Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ein helpu i ofyn cwestiwn sylfaenol:

Sut gall yr hyn a wnawn heddiw fod o fudd i bobl sy’n byw nawr heb danseilio gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain?

Mae’r Ddeddf yn datgan mai datblygu cynaliadwy yw prif egwyddor drefniadol Llywodraeth Cymru ac mae’n ein helpu i sicrhau cydbwysedd ac integreiddio rhwng ein dyheadau diwylliannol, economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol.

Dysgu a gwella parhaus yn Llywodraeth Cymru

Ym mis Chwefror 2023 fe wnaethom gyhoeddi ‘Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’. Roedd y Cynllun yn nodi pa newidiadau byddem yn eu gwneud rhwng 2023 a 2025 i ddyfnhau’r ddealltwriaeth a’r defnydd o’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio. Mae hyn yn golygu gwreiddio’r pum ffordd o weithio wrth galon ein gwaith – gwerthfawrogi integreiddio, cydweithio a chynnwys i’r un graddau ag atal a meddwl am yr hirdymor.

Fe wnaethom hyn oherwydd bod gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i ddatblygu cynaliadwy a gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl hefyd o ran arwain, ysbrydoli a darparu cyfarwyddyd i Gymru ar sut mae gweithredu’r Ddeddf.

Yng Nghymru, nid dim ond Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am feddwl am genedlaethau nawr ac yn y dyfodol. Mae mwy na 100 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru yn rhwym wrth y dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf. Mae llawer o sefydliadau, busnesau, cymunedau a phobl eraill wedi cael eu hysbrydoli i weithredu oherwydd y ddeddf er nad ydynt yn rhwym wrth ddyletswyddau o’r fath. Mae llawer ohonynt yn trefnu eu gwaith ar egwyddorion ac arferion sylfaenol a oedd naill ai’n cael eu creu gan y Ddeddf neu sydd wedi dod i’r amlwg dros y degawd diwethaf o’i herwydd.

I sicrhau bod y ffordd ddiweddaraf o feddwl yn cael ei hymgorffori ym mhopeth a wnawn, mae angen inni ddatblygu, monitro ac esblygu systemau ac arferion yn barhaus sy’n helpu’r sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector i gyd i gyflawni’r addewid y mae cynifer o ddinasyddion yn gofyn amdano yn y sgwrs genedlaethol a arweiniodd at greu’r Ddeddf – y Gymru a Garem. I roi syniad o’i faint, mae’r Cynllun yn cynnwys mwy na 50 o gamau gweithredu, sy’n cael eu dal gan 40 o ddeiliaid camau sydd, at ei gilydd, yn cyflawni newid mewn sefydliad sy’n cynnwys oddeutu 5,250 o bobl. Mae'r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy yn monitro’r cynnydd sy’n cael ei wneud yn erbyn pob cam gweithredu. Mae rhai o gamau gweithredu’r Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi cael eu cwblhau’n barod. Bydd hi’n cymryd mwy o amser i rai eraill, oherwydd eu hyd a’u lled a'u cyrhaeddiad.

Yn aml mae’r camau gweithredu hyn yn torri ar draws themâu, yn cynnwys nifer o adrannau yn Llywodraeth Cymru a nifer o’n rhanddeiliaid allanol, sy’n cyfrannu llawer iawn at ein dealltwriaeth o’r hyn a fydd yn gwella ein hymarfer. Mae hyn yn cynnwys ein partner allweddol, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, rydym yn gweithio’n agos gyda nhw ar nifer o’n camau gweithredu, gan adeiladu ar argymhellion eu hadolygiad Adran 20. Mae’r pum ffordd o weithio yn arwain yr holl welliannau a wnawn i’n gwaith. Rydym yn bwriadu cwblhau pob cam gweithredu erbyn diwedd 2025.

Fframwaith Llywodraethu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru

Mae’r Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus gwreiddiol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a’r diweddariad hwn ar gynnydd, ill dau wedi cael eu strwythuro o amgylch Fframwaith Llywodraethu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.

Egwyddor trefnu ganolog y fframwaith yw'r pum ffordd o weithio:

  • hirdymor
  • integreiddio
  • cynnwys
  • cydweithio
  • atal.

Thema un: Gweinidogion Cymru

Sicrhau bod y Llywodraeth yn cyfrannu cymaint â phosibl at y nodau llesiant drwy bennu a chyflawni amcanion llesiant:

  • deall cyfraniad y llywodraeth at y nodau
  • y rhaglen lywodraethu (amcanion llesiant)
  • cyflawni
  • adolygu’r amcanion yn flynyddol
  • cyfathrebu (adroddiad blynyddol)
  • hyrwyddo datblygu cynaliadwy.

Thema dau: Galluogi eraill

Galluogi, arwain a dylanwadu ar eraill i gyfrannu at y nodau llesiant:

  • ein perthynas â phartneriaid cyflawni / cyrff a noddir
  • dylanwadu ar eraill
  • y trydydd sector
  • busnesau
  • y sector cyhoeddus
  • canllawiau statudol
  • cyfathrebu
  • hyrwyddo’n rhyngwladol.

Thema tri: Deall Cymru

Gwneud polisïau a phenderfyniadau mwy cynaliadwy yn bosibl drwy ddeall Cymru heddiw a dyfodol Cymru yn well:

  • olrhain cynnydd cenedlaethol yn erbyn y nodau (50 o ddangosyddion cenedlaethol)
  • penderfynu ar faint y newid (Cerrig Milltir Cenedlaethol)
  • adroddiad blynyddol ‘Llesiant Cymru’
  • ‘Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol’ (bob tymor)
  • Arolwg Cenedlaethol Cymru
  • Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi.

Thema pedwar: Y Gwasanaeth Sifil

Gwella’r cymorth a’r cyngor a roddir i Weinidogion Cymru drwy wreiddio’r pum ffordd o weithio.

Meysydd sicrwydd Llywodraeth Cymru:

  1. Cynllunio ac adolygu corfforaethol
  2. Cyflawni gweithredol (gan gynnwys grant/caffael)
  3. Rheoli asedau ariannol
  4. Pobl a diwylliant
  5. Rheoli gwybodaeth a diogelwch
  6. Risg a Chydymffurfiaeth Rheoleiddiol
  7. Llunio polisïau integredig

Thema pump: Newid y diwylliant

Sicrhau bod gweithio’n gynaliadwy yn rhan weladwy o’n hymddygiad.

Thema chwech: Gwneud iddo ddigwydd

Rydym yn mynd ati’n barhaus i sbarduno gwelliannau o ran gweithredu’n unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy drwy oruchwylio amrywiaeth eang o swyddogion a sicrhau eu hymrwymiad, a gallwn adrodd yn hyderus ein hanes o wella a dysgu.

Image

Ein cynnydd

Mae’r adran hon yn rhoi disgrifiad manwl o’n cynnydd ar yr holl gamau gweithredu a nodir yn y ‘Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus: Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’. Mae’n cynnwys chwe is-adran, pob un yn rhoi sylw i un o’r themâu a nodir yn Fframwaith Llywodraethu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (gweler uchod).

Ar gyfer pob un o’r themâu hyn, rydym wedi rhoi cyflwyniad cyflym i’r thema cyn mynd ymlaen i ddisgrifio’r hyn rydym yn ei ddysgu o’r gwaith rydym yn ei wneud a pha adnoddau sy’n arbennig o ddefnyddiol inni. Dyma ein hawgrymiadau gorau. Byddem yn hoffi clywed eich awgrymiadau chi drwy Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru

Rydym hefyd yn cynnig adroddiad manwl o’r cynnydd ar bob cam gweithredu o’r Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gwreiddiol a chrynodeb byr i gloi. Nid bwriad hyn yw rhoi’r gair olaf o bell ffordd, mae’n rhan o’n deialog barhaus gyda’n holl randdeiliaid. Gobeithio eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich gwahodd i gysylltu â ni.

Mae cynnull gofodau (ar-lein, wyneb yn wyneb, a hybrid), lle gallwn feddwl yn wahanol, bod yn greadigol a datblygu atebion cydweithredol, yn ganolog i lwyddiant.

Mae llawer iawn i’w ddysgu o hyd, a bydd hynny’n wir bob amser. Wrth inni ddefnyddio'r egwyddor datblygu cynaliadwy rydym yn canfod sut mae cynnwys, cydweithio, integreiddio, atal a meddwl am yr hirdymor yn ddyfnach y tro nesaf. Mae’r broses barhaus hon o ddysgu ar y cyd yn ganolog i roi’r Ddeddf ar waith yn llwyddiannus a sut mae’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus penodedig ac, wrth gwrs, eraill sy’n mabwysiadu’r dull hwn, yn symud Cymru tuag at y saith nod llesiant.

Thema un: Rôl Gweinidogion Cymru

Cyflwyniad

Rôl Gweinidogion Cymru yng nghyswllt Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw cynyddu cyfraniad Llywodraeth Cymru at y nodau llesiant drwy osod a thrwy gyflawni amcanion llesiant. Roedd y Cynllun Dysgu a Datblygu Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi nodi saith cam gweithredu yn y thema hon:

  • adrodd yn flynyddol ar y ‘Rhaglen Lywodraethu’
  • helpu’r pwyllgor gweithredol i roi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith
  • ymgysylltu â’n rhwydwaith rhyngwladol
  • ein rôl fel cynullydd Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • codi ymwybyddiaeth o’r nodau llesiant ar hyd a lled Cymru
  • codi ymwybyddiaeth o’n Hadroddiad Tueddiadau'r Dyfodol ymysg gweinidogion ac uwch arweinwyr
  • cwmpasu natur gwerthusiad o’r Ddeddf

I gael disgrifiadau llawn o’r holl gamau gweithredu a’r cynnydd rydym wedi’i wneud ym mhob un (rhwng mis Chwefror 2023 a mis Chwefror 2024) ewch i Ein cynnydd ar gamau gweithredu 1.1 - 1.7 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024). Yn gyntaf, darllenwch am yr hyn rydym yn ei ddysgu o’n gwaith a’r hyn sy’n ddefnyddiol i ni.

Beth rydym yn ei ddysgu?

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yw ein lens gorau, mwyaf ymarferol a moesegol i’w ddefnyddio i edrych ar y broses o wneud penderfyniadau. Mae’n ategu ac yn gweithio gyda dyletswyddau cyfreithiol eraill sy’n llywio ac yn siapio’r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau yn Llywodraeth Cymru. Er mor anodd neu ddyrys yw’r penderfyniadau hynny i bob golwg, mae treulio amser yn defnyddio’r pum ffordd o weithio yn ein helpu i wneud yn well.

Mae’r ‘Rhaglen Lywodraethu’ ddiweddaraf a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2021 yn nodi ein deg amcan llesiant. Yn ein barn ni, dyma’r meysydd lle gallwn wneud y cyfraniad mwyaf at y saith nod llesiant.

Yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, maent yn canolbwyntio ar y galluogwyr allweddol, sy’n caniatáu i bobl ac i gymunedau ffynnu, nawr ac yn y dyfodol, yn ogystal â sicrhau ein bod yn diogelu ac yn adfer adnoddau ac amgylchedd naturiol Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae rhagor o fanylion am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran cyflawni ein hamcanion llesiant ar gael yn ein Hadroddiadau Blynyddol ar y Rhaglen Lywodraethu.

Mae aelodau Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi ein cefnogi i ddatblygu’r cynllun dysgu a gwella parhaus. Rydym yn ddiolchgar iddynt ac i’r holl weision sifil perthnasol.

Beth sy’n ddefnyddiol i ni? (Ein hawgrymiadau gorau)

Gwirio Cynnydd Dull o Weithio a ddatblygwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Rhannu’r hyn a ddysgwyd o gyflawni ein dyletswyddau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy ddod â chyrff presennol a newydd at ei gilydd drwy ein digwyddiadau Cyfnewid Gwybodaeth.

Ein cynnydd ar gamau gweithredu 1.1 - 1.7 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024)

1.1 Byddwn yn parhau i wreiddio’r amcanion llesiant yn ein hadroddiadau blynyddol ar y ‘Rhaglen Lywodraethu’

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol ar ein cynnydd at gyflawni ein hamcanion llesiant ar 4 Gorffennaf 2023.

1.2 Byddwn yn parhau i helpu’r pwyllgor gweithredol i roi’r egwyddor datblygu cynaliadwy ar waith yn eu rôl yn cefnogi’r Ysgrifennydd Parhaol fel Prif Gynghorydd Polisi y Prif Weinidog

Roedd y pwyllgor gweithredol yn rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus a bydd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn 2024.

1.3 Byddwn yn parhau i gydweithio â’n rhwydweithiau rhyngwladol i rannu a dysgu gan lywodraethau eraill ar draws y byd – gan ganolbwyntio ar ein haelodaeth o Regions4 a phartneriaeth Llywodraethau’r Economi Llesiant (WEGo)

Rydym wedi diweddaru memorandwm cyd-ddealltwriaeth Llywodraeth Cymru gyda Llywodraeth Fflandrys i rannu arferion a dysgu ar ragargoeli ac wedi gweithio gyda chymheiriaid yng Nghatalwnia, Gwlad y Basg a Llydaw.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau eraill:

  • prif araith y Prif Weinidog yn y Seminar Ryngwladol ar Fetropolis y Dyfodol yn Bilbao
  • roedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cymryd rhan yn Fforwm Rhanbarthol Iechyd yn yr Economi Llesiant Sefydliad Iechyd y Byd yn Copenhagen
  • roedd swyddogion wedi cymryd rhan yn y Fforwm Economi Llesiant yn Reykjavik, labordai’r bartneriaeth Llywodraethau Llesiant (WEGo), Rhwydwaith Llunwyr Polisïau’r Economi Llesiant, gweithgareddau’r Ganolfan Polisi Ewropeaidd, digwyddiadau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a chyfarfodydd Regions4.

1.4 Byddwn yn parhau i ymgysylltu â fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn bwrw ymlaen â cham nesaf y gwaith o wreiddio dull gweithredu Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ledled Cymru

Rydym wedi gwneud newidiadau i adlewyrchu cwmpas a hyd a lled yr agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru ac i wella tryloywder Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydym wedi adnewyddu cylch gorchwyl y fforwm, wedi ymestyn yr aelodaeth er mwyn cael rhagor o arbenigedd a sicrhau bod nodiadau cyfarfodydd ac adnoddau ar gael ar ein gwefan.

Mae siaradwyr y Fforwm wedi cynnwys:

  • y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip
  • Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
  • y Comisiwn Newid Hinsawdd
  • tîm Pontio Teg Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru
  • Tîm System y Cenhedloedd Unedig Llywodraeth y DU ar Uwchgynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Dyfodol 2024
  • Prif Ystadegydd Llywodraeth Cymru a swyddogion Swyddfa Cabinet Llywodraeth Cymru

1.5 Byddwn yn ystyried ffyrdd i godi ymwybyddiaeth o amcanion llesiant cyrff cyhoeddus ledled Cymru, gan ddefnyddio gwaith monitro Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

Rydym yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddod ag amcanion llesiant y 48 corff cyhoeddus sy’n rhwym wrth y ddyletswydd llesiant, yn ogystal ag amcanion llesiant y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, at ei gilydd mewn un lle. Bydd hyn yn helpu cyrff i ddeall amcanion cyrff eraill ac yn cefnogi gwell integreiddio.

1.6 Byddwn yn cynyddu ymwybyddiaeth o ‘Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol’ ymysg Gweinidogion ac uwch arweinwyr

Fel rhan o brosiect ymchwil a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar ragargoeli a datblygu cynaliadwy yn Llywodraeth Cymru, roeddem wedi cynnal dau weithdy: un gydag arweinwyr rhagargoeli mewn cyrff cyhoeddus yng Nghymru, ac un gydag uwch arweinwyr mewnol i drafod y camau nesaf ar agenda'r dyfodol. Cafodd yr adroddiad ‘Rhagargoeli ar gyfer llywodraethu datblygu cynaliadwy a llesiant yng Nghymru’ ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023.

Er mwyn gwella ymwybyddiaeth o ‘Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol 2021’ a’r adnoddau rhagargoeli, mae swyddogion wedi rhoi cyflwyniadau mewn cyfres o ddigwyddiadau, gan gynnwys yn y canlynol:

  • y seminar Dadansoddi mewn Llywodraeth
  • y grŵp Ymgysylltu Strategol Ymchwil ac Arloesedd (RISE)
  • Rhwydwaith Llywodraeth y Dyfodol Llywodraeth y DU (a oedd yn arfer cael ei alw yn Benaethiaid Sganio’r Gorwel)
  • y platfform Cyfnewid Gwybodaeth (gweler Cam Gweithredu 3.1)
  • seminarau Gallu Polisi

Rydym hefyd wedi cefnogi timau i gyflwyno sesiwn ar y dyfodol gydag Uwch Weision Sifil, a’r tîm polisi sy’n arwain y gwaith o ddiwygio’r Senedd. Rydym yn parhau i gyflwyno hyfforddiant penodol ar Feddwl am y Dyfodol ar gyfer Ymarferwyr Polisi a’r Pecyn Cymorth Dyfodol.

1.7 Byddwn yn cynnal ymarfer ar gwmpas a natur gwerthusiad o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Mae'r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy wedi llwyddo i sicrhau Cymrodoriaeth Polisi Sefydliad Ymchwil y Deyrnas Unedig (o dan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol). Diben hyn yw dylunio’r fethodoleg ar gyfer cam cyntaf gwerthuso Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chynnal y cam hwnnw. Mae’r gymrodoriaeth yn brosiect 18 mis a ddechreuodd ym mis Ionawr 2024.

Thema dau: Rôl y gwasanaeth sifil o ran cefnogi gweinidogion i gyflawni dros Gymru

Cyflwyniad

Mae’r ‘Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ yn nodi sawl ffordd i’r gwasanaeth sifil wella’r cymorth a’r cyngor a roddir i Weinidogion Cymru drwy wreiddio’r pum ffordd o weithio. Roedd y Cynllun Dysgu a Datblygu Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi nodi un deg un cam gweithredu yn y thema hon:

  • cyflwyno llwybrau datblygu ar gyfer llunwyr polisïau
  • diweddaru’r gefnogaeth i lunwyr polisïau drwy weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol
  • adolygu a diweddaru asesiad effaith polisi
  • adolygu a diweddaru adnoddau mewnol ar gyfer llunwyr polisïau
  • parhau i wreiddio cynaliadwyedd yn ein cynllun gallu polisi mewnol
  • creu rhwydwaith cynaliadwyedd i helpu gweision sifil i wella eu cynaliadwyedd personol
  • dod o hyd i ffyrdd o wreiddio datblygu cynaliadwy drwy hyfforddiant, darlithoedd a gwaith codi ymwybyddiaeth wedi’i deilwra
  • darparu sicrwydd mewnol
  • cyhoeddi cynllun gwella’r gyllideb yn flynyddol
  • gweithio ar ‘Y Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’

I gael disgrifiadau llawn o’r holl gamau gweithredu a’r cynnydd rydym wedi’i wneud ym mhob un (rhwng mis Chwefror 2023 a mis Chwefror 2024) ewch i Ein cynnydd ar gamau gweithredu 2.1 - 2.11 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024). Yn gyntaf, darllenwch am yr hyn rydym yn ei ddysgu o’n gwaith a’r hyn sy’n ddefnyddiol i ni.

Beth rydym yn ei ddysgu?

Mae’n well peidio ystyried yr hyn rydym yn ei wynebu nawr fel problem y gallwn ei goresgyn, ond ei ystyried fel trafferth sydd ag iddo sawl dimensiwn ac ystod eang o ganlyniadau posibl, a bod ein gweithredoedd ni yn gallu pennu rhai ohonynt. Mae hyn yn cyfleu’n well y ffaith ein bod yn wynebu casgliad o argyfyngau cydgysylltiedig y mae angen inni eu deall ar y cyd. Mae hefyd yn ein helpu i ddeall ein bod yn byw mewn a thrwy sefyllfa sydd â chanlyniadau nawr ac i’r dyfodol, un y bydd yn rhaid inni fyw a gweithio gyda hi am gyfnod estynedig.

Yn wyneb y cyfyng-gyngor cynyddol gythryblus, ansicr ac amwys hwn, rydym wedi canfod ei bod yn ddefnyddiol datblygu dealltwriaeth ohonom ein hunain fel rhannau o systemau ehangach, i ddeall pa mor ansicr/eiddil yw systemau o’r fath ac i ystyried yr achosion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’i gilydd. Mae oedi i neilltuo amser i ystyried y berthynas rhwng gweithgareddau ac agweddau ar y system rydym ynddi, yn ein helpu i roi cyngor gwell i weinidogion ac yn helpu pob un ohonom i wneud penderfyniadau gwell.

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi codi’r uchelgais o ran sut rydym yn gweithio gyda dymuniad i weld Llywodraeth Cymru fel esiampl ar gyfer Cymru a’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach (Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru).

Er ei bod yn cymryd mwy o amser ar y dechrau, rydym yn darganfod bod defnyddio’r Ddeddf (yn gynyddol dda) yn fwy effeithlon ac effeithiol yn y tymor canolig. Mae gweithio fel hyn yn ein hatal rhag cymryd camau sy’n tanseilio gweithgareddau sydd eisoes ar waith. Mae’n ein helpu i ddatblygu atebion integredig sy’n cyflawni nifer o nodau llesiant, ar draws sefydliadau amrywiol. Felly, rydym ond yn gwneud un peth defnyddiol iawn yn lle nifer o bethau ar wahân neu bethau sy’n gwrthdaro.

Mae’r Ddeddf wedi ein helpu i ddeall y berthynas rhwng gwahanol elfennau o ddeddfwriaeth Cymru a sut maen nhw’n rhyng-gysylltiedig.

Yn dilyn cyfnod dwys o ymgysylltu â’n holl staff, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru 2025. Dyma ein cynllun tair blynedd i ddatblygu’r sefydliad i fod yn addas i’r diben mewn byd ar ôl gadael yr UE ac ar ôl y pandemig. Un o’r darnau cyntaf o waith a wnaethom fel rhan o Llywodraeth Cymru 2025 oedd mynd ati gyda’n staff a’n hundebau llafur i gyd-gynhyrchu Fframwaith Gwerthoedd ac Ymddygiad newydd i'r sefydliad.

Mae’r fframwaith newydd hwn yn sail i’r rhaglen newid a datblygu gyfan ac mae’n cyd-fynd â’n hymrwymiadau o dan God y Gwasanaeth Sifil a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n gosod disgwyliadau clir ar yr hyn rydym yn ei ddisgwyl gennym ni ein hunain a chan ein gilydd o ran sut rydym yn mynd ati i wneud ein gwaith.

Yn ogystal ag egluro ein disgwyliadau, rydym yn cryfhau ein dull o gynllunio’r gweithlu yn strategol gyda lefelau priodol o atebolrwydd a dirprwyo a buddsoddi mewn sgiliau a galluoedd allweddol, gan gynnwys y Gymraeg.

Beth sy’n ddefnyddiol i ni? (Ein hawgrymiadau gorau)

Y cwrs hyfforddi deng munud hwn ar y dull systemau

Yn sesiynau Cyfnewid Gwybodaeth Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol roedd ar gydweithwyr eisiau deall yn well sut roedd y Ddeddf yn gweithio gyda dyletswyddau eraill fel y Ddeddf Cydraddoldeb. Cawsom ein hatgoffa o’r canllaw hwn i’r cysylltiadau rhwng Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cafodd hwn ei baratoi i helpu cyrff cyhoeddus ystyried cyfleoedd i alinio defnyddio’r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus a dyletswydd llesiant cenedlaethau’r dyfodol.

Yn ein fforwm rhanddeiliaid, gwelsom fod rhai ohonom yn deall yr hanes poenus a’r argyfwng presennol mewn natur annynol, tra bod eraill yn deall yr hanes poenus a’r gwahaniaethu parhaus ymysg pobl. Roedd gan rai ohonom rywfaint o brofiad o’r ddau ac ychydig iawn ohonom oedd yn deall y ddau ac oherwydd hyn fe aethom ati i chwilio am ffyrdd i archwilio’r rhyng-gysylltiadau. Fe wnaeth o gerdd hon ein helpu i ddeall elfennau o’r berthynas gymhleth rhwng hil a’r amgylchedd.

Ein cynnydd ar gamau gweithredu 2.1 - 2.11 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024)

2.1 Byddwn yn cyflwyno llwybrau datblygu i lunwyr polisïau aeddfedu a gwella eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u hymddygiad wrth ddefnyddio’r egwyddor datblygu cynaliadwy

Mae llunio polisïau yn un o’r swyddogaethau craidd mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni, gan gefnogi gweinidogion i lunio polisïau effeithiol y gellir eu cyflawni i sicrhau amcanion a manteision i ddinasyddion, nawr ac yn y dyfodol. Yn Llywodraeth Cymru rydym wedi datblygu ‘Strategaeth Gallu Polisi’ i greu system bolisi sy’n perfformio’n dda ac sy’n cefnogi ac yn galluogi dylunio da ac sy’n ystwyth mewn ymateb i anghenion a disgwyliadau sy’n newid.

Fel rhan o’r strategaeth, a’r hyn sy’n gysylltiedig, rydym wedi datblygu ‘Fframwaith Gallu Polisi’ sy’n diffinio’r sgiliau, y ffyrdd o weithio a’r wybodaeth sydd eu hangen ar weithwyr proffesiynol ym maes polisi ar draws Llywodraeth Cymru ac yn amlinellu llwybrau datblygu i helpu swyddogion i gynllunio eu dysgu ac i ddatblygu’r sgiliau hynny’n barhaus.

Mae’r fframwaith yn ymgorffori dull Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, nodir bod dealltwriaeth o’r Ddeddf yn hanfodol i bolisi, mae’r pum ffordd o weithio wedi’u rhestru fel ffyrdd allweddol o weithio i lunwyr polisïau, ac mae sgiliau sy’n ymwneud ag integreiddio a chyfranogiad dinasyddion yn cael eu nodi. Cafodd y strategaeth ei lansio’n fewnol ym mis Gorffennaf 2023 ac mae ar gam gweithredu cynnar.

2.2 Byddwn yn diweddaru’r gefnogaeth i lunwyr polisïau drwy weithgareddau ffurfiol ac anffurfiol, gan gynnwys cyfres o ymarferion sy’n canolbwyntio ar bob un o’r pum ffordd o weithio yn yr egwyddor datblygu cynaliadwy

Rydym wedi cwblhau ymarfer penodol sy’n edrych ar gyfranogiad a llunio polisïau yn Llywodraeth Cymru.

Rydym wedi darparu sesiynau hyfforddi ffurfiol fel rhan o’r Rhaglen Hanfodion Polisi, sydd wedi’i dylunio i ddarparu’r wybodaeth, yr adnoddau a’r rhwydweithiau i ddeall sut mae polisïau’n cael eu llunio yn Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i gynnal seminarau polisi i lunwyr polisïau sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau polisi.

2.3 Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru ein dull o asesu effaith polisi mewn ffordd integredig, gyda chymorth ein dull gweithredu ar gyfer Asesiad Effaith Integredig

Rydym yn parhau i ddarparu cymorth i ddefnyddwyr asesiadau effaith ar draws y sefydliad ac yn gwneud gwaith datblygu. Mae hyn yn cynnwys diweddariadau i’r templed a Chyfeiriadur newydd o’r rheini sy’n gallu cefnogi’r rheini sy’n cwblhau asesiadau effaith.

Cafodd papur ar ‘Deall a darparu effaith well’ ei gyflwyno gerbron y pwyllgor gweithredol ym mis Rhagfyr 2023. Roedd cryn gefnogaeth i gynigion gwella ond roedd ar yr aelodau eisiau eu hystyried ochr yn ochr â chynigion eraill ac yng ngoleuni gwaith parhaus ar y gyllideb. Byddant yn dychwelyd i’r pwyllgor gweithredol ddechrau 2024. Mae’r amserlen ar gyfer cyflawni’r gwaith hwn yn cael ei hadolygu ac mae nawr yn debygol o lansio yn 2025 yn hytrach na 2024.

2.4 Byddwn yn parhau i adolygu a diweddaru adnoddau mewnol i gefnogi timau polisi wrth iddynt gynnwys, ymgysylltu ac ymgynghori â dinasyddion wrth lunio a chyflwyno polisïau

Rydym yn dal i gefnogi’r sefydliad ar ymgynghori (datrys problemau ac ymholiadau). Nid oes llawer o gapasiti ar gyfer gwaith datblygu rhagweithiol ar hyn o bryd tra bo’r adnoddau sydd ar gael wedi’u clymu ar gam gweithredu 2.3 (asesiad effaith). Fodd bynnag, rydym wedi paratoi gwybodaeth gyd-destunol ar gyfer gwefan Llywodraeth Cymru ar ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru, gan lenwi bwlch gwybodaeth i aelodau’r cyhoedd. Dylai hyn fod yn fyw ddechrau 2024.

2.5 Byddwn yn parhau i wreiddio’r Ddeddf yn ein cynllun gallu mewnol ehangach ar gyfer y sefydliad i gyd, a’n rhaglen Dysgu a Datblygu

Mae deall Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a gwreiddio’r pum ffordd o weithio yn dal yn rhan orfodol o’n rhaglen gynefino gorfforaethol i staff newydd. Rydym wrthi’n diweddaru’r cwrs hwn ar hyn o bryd, ac ar ôl ei gwblhau, bydd ar gael. Yn y cyfamser, mae ein rhaglen ddysgu newydd yn cynnwys mynediad at nifer o adnoddau hunangyfeiriedig ar egwyddorion Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae staff yn gallu cael gafael ar yr adnoddau hyn ar adeg sy’n gyfleus iddyn nhw.

Yn y cyfamser, fel rhan o’r ‘Cynllun Gallu’, rydym wedi ymrwymo i greu strategaeth sgiliau newydd. Bydd gwreiddio ymddygiad Cenedlaethau’r Dyfodol ym mhob aelod o staff yn rhan o’r ystyriaethau yn y strategaeth hon. Rydym hefyd yn adolygu cynnig cynefino cychwynnol Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac yn darparu cwrs ‘ategol’ newydd drwy’r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy (gweler hefyd Cam Gweithredu 5.2).

2.6 Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o’r Ddeddf gyda thimau corfforaethol drwy ddull gweithredu wedi’i deilwra sy’n adlewyrchu eu rolau

Mae’r Is-adran Dyfodol Cynaliadwy yn parhau i fynychu ac i gyflwyno mewn amrywiaeth o grwpiau mewnol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’i gweithredu. Mae hyn wedi cynnwys timau o bob rhan o Lywodraeth Cymru, fel y grŵp Prif Swyddogion Gweithredu, y tîm Cyflawni Prosiectau, y tîm Digidol a Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi. Roedd nifer o arweinwyr gwasanaethau corfforaethol wedi elwa o fod mewn sesiynau Gallu Polisi a oedd yn gyfle iddynt fyfyrio ar sut roedd y Ddeddf yn berthnasol i ddatblygu ac i gyflawni polisïau mewnol Llywodraeth Cymru.

2.7 Byddwn yn parhau i ddefnyddio gwybodaeth o’n system gadarn ar gyfer rheolaeth fewnol i roi sicrwydd i’r Ysgrifennydd Parhaol, gan gynnwys diweddaru’r cwestiynau bob blwyddyn

Ar ôl cytuno ar ein dull gweithredu, rydym wedi drafftio adroddiad sicrwydd cychwynnol. Rydym nawr yn ystyried y drafft hwn gyda chydweithwyr i sicrhau ein bod yn gallu ei ysgrifennu unwaith a’i ddefnyddio at sawl diben.

2.8 Byddwn yn sefydlu rhwydwaith staff Byw’n Gynaliadwy i’n helpu ni i ddysgu mwy am sut gallwn ni wneud dewisiadau mwy cynaliadwy, a helpu i leihau ein hôl troed carbon gartref ac yn y swyddfa

Cafodd y ‘Rhwydwaith Byw’n Gynaliadwy’ ei sefydlu ym mis Tachwedd 2022 ac mae ganddo tua 150 o aelodau. Mae’n cynnig sesiynau cynaliadwyedd ‘dysgu dros ginio’ i holl weithwyr Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru sy’n gysylltiedig ag amcanion corfforaethol, gan gynnwys cyflawni ‘Cynllun Strategol Sero Net Llywodraeth Cymru’.

Ei nod yw hyrwyddo sefydlu grwpiau cynaliadwyedd o dan arweiniad gweithwyr i hyrwyddo ymgysylltu ar lawr gwlad a darparu fforwm i weithwyr gyfrannu at wneud penderfyniadau cynaliadwy. Mae’r rhwydwaith wedi cynnal pedair sesiwn hyd yma:

  • ynni yn y cartref (defnyddio a chost)
  • ail-wisgo ac atgyweirio – ffasiwn cyflym a chaffis atgyweirio
  • garddio gartref a figaniaeth
  • ‘Cynllun Strategol Sero Net Llywodraeth Cymru’ a’r ‘Fframwaith Pontio Teg’.

Mae’r digwyddiadau’n cynnwys siaradwyr arbenigol a mewnbwn gan staff. Mae gan y rhwydwaith hefyd sianel Teams i rannu awgrymiadau a gwybodaeth. Mae’n cynnwys bwrdd addewidion ac is-grŵp ar gyfer defnyddwyr cerbydau trydan.

2.9 Byddwn yn cynnal cyfres o seminarau a sesiynau wedi’u teilwra ar gyfer cyfarwyddiaethau ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn adnewyddu, ailymgysylltu ac adfywio

Bydd y gwaith hwn yn dechrau yn 2024.

2.10 Byddwn yn cyhoeddi ‘Cynllun Gwella’r Gyllideb’ bob blwyddyn i ddangos y cynnydd a wnaed dros y deuddeg mis blaenorol, ochr yn ochr â’n dyheadau tymor byr a chanolig dros gyfnod treigl o bum mlynedd

Fe wnaethom gyhoeddi ‘Cynllun Gwella’r Gyllideb’ wedi’i ddiweddaru ochr yn ochr â Chyllideb Ddrafft 23-24 a oedd yn amlinellu’r cynnydd dros y deuddeg mis diwethaf ac yn nodi’r camau nesaf arfaethedig. Mae ‘Cynllun Gwella’r Gyllideb’ newydd wedi cael ei ddatblygu a’i gyhoeddi ochr yn ochr â Chyllideb Ddrafft 24-25, sy’n rhoi manylion y camau i’w cymryd dros y deuddeg mis nesaf a’r tu hwnt.

Roedd y Tîm Gwella’r Gyllideb a Phlant yng Nghymru wedi gweithio gyda’i gilydd i gydgynhyrchu ‘Cynllun Gwella’r Gyllideb i Bobl Ifanc' ac animeiddiad sydd ar gael ar youtube (cafodd ei lansio ym mis Chwefror 2024).

2.11 Mae’r Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru yn cefnogi’r broses o sicrhau economi ddi-garbon, sy’n seiliedig ar bedair egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn gwella llesiant economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru

Cafodd ‘Strategaeth Buddsoddi yn Seilwaith Cymru’ ei lansio yn 2021 ac mae’n cefnogi cyflawni economi ddi-garbon. Mae’r strategaeth yn rhoi fframwaith ar gyfer buddsoddiadau Llywodraeth Cymru mewn seilwaith dros y deng mlynedd nesaf gydag ymrwymiad cyffredinol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur.

Thema tri: Ein rôl galluogi gydag eraill

Cyflwyniad

Mae thema tri yn cydnabod y set unigryw o berthnasoedd sydd gan Lywodraeth Cymru ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector, a’n rôl o ran galluogi, arwain a dylanwadu ar eraill i gyfrannu at y nodau llesiant. Roedd y ‘Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ yn nodi un deg un cam gweithredu yn y thema hon:

  • parhau â’n partneriaeth gref gyda mudiadau gwirfoddol
  • gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu digwyddiadau Cyfnewid Gwybodaeth
  • rhannu arferion da rhwng cyrff cyhoeddus
  • cefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyrraedd eu llawn botensial
  • adolygu cod ymarfer cyllido Llywodraeth Cymru a pholisi gwirfoddoli Llywodraeth Cymru
  • cryfhau’r gwaith o gyflawni’r Contract Economaidd
  • datblygu pecyn cymorth paratoi at y dyfodol ar gyfer busnesau bach a chanolig
  • prototeipio dulliau o gyfnewid staff rhwng sefydliadau
  • adolygu trefniadau partneriaeth rhanbarthol
  • mapio arbenigedd ar y nodau llesiant

I gael disgrifiadau llawn o’r holl gamau gweithredu a’r cynnydd rydym wedi’i wneud ym mhob un (rhwng mis Chwefror 2023 a mis Chwefror 2024) ewch i Ein cynnydd ar gamau gweithredu 3.1 - 3.11 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024). Yn gyntaf, darllenwch am yr hyn rydym yn ei ddysgu o’n gwaith a’r hyn sy’n ddefnyddiol i ni.

Beth rydym yn ei ddysgu?

Mae’r ffordd rydym yn cynnull ac yn cynnal gofodau ar gyfer syniadau newydd yn bwysig. Mae angen inni ddisodli rhai o’n harferion hynaf gyda ffyrdd newydd o weithio. Mae tystiolaeth yn dod i’r amlwg bod cyfarfodydd cwta (mewn geiriau eraill cyfarfodydd gydag agendâu symlach, elfennau rhyngweithiol a mwy o arferion tosturiol) yn gweithio’n fwy effeithiol ac effeithlon. Rydym yn dal i ddysgu sut mae integreiddio’r dulliau newydd hyn â’n ffyrdd traddodiadol o weithio.

Weithiau, mae cyfeirio cydweithwyr at y person iawn ar yr adeg iawn yn fwy defnyddiol na mapio arbenigedd. Mae mapio a chyfeirio yn dibynnu ar lawer mwy na dim ond pwy sy’n gwybod fwyaf am beth. Mae’r sawl mae angen i ni siarad â nhw/gwrando arnynt yn benodol i’r cwestiwn sy’n cael ei ofyn, pwy sy’n adnabod pwy a natur y perthnasoedd hynny.

Beth sy’n ddefnyddiol i ni? (Ein hawgrymiadau gorau)

Arbrofi gydag elfennau o’r canllawiau hyn ar gynnal gofodau a chyfarfodydd gwell.

Dysgu peidio â gor-gynllunio er mwyn i ni allu fod yn fwy ystwyth a defnyddio cynllunio cwta.

Dysgu sut mae arbrofi, gwneud camgymeriadau llai a dysgu’n gyflymach gyda’n gilydd drwy ddefnyddio prototeipiau.

Ein cynnydd ar gamau gweithredu 3.1 - 3.11 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024)

3.1 Byddwn yn gweithio gyda’r Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i gydlunio a datblygu’r gyfres nesaf o ddigwyddiadau Cyfnewid Gwybodaeth Cenedlaethau’r Dyfodol

Fel rhan o’n paratoadau i ymestyn dyletswydd llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rydym wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau Cyfnewid Gwybodaeth. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus ar hyd a lled Cymru, gyda’r presenoldeb yn cyrraedd tua 100 o gyfranogwyr ym mhob sesiwn. Maent yn dwyn ynghyd amrywiaeth o siaradwyr ar bynciau amrywiol i gryfhau gwybodaeth, sgiliau a rhwydweithiau ein rhanddeiliaid allanol.

Rydym wedi dechrau gweithio gydag Archwilio Cymru, Academi Wales a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i greu ffeithlun o’r ymyriadau cymorth allweddol sydd ar gael i gyrff cyhoeddus. Er mwyn gallu adnabod unrhyw fylchau neu orgyffwrdd, bydd hyn yn cael ei rannu â’r Rhwydwaith Sefydliadau Cefnogol a sefydlwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, ac yn cynnwys gwybodaeth gan Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

3.2 Byddwn yn gweithio gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Cydgynhyrchu Cymru ar yr ‘Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd’

Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a phartneriaid wedi diweddaru’r ‘Egwyddorion Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd’ ac rydym yn dal i chwilio am gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o’r egwyddorion gyda chymuned polisi Llywodraeth Cymru. Mae gwaith polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar gymunedau yn canolbwyntio ar bartneriaethau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus sy’n gweithio ar draws Cymru fel prawf ar gyfer polisi cymunedau.

3.3 Byddwn yn ymgysylltu â gweithgareddau Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’r Archwilydd Cyffredinol i rannu ac annog arferion da rhwng cyrff cyhoeddus

Roedd Llywodraeth Cymru wedi ariannu chwe chyfranogwr yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol. At ei gilydd mae deuddeg wedi cymryd rhan yn y rhaglen hon sydd wedi bod yn gyfle iddynt ddysgu rhagor am y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a chysylltu â chymheiriaid yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector.

Yn dilyn y cynnydd yn erbyn Cam gweithredu 3.1, rydym wedi dechrau gweithio gydag Archwilio Cymru, Academi Wales a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i greu ffeithlun o’r ymyriadau cymorth allweddol sydd ar gael i gyrff cyhoeddus.

3.4 Byddwn yn egluro rôl cynrychiolwyr Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus drwy adolygu eu cylch gorchwyl a rhaglen friffio dreigl

Cafodd y cylch gorchwyl ei adolygu ar ôl ymgynghoriad rhwng Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, cynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru a’r gweinidog. Mae’r rhain wedi cael eu diweddaru a’u rhannu.

Mae rhaglen friffio dreigl ar waith.

3.5 Byddwn yn cefnogi Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i gyflawni eu potensial drwy adolygu sut gallant ddefnyddio cyllid a darparu pecyn cymorth o dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Byddwn yn adolygu’r canllawiau statudol maes o law

Byddwn yn diweddaru’r cam gweithredu hwn yng ngoleuni sefyllfa’r gyllideb ddrafft. Nid oes dyddiad cyhoeddi newydd wedi'i bennu eto ar gyfer y canllawiau diwygiedig.

3.6 Rydym yn bwrw ymlaen ag argymhellion y ‘Cynllun Adfer ar ôl Covid’ gan Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ynghylch perthnasoedd, cymorth a gwirfoddoli. Byddwn yn adolygu cod ymarfer cyllido Llywodraeth Cymru a pholisi gwirfoddoli Llywodraeth Cymru

Mae’r ‘Cynllun Adfer ar ôl Covid’ bellach wedi’i wreiddio yng ngweithgareddau busnes fel arfer Tîm Trydydd Sector Llywodraeth Cymru ac ni fydd cyfeiriad ato mwyach.

Gan weithio gyda’r is-bwyllgor Ariannu a Chydymffurfiaeth, rydym wedi adolygu’r cod presennol sydd wedi arwain at bum egwyddor – tegwch mynediad, ymgysylltu cynnar a pharhaus, gwerth a chanlyniadau, mecanwaith cyllido priodol, a hyblygrwydd. Rydym yn parhau i gynnal ymarferion ymgysylltu ac yn hyrwyddo’r rhain ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector.

3.7 Byddwn yn edrych ar gyfleoedd hyfforddi a chymorth ar gyfer Rheolwyr Perthynas i’w helpu i gryfhau’r broses o gyflawni’r Contract Economaidd

Rydym yn edrych ar ein blaenoriaethau ar gyfer gwerth cymdeithasol i gyd-fynd â ‘Blaenoriaethau ar gyfer Economi Gryfach’ a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2023.

Bydd asesiad o’r gofynion hyfforddi yn dilyn canlyniad y gwaith datblygu polisi a wneir yng Ngwanwyn 2024 a bydd yn cael ei lywio gan adborth a diweddariadau interim o werthusiad annibynnol o’r ‘Contract Economaidd’.

3.8 Byddwn yn gweithio ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i ddatblygu Pecyn Cymorth Paratoi at y Dyfodol ar gyfer busnesau bach a chanolig, a fydd yn darparu canllawiau ar fanteision busnes Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn cefnogi penderfyniadau busnes cynaliadwy

Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi darparu adroddiad ac awgrymiadau i ddiweddaru’r pecyn adnoddau. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y pecyn adnoddau. Mae’r tîm Busnes a Rhanbarthau wedi cymryd rhan mewn sgyrsiau gyda’r tîm Contract Economaidd Newydd i weld sut gellir cyfuno ymdrechion. Bydd y pecyn adnoddau hefyd yn cael ei roi ar wefan wedi’i hadnewyddu.

3.9 Byddwn yn dylunio ac yn creu prototeip o ddulliau cyfnewid staff rhwng sefydliadau sy’n cefnogi’r broses o ddatblygu a darparu polisïau ar y cyd, ac yn dyfnhau ein dealltwriaeth o’r pum ffordd o weithio

Mae gwaith y grŵp Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru o dan Llywodraeth Cymru 2025 bellach wedi dod i ben. Bydd y momentwm yn parhau mewn nifer o ffyrdd ymarferol, gan gynnwys gweithgareddau datblygu arweinyddiaeth Academi Wales, a llunio fersiwn terfynol fframwaith ymddygiad arweinyddiaeth Un Gwasanaeth Cyhoeddus Cymru. Ar hyn o bryd nid oes gwaith yn cael ei wneud i ddylunio ac i brototeipio dulliau ar gyfer cyfnewid staff rhwng sefydliadau, oherwydd ailflaenoriaethu cyllidebau.

3.10 Rydym yn adolygu trefniadau partneriaeth rhanbarthol i ddatblygu camau gweithredu i symleiddio’r rhain

Cyhoeddi adroddiad terfynol ar yr adolygiad o drefniadau partneriaeth rhanbarthol ar 25 Ionawr 2025. Sefydlu gweithgor ar weithio mewn partneriaeth yn rhanbarthol fel is-grŵp o Gyngor Partneriaeth Cymru i gadw’r ffocws ar weithio’n rhanbarthol.

3.11 Byddwn yn mapio’r ffynonellau arbenigedd presennol sy’n bodoli yng Nghymru ar y nodau llesiant i helpu i ddeall y nodau

Mae cwmpas a hyd a lled y nodau llesiant (a’r dangosyddion a’r cerrig milltir cenedlaethol) yn golygu y bydd gwahanol gyrff a rhannau o Lywodraeth Cymru sydd ag arbenigedd. Mae’r tîm Tapestri (Academi Wales, Cyfnewidfa Arfer Da Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) wedi cytuno ar ddisgrifyddion ar gyfer rolau eu sefydliad o ran cefnogi’r gwaith o weithredu’r Ddeddf.

Maent yn gweithio gydag aelodau’r Rhwydwaith Sefydliadau Cefnogol i greu map o gyfleoedd dysgu a datblygu craidd ar y cyd mewn perthynas â’r Ddeddf. Gan adeiladu ar y camau hyn, bydd tîm Tapestri yn gweithio gydag aelodau’r Rhwydwaith Sefydliadau Cefnogol i fapio’r sefydliadau cefnogol allweddol ar gyfer y nodau llesiant.

Thema pedwar: Ein rôl o ran deall Cymru nawr ac yn y dyfodol

Cyflwyniad

Mae ein rôl o ran deall Cymru nawr ac yn y dyfodol yn dod â nifer o adnoddau at ei gilydd i ddarparu gwell dealltwriaeth a chefnogi penderfyniadau a pholisïau mwy cynaliadwy. Roedd y ‘Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ yn nodi naw cam gweithredu yn y thema hon sy’n ymwneud â:

I gael disgrifiadau llawn o’r holl gamau gweithredu a’r cynnydd rydym wedi’i wneud ym mhob un (rhwng mis Chwefror 2023 a mis Chwefror 2024) ewch i Ein cynnydd ar gamau gweithredu 4.1 - 4.9 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024). Yn gyntaf, darllenwch am yr hyn rydym yn ei ddysgu o’n gwaith a’r hyn sy’n ddefnyddiol i ni.

Beth rydym yn ei ddysgu?

Rydym yn gwybod bod angen inni gynnwys pobl sydd â phrofiadau bywyd yn sail i’n gwaith ymchwil, datblygu a chyflawni yng nghyswllt polisïau. Mae hi’n anodd gwybod sut mae gwneud hyn yn agored ac yn deg yng nghyd-destun y DU ond gallwn ddatblygu ffyrdd Cymreig a rhoi cynnig arnynt.

Pan fyddwn yn ystyried data Cymru, mae’n helpu os gallwn ddarganfod yr hyn y gallwn am y sefyllfa ryngwladol/fyd-eang ac ystyried ein sefyllfa yn y cyd-destun hwnnw.

Mae angen inni fabwysiadu dull systemau ac ystyried cymhlethdod, rhyngddibyniaethau a pherthnasoedd pryd bynnag y byddwn yn ystyried posibiliadau yn y dyfodol.

Beth sy’n ddefnyddiol i ni? (Ein hawgrymiadau gorau)

Defnyddio’r adroddiad ‘Llesiant Cymru' a’r adroddiad ‘Tueddiadau'r Dyfodol’, yn gynnar ac yn benodol, ymgorffori data allweddol mewn sgyrsiau â rhanddeiliaid, er mwyn datblygu atebion sy’n fwy seiliedig ar wybodaeth.

Yn aml, rydym yn wynebu nifer o sefyllfaoedd cymhleth posibl yn y dyfodol. Efallai y bydd nifer fawr o ffyrdd gwahanol y gallai’r dyfodol ddatblygu. Drwy edrych ar draws yr holl bosibiliadau hyn, gallwn ganfod y ‘camau gweithredu ‘gwneud beth bynnag. Dyma’r camau a fyddai, pe baem yn eu cymryd, yn fwyaf tebygol o fod yn ddefnyddiol ym mhob un o’r senarios a nodwyd.

Dysgu o natur, gan gynnwys meddwl am wybodaeth mewn ffyrdd newydd a datblygu ffyrdd tecach o fod yn fwy cyson.

Ein cynnydd ar gamau gweithredu 4.1 - 4.9 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024)

4.1 Byddwn yn codi proffil, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r dangosyddion cenedlaethol, y cerrig milltir a’r ‘Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol’

Mae gwaith yn mynd rhagddo i adolygu sut mae’r cerrig milltir a’r dangosyddion cenedlaethol yn cael eu defnyddio yn y sefydliad. Mae angen gwneud rhagor o waith i gyhoeddi’r animeiddiad a’r fersiynau hygyrch o gynnyrch Llunio Dyfodol Cymru. Mae swyddogion yn parhau i ddiweddaru blog Llunio Dyfodol Cymru.

Roedd swyddogion wedi rhoi cyflwyniadau ar y cerrig milltir a’r dangosyddion cenedlaethol, yn ogystal â thueddiadau’r dyfodol yn Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a sesiwn Cyfnewid Gwybodaeth Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

4.2 Byddwn yn darparu rhagor o gyfleoedd i swyddogion sy’n gweithio ac yn arwain ar ragargoeli a’r dyfodol i gysylltu â’i gilydd a dod yn rhan o rwydwaith yn Llywodraeth Cymru ac yng Nghymru yn ehangach

4.5 Byddwn yn parhau i weithio gyda swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru sy’n arwain yr agenda dyfodol a rhagolygon yng Nghymru, er mwyn gwella sgiliau a datblygu capasiti a gallu wrth wneud penderfyniadau yng Nghymru gan ddefnyddio dulliau gweithredu sy’n ymwneud â’r dyfodol

Mae swyddogion yn parhau i gyfrannu’n weithredol at Rwydwaith Dyfodol Cymru (sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru) a Rhwydwaith Dyfodol Llywodraeth Llywodraeth y DU (yr hen rwydwaith Penaethiaid Sganio’r Gorwel).

Mae strategaeth ‘Cymru Can’ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn datgan y byddant yn ganolbwynt ar gyfer meddwl am yr hirdymor ac arbenigedd o dan eu cenhadaeth gyntaf. Byddwn yn parhau i weithio gyda nhw a chyrff eraill i ddatblygu gallu yn y dyfodol.

Fel rhan annatod o’n gwaith o ddatblygu Cymunedau Ymarfer, rydym wedi sefydlu grŵp cymorth ymwybyddiaeth o helynt-argyfwng-chwalfa. Bydd y grŵp hwn yn gweithio gydag amrywiaeth o gydweithwyr i wella ein dealltwriaeth gyffredin o feddwl am yr hirdymor mewn argyfwng, gan adeiladu ar ymchwil gan Archwilio Cymru ac eraill yn ystod misoedd cynnar argyfwng COVID-19.

4.3 Byddwn yn darparu gwybodaeth fanylach am lesiant drwy adroddiadau thema ‘Llesiant Cymru’, gan adeiladu ar adroddiad 2022 ar lesiant plant a phobl ifanc

Cafodd adroddiad 2023 ‘Llesiant Cymru’ ac adroddiad ‘Ethnigrwydd a Llesiant’ atodol eu cyhoeddi ar 28 Medi. Cafodd diweddariad ei rannu ar Fwletin Rhanddeiliaid Cymru Wrth-hiliol, a rhoddwyd cyflwyniadau i grwpiau rhanddeiliaid, gan gynnwys Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a thrwy'r rhaglen Cyfnewid Gwybodaeth.

Nod yr adroddiad atodol yw dwyn ynghyd y dystiolaeth bresennol er mwyn archwilio cynnydd tuag at y nodau llesiant ar gyfer gwahanol grwpiau ethnig. Ochr yn ochr â mathau eraill o dystiolaeth, gellir defnyddio hyn i helpu i lywio penderfyniadau er mwyn creu Cymru sy’n fwy cyfartal.

4.4 Byddwn yn comisiynu ymchwil i ddeall yn well sut gall Llywodraeth Cymru roi meddwl am yr hirdymor ar waith mewn argyfwng

Yn 2022 cawsom brosiect ymchwil wedi’i ariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Dan arweiniad Dr Laura De Vito, roedd y prosiect hwn ar waith rhwng mis Chwefror 2022 a mis Awst 2023. Roedd yn archwilio heriau a chyfleoedd integreiddio meddwl am yr hirdymor drwy ragargoeli yn Llywodraeth Cymru. Cafodd yr adroddiad terfynol ‘Rhagargoeli ar gyfer Llywodraethu Datblygu Cynaliadwy a Llesiant yng Nghymru’ ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2023.

Fel rhan o’r ymchwil hon, arweiniodd Dr De Vito gynlluniau peilot gyda thri o dimau Llywodraeth Cymru. Roedd y rhain yn cryfhau deall, gwerthfawrogi a defnyddio rhagargoeli.

Mae’r adroddiad yn cynnwys cyfres o argymhellion i gefnogi’r gwaith o feithrin gallu rhagargoeli yn Llywodraeth Cymru. Byddwn yn ystyried yr argymhellion hyn fel rhan o weithredu’r Cynllun Dysgu a Datblygu Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

4.6 Bydd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn parhau i gasglu data cadarn i fesur 15 o’r dangosyddion llesiant cenedlaethol. Bydd cwestiynau newydd yn cael eu datblygu ar gyfer yr arolwg i fesur dau ddangosydd cenedlaethol newydd (47 a 50)

Cafodd canlyniadau diweddaraf yr arolwg, yn seiliedig ar gyfweliadau a gynhaliwyd yn 2022-23, eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf 2023. Cafodd y canlyniadau eu dadansoddi ymhellach i gefnogi’r adroddiad ‘Llesiant Cymru’ diweddaraf. Roedd contractwr allanol wedi cynnal adolygiad o gwestiynau posibl i fesur hyder yn y system gyfiawnder a nodwyd materion o ran datblygu cwestiynau addas.

Yn hytrach na chynnwys y cwestiynau hyn yn yr ‘Arolwg Cenedlaethol’, y bwriad nawr yw archwilio defnyddio data Cymru o ffynonellau eraill, fel ‘Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr’ ac ymchwil ansoddol o bosibl, i lenwi’r bwlch hwn.

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar set o gwestiynau i fesur cynhwysiant digidol, gyda’r bwriad, yn amodol ar brofion gwybyddol llwyddiannus, i gynnwys y cwestiynau hyn yn ‘Arolwg Cenedlaethol’ 2025-26 fel rhan o set newydd o gwestiynau am amddifadedd materol.

4.7 Disgrifio sut a phryd mae modd defnyddio cydgynhyrchu wrth gasglu tystiolaeth ac ymchwil. Byddwn yn datblygu canllawiau sy’n disgrifio sut a phryd y gellir defnyddio dulliau cydgynhyrchu ar gyfer ymchwil a chasglu tystiolaeth er mwyn cynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a chysylltiedig yn y broses o ddatblygu ymchwil, a gwella allbynnau a phenderfyniadau polisi dilynol

Cyflwynodd yr Uned Tystiolaeth Cydraddoldeb gynigion ar gyfer ymchwil a gydgynhyrchwyd i’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl a chadeiryddion gweithgorau’r Tasglu Hawliau Pobl Anabl ym mis Medi. Yn dilyn adborth o'r trafodaethau hyn, rydym yn gweithio'n agos gyda chadeiryddion y Tasglu Hawliau Pobl Anabl i gydlunio prosiectau ymchwil sy'n bosibl o fewn y cyfyngiadau adnoddau ac amser. Nod y prosiectau hyn fydd gwella dichonoldeb argymhellion ar gyfer y ‘Cynllun Gweithredu ar Hawliau Pobl Anabl’.

Bydd canfyddiadau gwerthusiad y prosiect hwnnw’n llywio’r dull o gydgynhyrchu yn y dyfodol ar gyfer yr Unedau Tystiolaeth Cydraddoldeb, Hil ac Anabledd ac Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth ar draws Llywodraeth Cymru drwyddi draw.

4.8 Byddwn yn creu prototeip o ddulliau cydgynhyrchu ymchwil ynghylch sut gellir casglu gwybodaeth i adlewyrchu’r model cymdeithasol o anabledd

Rydym yn ailgyfeirio’r pwyslais o ran cydgynhyrchu ymchwil er mwyn canolbwyntio ar argymhellion allweddol gan y Tasglu Hawliau Anabledd a bydd yr ymchwil ynghylch sut y gellir casglu gwybodaeth i adlewyrchu'r model cymdeithasol o anabledd yn cael ei ddatblygu fel prosiect ymchwil ar wahân.

4.9 Byddwn yn datblygu canllawiau sy’n benodol i’r proffesiwn ymchwil ac yn diweddaru fframwaith sicrhau ansawdd ymchwil Llywodraeth Cymru er mwyn galluogi dealltwriaeth gysyniadol ac ymarferol glir o rwymedigaethau Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth

Mae’r gwaith o dreialu cwrs hyfforddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth yn mynd rhagddo. Bydd canllawiau allweddol yn cael eu hychwanegu at y diweddariad ar y fframwaith sicrhau ansawdd ymchwil gymdeithasol, a fydd yn cael ei gynnal yn 2024.

Thema pump: Sut rydym yn newid diwylliant ein sefydliad er mwyn i lesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol fod wrth galon ein penderfyniadau

Cyflwyniad

Mae thema pump yn ymwneud â sicrhau bod gweithio’n gynaliadwy yn rhan annatod a gweladwy o’n hymddygiad. Nid rhywbeth ar wahân rydym yn ei ddefnyddio i fodloni gofyniad neu ddyletswydd. Dyma’r gwahaniaeth rhwng y ffordd rydym yn defnyddio ein dwylo fel rhan o fywyd a’r ffordd rydym yn defnyddio teclyn anghyfarwydd y mae’n rhaid i ni ei feistroli’n sydyn i gyflawni tasg annisgwyl. Roedd y ‘Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ yn nodi pum cam gweithredu yn y thema hon:

  • cyflawni ein rhaglen tair blynedd ar gyfer datblygu sefydliadol – ‘Llywodraeth Cymru 2025’
  • creu pecyn cychwynnol ar gyfer ein llawlyfr newid ymddygiad
  • cael gwybodaeth o arolygon staff
  • datblygu cymunedau ymarfer i gefnogi swyddogion ac eraill
  • gwella dealltwriaeth o’r Ddeddf drwy ein ‘Strategaeth Cyfathrebu Mewnol’

I gael disgrifiadau llawn o’r holl gamau gweithredu a’r cynnydd rydym wedi’i wneud ym mhob un (rhwng mis Chwefror 2023 a mis Chwefror 2024) ewch i Ein cynnydd ar gamau gweithredu 5.1 - 5.5 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024). Yn gyntaf darllenwch am yr hyn rydym yn ei ddysgu o’n gwaith a’r hyn sy’n ddefnyddiol i ni.

Beth rydym yn ei ddysgu?

Ein hymddygiadau fel unigolion ac ar y cyd yw diwylliant. Mae gan rai o’r ymddygiadau hyn wreiddiau dwfn, yn tyfu drwy normau cymdeithasol hirsefydlog ac yn cysylltu â hanesion cymhleth, sydd weithiau’n anhysbys. Gall dysgu o ble daw ein harferion ein cymell i newid ac i addasu ein hymddygiad mewn ffyrdd cadarnhaol. Mae’r ymddygiadau newydd hyn yn gwneud ein diwylliant newydd.

Mae hi’n anodd newid ymddygiad. Mae hi’n arbennig o anodd i ni, fel bodau dynol, roi’r gorau i wneud pethau. Y ffordd orau rydym wedi dod o hyd iddi hyd yma yw:

  • adnabod yr ymddygiad rydym eisiau ei newid
  • dylunio ymddygiad newydd yn greadigol yn ei le
  • wedyn ymarfer ei ddisodli.

Dim ond un elfen o newid yn seiliedig ar ymarfer yw’r dull hwn (rhoi cynnig ar arferion newydd a datblygu ein gallu i ymarfer yn raddol). Mae newid sy’n seiliedig ar ymarfer yn sail i’r dysgu parhaus cyfunol sydd ei angen arnom i gyd-fynd â’r Ddeddf.

Gallwn alluogi newid pan a lle mae ei angen drwy wahodd grwpiau i drefnu eu hunain i archwilio arferion newydd ar bynciau sy’n bwysig iddynt. Ar hyn o bryd rydym yn rhoi cynnig ar hyn gyda rheoli adnoddau tosturiol (rheoli gyda thosturi hyd yn oed pan fydd adnoddau’n brin) a byw’n bositif (galluogi pobl i weithio gyda’u hemosiynau yn y foment i ganiatáu camau gweithredu mwy cadarnhaol). Os hoffai eich sefydliad chi drafod y pynciau hyn ymhellach, rhowch wybod i ni (gweler yr adran Siarad â ni! isod i gael ein manylion cyswllt).

Beth sy’n ddefnyddiol i ni? (Ein hawgrymiadau gorau)

Canfod hen arferion a rhannu llinell o’n pensaernïaeth newid fel sail ar gyfer trafod pa arfer newydd rydym am ei ddefnyddio i ddisodli’r hen un (Saerniaeth Dyfodol Cynaliadwy).

Mae disodli’r arfer o rannu nodiadau manwl â phawb drwy gyflwyno’r arfer o gytuno ar dair neges allweddol ym mhob cyfarfod yn ein galluogi i gael negeseuon clir ac adborth gwell (Sut gallwn i ledaenu canlyniadau’r cwrs yn well? Tair Gweithdrefn ar gyfer Negeseuon Allweddol).

Y canllawiau hyn (cyngor cyflym) a gynhyrchwyd gan Fforwm Rhanddeiliad Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Sut gallwn ni gryfhau ein defnydd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol?).

Llawlyfr Newid Diwylliant Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Academi Wales (Newid Diwylliant Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol).

Gofalu am ein hunain, pobl eraill a’r byd o’n cwmpas, bod ar ein gorau ar y cyd a gwasanaethu Cymru’n well (Y Pum Llwybr Llesiant - Cynllun tri phwynt).

Our progress on CLIP actions 5.1 – 5.5 (February 2023 – February 2024)

5.1 WG2025 is our 3-year programme for organisational development and a platform for the conversation with everyone who works in Welsh Government about the changes and improvements we need to make

Launched in January 2023, ‘Welsh Government 2025 (WG2025)’ is our programme for changing and improving the organisation over the next 3 years. The programme will allow us to support ministers more effectively and deliver for people and communities in Wales within an increasingly challenging financial and global context.

WG2025 involves a relentless focus on working collaboratively, both across Government and the wider Welsh public sector, maximising efficiency and effectiveness, both now and over the longer-term, and building on the progress made and lessons learned in recent times.

Through WG2025 we are putting the sustainable development principle of the Well-being of Future Generations Act at the heart of how we behave and everything we do. Further details of Welsh Government 2025 can be found in the Welsh Government Consolidated Accounts 2022 to 2023.

5.2 We will improve accessibility to the behaviour change manual, by designing a starter pack and seeking feedback on these both internally and externally

We prototyped and tested a starter pack. Building on the feedback that we received, we worked with a small team from Welsh Government, Local Government, NHS and citizen groups to redesign the landing page of the culture change manual to make it more attractive, specific and accessible.

We ran a prototype ‘Top Up’ training session with the Knowledge Exchange programme, receiving positive feedback that the course is developing along the right lines. Six further prototypes are planned for 2024 and will be available to Welsh Government officials and other participants.

5.3 People Survey and other internal staff surveys will continue to be used to gather insight on embedding the 5 ways of working in our organisation’s culture

We carried out a Hybrid Working Survey in September 2023 which included questions on how well staff felt the 5 ways of working (sustainable development principle) are being applied in their work. We now have data from staff surveys in 2023, 2022 and 2021.

Overall, responses continue to be positive, with those agreeing or strongly agreeing to the questions ranging from 68% and 82%. In 2023 we set an additional question which asked to what extent staff agreed that they had the knowledge and skills to put the 5 ways of working into practice. There were 61% of respondents that agreed or strongly agreed to this question.

We have seen a slight decline in staff views on the application of some of these behaviours. We know from experience that we need to increase our application of the Act in difficult circumstances and are working to ensure that staff across the whole organisation are supported to deepen their understanding and application of the Act, whatever their responsibilities.

5.4 We will develop a new range of Communities of Practice to support the work of Welsh Government officials and others as they apply the Act

Many of the Communities of Practice are continuing to develop. Support is being provided via new guidance which is currently being translated and will be shared via the ‘Culture Change Manual’. Communities of Practice continue to develop in decarbonisation, food and climate/biodiversity emergency response.

We are designing a new ‘Top Up’ course to support community hosts and will test this with hosts and senior managers in 2024.

5.5 We will continue to raise the profile, awareness and understanding of the Act through our Internal Communications Strategy, highlighting good practice through case studies, in the Welsh Government Awards and staff events

In November 2023 we held an in-conversation Let’s Learn event with the new Future Generations Commissioner for Wales and the Permanent Secretary. At the event almost 1,000 staff members heard about the Commissioner's new ‘Cymru Can’ strategy, listened to an in-depth conversation between the Commissioner and the Permanent Secretary and heard questions directly from staff.

Case study films developed for the 3 shortlisted Welsh Government Award nominees in the Well-being of Future Generations Award category were also published in November on internal communication channels and introduced at the awards ceremony. The winning team were the Homelessness Prevention Team.

Thema chwech: Gwneud iddo ddigwydd - galluogi, goruchwylio, dysgu a chyfathrebu

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru yn atebol i amrywiaeth eang o randdeiliaid allanol ond fel gweision sifil rydym hefyd yn atebol i’n gilydd. Mae’r atebolrwydd hwn ar y cyd yn cael ei gyflawni drwy fecanweithiau a strwythurau goruchwylio a llywodraethu. Rhan o’n gwaith ar y cyd yw cynnal atebolrwydd effeithiol ar lefel uchel, ond hefyd nodi a galluogi gwelliannau yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy. Roedd y ‘Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ yn nodi wyth cam gweithredu yn y thema hon sy’n ymwneud â:

  • adrodd yn flynyddol ar weithredu’r Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
  • llywodraethu ac atebolrwydd
  • Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru
  • cyfrifo ariannol blynyddol
  • penodi Hyrwyddwyr Bwrdd Llywodraeth Cymru
  • yr holiadur rheolaeth fewnol
  • defnyddio ein system adrodd gwybodaeth busnes (BIRT) yn llawn.

I gael disgrifiadau llawn o’r holl gamau gweithredu a’r cynnydd rydym wedi’i wneud ym mhob un (rhwng mis Chwefror 2023 a mis Chwefror 2024) ewch i Ein cynnydd ar gamau gweithredu 6.1 - 6.8 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024). Yn gyntaf darllenwch am yr hyn rydym yn ei ddysgu o’n gwaith a’r hyn sy’n ddefnyddiol i ni.

Beth rydym yn ei ddysgu?

Mae arweinyddiaeth ar y cyd yn allweddol. Fe wnaethom ddefnyddio’r pum ffordd o weithio i ystyried sut i benodi Hyrwyddwyr Bwrdd Llywodraeth Cymru. Fe wnaethom wahodd Cynfyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru i wneud cais a phenodi'r tri ymgeisydd yn Hyrwyddwyr. Mae ein Hyrwyddwyr yn cydweithio i fod yn sylwedydd ar fwrdd Llywodraeth Cymru ac ar fwrdd cysgodol Llywodraeth Cymru. Maent yn cefnogi ei gilydd wrth ystyried sut mae cynghori'r byrddau hyn a datblygu rhwydwaith ehangach o gynfyfyrwyr a hyrwyddwyr eraill ar draws y sefydliad.

Gorau po gyntaf y dylid gweithredu i gysylltu pethau â’i gilydd ond mae bodau dynol yn ei chael hi’n anodd gwneud hyn. Mae llawer o resymau cymdeithasol a seicolegol dros hyn. Rydym yn dal i feddwl am sut mae gwneud hyn yn well yn Llywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae arnom eisiau gwella ein mecanweithiau sicrwydd mewnol, fel yr holiadur rheolaeth fewnol, ond y ffordd orau o gryfhau sicrwydd yw gwella’r polisïau a’r prosesau sylfaenol rydym yn ceisio eu sicrhau. Mae’n bwysig nodi achos sylfaenol unrhyw wendidau ac yn ein hachos ni, mae hyn yn golygu asesu effeithiau posibl cyn gynted â phosibl mewn prosesau – polisïau, asesiadau a phenderfyniadau mewnol neu allanol.

Ein cynnydd ar gamau gweithredu 6.1 – 6.8 y Cynllun (Chwefror 2023 – Chwefror 2024)

6.1 Byddwn yn adrodd yn flynyddol ar weithrediad y cynllun hwn

Dyma’r diweddariad cyntaf ar gynnydd y Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Byddwn yn edrych ar ffyrdd eraill o adrodd ar gynnydd, fel drwy flogiau neu ddiweddariadau byw i’r dudalen hon. Rydym yn croesawu eich syniadau a’ch awgrymiadau.

6.2 Bydd gweithredu’r cynllun hwn yn eitem flynyddol ar yr agenda, ac ar agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol y bwrdd a’r pwyllgor gweithredol

Rydym wedi defnyddio allbynnau o’r Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes i gynhyrchu ein hail ddiweddariad mewnol ar gynnydd gyda’r Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus (Awst). Rydym yn datblygu adroddiad sicrwydd a fydd hefyd yn sail ar gyfer ein hadroddiadau i’r pwyllgor gweithredol a’r bwrdd.

6.3 Byddwn yn parhau i wreiddio agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ‘Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru’

Roeddem wedi diweddaru ‘Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru’ yn 2023 i gydnabod rôl y pum ffordd o weithio’n gynaliadwy, sy’n gysylltiedig â’r data perfformiad ar yr egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae rhagor o fanylion am ‘Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru’ a sut mae’n cael ei roi ar waith ar gael ar dudalennau 56 i 65 Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2022-2023.

6.4 Yn y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol a'r datganiad ar Gyfrifon Blynyddol, byddwn yn darparu gwybodaeth am y ffordd rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau yng nghyswllt Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Cafodd Cyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru 2022-2023 eu llofnodi a’u gosod ar 30 Tachwedd 2023, gan gynnwys adroddiad manwl ar sut rydym yn cyflawni ein hymrwymiad i genedlaethau’r dyfodol. Mae Datganiad System Swyddog Cyfrifyddu Llywodraeth Cymru hefyd yn cynnwys adran ar waith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ym mharagraff 3.5.

6.5 Byddwn yn adolygu Cylch Gorchwyl a threfniadau gwaith Grŵp Galluogi a Goruchwylio Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Cafodd y cylch gorchwyl ei adolygu a chynhaliwyd cyfarfodydd (yn yr arddull newydd) ym mis Mehefin, mis Gorffennaf a mis Medi 2023. Rhoddodd yr aelodau fewnbwn allweddol i raglen ehangach Llywodraeth Cymru 2025, a dyluniad fframwaith gallu polisi newydd ar gyfer swyddogion Llywodraeth Cymru. Roeddent hefyd wedi goruchwylio’r dull gweithredu ar gyfer y Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus, gan gynnwys darparu adroddiadau cynnydd interim ym mis Ebrill ac ym mis Awst 2023 ac adborth allweddol ar y rhyngweithio rhwng y Ddeddf a deddfwriaeth arall.

6.6 Datblygu prototeip wedi’i adnewyddu ar gyfer rôl Hyrwyddwr Bwrdd

Mae’r Ysgrifennydd Parhaol wedi croesawu tri Hyrwyddwr y Bwrdd. Bydd pob Hyrwyddwr yn treulio chwe mis yn Hyrwyddwr Bwrdd, chwe mis yn cefnogi’r bwrdd cysgodol a chwe mis arall yn rhan o rwydwaith cefnogi ar gyfer yr ymgeiswyr eraill. Gofynnwyd i’r tri ymgeisydd roi cyngor ar egwyddorion a phrofiad cenedlaethau’r dyfodol drwy ddarparu rhwydwaith cefnogi i’w gilydd.

Byddant hefyd yn helpu i greu rhwydwaith o Gynfyfyrwyr Cenedlaethau'r Dyfodol yn ehangach fel mecanwaith cefnogi ar gyfer y sefydliad, wedi'i gysylltu â Llywodraeth Cymru 2025. Maent wedi cael statws sylwedydd cyfranogwr yn y bwrdd yn unol â’r trefniadau ar gyfer cyd-gadeiryddion y bwrdd cysgodol.

6.7 Byddwn yn cydweithio â’r holl gyfarwyddwyr i’w helpu i ateb y cwestiynau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn yr Holiadur Rheolaeth Fewnol, ac yn edrych ar ffyrdd o ddadansoddi’r ffurflenni hyn i roi datganiad pendant lefel uchel ar wreiddio’r Ddeddf

Rydym wedi cytuno ar gynllun prosiect i ymgysylltu â chyfarwyddwyr i’w cefnogi i nodi ac i wella’r ffordd maent yn gweithredu yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a chael sicrwydd ar y cam gweithredu hwn.

6.8 Byddwn yn cynnal gwerthusiad ffurfiannol o’n system adrodd gwybodaeth busnes (Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes) i werthuso profiad y defnyddiwr a’i heffeithiolrwydd ers ei chyflwyno

Aeth Arolwg Gwerthuso yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes yn fyw ar 26 Ionawr 2023 ac roedd ar gael i holl staff Llywodraeth Cymru ei lenwi tan 10 Chwefror 2023. Cafodd yr ymatebion eu casglu a’u hadolygu gan y tîm Profiad Defnyddwyr a chafodd y canfyddiadau eu rhannu â thîm yr Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes. Cafodd canfyddiadau adroddiad yr Arolwg Gwerthuso eu cyflwyno wedyn i Grŵp Llywodraethu’r Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes gydag argymhellion ar gyfer pob un.

Mae’r argymhellion a dderbyniwyd wedi cael eu trafod â Thîm Datblygu’r Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes ac mae ceisiadau am newid wedi cael eu cyflwyno. Disgwylir y bydd y newidiadau hyn yn cael eu gwneud ym mis Ionawr 2024.

Casgliad: Beth sydd angen i ni ei wneud nesaf?

Mae’r trafferthion, yr argyfwng polisi a’r amgylchiadau heriol sy’n ein hwynebu yn rhai cymhleth. Mae angen inni ganfod ac arfer ffyrdd newydd o gynllunio, cyflawni a datblygu cysondeb ac addasu prosesau ac offer sydd eisoes yn bodoli i gefnogi’r rhain.

Yn yr un modd ag unrhyw sefydliad mawr arall, rydym yn cynnwys nifer o dimau, unigolion a fforymau trawsbynciol. Nid yw’r dysgu’n digwydd yn gyfartal. Mae amrywiaeth o grwpiau eisoes yn dysgu rhai neu’r cyfan o’r gwersi a restrir uchod. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o ddyfnhau ac ehangu sut rydym yn defnyddio'r hyn a ddysgwn uchod drwy ein sefydliad.

Fel rhan o’n hymrwymiad i’r egwyddor o gynnwys, rydym yn croesawu eich adborth. Boed hynny am y diweddariad hwn ar gynnydd, y Cynllun Dysgu a Datblygu Parhaus gwreiddiol ar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol neu unrhyw waith rydym yn ei wneud. Fel roeddem wedi'i ddweud yn gynharach, gwaith Cymru yw hyn, nid gwaith Llywodraeth Cymru yn unig.

Rydym yn dysgu sut mae gwneud yr hyn rydym yn ei wneud drwy’r amser. Byddwch chi wedi gweld yr awgrymiadau gorau rydym yn ceisio eu rhoi ar waith. Rydym yn awyddus i ddysgu gyda chi ac eraill, felly rhowch wybod i ni os oes gennych chi awgrymiadau da neu adborth arall i ni.

Os oes gennych chi wybodaeth neu syniadau i’w rhannu, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.

Rydym wrthi’n ystyried ffyrdd eraill o adrodd yn ôl i chi am ein cynnydd ar y Cynllunar gyfer Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n mynd y tu hwnt i fformat yr adroddiad blynyddol ac yn ymgorffori mwy o’r hyn rydym yn ei ddysgu. Rydym yn croesawu’n benodol sgyrsiau am sut gallwn ddysgu gyda’n gilydd.

Siaradwch â ni! Ysgrifennwch atom ni! Anfonwch lun atom ni!

Termau allweddol

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Deddf LlCD) yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Datblygu cynaliadwy

Mae datblygu cynaliadwy yn golygu’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gyda’r nod o gyflawni’r nodau llesiant.

Nodau llesiant

Mae’r saith nod llesiant yn dangos y Gymru yr hoffem fod. Gyda’i gilydd, maent yn darparu gweledigaeth ar y cyd, ac yn disgrifio’r canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol a fydd yn gwneud Cymru yn wlad fwy cynaliadwy. Dyma’r saith nod llesiant:

  • Cymru Iewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy'n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Mae'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn golygu gweithredu mewn ffordd sy'n ceisio sicrhau bod anghenion y presennol yn cael eu diwallu heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau. Mae hyn yn golygu ystyried y dyfodol yn yr hyn a wnawn heddiw.

Mae’r egwyddor yn cynnwys 5 ffordd o weithio y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus eu hystyried wrth gymhwyso datblygu cynaliadwy. Sef:

  • edrych ar bethau o safbwynt yr hirdymor er mwyn sicrhau nad ydym yn peryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain
  • mabwysiadu dull integredig fel bod cyrff cyhoeddus yn ystyried yr holl nodau llesiant wrth benderfynu ar eu hamcanion llesiant
  • cynnwys amrywiaeth o bobl yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt
  • gweithio ar y cyd ag eraill er mwyn dod o hyd i atebion cynaliadwy cyffredin
  • deall yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn eu hatal rhag digwydd

Dyletswydd Llesiant Unigol ar gyrff cyhoeddus

Mae gan rai cyrff cyhoeddus yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol i ymgymryd â datblygu cynaliadwy – dyma’r ddyletswydd llesiant yn Neddf LlCD. Wrth gyflawni’r ddyletswydd hon, rhaid i gyrff cyhoeddus bennu a chyhoeddi amcanion sy’n ceisio sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosibl at y gwaith o gyflawni pob un o’r nodau llesiant, ac yn cymryd pob cam rhesymol i gyflawni eu hamcanion.

Dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhestru fel un o’r cyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf LlCD. Felly, mae ganddynt yr un ddyletswydd llesiant â’r cyrff cyhoeddus penodedig eraill. Mae ganddynt gyfrifoldebau eraill hefyd o dan Ddeddf LlCD, sef y ddyletswydd i gyhoeddi canllawiau statudolar gyfer y Ddeddf, dangosyddion cenedlaethol a cherrig milltir ac i gyhoeddi Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol, cyfnodol, a fydd yn darparu tystiolaeth o gynnydd a phwysau yn y dyfodol i helpu’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau. Rhaid iddynt hefyd gyhoeddi adroddiad Llesiant Cymru sef adroddiad blynyddol ar y cynnydd a wnaed i gyflawni’r nodau llesiant drwy gyfeirio at y cerrig milltir a’r dangosyddion cenedlaethol.

Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes

Mae’r Adnodd Adrodd Gwybodaeth Busnes (BIRT) yn ffordd syml a chyson o gofnodi, monitro ac adrodd ar ymrwymiadau a blaenoriaethau. Rydym yn diweddaru’r cynnydd yn erbyn y camau gweithredu yn y CLIP unwaith y chwarter drwy BIRT.

Dulliau tosturiol gan gynnwys rheoli adnoddau gyda thosturi

Mae Arweinyddiaeth Dosturiol yn ddull sy’n blaenoriaethu empathi, dealltwriaeth a chefnogaeth i weithwyr. Yn y GIG ac mewn mannau eraill, dangoswyd ei fod yn effeithiol o ran gwella morâl, ymgysylltiad a pherfformiad staff, yn enwedig mewn cyfnodau o newid a her.

Cydgynhyrchu

Mae’r term 'cydgynhyrchu' yn disgrifio ffordd o gyflawni canlyniadau gwell drwy:

  • gweithio mewn partneriaeth
  • rhannu pŵer a chyfrifoldeb rhwng pobl
  • gweld pobl fel asedau ac yn gyfrifol am eu sefyllfa eu hunain
  • cymhwyso egwyddorion craidd i newid y ffordd rydym yn gweithio

Cymunedau ymarfer

A cymuned ymarfer yn grŵp o bobl sy’n rhannu pryder cyffredin, her, set o broblemau, neu ddiddordebau ac sy’n dod at ei gilydd i wrando, sylwi a myfyrio mewn ffyrdd sy’n cyflawni nodau unigolion a grwpiau.

Dysgu parhaus

Dysgu parhaus yw’r broses barhaus o gasglu sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau newydd (arferion). Gall gyfeirio at unigolyn, grŵp neu sefydliad.

Contract Economaidd

Mae'r Contract Economaidd yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a’r busnesau mae’n eu cefnogi ar sut y byddwn yn gweithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth i greu busnesau cydnerth sy’n cynnig lle deniadol i weithio. Mae’r Contract Economaidd yn ymrwymiad i ddarparu buddsoddiad cyhoeddus sy’n blaenoriaethu anghenion cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru ar yr un pryd ag adeiladu economi llesiant fwy cydnerth a ffyniannus.

Cyfarfodydd/cynllunio Cynnig Syniadau

Mae gan Gyfarfodydd Cynnig Syniadau strwythur ysgafn sy’n galluogi syniadau, gwybodaeth ac awgrymiadau i ddod i’r amlwg yn ystod y cyfarfod.

Mae Cynllunio cynnig syniadau yn ein gwahodd i ganolbwyntio ar y camau nesaf y byddwn yn eu cymryd ac yn caniatáu i’r camau dilynol ddod i’r amlwg yn nes ymlaen yn y broses.

Rhagargoeli

Rhagargoeli yw’r broses a ddefnyddir i ddod i ddealltwriaeth lawnach o’r grymoedd sy’n siapio’r dyfodol hirdymor y dylid eu hystyried wrth lunio polisïau, cynllunio a gwneud penderfyniadau.

Asesiad Effaith Integredig

Mae Asesiad Effaith Integredig (IIA) yn broses a ddefnyddir i nodi effeithiau meysydd gweithredu allweddol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau neu argymhellion strategol neu lefel uwch.

Cerrig Milltir a Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod dangosyddion cenedlaethol i asesu’r cynnydd tuag at gyflawni’r saith nod llesiant. Mae disgrifiad llawn o’r dangosyddion cenedlaethol, gan gynnwys eu diffiniad technegol a gwybodaeth am eu ffynonellau data i’w cael yn y ddogfen dechnegol.

Dan adran (10)(3) Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, rhaid i Weinidogion Cymru osod cerrig milltir mewn perthynas â’r dangosyddion cenedlaethol y mae Gweinidogion Cymru o’r farn fyddai o gymorth o ran mesur a oes cynnydd yn cael ei wneud tuag at gyflawni’r nodau llesiant.

Mapio

Mae Mapio yn golygu creu darlun o sut mae pob rhan o system yn perthyn i’w gilydd. Gall mapio system gymhleth, yr ydym yn rhan ohoni, ein helpu i ddeall y system honno’n well.

Newid yn seiliedig ar ymarfer

Mae newid yn seiliedig ar ymarfer yn cyfuno theori a phrofiad drwy broses strategol, fyfyriol. Dydych chi ddim yn dysgu’r theori yn gyntaf, ac yn ei rhoi ar waith wedyn. Yn hytrach, rydych chi’n rhoi’r theori ar waith wrth i chi ddysgu, gan roi cynnig ar arferion newydd a dewis y rhai rydych chi am eu datblygu’n ddyfnach. Drwy wneud hyn, rydych yn raddol yn datblygu eich gallu i dyfu eich arferion eich hun dros amser.

Y Rhaglen Lywodraethu

Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi’r ymrwymiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni dros dymor y Senedd hon er mwyn mynd i’r afael â’r heriau sy’n ein hwynebu a gwella bywydau pobl ledled Cymru.

Prototeipio

Mae prototeip yn weithred ymarferol, y gellir ei phrofi, sy’n canolbwyntio ar ddysgu. Mae prototeip yn trosi syniad yn gam cyntaf pendant. Nid dyma’r cynnyrch terfynol ond arbrawf sy’n ein galluogi i gynhyrchu adborth gwerthfawr. Bydd yr adborth hwn wedyn yn ein helpu i fireinio ein dealltwriaeth a datblygu prototeipiau ail a thrydydd cam.

Byw’n bositif

Mae byw’n bositif yn dechneg meithrin gwytnwch sy’n gallu helpu i atal hwyliau isel rhag gwaethygu a throi’n iechyd meddwl gwael. Mae’n annog y defnydd o hunanymwybyddiaeth a charedigrwydd i dderbyn a chaniatáu i emosiynau anodd ddatblygu a newid. Yn hytrach na ffrwyno teimladau o hunan-amheuaeth, negyddoldeb neu syrthni, rydym yn gadael iddynt ddod i’r wyneb ac yn eu derbyn. Drwy dderbyn emosiynau negyddol a chadarnhaol, a dysgu oddi wrthynt, gallwn gynnal meddylfryd iach a mwy cadarnhaol. Mae’n cael ei alw’n byw’n bositif oherwydd ei fod yn help y gallwn ni gael gafael arno pryd bynnag y bydd ei angen arnom.

Dyletswydd economaidd-gymdeithasol

Nod cyffredinol y ddyletswydd yw sicrhau canlyniadau gwell i’r rhai sy’n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn cefnogi hyn drwy sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau strategol:

  • yn ystyried tystiolaeth ac effaith bosibl drwy ymgynghori ac ymgysylltu
  • yn deall barn ac anghenion y rhai y mae'r penderfyniad yn effeithio arnynt, yn enwedig y rhai sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol
  • yn croesawu her a chraffu
  • yn sbarduno newid yn y ffordd y caiff penderfyniadau eu gwneud a'r ffordd y mae llunwyr penderfyniadau yn gweithredu.