Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
Cafodd cyfres o weithdai ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ei chynllunio a'i darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a WWF Cymru yn gynharach eleni. Nod y gweithdai oedd cytuno ar sut y gellir sicrhau bod y Ddeddf yn cael ei rhoi ar waith a sut y gellir dangos hynny. Yn y gweithdai ystyriwyd ble mae angen gwelliant a sut y gellir cynnwys rhanddeiliaid y trydydd sector yn y dyfodol.
Ymhlith y meysydd gweithredu allweddol roedd caffael, integreiddio polisi, capasiti a galluogrwydd, ynghyd â phwyslais ar y pum ffordd o weithio.
Byddaf yn parhau i oruchwylio'r camau gweithredu hyn a hoffwn ddiolch i WWF Cymru am weithio gyda ni.
Bydd yr adroddiad ar gael yn yr hydref.
Dolen:
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act/?lang=cy