Rhaglen Plant Iach Cymru: ar gyfer plant oedran ysgol - Rhan 8: addysg cydberthynas a rhywioldeb
Sut mae gwasanaethau nyrsio ysgol yn darparu rhaglen iechyd cyffredinol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Addysg cydberthynas a rhywioldeb
Mae addysg cydberthynas a rhywioldeb yn hanfodol i bob plentyn a pherson ifanc am sawl rheswm. Os ydynt yn cael y wybodaeth gywir, caiff plant a phobl ifanc eu grymuso i wneud dewisiadau gwybodus, iach, parchus a chyfrifol am eu hiechyd rhywiol, eu cydberthnasoedd a'u lles.
Mae'r sesiynau addysg yn cael eu darparu gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion ac maen nhw'n darparu gwybodaeth am y meysydd canlynol:
- cydberthnasoedd iach
- beth i'w ddisgwyl yn ystod glasoed, gan gynnwys y newidiadau corfforol ac emosiynol
- atal cenhedlu, er mwyn atal heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs) a beichiogrwydd anfwriadol
- ystyr cydsyniad
- parchu amrywiaeth
- cyfathrebu ac annog pobl ifanc i estyn allan am gymorth
- cydraddoldeb rhywiol
Mae'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb 2021 yn cefnogi ysgolion i greu rhaglen sydd wedi'i theilwra'n unigol eu disgybl yn dibynnu ar angen. Bydd pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle i ddatblygu eu dealltwriaeth o gydberthnasoedd a rhywioldeb, gan gymryd ymagwedd seiliedig ar hawliau yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cydweithio ag ysgolion unigol ac yn ffurfio rhan o'r rhaglen ehangach sy'n cael ei darparu yn yr ysgol. Bydd y wybodaeth a ddarperir yn cael ei theilwra i anghenion unigolion a chaiff ei chyflwyno gan ddefnyddio dulliau gwahanol er enghraifft, ystafell ddosbarth, grwpiau, ar y cyd â theuluoedd, neu adnoddau digidol.
Mae'r cynnwys a gyflwynir yn briodol i oedran yn unol â'r cod ac wedi'i deilwra i oedran y plentyn a'r gynulleidfa. Wrth i blant a phobl ifanc symud ymlaen drwy addysg ac aeddfedu, bydd lefel y manylion a'r wybodaeth yn cynyddu yn ôl y cod. Mae'r wybodaeth yn meithrin amgylchedd sy'n annog unigolion i fod yn agored, sy'n anfeirniadol ac yn gynhwysol. Mae'r iaith a ddefnyddir yn hawdd ei deall a gall y grŵp oedran ei deall.
Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn darparu gwybodaeth i bob plentyn a pherson ifanc drwy'r rhaglen gyffredinol, fel y nodir yn y model gweithredu:
- blwyddyn 5 a 6: tyfu i fyny, gan gynnwys glasoed a hylendid
- blwyddyn 9: cydberthnasoedd, gan gynnwys heintiau a drosglwyddir yn rhywiol
- blwyddyn 9: cydberthnasoedd, gan gynnwys atal cenhedlu
Yn ystod oedran ysgol uwchradd, trwy leoliadau ysgol, darperir pwysigrwydd cyfathrebu, empathi a pharch y naill at y llall wrth feithrin cydberthnasoedd iach. Rhennir gwybodaeth hefyd am y gwasanaethau lleol sydd ar gael i bobl ifanc a sut i gael mynediad at y gwasanaethau hyn pe baent yn dymuno gwneud hynny neu angen gwneud hynny.
Yn ogystal â'r wybodaeth hon, gall pobl ifanc gael mynediad at wasanaeth cynghori cyfrinachol am ddim am iechyd rhywiol a chydberthnasoedd hefyd, a ddarperir gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion. Mae'r sesiynau galw heibio yn gyfle i drafod pwnc penodol yn fanylach gydag aelod staff hyfforddedig neu i ofyn am ragor o wybodaeth.