Neidio i'r prif gynnwy

Cwynion ac apeliadau: pan na thelir Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) oherwydd lefelau presenoldeb myfyrwyr

Mae canolfannau dysgu (h.y. ysgolion a cholegau) yn gyfrifol am gyflwyno cofnod prydlon i Gyllid Myfyrwyr Cymru yn cadarnhau bod eu myfyrwyr 'yn bresennol' neu 'ddim yn bresennol'. Mae cyfres o gofnodion sy’n cadarnhau presenoldeb yn caniatáu i daliadau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) gael eu rhyddhau yn ystod y flwyddyn academaidd i fyfyrwyr cymwys.

Mae gan ganolfannau dysgu ddisgresiwn i helpu o ran presenoldeb eu myfyrwyr gan ystyried eu hamgylchiadau personol yn unol â'u polisïau eu hunain. Cyhoeddwyd Hysbysiad Gwybodaeth 10/2022 i atgoffa staff sy'n delio ag amgylchiadau anarferol, sydd efallai yn effeithio’n anochel ar bresenoldeb myfyriwr ac sydd efallai mewn perygl o beidio â manteisio ar ei addysg. Rydym yn ddiolchgar i'r canolfannau dysgu sy'n ystyried amgylchiadau unigol fesul achos.

Rydym hefyd yn gwerthfawrogi y gall taliadau gael eu heffeithio lle nad yw myfyrwyr wedi mynychu yn unol â'r Cytundeb a lofnodwyd ganddynt mewn perthynas â Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), neu lle mae'r ganolfan ddysgu wedi cofnodi absenoldeb heb ei awdurdodi, sy'n golygu bod eu lefelau presenoldeb islaw'r hyn a gytunwyd. Fodd bynnag, gan nad yw Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gyfrifol am gofrestri canolfannau dysgu, byddem yn disgwyl i’r myfyriwr ei hun drafod unrhyw anghydfod ynghylch materion presenoldeb, sy’n arwain at beidio â thalu Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), yn uniongyrchol gyda’i ganolfan ddysgu, gan ddilyn proses gwyno’r ganolfan ddysgu, i ddatrys y mater lle bo modd.

Fodd bynnag, os mai gwall yn system Cyllid Myfyrwyr Cymru yw’r rheswm dros beidio â thalu Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), bydd y gwasanaeth yn anelu at roi gwybod i'r canolfannau dysgu yn brydlon. Gofynnwn i'r canolfannau dysgu helpu i gyfathrebu â’u myfyrwyr ynghylch sefyllfaoedd o’r fath er mwyn rheoli eu disgwyliadau ac i leihau galwadau ffôn i wasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru. 

Os yw myfyriwr yn anfodlon gydag unrhyw agwedd ar wasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, dylai ddilyn y broses gwyno ac apelio a nodir isod.

Cwynion ac apeliadau: penderfyniadau Cyllid Myfyrwyr Cymru ynghylch ceisiadau am Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach) ac anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth

Nod Cyllid Myfyrwyr Cymru yw darparu gwasanaeth sydd 100% yn gywir y tro cyntaf un wrth asesu ceisiadau ac wrth roi cyngor a gwybodaeth. Maent hefyd yn ymdrechu i ddysgu gwersi i helpu i wella'r gwasanaeth.

I fyfyrwyr sy'n dymuno codi cwyn am unrhyw agwedd ar wasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru, neu apelio am benderfyniad ynghylch cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg neu Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (Addysg Bellach), dylent ddilyn y prosesau perthnasol isod i sicrhau bod modd ymchwilio i’w pryderon a mynd i'r afael â nhw yn briodol:

Cwynion am wasanaeth Cyllid Myfyrwyr Cymru

Gall myfyrwyr wneud cwyn ffurfiol dros y ffôn, drwy e-bost neu'r post.

Dros y ffôn:

0300 200 4050
O ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8 y bore a 6 y nos
Rydym yn croesawu galwadau Cymraeg a galwadau Relay UK.

Drwy e-bost:

customer_complaints@slc.co.uk (dylai myfyrwyr gynnwys eu rhif cyfeirnod yn llinell bwnc yr e-bost)

Drwy'r post:

Customer Relations
Student Loans Company
100 Bothwell Street
Glasgow
G2 7JD

Gellir cael mwy o wybodaeth yn Gweithdrefn gwyno (Gov.UK).

Apeliadau am benderfyniad Cyllid Myfyrwyr Cymru ynghylch cais

Mae angen i fyfyrwyr lenwi ffurflen apêl a’i hanfon.

Drwy e-bost:

formal_appeals@slc.co.uk (dylai myfyrwyr gynnwys eu rhif cyfeirnod yn llinell bwnc yr e-bost)

Drwy'r post:

Apêl Ffurfiol Cyllid Myfyrwyr Cymru 
Blwch Post 220
Cyffordd Llandudno
LL30 9GE

Gellir cael mwy o wybodaeth yn: Cwynion ac apeliadau | Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Ymholiadau

Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â’r Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru drwy anfon e-bost i isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

Mae fersiynau o’r ddogfen hon ar gael mewn print bras, Braille ac ieithoedd eraill ar gais.