Huw Irranca-Davies AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae ein Strategaeth Economi Gylchol, Mwy nag Ailgylchu, a gyhoeddwyd yn 2021, yn datgan ein nodau i sicrhau Cymru ddiwastraff erbyn 2050. Un o ymrwymiadau allweddol y Strategaeth yw rhoi'r gorau'n raddol i ddefnyddio cynhyrchion plastig untro, gyda'r amcan tymor hwy o fynd i'r afael â chynhyrchion untro eraill waeth beth fo'u deunydd.
Yn ein hymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2020, Lleihau Plastig Untro, cafwyd cefnogaeth ysgubol ar gyfer cynigion i wahardd nifer o gynhyrchion plastig untro sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel yng Nghymru, gyda dros 85% o'r ymatebwyr o blaid. Roedd ymatebwyr i'r ymgynghoriad hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach gyda rhyw 60 o gynhyrchion ychwanegol yn cael eu hawgrymu ar gyfer gweithredu yn y dyfodol.
Fe wnaethom wrando ar y galwadau hyn a chyflwyno Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 (y Ddeddf). Dyma ddarn allweddol o ddeddfwriaeth sydd â'r nod o droi'r llanw ar lygredd plastig. Mae cam cyntaf y gwaharddiadau ar gyfer y cynhyrchion sydd wedi'u cynnwys yn y Ddeddf eisoes wedi dechrau a bydd yr ail gam yn cael ei gwblhau cyn diwedd tymor y Senedd hon, yn amodol ar ewyllys y Senedd.
Wrth i'r Ddeddf basio drwy'r Senedd, cytunodd fy rhagflaenydd i flaenoriaethu ystyried gwaharddiadau ar gyfer sawl math arall o gynnyrch, roedd hyn yn cynnwys weips gwlyb sy’n cynnwys plastig. Cytunwyd ar ddull gweithredu ledled y DU i gyflwyno rheoliadau i wahardd cyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig, sydd i'w ddarparu gan bob Llywodraeth unigol. Bydd mabwysiadu'r dull hwn yn sicrhau cysondeb o ran sut y caiff ein rheoliadau eu gweithredu a bydd yn rhoi dealltwriaeth glir i fusnesau a gweithgynhyrchwyr o'r hyn sy'n ofynnol ganddynt.
Rhwng 14 Hydref a 25 Tachwedd 2023, fe wnaethom ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth y DU a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar y gwaharddiad arfaethedig ar gynhyrchu, cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy'n cynnwys plastig. Cafwyd cyfanswm o 1461 o ymatebion i'r ymgynghoriad o Gymru.
Mae ymateb Llywodraethau'r pedair gwlad bellach wedi'i gyhoeddi (dolen allanol), mae'n nodi canlyniadau'r ymgynghoriad a'r mesurau y bydd y pedair llywodraeth nawr yn eu datblygu. Mae hyn yn cynnwys cytundeb i:
- Wahardd cyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig. Rydym wedi gwrando ar randdeiliaid ac yn cydnabod maint y diwydiant gweithgynhyrchu yn y DU. Felly, fe wnaethom benderfynu cyflwyno gwaharddiad ar gyflenwi'r weips hyn, yn unol â chwmpas y gwaharddiadau a gyflwynwyd o dan y Ddeddf. Bwriad hyn yw lliniaru effaith economaidd y gwaharddiad a lleihau'r posibilrwydd o golli swyddi yn y diwydiant.
- Darperir cyfnod pontio o 18 mis i alluogi gweithgynhyrchwyr i symud y gwaith cynhyrchu i ddeunyddiau amgen ac i leihau'r risg y byddai stociau sy'n weddill yn cael eu hanfon i safleoedd tirlenwi neu'n cael eu llosgi.
- Darparu eithriad ar gyfer cyflenwi a gwerthu weips gwlyb sy'n cynnwys plastig at ddibenion diwydiannol a meddygol. Daw hyn yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad a amlygodd bod dewisiadau amgen di-blastig o safbwynt rhai defnyddiau yn anaddas, neu nad oes unrhyw ddewisiadau amgen ar gael. Bydd manylion llawn yr eithriadau hyn yn cael eu cynnwys yn y rheoliadau, fodd bynnag, bydd yn caniatáu i fusnesau fel ysbytai a safleoedd cynhyrchu bwyd brynu weips gwlyb sy'n cynnwys plastig gan fusnesau eraill, fel cyfanwerthwyr. I'r rhai sy'n derbyn gofal meddygol neu sydd angen gofal meddygol yn eu cartref eu hunain, bydd yr eithriad yn caniatáu i fferyllfeydd cofrestredig gyflenwi a gwerthu. Ni chaniateir rhoi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig ar werth ar silffoedd a bydd rhaid i gwsmeriaid y mae angen y cynhyrchion hyn arnynt at ddibenion meddygol ofyn yn benodol i'r fferyllydd amdanynt. Mae hwn yn fodel tebyg i'r hyn a weithredwyd ar gyfer y gwaharddiad gwellt plastig.
Ein bwriad yw bod y gwaharddiad ar weips gwlyb sy'n cynnwys plastig yn dod i rym erbyn Mehefin 2026.
O dan ddeddfwriaeth ar wahân, rydym hefyd yn cymryd camau i wahardd cyflenwi fêps untro. Mae'r cynhyrchion hyn yn cael effaith amgylcheddol sylweddol ac yn tanseilio ein hymdrech o symud tuag at economi gylchol. Mae dros 360 miliwn o fêps o'r fath yn cael eu prynu bob blwyddyn yn y DU, a deunyddiau gwerthfawr a chritigol fel lithiwm a chopr yn cael eu taflu'n rheolaidd, a allai fod fel arall yn cael eu defnyddio i bweru bron i 5,000 o gerbydau trydan.
Rydym wrthi'n datblygu'r rheoliadau hyn ac rwy'n cadarnhau mai ein bwriad yw i'r gwaharddiadau ar fêps untro ddod i rym yng Nghymru ar 1 Ebrill 2025. Bydd hyn yn cyd-fynd â gwaharddiadau tebyg yn Lloegr a'r Alban a bydd yn rhoi'r amser angenrheidiol i fusnesau baratoi, gyda chanllawiau a deunyddiau cyfathrebu a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â grwpiau sy'n cynrychioli busnesau yn cael eu cyhoeddi i gefnogi'r broses.
Rwyf wedi ymrwymo i gefnogi camau gweithredu i leihau gwastraff a chynyddu effeithlonrwydd adnoddau drwy ddilyn egwyddorion yr hierarchaeth wastraff: Lleihau, Ailddefnyddio, Ailgylchu. Mae hyn yn cynnwys symud i ffwrdd oddi wrth fodel cymryd, gwneud a gwastraffu, a thuag at economi gylchol.