Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod dros £100 miliwn yn cael eu buddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo twf economaidd.
Cafodd 22 awdurdod lleol Cymru eu gwahodd i gyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt gael mynd ati i wella trafnidiaeth leol yn eu hardaloedd mewn ffordd a fydd o gymorth i wireddu'r blaenoriaethau a'r amcanion yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru - Llwybr Newydd.
Dyma rai o'r blaenoriaethau hynny:
- Mynd i'r afael ag achosion o dywydd garw yn tarfu ar y rhwydwaith priffyrdd
- Gwella diogelwch ar y ffyrdd
- Darparu llwybrau cerdded a beicio
- Gwella amseroedd teithio ar fysiau a gwella cyfleusterau aros
- Darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan fydd ar gael i'r cyhoedd
Mae'r cymorth sylweddol hwn, y bwriedir iddo helpu cynghorau lleol i wella trafnidiaeth yn eu hardal, yn cynnwys cyllid ar gyfer teithio llesol a llwybrau diogel, diogelwch ar y ffyrdd, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, gwella gallu ffyrdd i ymdopi â thywydd garw, trafnidiaeth leol, a ffyrdd heb eu mabwysiadu.
Ymhlith y prosiectau a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn y mae gwaith i wella cysylltiadau cerdded a beicio â gorsaf Llandudno, cyllid ar gyfer cyfnewidfa fysiau Hwlffordd, buddsoddi mewn diogelwch llwybrau yn Llanidloes, a chymorth ar gyfer coridorau bysiau yng Nghaerdydd.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:
Mae'r grantiau 'ma'n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf cynaliadwy yn yr economi leol, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, ac i greu a gwella llwybrau a fydd yn galluogi ac yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio.
Mae'r prosiectau 'ma'n enghreifftiau penigamp o'r atebion ymarferol rydyn ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol eu dylunio er mwyn ei gwneud yn haws i drigolion gyrraedd eu gweithleoedd a'u busnesau, ac i wneud hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy.
Mae'r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu at ddyraniadau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol ar gyfer camau gwahanol rhai o'r prosiectau.
Mae rhestr o'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu, yn ôl awdurdod lleol, ar gael ar ein wefan.