Cyfarfod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol: 5 Medi 2023
Crynodeb o funudau’r cyfarfod a chynhaliwyd ar 5 Medi 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Frances Duffy (Cadeirydd)
Saz Willey, Is-gadeirydd
Bev Smith, Aelod
Dianne Bevan, Aelod
Kathryn Watkins, Aelod
Sara Rees, Ysgrifenyddiaeth
Shan Whitby, Ysgrifenyddiaeth
Rhanddeiliaid allanol sy'n mynychu'r cyfarfod
Shereen Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
Robert Ashton Winter, Rheolwr Pontio, Y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol
Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru
Cyflwyniad
Cynhaliwyd cyfarfod o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) ddydd Mawrth 5 Medi.
Dyma nod cyfarfod mis Medi:
- adolygu a chytuno ar nodiadau cyfarfod mis Awst (nodiadau llawn a chryno), gan nodi camau gweithredu a diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth
- diweddaru cynllun gwaith a chyllideb 2023 i 2024
- trafod adolygiad o'r materion yn ymwneud â chofnod penderfyniadau'r Panel hyd yn hyn
- ystyried y Cynllun Tystiolaeth ac Ymchwil
- trafod cwestiynau'r ymgynghoriad
- trafod yr adroddiad blynyddol, gan gynnwys yr amserlen ar gyfer drafftio, a materion yn ymwneud â chyfathrebu ac ymgysylltu
- trafod ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, yr wybodaeth ddiweddaraf am bontio a deddfwriaeth
- trafod unrhyw fusnes arall
Isod ceir crynodeb o drafodaethau a phenderfyniadau'r Panel:
Camau Gweithredu a Diweddariadau'r Ysgrifenyddiaeth
Cytunodd y Panel ar gofnodion cyfarfod mis Awst, a chymeradwyodd ei Strategaeth Gyfathrebu.
Nododd y Panel y daflen gyllideb fel y'i trafodwyd.
Trafododd y Panel ymholiadau a oedd wedi dod i law gan ddau Gyngor Sir drwy'r Ysgrifenyddiaeth, a chytunwyd ar yr ymatebion. Roedd yr ymholiadau hyn yn ceisio cyngor ac eglurhad gan y Panel o ran adennill arian mewn perthynas â lwfans i brif gynghorwyr ar gyfer deunyddiau traul a thaliadau cydnabyddiaeth i aelodau Cyd-bwyllgorau Corfforaethol.
Trafododd y Panel yr adroddiad tystiolaeth ac ymchwil fel sail i lywio penderfyniadau'r Panel ar gyfer 2024 i 2025; cwestiynau ymgynghori; yr amserlen ar gyfer y ysgrifennu'r adroddiad blynyddol drafft; a'r Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu. Hefyd cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynghylch pontio a deddfwriaeth. Bu'r Panel hefyd yn ystyried y fframwaith taliadau ar gyfer aelodau cyfetholedig prif gynghorau, Awdurdodau Tân ac Achub ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, a hefyd y gofynion adrodd ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref.
Adolygiad o'r wefan
Nododd y Panel yr adolygiad o'r wefan a oedd wedi ei gynnal gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ("Comisiwn"). Roedd llawer o'r drafodaeth yn ymwneud â'r anallu i wneud newidiadau strwythurol i'r wefan, gan ei bod yn cael ei chynnal gan Lywodraeth Cymru. Serch hynny, gellir gwneud newidiadau i gynnwys y wefan i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i wybodaeth.
Papur ymchwil a data
Trafododd y Panel bapur ymchwil IRP (23)396 a oedd yn cynnwys tystiolaeth a data i gefnogi’r Panel ac i alluogi'r aelodau i ystyried materion a gwneud Penderfyniadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2024 i 25. Trafododd y Panel feysydd megis cyfraddau chwyddiant, fforddiadwyedd a chymaryddion Taliadau Cydnabyddiaeth i Gynghorwyr yn yr Alban. Gofynnodd y Panel fod cynrychiolwyr o Wasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru yn cael eu gwahodd i'r cyfarfod ym mis Hydref er mwyn adolygu methodoleg cyn cytuno ar benderfyniadau.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Trafododd y Panel gwestiynau ymgynghori i'w cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol Drafft.
Adroddiad Blynyddol Drafft
Ystyriodd y Panel yr amserlen ar gyfer ysgrifennu'r adroddiad blynyddol drafft, gan ystyried a ddylid cynnwys y papur ymchwil yn y fethodoleg. Cadarnhaodd y Panel y byddai'n adolygu'r adroddiad blynyddol drafft ar ôl iddo gael ei ddychwelyd o'r gwasanaeth gyfieithu a chyn y cyfarfod ym mis Hydref.
Cyfathrebu ac Ymgysylltu
Adolygodd y Panel y cynllun cyfathrebu gan drafod amserlenni ar gyfer cyfnod ymgynghori.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Panel yn mynychu diwrnod ymgysylltu gydag Un Llais Cymru a Chymdeithas Clercod Cynghorau Cymuned Lleol (SLCC) ar 30 Medi.
Byddai cyfarfodydd gydag Arweinwyr Prif Gynghorau a rhanddeiliaid eraill yn cael eu trefnu yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, a'r wybodaeth ddiweddaraf am bontio a deddfwriaeth
Rhoddodd Lisa James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar y ddeddfwriaeth ynghylch trosglwyddo'r Panel i'r corff newydd, gan ddisodli Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru, yn 2025.
Y cyfarfod nesaf
Bydd cyfarfod nesaf Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei gynnal ar 10 Hydref pan fydd y Panel yn adolygu ac yn trafod yr ymatebion i'r cwestiynau ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben.
Os oes gennych unrhyw faterion yr hoffech eu codi gyda'r Panel, mae croeso ichi gysylltu â'r Ysgrifenyddiaeth drwy e-bostio IRPMailbox@llyw.cymru.