Ardrethi annomestig (gwir): Ebrill 2022 i Fawrth 2023
Gwybodaeth am swm ardrethi annomestig sy'n ddyledus ac y rhyddhadau a gymhwyswyd Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae ardrethi annomestig, y cyfeirir atynt yn aml fel ardrethi busnes, yn dreth leol y mae perchnogion neu feddianwyr (‘talwyr ardrethi’) eiddo annomestig yn cyfrannu'n ariannol at ddarparu gwasanaethau lleol drwyddi.
Lluniwyd y bwletin hwn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n darparu gwybodaeth am y refeniw a gynhyrchwyd gan ardrethi annomestig ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 (1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023), ynghyd â chymariaethau â blynyddoedd blaenorol.
Mae'r cyflwyniad hwn yn rhoi trosolwg o'r cysyniadau allweddol sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig, gyda gwybodaeth fanylach a diffiniadau ar gael yn y rhestr termau.
Sut y caiff bil ardrethi annomestig ei gyfrifo?
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru, yn prisio eiddo at ddibenion codi ardrethi annomestig ac yn pennu ‘gwerth ardrethol’ i bob eiddo.
Caiff y bil ardrethi annomestig ar gyfer pob eiddo ei gyfrifo drwy gymryd ei werth ardrethol a'i luosi â'r ‘lluosydd ardrethi annomestig' ar gyfer y flwyddyn dan sylw. Mae gwahanol ryddhadau ar gael hefyd er mwyn helpu talwyr ardrethi. Os bydd talwr ardrethi yn gymwys i gael rhyddhad, bydd hyn hefyd yn lleihau'r bil ardrethi ar gyfer yr eiddo.
Mae'r hafaliad canlynol yn dangos sut y daw'r elfennau hyn o fil ardrethi annomestig at ei gilydd:
Bil Ardrethi Annomestig = (Gwerth Ardrethol x Lluosydd Ardrethi Annomestig) – Rhyddhad
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r lluosydd ardrethi annomestig bob blwyddyn. Fel arfer, caiff ei gynyddu yn unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). Ym mlwyddyn ariannol 2022-23, y lluosydd oedd 0.535. Er mwyn helpu talwyr ardrethi, penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio â chynyddu'r lluosydd yn unol â'r CPI yn 2022-23, gan ei rewi ar yr un lefel â 2020-21 a 2021-22.
Rhestrau ardrethu
Cedwir manylion a gwerthoedd ardrethol eiddo gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar ‘restr ardrethu’. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn rhannu'r rhestr ardrethu hon yn rhestrau ardrethu lleol a chanolog. Mae gan bob un o'r 22 o awdurdodau bilio yng Nghymru (sef y cynghorau sir a'r cynghorau bwrdeistref sirol) ei restr leol ei hun at ddibenion cyfrifo ac anfon biliau ar gyfer eiddo yn ei ardal. Cyfeirir at gyfuniad o bob un o'r 22 o restrau lleol yn aml fel ‘y rhestr leol’.
Yn ogystal â'r rhestr leol, mae ‘rhestr ganolog’ hefyd, sy'n cwmpasu achosion penodol lle mae eiddo yn croesi ffiniau awdurdodau bilio, er enghraifft, rheilffyrdd, piblinellau a seilwaith dŵr. Caiff biliau ar gyfer eiddo ar y rhestr ganolog eu cyfrifo a'u hanfon gan Lywodraeth Cymru. Nid yw eiddo ar y rhestr ganolog yn cael unrhyw ryddhad ardrethi.
Mae rhai mathau o eiddo annomestig yn gwbl esempt rhag ardrethi annomestig ac ni phennir gwerth ardrethol iddynt. Nid yw'r eiddo hwn yn ymddangos ar restrau ardrethu ac mae'n cynnwys tir amaethyddol, parciau a mannau addoli.
Dosbarthu refeniw ardrethi annomestig a godir
Caiff yr holl refeniw ardrethi annomestig a gesglir gan awdurdodau bilio ei dalu i ‘Gronfa Ardrethi Annomestig’ Llywodraeth Cymru. Caiff arian a gesglir o'r rhestr ganolog ei ychwanegu at y gronfa hon hefyd. Yna, caiff yr holl refeniw ei ddosbarthu i'r awdurdodau bilio fel rhan o setliad refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn. Caiff y gronfa ei rhannu rhwng y 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a’r pedwar comisiynydd yr heddlu a throseddu a'i dosbarthu rhwng pob awdurdod yn ôl cyfrannau o'r boblogaeth oedolion.
Ffynhonnell yr wybodaeth yn y bwletin hwn
Daw'r rhan fwyaf o'r wybodaeth yn y bwletin hwn o'r ffurflenni ariannol ‘NDR3’ a gyflwynwyd gan y 22 o awdurdodau bilio yng Nghymru. Mae gwybodaeth Llywodraeth Cymru ar y rhestr ganolog hefyd wedi'i chynnwys mewn rhannau o'r bwletin hwn.
Cyfanswm yr ardrethi annomestig a gasglwyd gan eiddo yng Nghymru
Ffigur 1: Cyfanswm yr ardrethi annomestig a gasglwyd gan dalwyr ardrethi ar y rhestrau canolog a lleol (£ miliwn), rhwng 2012-13 a 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart llinell yn dangos cyfanswm y symiau o Ardrethi Annomestig a gasglwyd. Rhennir hyn yn symiau a gasglwyd o'r rhestrau lleol a chanolog. Roedd y cyfanswm oddeutu 1.1 biliwn o bunnoedd yn 2022-23, gydag 1 biliwn o bunnoedd yn dod o'r rhestr leol a 100 miliwn o bunnoedd o'r rhestr ganolog.
- Daw'r mwyafrif helaeth o ardrethi annomestig o'r rhestr leol ac mae'r swm a gasglwyd yma yn tueddu i lywio'r tueddiadau cyffredinol o ran cyfanswm yr ardrethi annomestig a gasglwyd. Y ffigurau a roddir yn y siart uchod yw'r symiau ar ôl i ryddhadau gael eu cymhwyso at y bil cychwynnol.
- Ers 2018-19, mae cyfanswm yr ardrethi annomestig a gasglwyd gan dalwyr ardrethi wedi bod yn fwy nag £1 biliwn. Gostyngodd y swm hwn ychydig yn 2020-21 cyn cynyddu i'w bwynt uchaf ers pum mlynedd yn 2021-22, sef £1.1 biliwn. Mae’r swm a gasglwyd wedi aros yn gymharol sefydlog yn 2022-23.
- Casglwyd ardrethi annomestig gwerth tua £100 miliwn o'r rhestr ganolog bob blwyddyn rhwng 2017-18 a 2022-23. Mae hyn yn cyfateb i ychydig o dan 10% o'r holl ardrethi annomestig a gasglwyd.
Ardrethi annomestig a gasglwyd gan awdurdodau bilio
Mae gweddill y bwletin hwn yn canolbwyntio ar wybodaeth am restrau lleol yn unig. Nid yw gwybodaeth am refeniw a gasglwyd o dalwyr ardrethi ar y rhestr ganolog wedi'i chynnwys.
Ffigur 2: Cyfanswm yr ardrethi annomestig a gasglwyd gan awdurdodau bilio, rhwng 2012-13 a 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart llinell yn dangos cyfanswm yr Ardrethi Annomestig a oedd yn ddyledus cyn cymhwyso ryddhadau, a'r swm a gasglwyd mewn gwirionedd gan awdurdodau bilio o 2012-13 i 2022-23. Mae cyfanswm yr Ardrethi Annomestig sy’n ddyledus wedi cynyddu bob blwyddyn hyd 2020-21 cyn sefydlogi, tra bod y swm a gasglwyd mewn gwirionedd wedi amrywio gyda thuedd ar i fyny.
- Casglwyd cyfanswm o £986 miliwn mewn refeniw ardrethi annomestig gan awdurdodau bilio yn 2022-23. Cyfeirir at hyn fel y ‘cyfraniad at y gronfa’ a dyma'r swm terfynol a gasglwyd ar ôl i'r holl ryddhadau a cholledion gael eu hystyried.
- Yr ‘ardrethi gros sy'n daladwy’ yw'r swm sy'n ddyledus cyn i ryddhadau a cholledion gael eu hystyried. Cyfanswm yr ardrethi gros a oedd yn daladwy ar gyfer 2022-23 oedd £1.3 biliwn. Mae'r ffigur hwn wedi aros yn gymharol sefydlog ers 2021-22 ar ôl cynyddu fesul blwyddyn yn y degawd blaenorol.
- Daw 20% o gyfanswm yr ardrethi annomestig a gasglwyd gan awdurdodau bilio o Gaerdydd. Mae'r ffigur hwn fwy na dwywaith y swm mwyaf ond un (sef 8% o Abertawe).
Rhyddhad ardrethi
Mae nifer o gynlluniau rhyddhad parhaol ar waith yng Nghymru er mwyn helpu talwyr ardrethi gyda'u biliau. Gellir cymhwyso rhyddhad at y bil cychwynnol (ardrethi gros sy'n daladwy) er mwyn rhoi disgownt o 0% hyd at 100%, yn dibynnu ar gymhwystra.
Mae rhai rhyddhadau ardrethi yn ‘orfodol’ a chânt eu cymhwyso'n awtomatig at filiau eiddo cymwys. Mae rhyddhadau eraill yn ‘ddewisol’, sy'n golygu y gall yr awdurdod bilio benderfynu a ddylai ddyfarnu'r rhyddhad i eiddo.
Mae ffigurau ar gyfer rhyddhad yn y bwletin hwn ond yn cynnwys cynlluniau rhyddhad parhaol. Nid yw rhyddhadau eraill, megis Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch wedi'u cynnwys. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o ryddhad sydd ar gael yn y rhestr termau.
Blwyddyn | Canran yr ardrethi gros a leihawyd gan rhyddhadau gorfodol | Canran yr ardrethi gros a leihawyd gan rhyddhadau dewisol | Canran yr ardrethi gros a leihawyd gan pob rhyddhad |
---|---|---|---|
2012-13 | 15.5% | 0.5% | 16.1% |
2013-14 | 16.1% | 0.5% | 16.7% |
2014-15 | 16.6% | 0.5% | 17.2% |
2015-16 | 16.2% | 0.5% | 16.7% |
2016-17 | 16.8% | 0.4% | 17.3% |
2017-18 | 19.4% | 0.5% | 19.9% |
2018-19 | 18.6% | 0.5% | 19.1% |
2019-20 | 18.5% | 0.5% | 19.0% |
2020-21 | 19.8% | 0.5% | 20.2% |
2021-22 | 19.2% | 0.5% | 19.7% |
2022-23 | 18.8% | 0.5% | 19.4% |
Ffynhonnell: Ffurflenni NDR3
- Yn 2022-23, cafodd y ffigur cyffredinol ar gyfer ardrethi gros sy'n daladwy ar gyfer Cymru ei leihau 19% drwy gymhwyso rhyddhadau parhaol.
- Mae gostyngiadau mewn biliau drwy gymhwyso rhyddhadau gorfodol wedi bod yn cynyddu, ar y cyfan, dros y degawd diwethaf, wrth i ragor o gynlluniau gael eu cyflwyno ac wrth i gynlluniau sy'n bodoli eisoes ddod yn fwy hael.
- Mae gostyngiadau o ganlyniad i ryddhadau dewisol (heb gynnwys Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch) wedi aros ar lefel debyg (sef 0.5% o'r ardrethi gros sy'n daladwy) dros y degawd diwethaf.
Rhyddhadau gorfodol
Mae gan eiddo sy'n bodloni meini prawf a nodir mewn deddfwriaeth hawl awtomatig i gael rhyddhad gorfodol ar gyfer ei fil ardrethi cyfan neu ran ohono. Ariennir y rhyddhadau gorfodol hyn yn llawn gan Lywodraeth Cymru.
Ffigur 3: Cyfanswm gwerth y rhyddhadau gorfodol ledled Cymru a ddarparwyd yn ôl categori, rhwng 2012-13 a 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart llinell yn dangos cyfanswm y Rhyddhad Gorfodol, Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach, Rhyddhad Elusennol a Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag ar draws Cymru rhwng 2012-13 a 2022-23. Cynyddodd cyfanswm y Rhyddhad Gorfodol bob blwyddyn rhwng 2012-13 a 2020-21, a Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag oedd â’r cyfanswm isaf ar gyfer pob blwyddyn.
- Darparwyd rhyddhadau gorfodol gwerth £244 miliwn yng Nghymru yn 2022-23. Mae'r ffigur hwn yn llai na'r £259 miliwn a ddarparwyd yn 2020-21 pan fu cynnydd yn y rhyddhad ar gyfer eiddo gwag, sydd i'w briodoli, o bosibl, i effeithiau pandemig coronafeirws (COVID-19).
- Roedd Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR) yn cyfrif am y mwyafrif o'r rhyddhad gorfodol yn 2022-23, sef cyfanswm o £140 miliwn. Mae'r gwerth hwn yn uwch nag y bu ar unrhyw adeg yn y degawd diwethaf.
- At hynny, darparwyd rhyddhadau gorfodol gwerth £64 miliwn ar gyfer eiddo a oedd yn cael ei feddiannu gan elusennau yn 2022-23. Arhosodd y swm hwn ar yr uchaf a fu yn ystod y degawd diwethaf.
Rhyddhadau dewisol
Yn ogystal â rhyddhadau gorfodol, mae gan awdurdodau bilio bwerau i ddyfarnu rhyddhad yn ôl eu disgresiwn ar yr amod bod eiddo yn bodloni meini prawf a bennwyd yn lleol. Mae rhai mathau o ryddhad dewisol ar ffurf ‘swm ychwanegol’, sy'n cynyddu'r swm sydd eisoes yn cael ei ddarparu ar ffurf rhyddhad gorfodol.
Mae’r rhyddhadau dewisol yn Ffigur 4 yn cynnwys rhyddhadau a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn unig. Mae swm ychwanegol o ryddhadau dewisol yn cael ei dalu gan awdurdodau bilio sydd ddim wedi’i gynnwys yn y ffigurau isod.
Ffigur 4: Cyfanswm gwerth y rhyddhadau dewisol ledled Cymru a ddarparwyd yn ôl categori, rhwng 2012-13 a 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart llinell yn dangos Cyfanswm y Rhyddhad Dewisol ledled Cymru o 2012-13 i 2022-23. Mae'r siart wedi'i rhannu yn Rhyddhad Nid Er Elw, Rhyddhad Elusennol a Rhyddhad Caledi. Sefydliadau nid er elw gafodd mwyafrif yr holl ryddhad dewisol yng Nghymru, ac elusennau gafodd y mwyafrif o’r gweddill. Ar ffurf Rhyddhad Caledi y rhoddwyd y swm lleiaf bob blwyddyn.
- Darparwyd rhyddhad dewisol gwerth £7.1 miliwn gan awdurdodau bilio yn 2022-23 (heb gynnwys Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch). Mae'r ffigur hwn £200,000 yn fwy nag yn 2021-22 a dyma'r swm mwyaf yn ystod y degawd diwethaf.
- Rhoddwyd dros bedair rhan o bump o'r rhyddhadau dewisol i gyrff nad ydynt yn gwneud elw, gyda'r rhan fwyaf o'r gweddill yn cael ei rhoi i elusennau.
- Darparodd Abertawe ryddhad dewisol gwerth £950,000 yn 2022-23, sef y lefel uchaf ar draws yr holl awdurdodau bilio. Mae hyn gyfwerth â 13% o’r rhyddhad dewisol a roddwyd y flwyddyn honno.
- £26,000 o ryddhad dewisol a ddarparodd Sir Fynwyyn 2022-23, sef y gwerth isaf o blith yr holl awdurdodau bilio. Mae'r swm hwn yn cyfateb i 0.4% o'r holl ryddhad dewisol a ddarparwyd y flwyddyn honno.
- Syrthiodd Rhyddhad Caledi Dewisol i ychydig o dan sero yn 2022-23. Cafodd hyn ei gymell gan nifer fach o awdurdodau bilio yn gwneud addasiadau i’r rhyddhad a roddwyd yn y blynyddoedd blaenorol, a oedd yn fwy na’r rhyddhad newydd a roddwyd yn ystod y flwyddyn.
Colledion wrth gasglu
Mae colledion wrth gasglu yn ddyledion na ellir eu casglu neu pan fo'r awdurdod bilio wedi penderfynu peidio â chasglu'r ddyled. Mae hyn yn cynnwys ‘drwgddyledion’ neu ddyledion a ddilëir pan na ellir eu casglu a ‘dyledion amheus’ lle mae'r ddyled yn annhebygol o gael ei had-dalu oherwydd anawsterau ariannol.
Ffigur 5: Cyfanswm y colledion wrth gasglu ardrethi annomestig ledled Cymru yn ôl math, rhwng 2012-13 a 2022-23
Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart llinell yn dangos Colledion wrth Gasglu a Chostau Casglu ledled Cymru o 2012-13 i 2022-23. Cynyddodd costau casglu ychydig, tra bod colledion wrth gasglu yn amrywio gan gyrraedd uchafbwynt yn 2020-21 cyn profi gostyngiad mawr yn 2021-22.
- Mae cost casglu ardrethi wedi cynyddu'n raddol dros y degawd diwethaf, o £6.3 miliwn yn 2012-13 i £7.1 miliwn yn 2022-23.
- Mae colledion wrth gasglu wedi amrywio yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y gwerth yn amrywio o £7.5 miliwn i £14 miliwn rhwng 2011-12 a 2019-20 a chyrhaeddodd uchafbwynt o £27.9 miliwn yn 2020-21 o ganlyniad i bandemig COVID-19.
- Fel mae'n digwydd, cafwyd £1.6 miliwn yn 2021-22 o ‘golledion wrth gasglu’. Roedd hyn i'w briodoli i'r ffaith bod swm mawr o ddyledion a adenillwyd o 2020-21 wedi'i gario ymlaen a'i gynnwys yn y ffigur ar gyfer 2021-22.
- Roedd cyfanswm y colledion wrth gasglu yn £2.3 miliwn yn 2022-23.
2016-17 | 2017-18 | 2018-19 | 2019-20 | 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 |
---|---|---|---|---|---|---|
0.9% | 0.8% | 0.9% | 1.2% | 2.8% | -0.2% | 0.2% |
- Cafodd 0.2% o’r arenillion net ei golli yn 2022-23. Mae hyn yn is na’r golled yn unrhyw flwyddyn rhwng 2016-17 a 2020-21.
- Yn 2021-22, cafodd 0.2% o gyfanswm yr arenillion net (biliau terfynol â'r holl ryddhadau perthnasol wedi'u cymhwyso atynt) ei ennill oherwydd ‘colledion wrth gasglu’. Roedd hyn i'w briodoli i'r ffaith bod swm mawr o ddyledion a adenillwyd o 2020-21 wedi'i gario ymlaen a'i gynnwys yn y ffigur ar gyfer 2021-22.
Rhestr termau
Adeiladau a feddiennir yn rhannol
Mewn rhai achosion, mae rhai rhannau o eiddo heb eu meddiannu a byddant yn parhau felly am gyfnod byr. Gall awdurdodau bilio ddewis rhoi rhyddhad dewisol pan fo anawsterau ymarferol o ran meddiannu neu adael eiddo. Er enghraifft, pan fydd angen meddiannu neu adael yr eiddo o fewn a thros nifer o wythnosau neu fisoedd neu pan fo rhyw ddigwyddiad megis tân neu lifogydd yn golygu nad oes modd defnyddio rhan o'r eiddo.
Ailbrisio
O bryd i'w gilydd mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn ailasesu pob eiddo annomestig yng Nghymru, gan roi gwerthoedd ardrethol newydd iddo, sy'n seiliedig ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad. Gelwir hyn yn ‘ailbrisio’ ac mae'n arwain at restr ardrethu newydd.
Yn dilyn ymarfer ailbrisio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, daeth y rhestr ardrethu diweddaraf i rym ar 1 Ebrill 2023. Mae’r data diweddaraf yn y cyhoeddiad yn ymwneud â’r rhestr flaenorol a luniwyd ar gyfer 1 Ebrill 2017.
Ni fydd ymarferion ailbrisio yn codi refeniw ychwanegol yn gyffredinol. Bydd gwerthoedd ardrethol yn cynyddu ac yn lleihau pan gaiff eiddo ei ailbrisio o gymharu â'r cyfartaledd ac ni fydd ymarferion ailbrisio yn codi arian ychwanegol i'r Llywodraeth. Pan gynhelir ymarfer ailbrisio, caiff y lluosydd ei ddiwygio er mwyn sicrhau, yn genedlaethol, y cynhelir cyfanswm y refeniw o ardrethi annomestig ar yr un lefel mewn termau real (ar ôl ystyried y Mynegai Prisiau Defnyddwyr).
Apêl
Gall talwr ardrethi herio'r gwerth ardrethol a bennwyd iddo unrhyw bryd os bydd o'r farn ei fod yn anghywir drwy gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses apelio yn: How to check and challenge your rateable value in Wales (Valuation Office Agency)
Ardrethi annomestig
Treth leol ar feddiannaeth eiddo annomestig, sy'n seiliedig ar y rhent blynyddol tybiannol ar gyfer eiddo ar y farchnad agored a elwir yn werth ardrethol.
Ardrethi busnes
Term a ddefnyddir yn aml yn lle'r disgrifiad cyfreithiol mwy cywir, sef ‘ardrethi annomestig’. Caiff ardrethi eu talu gan gyrff cyhoeddus a sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw yn ogystal â busnesau preifat.
Arenillion net
Swm yr ardrethi annomestig a gasglwyd ar ôl i ryddhadau gael eu cymhwyso at atebolrwydd gros eiddo. Nid yw'n ystyried colledion wrth gasglu nac arian a roddwyd i awdurdodau bilio er mwyn talu costau casglu. Mae'r rhain yn cael eu hystyried yn y ffigur terfynol ar gyfer ‘cyfraniad at y gronfa’.
Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Un o asiantaethau gweithredol CThEF sy'n darparu prisiadau a chyngor ar eiddo er mwyn cefnogi trethiant a buddiannau i'r llywodraeth ac awdurdodau bilio yng Nghymru a Lloegr. Mae hefyd yn darparu gwasanaethau prisio ac arolygu i gyrff yn y sector cyhoeddus.
Atebolrwydd gros
Sef y bil cychwynnol cyn i unrhyw ryddhadau gael eu cymhwyso ato. Mae'n cyfateb i'r Gwerth Ardrethol x Lluosydd Ardrethi Annomestig. Mae ystyried rhyddhadau wrth gyfrifo'r atebolrwydd gros yn rhoi'r ‘atebolrwydd net’ neu'r ‘arenillion net’.
Awdurdod bilio
Awdurdod lleol sydd â'r pŵer i gasglu ardrethi annomestig. Mae pob un o'r 22 cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn cael eu hystyried yn awdurdodau bilio.
Clybiau chwaraeon amatur cymunedol
Clybiau chwaraeon amatur cymunedol sy'n meddiannu eiddo annomestig. Efallai y bydd clybiau cofrestredig yn gymwys i gael rhyddhad.
Colledion wrth gasglu
Y cyfanswm a gollir oherwydd dau ffactor, sef: unrhyw ddyledion amheus yn y flwyddyn gyfredol, ac unrhyw ddyledion sydd wedi'u dileu'n llwyr. Mae dyledion amheus yn achosion lle mae'r ddyled yn annhebygol o gael ei had-dalu oherwydd anawsterau ariannol a gwneir darpariaethau ar gyfer dyledion amheus ymlaen llaw.
Cyfraniad at y gronfa
Dyma swm terfynol yr ardrethi annomestig a gasglwyd o restrau lleol, ar ôl i holl elfennau'r biliau a ffactorau eraill megis cost casglu ardrethi a cholledion wrth gasglu gael eu hystyried. Caiff y ffigur ar gyfer y cyfraniad at y gronfa ar gyfer pob awdurdod bilio ei gyfuno â'r refeniw a godwyd gan y rhestr ganolog er mwyn cyfrifo ffigur ar gyfer y ‘Gronfa Ardrethi Annomestig’. Caiff y swm hwn ei ddosbarthu i awdurdodau bilio gan Lywodraeth Cymru ar sail poblogaeth fel rhan o'r setliadau llywodraeth leol blynyddol.
Cyrff nad ydynt yn gwneud elw
Sefydliadau nad ydynt yn gwneud elw sy'n meddiannu eiddo annomestig.
Gwerth ardrethol
Y term cyfreithiol ar gyfer gwerth eiddo ar y farchnad, a asesir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae'r gwerth ardrethol yn seiliedig ar y rhent blynyddol y gellid bod wedi'i godi ar gyfer yr eiddo ar y farchnad agored ar ddyddiad penodol (sef 1 Ebrill 2021 ar hyn o bryd, gan ddefnyddio rhestr a luniwyd ar gyfer 1 Ebrill 2023). Defnyddir y gwerth ardrethol i bennu'r atebolrwydd i dalu ardrethi ac, felly, y bil. Gall talwr ardrethi apelio yn erbyn y gwerth ardrethol a bennwyd iddo unrhyw bryd os bydd o'r farn ei fod yn anghywir.
Mae’r data yn y cyhoeddiad hwn yn defnyddio’r rhestr flaenorol a luniwyd ar gyfer 1 Ebrill 2017, a oedd yn seiliedig ar werth yr eiddo ar 1 Ebrill 2015.
Hereditament
Y term cyfreithiol ar gyfer yr uned o eiddo annomestig sy'n atebol, neu a allai ddod yn atebol, i dalu ardrethi annomestig ac sy'n ymddangos, felly, ar y rhestr ardrethu. Yn aml, cyfeirir at hereditamentau yn syml fel eiddo. Gall hereditamentau gynnwys peilonau, blychau ffôn, hysbysfyrddau yn ogystal â swyddfeydd, siopau, warysau, ffatrïoedd ac adeiladau cyhoeddus fel ysbytai ac ysgolion. Gall hereditament gynnwys sawl adeilad gyda'i gilydd, megis campws prifysgol neu ddim ond un swyddfa mewn bloc.
Lluosydd ardrethi annomestig
Yn aml, cyfeirir ato yn syml fel ‘y lluosydd’. Dyma'r ffigur a ddefnyddir i gyfrifo bil ardrethi annomestig cychwynnol yn seiliedig ar werth ardrethol eiddo. Drwy gymhwyso'r lluosydd at y gwerth ardrethol ceir yr ‘atebolrwydd gros’, sef y swm sy'n ddyledus cyn i unrhyw ryddhadau gael eu cymhwyso.
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r lluosydd ardrethi annomestig bob blwyddyn. Cyn 2018-19, fel arfer roedd y lluosydd yn cynyddu yn unol â'r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI). O 1 Ebrill 2018 ymlaen, y Mynegai Prisiau Defnyddwyr oedd y mesur diofyn ar gyfer cynyddu'r lluosydd. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi cyfyngu ar y lluosydd neu ei rewi ar gyfer pob blwyddyn rhwng 2020-21 a 2023-34, ac ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 y lluosydd oedd 0.535.
Meddiannaeth elusennol
Elusennau cofrestredig sy'n meddiannu eiddo annomestig.
Rhestr ardrethu
Y cyfuniad o'r rhestr ganolog a rhestrau lleol, sy'n cynnwys yr holl eiddo annomestig perthnasol yng Nghymru. Caiff y rhestr ardrethu ei llunio a'i chynnal gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Rhestr ganolog
Mae nifer bach o eiddo ar y ‘rhestr ganolog’. Mae'r rhestr hon yn bennaf yn cynnwys eiddo drud iawn a ddelir gan ddiwydiannau ac sy'n rhychwantu sawl awdurdod bilio. Rhoddir un gwerth ardrethol i bob cwmni neu grŵp o gwmnïau a thelir y refeniw a gesglir yn uniongyrchol i Lywodraeth Cymru. Gellir gweld y rheoliadau sy'n berthnasol i'r rhestr ganolog yn: Rhestr ganolog (Cymru) (Valuation Office Agency).
Rhestr leol
Mae rhestrau ardrethu lleol yn cynnwys pob eiddo annomestig o fewn ffin awdurdod bilio. Mae awdurdodau bilio yn anfon biliau ac yn casglu ardrethi gan bob eiddo ar eu rhestr eu hunain. Caiff y refeniw a gesglir ei dalu i Gronfa Ardrethi Annomestig Llywodraeth Cymru. Yna, caiff ei ddosbarthu i awdurdodau bilio fel rhan o setliadau refeniw llywodraeth leol bob blwyddyn.
Rhyddhad ardrethi eiddo gwag
Rhyddhad a roddir i berchennog eiddo heb ei feddiannu. Gall eiddo hawlio rhyddhad o 100% am y tri mis cyntaf y mae'r eiddo yn wag (neu chwe mis yn achos eiddo diwydiannol). Ar ôl hynny, byddant yn atebol i dalu'r ardrethi llawn.
Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach (SBRR)
Rhyddhad gorfodol a ddarperir i fusnesau bach cymwys. Mae safleoedd busnes cymwys â gwerth ardrethol o hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%. Mae safleoedd busnes â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar sail raddedig o 100% i 0%. Mae busnesau yn gymwys i gael y rhyddhad ar gyfer hyd at ddau eiddo fesul awdurdod bilio.
Mae'r cynllun yn fwy hael i safleoedd gofal plant cofrestredig, sy'n cael rhyddhad o 100% waeth beth fo'u gwerth ardrethol. Mae trothwyon gwerth ardrethol hefyd yn fwy hael i swyddfeydd post, sy'n cael rhyddhad o 100% hyd at werth ardrethol o £9,000 a rhyddhad o 50% ar gyfer gwerthoedd ardrethol rhwng £9,001 a £12,000.
Rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch
Rhyddhad dros dro a ddarperir i eiddo yng Nghymru yn y sector manwerthu, y sector hamdden a'r sector lletygarwch. Mae hyn yn cynnwys siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai. Cyflwynwyd y rhyddhad yn 2020-21 er mwyn cefnogi eiddo yr oedd cyfyngiadau symud COVID-19 yn effeithio arnynt. Mae wedi’i ymestyn ar wahanol lefelau yn y blynyddoedd dilynol i gefnogi adferiad yn dilyn pandemig Covid-19 a heriau economaidd eraill.
Rhyddhad caledi
Rhyddhad dewisol y gellir ei roi i eiddo sydd wedi wynebu, neu a fydd yn wynebu, caledi ariannol oherwydd ffactorau allanol penodol.
Rhyddhad dewisol
Yn ogystal â rhyddhadau gorfodol, mae gan awdurdodau bilio y pŵer i ddyfarnu rhyddhad yn ôl eu disgresiwn, ar yr amod bod yr eiddo yn bodloni meini prawf a bennwyd yn lleol.
Y categorïau presennol o ryddhad dewisol
- Meddiannaeth elusennol
- Clybiau chwaraeon amatur cymunedol
- Cyrff nad ydynt yn gwneud elw
- Caledi
Rhyddhad gorfodol
Mae gan eiddo hawl awtomatig i gael rhyddhad ar gyfer eu biliau ardrethi cyfan neu ran ohonynt os ydynt yn bodloni'r meini prawf a nodir mewn deddfwriaeth.
Y categorïau presennol o ryddhad gorfodol
- Meddiannaeth elusennol
- Clybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol
- Rhyddhad ardrethi i fusnesau bach
- Adeiladau a feddiennir yn rhannol
- Adeiladau gwag
- Toiledau cyhoeddus
Rhyddhad trosiannol
Pan gaiff gwerthoedd ardrethol eiddo eu hailasesu (gweler ‘Ailbrisio’), efallai y rhoddir trefniadau trosiannol ar waith er mwyn sicrhau na fydd biliau yn cynyddu'n sylweddol. Cyflwynwyd cynllun rhyddhad trosiannol mewn ymateb i ymarfer ailbrisio 2017 a darparodd ryddhad i fusnesau bach yr oedd eu biliau yn cynyddu. Darparodd y cynllun ryddhad dros gyfnod o dair blynedd, gyda swm y rhyddhad yn cael ei leihau bob blwyddyn nes i atebolrwydd llawn gael ei gyflwyno. Daeth cynllun rhyddhad trosiannol newydd i rym ar 1 Ebrill 2023 er mwyn cefnogi talwyr ardrethi y mae ymarfer ailbrisio 2023 yn effeithio arnynt.
Rhagor o wybodaeth
Ceir data manylach, gan gynnwys dadansoddiadau yn ôl awdurdodau bilio a'r ffigurau sy'n sail i'r siartiau yn y bwletin hwn ar StatsCymru: Ardrethu annomestig, yn ôl awdurdod bilio a disgrifiad rhes NDR (£ mil)
Ceir rhagor o wybodaeth am ardrethi annomestig a'r ffordd y caiff biliau eu cyfrifo yn: Ardrethi Busnes yng Nghymru (Busnes Cymru)
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â’r egwyddorion a’r prosesau cyffredinol sy’n arwain at gynhyrchiad ein hystadegau: Ystadegau cyllid llywodraeth leol: adroddiad ansawdd
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn rhoi saith nod llesiant ar waith ar gyfer Cymru. Maent yn anelu at greu Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iachach sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang, â chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o'r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae'n rhaid eu cymhwyso er mwyn mesur cynnydd tuag at gyflawni'r nodau llesiant, a (b) gosod copi o'r dangosyddion cenedlaethol ger bron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, rhaid iddynt (a) cyhoeddi'r dangosyddion diwygiedig a (b) gosod copi ohonynt ger bron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn ger bron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r gyfres a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai'r ystadegau sydd wedi'u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd gynnig naratif ategol i'r dangosyddion cenedlaethol a gellid eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus mewn perthynas â'u hasesiadau llesiant lleol a'u cynlluniau llesiant lleol.