mai. Yn y datganiad hwnnw, byddaf yn trafod canfyddiadau allweddol yr adroddiad a'r camau gweithredu yr wyf i o’r farn y bydd angen eu cymryd i weithredu'r argymhellion.