Adolygiad o’r Cymwysterau Galwedigaethol: ymateb y Llywodraeth
Ein hymateb i’r Adolygiad o’r Cymwysterau Galwedigaethol a gynigir i ddysgwyr a chyflogwyr.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg o'r adroddiad
Cyhoeddwyd adroddiad yr Adolygiad o Gymwysterau Galwedigaethol yng Nghymru, a gomisiynwyd yn annibynnol, ym mis Medi 2023. Cadeiriwyd yr Adolygiad gan Sharron Lusher, cyn-bennaeth Coleg Sir Benfro, gyda chefnogaeth grŵp llywio a oedd yn cynnwys uwch arweinwyr o'r sectorau addysg a busnes.
Roedd comisiynu'r adolygiad yn rhan o ymrwymiad y Llywodraeth hon i weithio gyda Phlaid Cymru, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, i wireddu ein huchelgais cyffredin i ddiwygio cymwysterau yng Nghymru. Roedd hefyd yn cael ei yrru gan yr angen am eglurder ynghylch pwrpas cymwysterau galwedigaethol ac i ba raddau y mae'r ystod bresennol sydd ar gael yng Nghymru yn diwallu anghenion dysgwyr a'r gymuned ehangach.
Mae'r adroddiad yn nodi 33 o argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil newydd (y Comisiwn) a Cymwysterau Cymru. Rhestrir yr argymhellion ar gyfer y sefydliadau hynny yn Atodiad A. Mae cydweithio yn allweddol i lawer, os nad pob un, o'r argymhellion hyn. Byddwn yn gweithio'n agos â'r ddau sefydliad, a gyda rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys darparwyr addysg a hyfforddiant galwedigaethol, i wireddu uchelgais yr Adolygiad.
Rydym wedi derbyn yr argymhellion sydd wedi'u hanelu at Lywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n gofyn am weithio gyda Cymwysterau Cymru a/neu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Mae'r adroddiad hwn yn nodi ein hymateb i'r argymhellion hynny. Er na all Llywodraeth Cymru siarad ar ran y sefydliadau hyn, bydd yn gweithio gyda'r ddau ohonynt i symud yr argymhellion yn eu blaen. Bydd angen i'r sefydliadau hynny hefyd ystyried sut i ymateb i argymhellion yr adroddiad eu hunain.
Gweithredodd cynrychiolwyr Cymwysterau Cymru fel cynghorwyr annibynnol i'r grŵp llywio. Fel rheoleiddiwr annibynnol cymwysterau nad ydynt yn radd yng Nghymru, mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru ar ei adolygiadau sector, rhaglenni diwygio cymwysterau ac adolygiadau prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Mae Cymwysterau Cymru hefyd yn gweithio gyda chyrff dyfarnu a darparwyr dysgu i nodi a rheoli'r risgiau i Gymru pan fydd newidiadau polisi yn Lloegr, ac i lenwi unrhyw fylchau yn y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael, lle maent yn codi.
Mae'r Comisiwn, a fydd yn dod yn gwbl weithredol ar 1 Awst 2024, wedi'i rymuso i sicrhau bod ein sector addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei drefnu i ddiwallu anghenion dysgwyr, ein darparwyr addysg a hyfforddiant, cyflogwyr ac economi Cymru. Mae'n hanfodol ar gyfer gwireddu ein gweledigaeth strategol ar gyfer y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol yng Nghymru. Mae'r Comisiwn mewn sefyllfa dda i weithio'n effeithiol ac yn gyson ar draws y system addysg drydyddol, a gyda'n partneriaid addysg, i ddarparu dull cydlynol o ymdrin â darpariaeth addysg ôl-16 ar bob lefel ledled Cymru.
Adlewyrchwyd nifer o'r themâu a drafodir gan yr Adolygiad hefyd yn adroddiad Hefin David, Pontio i Fyd Gwaith. Mae'r ddau adroddiad yn cyflwyno argymhellion ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-16, gan gynnwys polisi a fframweithiau prentisiaethau. Rydym yn gweithio i fynd i'r afael â'r rhain.
Mae'r adroddiad yn dweud yn glir bod cryfderau y gallwn adeiladu arnynt o ran y ffordd y caiff cymwysterau galwedigaethol eu gweithredu yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys:
- yr ystod eang o gymwysterau o'r fath, sy’n cynnig dewis i ddysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu
- yn gyffredinol, boddhad dysgwyr â'r cyrsiau a ddewiswyd
- gwreiddio cymwysterau galwedigaethol mewn rhaglenni dysgu, sy’n ddigon hyblyg i ganiatáu iddynt gael eu teilwra ar gyfer dysgwyr unigol
- cefnogaeth gref gan ddiwydiant a chysylltiadau â diwydiant o ran datblygu a chyflwyno cymwysterau galwedigaethol
- nifer cynyddol o gymwysterau galwedigaethol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog
- yr ymateb cadarnhaol ar y cyfan i gymwysterau newydd 'gwneud-i-Gymru'
Byddwn yn chwilio am gyfleoedd i adeiladu ar y rhain wrth i ni weithredu argymhellion yr adroddiad.
Argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru
Strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg alwedigaethol
Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, a fyddai yn ei thro yn llywio’r cyfeiriad strategol ar gyfer cymwysterau galwedigaethol. Dylai’r strategaeth hon fod yn rhan o strategaeth ehangach ar gyfer addysg a hyfforddiant ôl-orfodol.
Argymhelliad 2: Fel rhan o’i strategaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant galwedigaethol, dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu’r pwrpas a’r egwyddorion fel y’u diffinnir.
Rydym yn derbyn bod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu arweiniad strategol clir. Byddwn yn datblygu datganiad polisi byr ar addysg ôl-16, gan roi ffocws penodol ar addysg a hyfforddiant galwedigaethol. Bydd hyn hefyd yn cyd-fynd ag ymrwymiadau strategol cysylltiedig y Llywodraeth, gan gynnwys sero net ac wrth gwrs ein cenhadaeth economaidd ar ei newydd wedd.
Rydym hefyd yn derbyn y diben a'r egwyddorion a nodir gan yr adolygiad fel a ganlyn:
Pwrpas cymwysterau galwedigaethol
Mae cymwysterau galwedigaethol yn asesu gwybodaeth, dealltwriaeth, cymwyseddau, galluoedd neu sgiliau sy’n berthnasol i fyd gwaith. Maent wedi cael eu cynllunio i asesu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau a fydd yn cefnogi dysgwyr i fod yn:
- unigolion uchelgeisiol, llawn dyhead, annibynnol a llawn cymhelliant, yn wydn ac yn gallu ymateb i’r newid yn natur y byd gwaith a chymdeithas drwy gydol eu bywydau
- dinasyddion moesegol, ymrwymedig a hyderus sy'n gyfarwydd ag egwyddorion gwaith teg, lles a phontio cyfiawn gan eu gwneud yn bartneriaid cymdeithasol effeithiol
- aelodau gweithgar o weithlu gwybodus a medrus a fydd yn diwallu anghenion economïau Cymru a rhai byd-eang, ac yn gallu cyfrannu at y gweithlu hwnnw
- gallu symud ymlaen i ddysgu pellach a/neu gyflogaeth sy’n hyblyg, yn hygyrch ac yn gynhwysol
Egwyddorion sy'n sail i gymwysterau galwedigaethol
Dylai cymwysterau galwedigaethol wneud y canlynol:
- bod yn ysbrydoliaeth i ddysgwyr
- adlewyrchu ac ymateb i anghenion economi a chymdeithas sy’n newid yn gyflym ac sy’n gwerthfawrogi gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol
- cynnwys cyfleoedd i gronni gwybodaeth, cymwyseddau, galluoedd ac arferion meddwl a datblygu sgiliau, gan gynnwys sgiliau ymarferol a hanfodol
- paratoi dysgwyr i ymuno â gweithlu dwyieithog drwy hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu a chael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg
- cael eu cynllunio fel eu bod yn cael eu darparu mewn ffordd hyblyg er mwyn annog dysgu gydol oes
- cael eu hasesu mewn ffordd sy’n briodol i’r cymhwyster
- bod yn ystyriol o’r gwerthoedd a fynegir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a natur cymdeithas, economi a diwylliant cyfoes Cymru
- bod yn gynhwysol, yn hygyrch ac yn gludadwy
- hyrwyddo cynnydd mewn fframwaith cynnydd clir a syml
Anghenion sgiliau'r dyfodol
Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu gwaith i ddiffinio beth fydd y galw yn genedlaethol am anghenion galwedigaethol a sgiliau yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd hyn yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r cwricwlwm, ochr yn ochr ag anghenion rhanbarthol a lleol sydd wedi’u mynegi’n glir ac sy’n cael eu fframio gan Bartneriaethau Sgiliau Rhanbarthol, ac yn cefnogi Cymwysterau Cymru wrth iddynt asesu’r blaenoriaethau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol.
Argymhelliad 4: Dylai Llywodraeth Cymru gyflymu’r gwaith o nodi tueddiadau cofrestru dysgwyr, a hefyd beth fydd cyrchfannau dysgwyr, er mwyn deall a yw dysgwyr yn symud ymlaen i ddiwydiant sy’n gysylltiedig â’u cymhwyster galwedigaethol. Dylid mapio’r tueddiadau hyn yn erbyn gofynion y farchnad lafur a nodir yn argymhelliad 3 uchod, er mwyn penderfynu a yw Cymru’n llwyddo i lenwi ei bylchau o ran galwedigaethau a sgiliau er mwyn bodloni dyheadau yn y dyfodol.
Argymhelliad 14: O ystyried y gostyngiad a welwyd dros y pum mlynedd diwethaf yn nifer y dysgwyr sy’n ymgymryd â chymwysterau galwedigaethol, mae Llywodraeth Cymru a’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil yn ystyried a yw’r duedd hon yn cyd-fynd â gofynion y farchnad lafur a sgiliau ar gyfer y dyfodol ac yn nodi camau gweithredu pe bai angen hynny.
Rydym yn derbyn yr argymhellion hyn, gan nodi y bydd angen gweithio'n agos gyda'r Comisiwn i weithredu argymhelliad 14. Byddwn yn parhau i weithio gyda Gyrfa Cymru i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau bod gan bobl ifanc fynediad at gyngor diduedd ar yrfaoedd yn ystod cyfnodau pontio allweddol yn eu bywydau, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r holl ddewisiadau sydd ar gael.
Rydym yn gweithio i benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio data, gan gynnwys yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr, i ddiffinio'r galw rhanbarthol a chenedlaethol yn y dyfodol ar gyfer anghenion galwedigaethol a sgiliau yng Nghymru, ac i ddeall yn well a yw dysgwyr yn symud ymlaen i ddiwydiant sy'n gysylltiedig â'u cymhwyster galwedigaethol.
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol i nodi blaenoriaethau sgiliau rhanbarthol ac isranbarthol, yn seiliedig ar wybodaeth gadarn am y farchnad lafur a geir gan gyflogwyr. Mae ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i gryfhau'r Partneriaethau a byddwn yn parhau i adeiladu ar y berthynas gadarnhaol rhyngddynt a rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae'r cynlluniau cyflogaeth a sgiliau rhanbarthol a gynhyrchir gan y Partneriaethau yn llywio ein hymagwedd at y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol, prentisiaethau a darpariaeth addysg bellach yn ogystal â blaenoriaethau eraill megis sgiliau sero net, cyflogadwyedd, sgiliau digidol a'r Gymraeg. Mae eu gwybodaeth a'u hargymhellion, ynghyd â ffynonellau perthnasol eraill, yn allweddol ar gyfer llywio datblygiad polisi, cynllun ein rhaglenni a defnyddio cyllid sgiliau. Mae'r Partneriaethau hefyd yn cefnogi Bargeinion Dinesig a Thwf ledled Cymru, gan weithredu fel partneriaethau strategol ar bob mater sy'n ymwneud â chyflogadwyedd a sgiliau.
Rydym wedi derbyn data manwl am Gymru o'r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr sy'n dangos ble mae diffygion sgiliau a'r mathau o sgiliau cyffredinol y mae’n anodd i gyflogwyr gael gafael arnynt yng Nghymru. Bydd y canlyniadau hyn yn cael eu hystyried yn erbyn y gofynion cyflogaeth a ragwelir ar gyfer y dyfodol i bennu'r berthynas rhwng y galw ar gyfer swyddi yn y dyfodol a diffygion sgiliau ar draws sectorau a galwedigaethau yng Nghymru.
Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, yn nodi'r camau rydym yn eu cymryd i helpu pawb, yn enwedig y rhai pellaf o'r farchnad lafur, i ddygymod ac ymateb i heriau sy'n gysylltiedig â gwaith y gallent eu hwynebu, boed hynny drwy hyfforddiant, uwchsgilio, newid gyrfa neu ddechrau busnes. Mae'r Cynllun yn nodi sut rydym yn cefnogi unigolion â phob math o anghenion cyflogadwyedd, gan gynnwys chwalu'r rhwystrau rhag cyflogaeth a chymorth ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol, yn ogystal â sicrhau bod y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig yn cael cyfle cyfartal a'r gefnogaeth gywir. Byddwn yn sicrhau bod argymhellion yr adolygiad yn cael eu hintegreiddio â'r blaenoriaethau a nodir yn y Cynllun gan fod sicrhau bod llwybrau galwedigaethol yn cael eu hannog ac ar gael yn agwedd allweddol.
Mae'r dirwedd economaidd yng Nghymru wedi newid yn sgil llawer o heriau yn ddiweddar, fel canlyniadau Brexit, Covid ac effeithiau parhaus yr argyfwng costau byw, ond yn fwy penodol fyth i Gymru, ffigurau anweithgarwch economaidd uwch na'r disgwyl.
Mae'r Genhadaeth Economaidd yn glir ynghylch gwella llesiant pawb yng Nghymru. Er mwyn bod yn wlad mwy cyfartal i fyw ynddi, mae'r genhadaeth yn tynnu sylw at botensial cynhyrchiol pawb mewn cymdeithas, gyda chyfleoedd yn cael eu dosbarthu’n deg a phobl yn cael swyddi teilwng a diogel. Mae hyn yn golygu ystyried lle y dylid canolbwyntio ar fynd i'r afael â heriau economaidd Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn targedu ein mentrau lle gallwn gael yr effaith fwyaf ar economi Cymru i barhau i ddatblygu ein nodau cyffredinol fel yr amlinellir yn y Genhadaeth.
Anghenion cyflogwyr a'r sector
Argymhelliad 8: Dylai Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a Chymwysterau Cymru sicrhau bod adolygiadau sector ac adolygiadau fframwaith prentisiaethau yn cael eu cydlynu’n well, ac yn ystyried defnyddio grwpiau cymwysterau sector Cymwysterau Cymru a thystiolaeth o adolygiadau thematig Estyn i lywio’r broses.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn a byddwn yn gweithio gyda Cymwysterau Cymru i'w ddatblygu. Mae prentisiaethau yn rhan allweddol o'n system sgiliau. Rydym wedi cyhoeddi datganiad polisi prentisiaethau, sy'n nodi ein nodau strategol lefel uchel ar gyfer y rhaglen.
Ar hyn o bryd nid oes perthynas uniongyrchol rhwng adolygiadau o'r sector ac adolygiadau o fframweithiau prentisiaethau. Rydym yn trafod gyda Cymwysterau Cymru i weld sut y gallai adolygiadau o fframweithiau prentisiaethau gyd-fynd â'r amserlen hirach sy'n gysylltiedig ag adolygiadau o'r sector.
Mae Cymwysterau Cymru wedi bod yn cynnal rhaglen o Adolygiadau Sector ers 2015. Mae'r rhain yn llawer ehangach o ran cwmpas, gan gwmpasu cymwysterau ar draws addysg bellach a phrentisiaethau. Er mwyn sicrhau bod fframweithiau a llwybrau prentisiaethau yn parhau i fod yn ymatebol i'r galw gan gyflogwyr, mae angen i ni eu hadolygu'n llawer amlach, gan sicrhau bod cynnwys y cymhwyster yn diwallu anghenion cyfnewidiol diwydiant.
Argymhelliad 9: Dylai Llywodraeth Cymru archwilio’r risgiau sy’n gysylltiedig â newidiadau o ran cysondeb rhwng Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol a Safonau Galwedigaethol yn Lloegr.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn ar sail y dehongliad y dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r risgiau sy'n gysylltiedig â newidiadau yn Lloegr, gan gynnwys gwrthod alinio â'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Rydym yn cymryd camau i leihau effaith newidiadau polisi yn Lloegr ac yn parhau i gadw golwg ac ymgysylltu â Lloegr ar ddatblygiadau wrth iddynt ddod i'r amlwg.
Yn wahanol i Safonau Lloegr, mae'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cael eu datblygu gan gyflogwyr o wahanol feintiau ac o amrywiaeth o leoliadau daearyddol ledled y DU gyfan, ac maent hefyd yn ystyried barn rhanddeiliaid allweddol eraill, er enghraifft, undebau llafur, cyrff masnach a phroffesiynol, cyrff dyfarnu, y trydydd sector a darparwyr addysg a hyfforddiant. Nid yw hyn yn atal cyflogwyr yn Lloegr rhag defnyddio'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol. Yng Nghymru, cynhelir ymgynghoriad â sampl cynrychioliadol o gyflogwyr, gydag asesiad o'r galw am gyfieithiad Cymraeg, er mwyn sicrhau bod lleisiau cyflogwyr Cymru yn cael eu clywed mewn datganiadau cymhwysedd galwedigaethol ledled y DU.
Mae’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn cefnogi symudedd cymdeithasol, ac yn caniatáu trosglwyddo a symud sgiliau ar draws cwmnïau, sectorau a ffiniau. Maent yn cefnogi ymrwymiadau trawsbynciol ein Rhaglen Lywodraethu i:
- adeiladu economi ar sail egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd a diwydiannau a gwasanaethau’r dyfodol
- cryfhau a chynyddu ein darpariaeth addysg Gymraeg
- creu 125,000 o brentisiaethau bob oed
- parhau â'n rhaglen hirdymor o ddiwygio addysg, a sicrhau bod anghydraddoldebau addysgol yn lleihau a bod safonau'n codi
Mae'r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol hefyd yn cefnogi ymrwymiadau ehangach o fewn y Rhaglen Lywodraethu, drwy sicrhau bod safonau sy'n sail i gymwysterau galwedigaethol yn cael eu datblygu ac yn parhau i fod yn gyfredol i adlewyrchu arferion a thechnolegau gwaith newydd a gyflwynir, er enghraifft yn y sector gofal iechyd a'r rhai sy'n ymwneud â datgarboneiddio.
Rydym wedi cyhoeddi Strategaeth Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol tair gwlad gyda'r Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'r Strategaeth yn amlinellu blaenoriaeth y Llywodraethau Datganoledig i barhau i fod yn gyson â safonau a systemau eraill, osgoi dyblygu diangen ac ystyried safonau a chymwysterau eraill. Mae Meini Prawf Ansawdd y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwyr y Safonau ystyried safonau eraill, fel y rhai yn Lloegr, i sicrhau bod y Safonau a chymwysterau galwedigaethol dilynol yn gynrychioliadol ac yn drosglwyddadwy ledled y DU, hyd yn oed pan fo gwahaniaeth rhwng polisïau sgiliau.
Mae swyddogion yn gweithio gydag ymgynghorwyr yr Adran Addysg ar gynigion i ddatblygu Cynllun Dosbarthu Sgiliau'r DU (sy'n ceisio cynnig cysylltiadau ar draws tirwedd sgiliau'r DU) i ddeall y rôl y gall y Safonau eu chwarae a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hystyried. Mae manteision o gael ystorfa ganolog ar gyfer gwybodaeth sgiliau er mwyn helpu i alinio system sgiliau'r DU, sydd wedi hollti o ganlyniad i newidiadau polisi yn Lloegr.
Cyfleoedd lleoliadau gwaith
Argymhelliad 10: Dylai Llywodraeth Cymru ymestyn cyfleoedd lleoliadau gwaith i bob dysgwr lefel 3 lle nad yw leoliad gwaith yn rhan orfodol o’u cymhwyster.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn. Gwnaed argymhellion yn adroddiad Hefin David, Pontio i Fyd Gwaith hefyd ynghylch argaeledd lleoliadau gwaith ystyrlon ar gyfer pobl ifanc 14 i 18 oed. Drwy'r Rhaglen Lleoliadau Estynedig ac elfennau cymuned, dysgwr a diwydiant yr holl raglenni amser llawn rydym yn darparu cyfleoedd i bob dysgwr lefel 3 gael mynediad at brofiad gwaith fel rhan o'u rhaglen astudio. Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol y gallai argaeledd lleoliadau gwaith perthnasol fod yn gyfyngedig mewn rhai ardaloedd yng Nghymru.
Mae'r holl raglenni amser llawn ar gyfer dysgwyr mewn sefydliadau addysg bellach a chweched dosbarth ysgolion yn cynnwys elfennau cymuned, dysgwr a diwydiant wedi'i hariannu. Mae hyn yn caniatáu i ddarparwyr deilwra cynnwys y rhaglen i ddiwallu anghenion penodol y gymuned, dysgwr neu ddiwydiant penodol a all gynnwys darparu cyfleoedd i ddysgwyr gael mynediad at leoliadau gwaith perthnasol.
Llwybrau dysgwyr
Argymhelliad 13: Dylai Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a Chymwysterau Cymru ystyried y derminoleg a ddefnyddir mewn cysylltiad â chymwysterau, a sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i nodi ffyrdd o gryfhau’r gwaith hyrwyddo, a chodi ymwybyddiaeth o werth addysg, hyfforddiant a chymwysterau galwedigaethol, i ddysgwyr a chyflogwyr.
Argymhelliad 22: Gan ddibynnu ar ganlyniad yr ymgynghoriad ar y ‘Cynnig Llawn ar gyfer Cymwysterau 14 i 16’, dylai Llywodraeth Cymru a Cymwysterau Cymru weithio gyda darparwyr dysgu a chyrff dyfarnu i sicrhau bod dysgwyr yn deall diben cymwysterau cyn-alwedigaethol, bod y cymwysterau hynny’n cael eu darparu mewn ffordd sy’n gyson â’r disgwyliadau, a bod dilyniant rhwng cymwysterau cynalwedigaethol a chymwysterau galwedigaethol ôl-16.
Argymhelliad 27: Dylai Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil weithio gyda'r holl randdeiliaid perthnasol i archwilio cynnydd drwy ddarpariaeth alwedigaethol i ddarpariaeth lefel 6, gan roi pwyslais penodol ar raddbrentisiaethau. Dylai integreiddio fertigol rhwng lefelau fod yn hollbwysig yn y model cynnydd hwn.
Rydym yn derbyn yr argymhellion hyn a byddwn yn cydweithio â'r Comisiwn a Cymwysterau Cymru wrth ymateb iddynt. Ein blaenoriaeth yw gweld pob dysgwr yn cael profiad dysgu cadarnhaol, gan sicrhau y gallant symud ymlaen yn hyderus i'w camau nesaf mewn addysg a/neu gyflogaeth.
Mae cymwysterau galwedigaethol cyn 16 wedi cael eu dilyn mewn ysgolion ers blynyddoedd lawer, gan lawer o ddysgwyr. Bwriad cyflwyno cymwysterau Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) yw caniatáu i ddysgwyr feithrin dealltwriaeth o ystod o feysydd galwedigaethol sy'n ganolog i economi Cymru ar gyfer y dyfodol. Maent yn rhoi cyfle i godi proffil addysg alwedigaethol yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed, tra hefyd yn symleiddio'r gymysgedd bresennol o gymwysterau sydd ar gael.
Rydym am gefnogi datblygiad partneriaethau cryf rhwng ysgolion a cholegau mewn perthynas â sut y caiff y cymwysterau hynny eu cyflawni, fel y gallwn sicrhau eu bod yn cael eu cyflawni'n effeithiol. Rwyf am weld cydweithio agos rhwng Cymwysterau Cymru a cholegau Cymru, ac mae Cymwysterau Cymru eisoes wedi ymrwymo i hyn, er mwyn sicrhau bod y cymwysterau hynny, pan fyddant yn cael eu cyflwyno, wedi'u cynllunio'n dda ac wedi'u cyflawni'n dda.
Mae datblygu'r Cynnig Llawn o gymwysterau 14 i 16 yn darparu cyfleoedd i ysgolion a cholegau adeiladu ar yr arfer da sydd eisoes yn bodoli a helpu i hwyluso gweithio'n agosach rhyngddynt, er budd pob dysgwr.
Cyngor ac arweiniad i ddysgwyr
Argymhelliad 15: Wrth wreiddio’r Cwricwlwm i Gymru, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod pob dysgwr yn cael cyngor teg a diduedd ar y cyfleoedd sydd ar gael iddynt mewn addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, ac yn ystyried y ffordd orau o gefnogi’r nod hwn yn benodol ar gyfer dysgwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu.
Argymhelliad 16: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16 yn cael mynediad priodol at ddysgwyr cyn-16 er mwyn darparu gwybodaeth am gynnydd i ddysgwyr.
Rydym yn derbyn yr argymhellion hyn. Rydym yn cydnabod bod angen cefnogi darparwyr i gydweithio er mwyn rhannu arfer da a datblygu llwybrau gyrfa effeithiol i ddysgwyr. Credwn y dylai dysgwyr gael mynediad diduedd a theg at wybodaeth a chanllawiau i helpu i lywio eu llwybrau addysg a gyrfaoedd yn y dyfodol.
Ar ran Gweinidogion Cymru, mae Gyrfa Cymru yn darparu gwasanaeth gyrfaoedd, addysg ac arweiniad i unigolion a sefydliadau, ac yn cysylltu addysg a busnesau. Byddwn yn parhau i weithio gyda Gyrfa Cymru i sicrhau bod pobl ifanc yn cael mynediad at wybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd am yrfaoedd ar adegau allweddol yn eu bywydau, a sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u holl lwybrau sydd ar gael, gan gynnwys dysgwyr ag anableddau ac anawsterau dysgu. Mae Gyrfa Cymru yn gweithio'n agos gyda phob ysgol uwchradd, ysgol arbennig ac Uned Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.
Rydym am weithio gyda'r Comisiwn a'r sector trydyddol i wella gwaith partneriaeth ar draws y sector addysg, gan gynnwys rhwng ysgolion a cholegau. Rydym hefyd yn datblygu canllawiau statudol ynghylch y cwricwlwm lleol ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed, a fydd yn sail i lawer o waith y Comisiwn mewn perthynas â chynllunio a darparu. Bydd hefyd yn annog cydweithio rhwng darparwyr.
Nid oes gan Lywodraeth Cymru bwerau deddfwriaethol i 'sicrhau' bod pob dysgwr yn derbyn cyngor fel y nodir yn argymhelliad 15. Fodd bynnag, gall gyhoeddi canllawiau sy'n pwysleisio ein disgwyliadau gan ddarparwyr a bydd yn ystyried sut y gellir cryfhau hyn.
Rydym wedi cyhoeddi canllawiau statudol drafft i ysgolion ar ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru fel rhan o'r gwaith o ddatblygu ein polisi ar lwybrau 14 i 19. Bydd cymwysterau cyffredinol a chymwysterau galwedigaethol bob amser yn rhan bwysig o hyn. Mae'r canllawiau dysgu 14 i 16 yn rhoi pwyslais penodol ar yr angen i ddysgwyr gael eu cefnogi wrth ystyried dewisiadau ôl-16.
Rydym yn disgwyl i ddysgu am yrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith gael eu harchwilio ar draws y cwricwlwm cyfan, gan fod y sgiliau hyn yn drosglwyddadwy, yn werthfawr iawn ac yn rhai y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Mae Addysg Gyrfaoedd a Phrofiadau sy’n Gysylltiedig â Byd Gwaith yn hanfodol i ddatblygu sgiliau gwaith a bywyd. Mae’n helpu dysgwyr i ddeall y berthynas rhwng eu dysgu a byd gwaith.
Gyrfa Cymru sy'n darparu'r gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gwybodaeth a chyngor ar yrfaoedd i bob oedran. Mae'n cynnig gwasanaeth diduedd a dwyieithog yn rhad ac am ddim, wedi'i ategu gan fynediad at arweiniad a hyfforddiant gyrfa diduedd gan gynghorwyr gyrfaoedd â chymwysterau proffesiynol. Gall Gyrfa Cymru helpu pobl ifanc ac oedolion i gynllunio eu gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i'r prentisiaethau, y cyrsiau a'r hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt. Mae'n darparu gwasanaethau i bobl ifanc ac oedolion mewn amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arweiniad gyrfaoedd wyneb yn wyneb i helpu i edrych ar syniadau ac opsiynau gyrfa, gwaith grŵp, digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu â chyflogwyr a thrwy amrywiaeth o sianeli digidol fel gwesgwrs, ffôn a thrwy'r wefan.
Trefnu’r cwricwlwm
Argymhelliad 21: Dylai Llywodraeth Cymru a darparwyr dysgu gydweithio i ystyried ffyrdd arloesol o gynnig cwricwlwm ehangach i ddysgwyr lle mae’r dewis yn fwy cyfyngedig, neu lle mae nifer fach o ddysgwyr.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym yn diweddaru canllawiau statudol i gefnogi'r cwricwlwm 16 i 19 er mwyn iddo ddilyn egwyddorion y cwricwlwm cyn 16 ond mewn ffordd sy'n briodol ar gyfer yr opsiynau sydd ar gael i ddysgwyr yn y sector ôl-16. Bydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil mewn sefyllfa dda i weithio'n effeithiol ac yn gyson ar draws y system addysg drydyddol, a chyda'n partneriaid addysg, pan fydd yn gwbl weithredol. Bydd hynny'n cynnwys cefnogi dull cydgysylltiedig o ran sut y mae darpariaeth ôl-16 yn cael ei chynnig ar bob lefel ledled Cymru, i ategu'r canllawiau statudol. Agwedd allweddol y byddem yn disgwyl ei gweld ar y rôl gynllunio honno yw ystyriaeth o'r ffordd fwyaf effeithiol y gallai'r system drydyddol sicrhau bod anghenion sgiliau Cymru ar gyfer y presennol a'r dyfodol yn cael eu diwallu. Bydd y Comisiwn yn cael cyfleoedd i hwyluso mwy o gydweithio a chydlyniant, ac yn darparu cyfleoedd pellach i adeiladu llwybrau clir i ddysgwyr i wahanol feysydd darpariaeth neu i gyflogaeth.
Cydnabod Dysgu Blaenorol
Argymhelliad 26: Dylai Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a darparwyr dysgu weithio gyda’i gilydd i archwilio a yw’r trefniadau sy’n cael eu defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer Cydnabod Dysgu Blaenorol yn dal yn briodol, ac ystyried rhinweddau eu cymhwyso mewn ffordd gyson ledled Cymru.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn. Rydym eisoes yn gwneud cynnydd yn y maes hwn ac yn ystyried egwyddorion lefel uchel Cydnabod Dysgu Blaenorol. Mae Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru yn cydnabod pwysigrwydd a manteision Cydnabod Dysgu Blaenorol, sy'n ceisio lleihau achosion o ddyblygu mewn rhaglenni hyfforddi ac sy'n caniatáu i gymwysterau rheoledig gael eu hennill, yn llawn neu'n rhannol, drwy gydnabod dysgu blaenorol.
Ar hyn o bryd nid oes polisi ffurfiol ar hyn yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Grŵp Cynghori'r Fframwaith yn arwain gwaith i gytuno ar argymhellion ar gyfer prosesau sy'n ymwneud â rheoli a sicrhau ansawdd cydnabod sgiliau blaenorol. Byddwn yn gweithio gyda'r Comisiwn i ddatblygu'r gwaith hwn.
Cymwysterau galwedigaethol i Gymru
Argymhelliad 29: Ni ddylai Cymru fabwysiadu’r un dull gweithredu ag yn Lloegr wrth roi Lefelau T ar waith, ond dylai gadw golwg wrth i’r cymwysterau aeddfedu.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn. Nid ydym yn mabwysiadu Lefelau T yng Nghymru ac rydym yn edrych am y dulliau sy'n gweddu orau i Gymru. Mae lefelau T yn gynnyrch penodol iawn gan Lywodraeth y DU sy'n ymateb i anghenion cyflogwyr yn Lloegr.
O ran cyhoeddiad Llywodraeth y DU i ddisodli cymwysterau Safon Uwch a Lefelau T â chymhwyster Safon Brydeinig Uwch, mae Cymru eisoes yn arwain y ffordd yn y maes hwn. Cyflwynwyd y Fagloriaeth Sgiliau Uwch yng Nghymru ym mis Medi 2023 a bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr Safon Uwch 16 i 18 yn ei gymryd. Mae'n darparu ystod ehangach o wybodaeth a sgiliau y tu hwnt i dair Lefel A, gan gynnwys llythrennedd a rhifedd. Mae'r cymhwyster yn un uchel ei barch gan golegau a phrifysgolion ac mae'r mwyafrif yn ei ystyried yn gyfwerth â Safon Uwch. Disgwylir eisoes i ddysgwyr Cymru wneud cynnydd mewn rhifedd a llythrennedd ar ôl 16 oed trwy'r Dystysgrif Her Sgiliau, ailsefyll TGAU neu gymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru.
Argymhelliad 28: Dylai Cymru gadw marchnad agored mewn perthynas â chymwysterau galwedigaethol, ac ni ddylid mynd ati i greu un corff dyfarnu cenedlaethol.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn. Mae unrhyw fanteision o sefydlu un corff dyfarnu cenedlaethol i Gymru yn cael eu gorbwyso gan raddfa'r costau sy'n gysylltiedig â chreu corff o'r fath, y newidiadau strwythurol dan sylw a'r tebygolrwydd mai ychydig iawn o welliannau cadarn fyddai i ddysgwyr neu ddeilliannau dysgwyr. Ein nod yw cynnal dewis i ddysgwyr, i'r graddau y bo'n ymarferol, mewn perthynas â'r ystod o gymwysterau sydd ar gael. Mae angen i ni hefyd sicrhau bod cymwysterau o'r fath yn gludadwy ac yn cael eu cydnabod y tu allan i Gymru.
Argymhelliad 31: Dylid derbyn yr ymadrodd wedi’u gwneud i Gymru fel terminoleg, a dylid mabwysiadu’r diffiniad o gymwysterau sydd wedi’u gwneud i Gymru.
Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn. Roedd yr Adolygiad yn argymell mabwysiadu'r term 'wedi'u gwneud i Gymru' yn hytrach na 'wedi'u gwneud yng Nghymru'. Mae hwn yn ddull synhwyrol a phragmatig, a fydd yn lleihau dryswch ac amwysedd. Er enghraifft, dryswch ynghylch a fyddai cyrff dyfarnu sy'n gweithredu yng Nghymru, ond heb eu lleoli yma, yn gallu parhau i wneud hynny, gyda'r perygl y gallai cymwysterau galwedigaethol hirsefydlog ac uchel eu parch beidio â chael eu cynnig i ddysgwyr Cymru. Mae 'wedi'u gwneud i Gymru' eisoes wedi dod yn derm cyfarwydd. Er enghraifft, cyflwynodd Cymwysterau Cymru gymwysterau galwedigaethol newydd 'wedi'u gwneud i Gymru' ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Medi 2019) ac Adeiladu (Medi 2021) o ganlyniad i'r Rhaglen Adolygu Sector. Mae wedi cynnal 'adolygiadau cyflym' o'r ddwy gyfres o gymwysterau, i fynd i'r afael â phryderon a godwyd gan ddarparwyr dysgu ynghylch cynllunio a gweithredu rhai o'r cymwysterau newydd.
Rydym yn derbyn diffiniad yr adroddiad o gymwysterau wedi'u gwneud i Gymru, a gymeradwywyd gan 85% o uwch arweinwyr ar draws y sectorau addysg a busnes mewn digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mis Mehefin 2023, fel cymwysterau sydd:
- wedi'u cynllunio neu eu haddasu i ddiwallu anghenion penodol dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr yng Nghymru
- â rhanddeiliaid o Gymru wedi'u cynnwys yn y gwaith o gynllunio, datblygu ac adolygu cymwysterau
- â chynnwys sy'n ddigon hyblyg i ymwneud â chyd-destun Cymru, ei blaenoriaethau a'i pholisïau
- ar gael yn ddwyieithog
Rydym yn cytuno y dylai'r cymwysterau wedi'u gwneud i Gymru fod y 'gorau' sydd ar gael. Dylai'r cynnwys adlewyrchu'r arferion diweddaraf yn y diwydiant, ennyn diddordeb, caniatáu i ddarparwyr eu cyflwyno mewn ffordd arloesol a chreadigol, a mabwysiadu'r dulliau asesu gorau i adlewyrchu'r maes galwedigaethol dan sylw a phwrpas y cymhwyster. Rydym hefyd yn cytuno bod rhaid i unrhyw gymwysterau o'r fath gael eu cydnabod yn eang gan gyflogwyr a phrifysgolion a chael eu derbyn yn genedlaethol ac yn rhyngwladol lle bo hynny'n briodol.
Rydym yn derbyn bod angen bod yn bragmatig wrth edrych ar gyfleodd i ddatblygu cymwysterau galwedigaethol sydd wedi'i gwneud i Gymru. Bydd hyn yn golygu adolygu'r cymwysterau presennol a chymwysterau newydd i sicrhau eu bod yn addas i'r diben, yn diwallu anghenion dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr, a'u bod ar gael yn ddwyieithog. Bydd hefyd yn golygu cynnal dewis i ddysgwyr, cyn belled ag y bo modd, wrth gydnabod yr angen i sicrhau bod gennym y sgiliau cywir i gefnogi ein blaenoriaethau economaidd.
Atodiad A: Argymhellion ar gyfer Cymwysterau Cymru a'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Argymhellion ar gyfer Cymwysterau Cymru
Argymhelliad 5: Bod Cymwysterau Cymru yn adnewyddu ei ddull ar gyfer adolygiadau sector, gan ailedrych lle bo angen ar sectorau sydd eisoes wedi cael eu hystyried. Dylai’r gwaith hwn gyd-fynd â’r strategaeth addysg a hyfforddiant galwedigaethol y cyfeirir ati yn argymhelliad 1, ac â’r dadansoddiad o’r gofynion o ran galwedigaethau a sgiliau yn y dyfodol y cyfeirir atynt yn argymhelliad 3.
Argymhelliad 6: Dylai Cymwysterau Cymru ehangu cylch gwaith grwpiau cymwysterau’r sector i roi cyngor ar ofynion yn y dyfodol, gan gynnwys rhanddeiliaid eraill i ategu’r grwpiau hyn lle bo hynny’n briodol.
Argymhelliad 7: Dylai Cymwysterau Cymru gyflwyno canfyddiadau a chynigion pob adolygiad sector i’w Fwrdd, er mwyn rhoi cyfle i graffu a herio cynigion a wnaed cyn eu cyhoeddi.
Argymhelliad 11: Dylai Cymwysterau Cymru edrych ar y cyd â rhanddeiliaid ar y ffordd orau o gydnabod dysgu generig yn y gweithle.
Argymhelliad 12: Wrth ystyried cymeradwyo cymwysterau a’r cyfundrefnau asesu yn y cymwysterau hynny, dylai Cymwysterau Cymru roi mwy o ystyriaeth i ba mor hawdd yw rheoli asesiadau, o safbwynt dysgwr a darparwr dysgu.
Argymhelliad 19: Gan weithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, dylai Cymwysterau Cymru gyhoeddi ei gynllun i gynyddu nifer y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ac yn ddwyieithog, gan gydnabod y gall hyn ganolbwyntio ar y cymwysterau gyda’r niferoedd mwyaf wedi cofrestru arnynt a lle mae’r galw mwyaf am y Gymraeg.
Argymhelliad 20: Dylai Cymwysterau Cymru ddatblygu ei gronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru ymhellach i roi mwy o fanylion am y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.
Argymhelliad 23: Dylai Cymwysterau Cymru weithio gyda rhanddeiliaid i gynhyrchu ‘mapiau ffordd’ cymwysterau galwedigaethol i alluogi dysgwyr i nodi cyfleoedd cynnydd ym mhob sector.
Argymhelliad 24: Dylai darparwyr dysgu hyrwyddo unedau unigol neu luosog o gymwysterau galwedigaethol i gyflogwyr lle bo hynny’n briodol, a dylai Cymwysterau Cymru annog cyrff dyfarnu i sicrhau bod tystysgrifau unedau ar gael i ateb y galw.
Argymhelliad 30: Fel mesur tymor byr/canolig, dylai Cymwysterau Cymru barhau i weithio gyda chyrff dyfarnu i ymestyn dyddiad dechrau terfynol arferol y cymwysterau lle bo hynny’n briodol, a dylai roi’r wybodaeth ddiweddaraf i ddarparwyr dysgu am newidiadau posibl i gymwysterau drwy gyfathrebu clir a rheolaidd.
Argymhelliad 32: Pan fydd Cymwysterau Cymru yn comisiynu cymwysterau newydd, byddant yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff sy’n cynrychioli darparwyr dysgu i sefydlu datblygiad proffesiynol a goblygiadau o ran adnoddau, ac yn datblygu cynllun gweithredu ar y cyd.
Argymhelliad 33: Dylai Cymwysterau Cymru adnewyddu ei ddull ar gyfer adolygiadau sector drwy ddatblygu cynllun 10 mlynedd, gan gynnwys adolygiadau thematig, a nodi cymwysterau y dylid eu gwneud i Gymru. Lle bo angen diwygio cymwysterau, dylai Cymwysterau Cymru ystyried yn gyntaf yr opsiynau ar gyfer diwygio neu addasu cymwysterau presennol, a dim ond lle mae angen sicrhau ymrwymiad cyrff dyfarnu y dylai Cymwysterau Cymru gomisiynu cymwysterau newydd a chyfyngu arnynt.
Argymhellion ar gyfer y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
Argymhelliad 17: Dylai’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil gynnull grŵp gorchwyl a gorffen i ystyried gofynion mynediad i raglenni dysgu galwedigaethol i ddeall y gwahaniaethau presennol mewn gofynion, ac i benderfynu ar yr opsiynau gorau ar gyfer dysgwyr yng Nghymru. Bydd rhaid i hyn ystyried tegwch ar draws y gofynion mynediad ar gyfer pob cymhwyster.
Argymhelliad 18: Dylai’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil weithio gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddatblygu ffordd y gall staff sy’n gallu siarad Cymraeg gefnogi amrywiaeth o ddarparwyr dysgu, os ydynt yn fodlon gwneud hynny.
Argymhelliad 25: Dylai’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil ddarparu cronfa 'ymateb cyflym' i ddarparwyr dysgu, yn seiliedig ar anghenion a nodwyd a chanlyniadau cynaliadwy, i'w galluogi i ymateb yn gyflym i ofynion y diwydiant.