Diweddariadau fframwaith.
Arolwg ymgysylltu y fframwaith buddion i weithwyr (III)
Mae'r fframwaith buddion i weithwyr (III) newydd yn gytundeb cydweithredol sy'n cynnig ystod eang o gynlluniau i gwsmeriaid. Gall cwsmeriaid gael mynediad at wasanaeth a reolir yn llawn neu wasanaethau unigol sy'n cynnwys ystod o gynlluniau aberthu cyflog a didyniad gwirfoddol sydd â'r potensial i gyflawni arbedion sylweddol i gyflogwyr a gweithwyr, gan ychwanegu gwerth yn y gwasanaethau sy'n cael eu darparu.
Mae'r cytundeb fframwaith hwn yn cynnwys cyflenwi'r gwasanaethau canlynol o dan y Lotiau a ganlyn:
- Lot 1: Darpariaeth gwasanaethau a reolir
- Lot 2: Cynllun beicio i'r gwaith
- Lot 3: Cynllun ceir gwyrdd
Mae Lot 1 yn cynnwys:
- Cynllun beicio i'r gwaith
- Cynllun ceir gwyrdd
- Cynllun technoleg cartref a ffonau clyfar
- Cynllun iechyd a lles
- Cynllun lles ariannol
- Cynllun talebau gofal plant
- Cynllun gostyngiad manwerthu a hamdden
- Datrysiadau cydnabod a gwobrwyo
- Llwyfan buddion ar-lein
Rydym wedi adnewyddu'r fframwaith yn ddiweddar a hoffem fesur y diddordeb mewn mynychu digwyddiad ‘cwrdd â'r prynwr’ wyneb yn wyneb. Byddai digwyddiad wyneb yn wyneb yn dwyn ynghyd holl gyflenwyr y fframwaith yn ogystal â'u darparwyr trydydd parti i arddangos pa wasanaethau sydd ar gael a'r manteision o ddefnyddio'r gwasanaethau a gynigir, gan gynnwys yr arbedion y gall sefydliadau cwsmeriaid eu gwneud.
Eich cyfle chi i ddod i adnabod Buddion Gweithwyr Vivup!
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu’r darparwr buddion a llesiant gweithwyr, Vivup fel yr unig gyflenwr ar gyfer y Ddarpariaeth Gwasanaethau a Reolir (Lot 1).
Mae’r fframwaith Darpariaeth gwasanaethau a reolir sydd ar gael i bob sefydliad sector cyhoeddus yn y DU, yn cynnwys gwasanaeth a reolir yn llawn ar gyfer buddion gweithwyr sy’n cwmpasu ystod o gynlluniau aberthu cyflog a didynnu gwirfoddol.
Mae Vivup yn cynnal dwy sesiwn unigryw ddydd Mawrth 30 Ebrill am 12 p.m. a dydd Mawrth 14 Mai am 12 p.m. i'ch helpu i ddysgu rhagor am yr hyn sydd ar gael.
Bydd y sesiynau’n rhoi sylw i’r canlynol:
- Sut gallwch chi wella eich datganiad gwerth i weithwyr heb unrhyw gost i'r sefydliad
- Dysgu sut i ddenu a chadw gweithwyr sydd ag ystod eang o fanteision ystyrlon
- Archwilio cymorth costau byw heb godiadau cyflog
- Sut i ymgysylltu â gweithwyr sy’n gweithio o bell a gweithwyr hybrid
- Yr ateb i ddatblygu diwylliant o wobrwyo a chydnabod
Cofrestrwch yma: Introduction to Vivup Employee Benefits & Wellbeing Tickets, Multiple Dates | Eventbrite
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.PoblaChorfforaethol@llyw.cymru