Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyrsiau am ddim ar gael yn ystod 2024 a 2026 i'ch helpu i ddelio â sefyllfaoedd niweidiol posibl fel aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae cyrsiau am ddim ar gael i'ch helpu i ddelio â sefyllfaoedd niweidiol posibl fel aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus.

Ydych chi wedi clywed jôc, sylwadau neu sarhad yn erbyn menywod neu ferched erioed, ac wedi difaru na wnaethoch chi ddweud rhywbeth i'w herio? 

Efallai eich bod wedi gweld rhywbeth oedd yn mynd yn groes i'r graen i chi ond nad oedd gennych yr hyder na'r sgiliau i ymyrryd?

Pan fyddwn yn gweld neu glywed sylwadau diangen sy'n diraddio menywod a merched, sydd yn aml yn esgus eu bod yn 'tynnu coes', a ninnau’n gwneud dim, rydym yn grymuso'r aflonyddwrEr enghraifft, rhywiaeth, casineb at fenywod a merched, aflonyddu neu sylwadau digroeso eraill. Pan fyddwn yn gwneud neu ddweud dim am y pethau hyn, rydym yn creu diwylliant lle mae rhai’n credu y gallant fynd ymhellach fyth ar hyd y trywydd hwnnw.

Mae’r hyfforddiant hwn yn rhoi'r sgiliau a'r hyder i chi gael sgyrsiau gyda'ch ffrindiau a'ch cydweithwyr am y materion hyn.

Yr arbenigwyr yn y diwydiant, Kindling Transformative Interventions a Plan International UK sy'n darparu'r hyfforddiant. 

Mae ar gael ar gyfer gweithleoedd, grwpiau cymunedol, sefydliadau chwaraeon a grwpiau eraill sydd â diddordeb. Ariennir yr hyfforddiant gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'n hymrwymiad parhaus i arwain y newid i wneud Cymru y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw.

Gwybodaeth am y cyrsiau

Bydd yr hyfforddiant yn rhoi'r sgiliau, yr hyder a'r adnoddau a thechnegau ymarferol i chi i ymyrryd yn ddiogel mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Gall hyn fod gyda dieithryn, cydweithiwr neu gyfaill.

Nod yr hyfforddiant yw:

  • grymuso pobl i herio agweddau ac ymddygiad sy'n gefnogol i drais yn eu gweithle, ymhlith eu cyfoedion neu yn y gymuned
  • newid ymddygiad a lleihau'r tebygolrwydd fod trais yn digwydd
  • addysgu pobl sut i gefnogi dioddefwyr/goroeswyr trais a’u hatgyfeirio i fanteisio ar y cymorth sydd ar gael
  • cynyddu gwybodaeth am drais yn erbyn menywod a'r arwyddion sy'n rhybuddio ei fod yn digwydd 
  • newid agweddau er mwyn i unigolion allu adnabod pan fo sefyllfa'n broblemus a deall pam ei bod yn bwysig gweithredu

Mae'r cyrsiau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ac yn cael eu cynnig ar 4 fformat gwahanol: 

  • 2 awr ar-lein
  • 2 awr wyneb yn wyneb
  • 6 awr wyneb yn wyneb (3 sesiwn o 2 awr yr un)
  • 6 awr o hyfforddiant cyfunol (2 sesiwn o 2 awr yr un ar-lein, ac un sesiwn 2 awr wyneb yn wyneb)

Pwy sy'n gymwys

Gall unrhyw un hyfforddi i ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol. Rydym yn darparu'r hyfforddiant am ddim i'r canlynol:

  • sefydliadau
  • grwpiau cymunedol
  • timau chwaraeon
  • lleoliadau addysg
  • gweithleoedd

Mae'r hyfforddiant ar gael i bawb sy'n 18 oed a throsodd.

Gwneud cais

Anfonwch eich datganiad o ddiddordeb i walesbystandertraining@plan-uk.org.

 Dylech nodi: 

  • eich enw
  • eich cyfeiriad e-bost
  • ai hyfforddiant grŵp neu unigol sydd o ddiddordeb i chi

Darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd i gael gwybod sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei defnyddio.

I gael gwybod mwy, anfonwch e-bost hefyd i walesbystandertraining@plan-uk.org.