Roedd Sgowt Explorer o Rondda Cynon Taf, a achubodd ddyn ifanc oedd ar fin lladd ei hun, ymhlith yr enillwyr yng Ngwobrau Dewi Sant eleni, sy'n cydnabod pobl sydd wedi gwneud pethau rhyfeddol.
Roedd Callum Smith o Borth yn cerdded dros bont droed uwchben ffordd osgoi brysur pan welodd y dyn mewn trallod.
Er nad oedd ganddo unrhyw hyfforddiant blaenorol i ddelio â sefyllfa fel hon, arhosodd Callum yn bwyllog, siaradodd ag ef ac adeiladu perthynas, cyn ei ddal nes i'r heddlu gyrraedd a chymryd yr awenau.
Bellach yn eu hunfed flwyddyn ar ddeg, Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, sy'n dathlu pobl o bob cwr o'r wlad ac o bob cefndir sydd wedi'u henwebu mewn categorïau gan gynnwys dewrder, busnes ac ysbryd cymunedol.
Canmolodd y beirniaid weithredoedd anodd a chlodwiw iawn Callum gan ddweud ei fod wedi dangos dewrder rhagorol a arweiniodd at achub bywyd.
Ymhlith yr enillwyr eraill roedd Alan Bates, y cyn Is-bostfeistr, a gafodd Wobr Arbennig y Prif Weinidog am arwain yr ymgyrch i ddatgelu sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post.
Cyflwynodd y Prif Weinidog hefyd Wobr Arbennig i Windrush Cymru Elders, grŵp a sefydlwyd yn 2017 fel rhan o Race Council Cymru i hyrwyddo dealltwriaeth o bryderon henoed ethnig leiafrifol.
Wrth siarad yn y seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething:
"Am ffordd wych o ddechrau fy nghyfnod fel Prif Weinidog - cwrdd â'r grŵp gwych hwn o bobl hynod dalentog a dewr.
"Bob blwyddyn, mae Gwobrau Dewi Sant yn tynnu sylw at rai o'r rhai mwyaf gwych a dewr o bob cwr o'r wlad ac maent yn gyfle i ddangos i weddill y DU y math o bobl sy'n byw yng Nghymru.
"Bydd gwobrau eleni, y cyntaf i mi fel Prif Weinidog, bob amser yn arbennig iawn i mi, ac mae pob un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni yn wirioneddol ysbrydoledig. Rydym yn ffodus iawn o'u cael yn byw ac yn gweithio yma, ac mae wedi bod yn fraint dathlu eu cyfraniad i fywyd Cymru."
Cafodd pob enillydd dlws Gwobrau Dewi Sant, a ddyluniwyd ac a wnaed gan yr artist cerameg blaenllaw, Daniel Boyle o Geredigion.