Neidio i'r prif gynnwy

Grant Teithio

Yn dilyn cyflwyno rhaglenni symudedd Turing a Taith, mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi eglurhad o’r trefniadau pan fydd myfyrwyr yn gallu cyflwyno cais am Grant Teithio i Gyllid Myfyrwyr Cymru. 

Gall myfyrwyr cymwys ar raglenni Erasmus+, Turing neu Taith hawlio unrhyw gostau teithio ychwanegol a chymwys gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. 

Gall myfyriwr cymwys hawlio am y canlynol pan yn astudio dramor: 

  • Ar gyfer lleoliad blwyddyn lawn, hyd at dair taith yn ôl rhwng y DU a sefydliad tramor. Dylai’r dosbarth a'r dull teithio fod yn rhesymol (er enghraifft, mae'n annhebygol y byddai hediadau dosbarth busnes yn cael eu hystyried yn rhesymol).
  • Ar gyfer lleoliad tymor, hyd at un daith yn ôl rhwng y DU a sefydliad tramor. Dylai’r dosbarth a'r dull teithio fod yn rhesymol (er enghraifft, mae'n annhebygol y byddai hediadau dosbarth busnes yn cael eu hystyried yn rhesymol).
  • Unrhyw gostau teithio dyddiol angenrheidiol tra bod y myfyriwr dramor at ddibenion mynychu'r sefydliad. 
  • Costau teithio ar gyfer plant dibynnol myfyriwr sy’n rhiant sengl, lle mae'n ofynnol i'r myfyriwr fynd â'i blant.
  • Cost yswiriant meddygol a brynwyd at ddibenion astudio dramor.
  • Cost fisâu, brechiadau a argymhellwyd a phrofion meddygol gorfodol sy'n amod ar gyfer cael mynediad i'r wlad letyol.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr cymwys sy'n hawlio Grant Teithio gan Gyllid Myfyrwyr Cymru dalu'r £303 cyntaf neu £1000 o'u hawliad cyntaf, yn dibynnu ar incwm eu cartref, ac eithrio fisâu ac yswiriant meddygol.

Noder

  • Ni all myfyrwyr hawlio am yr un costau sydd eisoes wedi'u had-dalu o'r rhaglenni symudedd. 
  • Mae'n rhaid i fyfyrwyr fod wedi defnyddio’r grant teithio sydd ar gael iddynt drwy’r rhaglen symudedd cyn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Cymru. 
  • Gofynnir i fyfyrwyr gadarnhau fel rhan o broses hawlio Cyllid Myfyrwyr Cymru eu bod wedi defnyddio’r grant teithio sydd ar gael iddynt drwy’r rhaglen symudedd; mae’n bosibl hefyd y gofynnir i'r Brifysgol wirio unrhyw ddatganiad yn ymwneud â theithio ar gyfer rhaglen symudedd. Gall hawliadau fod yn destun monitro ac archwilio i sicrhau nad yw cyllid ar gyfer teithio yn cael ei ddyblygu.
  • Dylai prifysgolion gyfeirio at delerau ac amodau pob rhaglen symudedd wrth ariannu myfyrwyr. 
  • Mae’r Atodiad yn darparu manylion am sut caiff y Grant Teithio ei asesu dros 4 chwarter (tymor) academaidd yn ystod y flwyddyn academaidd.

Mae gwybodaeth am y Grant Teithio gan gynnwys y ffurflen gais wedi cael eu diweddaru i gadarnhau'r uchod. Mae’r canllawiau i ymarferwyr hefyd wedi’u diweddaru. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gynlluniau i ddarparu pennod ar wahân yn y canllawiau ynghylch myfyrwyr ar raglenni symudedd.

Ymholiadau am yr hysbysiad gwybodaeth hwn

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch ag Is-adran Addysg Uwch Llywodraeth Cymru e-bostiwch: isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.

Atodiad

Asesir y grant teithio dros 4 chwarter (tymor) academaidd.

Rhaid i fyfyrwyr fod yn astudio dramor am o leiaf 50% o bob chwarter (tymor) academaidd y maent yn dymuno hawlio eu bod yn gymwys i dderbyn y grant am hyd at 3 siwrne yn ôl.

Er enghraifft, gall myfyriwr astudio dramor am 50% neu fwy o bob un o'r pedwar chwarter ond dim ond uchafswm o dair taith yn ôl y gall eu hawlio. Felly, mae 1 chwarter cymwys yn gymwys ar gyfer 1 siwrne yn ôl, mae dau chwarter cymwys yn gymwys ar gyfer 2 daith yn ôl ac mae 3 neu 4 chwarter cymwys yn gymwys ar gyfer yr uchafswm o 3 siwrne dychwelyd. Ym mhob achos byddai angen bodloni'r holl feini prawf cymhwystra eraill.

Mae'r ardaloedd cymwys fel a ganlyn:

Chwarter 1

1 Medi i 31 Rhagfyr (122 diwrnod: o leiaf 61 diwrnod o astudio dramor)*
* Bydd unrhyw gyfnod tramor o 1 Awst hefyd yn cael ei gynnwys yng nghyfrifiad y chwarter cyntaf.

Chwarter 2

1 Ionawr i 31 Mawrth (90 diwrnod: o leiaf 45 diwrnod o astudio dramor)

Chwarter 3

1 Ebrill i 30 Mehefin (91 diwrnod: o leiaf 46 diwrnod o astudio dramor)

Chwarter 4

1 Gorffennaf i 31 Awst (62 diwrnod: o leiaf 31 diwrnod o astudio dramor)