Cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 27 Tachwedd 2023: cofnodion
Cofnodion cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 27 Tachwedd 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Croeso
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod drwy ddiolch i'r aelodau am eu presenoldeb a chroesawu Maria Varinia Michalun ac Alex Durand o'r OECD i'r Fforwm i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am brosiect yr OECD gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu economaidd rhanbarthol.
Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr llywodraeth leol hefyd – Dylan Rhys Griffiths (y Gogledd), Carwyn Jones-Evans (y Canolbarth), Paul Relf (y De-orllewin) a Derek James (y De-ddwyrain) – a fydd yn trafod hynt y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn eu rhanbarthau priodol.
Nododd y Cadeirydd hefyd, yn dilyn llwyddiant y DU i gysylltu â rhaglen Horizon Europe y DU, y byddai Baudewijn Morgan (Llywodraeth Cymru) yn disgrifio'r datblygiadau diweddaraf.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, pasiwyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf heb unrhyw sylw pellach.
2. Y diweddaraf am brosiect yr OECD
Nododd y Cadeirydd fod Varinia ac Alex wedi bod yng Nghymru dros y misoedd diwethaf i gynnal gweithdai ym mhob un o'r rhanbarthau a chyda Llywodraeth Cymru. Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch i'r bobl a gyfrannodd at y sesiynau hynny a rhoi'r awenau i Maria Varinia Michalun (MVM).
Dywedodd MVM fod mwy na 150 o randdeiliaid o gymuned datblygu rhanbarthol Cymru wedi dod i'r sesiynau gyda'r OECD gan gynnwys Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs), y trydydd sector, y sector preifat a'r byd academaidd.
Dywedodd fod y sesiynau wedi canolbwyntio ar y ochr weithredol yn ogystal â'r strategol fel bod y rhanbarthau yn gallu rhoi eu cynlluniau ar waith mewn ffordd fwy integredig ac ar sail egwyddorion cytûn ar gyfer cydweithio.
Dywedodd MVM mai prif fyrdwn y sesiynau oedd bod CJCs yn deall yr angen am raddfa wrth weithio'n rhanbarthol ond bod angen mwy o eglurder ynghylch eu mandad a'r hyblygrwydd sydd ganddynt dros yr hyn y maen nhw'n wneud.
Dywedodd MVM fod cynlluniau sy'n cynnwys camau pendant i helpu Llywodraeth Cymru a'r CJCs i gyflawni eu nodau datblygu economaidd rhanbarthol bellach wrthi'n cael eu paratoi. Caiff adroddiad synthesis llawn ei gyhoeddi tuag at ddiwedd prosiect OECD ym mis Mawrth 2024.
Mewn ymateb i'r adroddiad gan yr OECD, gwnaeth yr aelodau y sylwadau canlynol:
- Nid oes digon o adnoddau a chyllid wedi'u neilltuo ar gyfer mandad y Cydbwyllgorau Corfforaethol os mai'r nod yw integreiddio polisïau nad ydyn nhw wedi'u hintegreiddio ar lefel genedlaethol ar lefel leol a rhanbarthol.
- Mae awdurdodau lleol yn teimlo, os yw'r CJCs yn cael eu gorfodi arnyn nhw, eu bod yn cael eu "cyfarwyddo".
- Mae'r heriau cyllidebol o fewn llywodraeth leol sy'n bygwth eu bodolaeth yn golygu bod cwestiynu ar yr adnoddau sy'n cael eu neilltuo ar gyfer CJCs. Teimlir hefyd bod ehangu eu rôl yn anymarferol oherwydd y blaenoriaethau a'r heriau mewn mannau eraill.
- Mae cysylltiadau strategol rhwng Llywodraeth Cymru a CJCs yn cael eu cryfhau ar lefel gweinidogion a swyddogion.
- Mae angen i lywodraeth leol weithio o'r gwaelod i fyny a chydnabod bod gan bob un o'r pedwar rhanbarth safbwyntiau gwahanol iawn, yn enwedig o ran ariannu rhaglenni fel y Fargen Ddinesig a Thwf. Mae'n bwysig adlewyrchu'r gwahanol amgylchiadau ac anghenion.
- Mae sicrhau bod capasiti i CJCs weithredu yn ystyriaeth fyw iawn i lywodraeth leol. Mae angen i'r disgwyliadau ar gyfer CJCs adlewyrchu hyn.
Gwnaeth MVM ddiolch i'r aelodau am eu hadborth a chydnabod bod pwysau ariannol yn creu ansicrwydd ynghylch beth sy'n bosib ei wneud.
Dywedodd y gellid ystyried rhannu swyddogaethau gweinyddol. Dywedodd fod yr amserlenni darparu yn rhy wahanol ac anghyson a bod hynny'n gwaethygu'r pwysau ar adnoddau.
Daeth MVM i ben trwy nodi ei bod yn ddyddiau cynnar o hyd ar y CJCs a'u bod i gyd yn datblygu ar gyflymder gwahanol ac mewn ffyrdd gwahanol. Ond maen nhw wedi cyrraedd pwynt pwysig yn eu datblygiad a fydd yn penderfynu a fyddan nhw'n dod yn bartneriaid darparu allweddol yn y dyfodol, neu ddim ond yn ôl troed ym maes datblygu polisi.
3. Adroddiad gan Lywodraeth Leol
Gwahoddodd y Cadeirydd Dylan Griffiths (DG), Paul Relf (PR), Carwyn Jones-Evans (CRE) a Derek James (DJ) i roi'r diweddaraf am hynt y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) ym mhob un o ranbarthau Cymru.
Y Gogledd
Pwysleisiodd DG y cyd-destun y cafodd Cynlluniau Buddsoddi'r SPF eu cyflwyno ynddo ym mis Awst 2022 a bod llai na blwyddyn ers i awdurdodau lleol dderbyn y cyllid.
Dywedodd DG fod 158 o geisiadau am gyllid SPF yn y Gogledd wedi cael eu cymeradwyo, yn golygu ymrwymiad o £114 miliwn. Mae hyn yn cynnwys £105.5 miliwn ar gyfer blaenoriaethau craidd SPF (94.8% o ddyraniad craidd yr SPF) ac £8.5 miliwn ar gyfer y rhaglen Lluosi (55.7% o'r dyraniad i Lluosi).
O'r cyllid a gymeradwywyd yn y Gogledd, roedd 89% ohono ar gyfer prosiectau awdurdodau lleol unigol ac 11% ar gyfer prosiectau o dan ofal sawl awdurdod lleol. Dywedodd DG bod y cyllid wedi'i rannu rhwng blaenoriaethau craidd SPF fel a ganlyn: Cymunedau a Lleoedd (52%), Cefnogi Busnesau (22%) a Phobl a Sgiliau (25%).
Dywedodd DG fod amserlenni darparu ynghyd â throi ymrwymiad yn wariant yn dal i greu anhawster. Ychwanegodd bod Lluosi yn dal i fod yn broblem oherwydd y dyraniad anghymesur, tra bod gormod o alw o lawer am grantiau Cymunedau a Busnes.
Y De-orllewin
Dywedodd PR fod llawer yn gyffredin rhwng sefyllfa'r Gogledd a sefyllfa'r De Orllewin. Dywedodd fod y De-orllewin wedi bod yn dilyn y strategaethau rhanbarthol presennol fel y Fframwaith Economaidd Rhanbarthol.
Dywedodd PR fod partneriaeth gref wedi bod â Choleg Gŵyr o ran rhoi'r rhaglenni sgiliau ar waith, ond y bydd Lluosi'n broblem arwyddocaol oherwydd maint y gyllideb.
Ychwanegodd y caiff adroddiad ar ei waith ei gyhoeddi'n fuan a fydd yn cynnwys ffigurau ar ymrwymiadau a dosraniad ariannol.
Y Canolbarth
Dywedodd CJE fod 109 o brosiectau, gwerth £23.8 miliwn, wedi eu cymeradwyo yn y Canolbarth, sef 56% o gyfanswm dyraniad yr SPF i'r rhanbarth.
Mae hyn yn cynnwys 46 o brosiectau Cymunedau a Lle, 44 prosiect Cefnogi Busnes, 11 prosiect Pobl a Sgiliau ac 8 prosiect Lluosi.
Mae prosiectau Cymunedau a Lle yn ymdrin â meysydd fel adfywio canol trefi, defnyddio ynni'n effeithiol, astudiaethau dichonoldeb, cyfleusterau chwaraeon a grantiau i'r sector gwirfoddol.
Mae prosiectau busnes yn cynnwys cynlluniau grant, digwyddiadau a rhwydweithio, ymchwil a datblygu a chefnogaeth i fentrau cymdeithasol.
Mae cyllid Pobl a Sgiliau yn cefnogi hyfforddiant mewn sgiliau digidol, gwella sgiliau, hyfforddiant mewn cyflogadwyedd a chefnogaeth i bobl ifanc.
Dywedodd CJE fod perygl o danwariant sylweddol ar Lluosi os na fydd modd symud y cyllid i flaenoriaethau buddsoddi eraill SPF. Ychwanegodd bod modd cynnal galwad derfynol am gyllid yn 2024 a bod gwerthusiad o'r Gronfa yn yr arfaeth.
Y De-ddwyrain
Dywedodd DJ fod gwaith sylweddol ar y gweill i fwrw ymlaen â phrosiectau Blwyddyn 1 a symud rhagor o brosiectau i Flwyddyn 2. Mae mwy na 200 o brosiectau byw ar waith ar hyn o bryd gyda 140 arall yn yr arfaeth.
Dywedodd DJ fod £88.7 miliwn o arian Blwyddyn 2 wedi'i ymrwymo, sef 87.5% o ddyraniad y flwyddyn.
Mae cyllid y De-ddwyrain yn cefnogi prosiectau mewn nifer o feysydd gan gynnwys yr argyfwng costau byw, Sero-Net, cymorth i fusnesau, sgiliau a chyflogaeth.
Dywedodd DJ mai prif heriau'r rhanbarth yw'r diffyg hyblygrwydd gyda Lluosi a'r gofyn i raglenni gau ar ôl 31 Mawrth 2025. Er hynny, roedd lefel uchel o gyflawni ar y gweill a mentrau cyffrous yn yr arfaeth.
I gloi, dywedodd cynrychiolwyr rhanbarthol llywodraeth leol bod anawsterau gyda maint cyllid yr SPF a ddaw yn 2024 i 2025 a'r diffyg eglurder a fydd Llywodraeth y DU yn caniatáu estyn y gwariant. Mae diffyg cyllid aml-flynyddol hefyd yn her neilltuol gyda phrosiectau cyfalaf.
Mewn ymateb i adroddiad cynrychiolwyr llywodraeth leol, gwnaeth yr aelodau y sylwadau canlynol:
- A oses modd symud cyllid Lluosi i feysydd eraill SPF?
- A oes modd cario arian ymlaen i flynyddoedd ariannol eraill?
- Mae cael eu hystyried yn fusnesau masnachol yn creu problemau i fudiadau trydydd sector sy'n dod o dan y rheolau cymorthdaliadau.
- Mae pwysau'n cael ei roi i wneud Lluosi'n fwy hyblyg, ond nid ydym yn optimistig am ganlyniad pragmatig.
Cadarnhaodd cynrychiolwyr llywodraeth leol fod rhywfaint o gyllid Lluosi wedi'i symud i flaenoriaethau eraill ym Mlwyddyn 1 yr SPF, ond eu bod yn dal i aros i Lywodraeth y DU ganiatau hyblygrwydd i'r rhaglen, nawr ac yn y dyfodol. Mae hawl cario arian ymlaen i flynyddoedd eraill, ond gydag amodau. Er enghraifft, mae'n rhaid gwario 80% o arian Blwyddyn 2 i gael dyraniad llawn Blwyddyn 3.
4. Horizon Europe
Dywedodd y Cadeirydd fod cysylltiad bellach rhwng y DU a rhaglen ymchwil ac arloesi Horizon Europe yr UE a gwahoddwyd Baudewijn Morgan (BM) i roi'r diweddaraf.
Dywedodd BM y cafwyd cytundeb gwleidyddol ar y cysylltiad ym mis Medi. Mae Cyngor yr UE wedi cymeradwyo hynny ers hynny, a cham olaf y broses yw ffurfioli'r cytundeb gan y Pwyllgor Arbenigol o dan Gytundeb Masnach a Chydweithrediad yr UE-DU. Mae hyn ar fin digwydd.
Mae cysylltiad ffurfiol yn golygu, o 2024 i 2027, y bydd y DU yn cyfrannu arian at raglen Horizon Europe ac yn gymwys i dderbyn arian gan yr UE o ganlyniad. Mae'n bwysig ein bod yn dangos gwerth y cysylltiad trwy ail-ymuno â rhwydweithiau, cyfrannu at drafodaethau polisi a chystadlu am arian.
Ychwanegodd BM fod digwyddiadau yn yr arfaeth i helpu i ail-ymuno â rhwydweithiau, ailennyn ymddiriedaeth a chynyddu cyfranogiad. Mae cyllid Cymru Ystwyth ar gael i helpu sefydliadau Cymru i ail-ymwneud â Horizon ac ailddatblygu rhwydweithiau. Mae pwynt cymorth cenedlaethol ar gael hefyd o fewn Llywodraeth Cymru.
5. Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol
Gofynnodd y Cadeirydd i Peter Ryland (PRy) ac Alison Sandford (AS) roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adnewyddu'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol.
Dywedodd PRy y byddai'r gwaith sy'n digwydd ar y Fframwaith yn cyd-fynd â'r gwaith i adnewyddu Cenhadaeth Economaidd Llywodraeth Cymru ac â chanlyniadau a gwersi adroddiad terfynol yr OECD a gyhoeddir ym mis Mawrth 2024.
Dywedodd AS y gofynnir i aelodau ar ôl y Flwyddyn Newydd i fynd â'r gwaith ar y Fframwaith yn ei flaen y tu allan i gyfarfodydd ffurfiol y Fforwm Strategol.
6. Unrhyw fater arall
Gwnaeth y Cadeirydd ddiolch i'r aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau.
Ni chodwyd unrhyw fater arall a dywedodd y Cadeirydd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn gynnar yn 2024.
Atodiad A: rhestr o mynychwyr
Cadeirydd
Huw Irranca-Davies AS
Aelodau
Maria Varinia Michalun, Pennaeth Llywodraethu a Chynllunio ar gyfer Datblygu Rhanbarthol (OECD)
Alexis Durand, Is-adran Polisi Rheoleiddio (OECD)
Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr, Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch)
Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio (CLlLC)
Rhianne Jones, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Adael yr UE a Rheoli Tir (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas (Y Trydydd Sector - Menter Gymdeithasol)
Hywel Edwards, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru
Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful (Addysg Bellach)
Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Partneriaeth y Trydydd Sector)
Paul Butterworth, Prif Swyddog Gweithredol, Chambers Wales
Grahame Guilford, Grahame Guilford and Company Ltd
Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CBI Cymru, CBI (Busnes)
Rob Hunter, Pennaeth Strategaethau, Banc Datblygu Cymru
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Uchelgais Gogledd Cymru (Partneriaeth Gogledd Cymru)
Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru (Undebau Llafur)
Derek James, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, (Llywodraeth Leol)
Carwyn Jones-Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Llywodraeth Leol)
Paul Relf, Cyngor Abertawe (Llywodraeth Leol)
Dylan Rhys Griffiths, Cyngor Gwynedd (Llywodraeth Leol)
Welsh Government
Peter Ryland, WEFO – Prif Swyddog Gweithredol
Geraint Green, WEFO – Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop, Cydweithredu Tiriogaethol Ewrop a Cymru Ystwyth)
Alison Sandford, WEFO – Pennaeth Polisi a Gweithio Mewn Partneriaeth
Mike Richards, WEFO – Rheolwr Cyfathrebu
Baudewijn Morgan, WEFO - Pennaeth Ynni ac Effeithlonrwydd Ynni / Cangen Horizon Ewrop
Sarah Govier, Trysorlys Cymru – Pennaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol
Tom Smithson, Busnes a Rhanbarthau – Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth a Rheoleiddio Economaidd
Nathan Cook, Busnes a Rhanbarthau - Pennaeth Polisi – Cadernid Economaidd
Colin Morris, Cyflogadwyedd a Sgiliau – Pennaeth Rhaglenni Cyflogadwyedd
Chris Stevens, Llywodraeth Leol - Pennaeth Perfformiad a Llywodraethiant Llywodraeth Leol
Ann Watkin, Busnes a Rhanbarthau - Pennaeth Strategaeth, Alinio Gweithrediadau a Chynllunio