Diweddariadau fframwaith ar gyfer Ebrill 2024.
Cynllun gweithredu digidol
I gael diweddariadau manwl ar y cynllun gweithredu digidol, mynediad i'n hardal rhannu ffeiliau a chofnodion o'r grŵp defnyddwyr eGaffael, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru
Swyddogaeth cynllunio piblinellau
Mae'r swyddogaeth cynllunio piblinellau bellach yn fyw ar GwerthwchiGymru. Mae'r swyddogaeth yn caniatáu i sefydliadau hysbysebu eu gweithgarwch caffael yn y dyfodol i brynwyr a chyflenwyr. Dim ond hyn a hyn o ddefnyddwyr fydd gan ein cynllun peilot. Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o'n cynllun peilot, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru
Adnodd mapio polisi
Mae’r adnodd mapio polisi wedi’i gynllunio i helpu prynwyr i ddeall pa bolisïau sydd angen eu hystyried yn ystod eu caffaeliadau. Ar hyn o bryd rydym yn profi derbynioldeb yr offeryn i'r cwsmer (UAT) yn fewnol. Unwaith y bydd y profion wedi'u cwblhau, byddwn yn cynnal peilot ar gyfer hyn a hyn o ddefnyddwyr ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan yn y peilot, anfonwch e-bost at: ICTProcurement@llyw.cymru
Noder: Er mwyn sicrhau eich bod yn cael eich rhoi ar y cynllun peilot cywir, nodwch pa gynllun peilot yr hoffech fod yn rhan ohono ym mlwch pwnc yr e-bost (swyddogaeth piblinellau neu offeryn mapio polisi).
Cardiau prynu
Mae'r cytundeb cardiau prynu wedi'i ymestyn tan 31 Mawrth 2026. Mae'r cytundeb hwn yn caniatáu i gyrff contractio gael datrysiadau cardiau prynu yn ôl y gofyn gan gyflenwr a pharhau i ddefnyddio eu trefniadau cardiau prynu cyfredol.
Stori newyddion da: Tieva yn rhoi tabledau i Cwmpas
Yn ddiweddar, mae Tieva, cyflenwr ar ein fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (ii), wedi rhoi 20 o dabledau cyfrifiadurol i Cwmpas. Mae Tieva a Cwmpas yn rhannu'r nod o arwain Cymru mewn trawsnewid digidol a sicrhau y gall pawb fod ar-lein.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau budd cymunedol o'i gweithgareddau caffael. Mae Tieva wedi croesawu'r ymrwymiad hwn trwy nifer o fentrau, gan gynnwys:
- Creu cyflogaeth yng Nghymru
- Cefnogi Latch, yr elusen canser plant sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd
- Gweithio gyda chyflenwyr lleol
- Rhoi i fanciau bwyd
- Rhoi clustffonau i ysgolion
Os hoffech gael gwybod mwy am y mentrau eraill y mae Tieva yn eu gwneud, e-bostiwch: hello@tieva.co.uk
Am fwy o wybodaeth am ein fframwaith ITPS2, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru