Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen imiwneiddio plentyndod i blant oed ysgol

Mae sicrhau bod plant yn cael cynnig ac yn derbyn brechiadau’n agwedd sylfaenol ar iechyd y cyhoedd, gan hyrwyddo lles unigol a gwytnwch cymunedol yn erbyn clefydau y gellir eu hatal yn unol ag amserlen imiwneiddio arferol y plant ar gyfer pob plentyn yng Nghymru.

Bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn unol â'r fframwaith ar gyfer nyrsio mewn ysgolion yng Nghymru, yn darparu'r rhaglenni ysgol i bob disgybl yn unol â'r safonau.

Bydd negeseuon allweddol iechyd cyhoeddus yn cael eu cyflwyno i ddisgyblion cymwys yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn y dylent gael y brechiadau. Trwy ymgorffori gwybodaeth gywir sy'n briodol i'w hoedran, gall gwasanaethau nyrsio ysgolion rymuso disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a'u lles. Bydd disgyblion yn dysgu sut mae brechlynnau'n eu hamddiffyn rhag clefydau penodol, gan hyrwyddo ymagwedd ragweithiol tuag at eu hiechyd eu hunain.

Safonau imiwneiddio ar gyfer gwasanaethau nyrsio ysgolion

Asesu statws imiwneiddio pob plentyn o oedran cychwyn yn yr ysgol

Bydd statws brechu pob disgybl yn cael ei wirio wrth gychwyn yn yr ysgol gynradd er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn gyfredol gydag amserlen y DU ar gyfer imiwneiddio arferol yn ystod plentyndod. Bydd gwybodaeth yn cael ei chynnig i deuluoedd am y ffordd y gellir cael y brechiadau sydd heb eu cael.

Brechlyn ffliw byw wedi'i wanhau (LAIV)

Cynigir brechlyn ffliw byw (LAIV) drwy’r trwyn i bob disgybl cymwys yn yr ysgol yn ystod tymor ysgol yr hydref.

Asesu statws imiwneiddio pob plentyn o oedran cychwyn yn yr ysgol uwchradd

Bydd statws brechu pob disgybl yn cael ei wirio wrth gychwyn yn yr ysgol uwchradd er mwyn sicrhau bod pob disgybl yn gyfredol gydag amserlen y DU ar gyfer imiwneiddio arferol yn ystod plentyndod a bydd gwybodaeth yn cael ei chynnig am sut i gael y brechiadau sydd heb eu cael.

Safon genedlaethol bod pob disgybl cymwys ym mlwyddyn ysgol 8 yn cael cynnig y brechlyn HPV

Bydd pob disgybl cymwys ym mlwyddyn ysgol 8 yn cael cynnig y brechlyn HPV.

Mae pob person ifanc cymwys ym mlwyddyn 9 yn cael cynnig y brechlynnau Td/IPV a MenACWY

Bydd pob disgybl cymwys ym mlwyddyn ysgol 9 yn cael cynnig brechlyn Td/IPV a MenACWY.

Rhoddir y Td/IPV, a elwir hefyd yn "pigiad atgyfnerthu i bobl yn eu harddegau" neu "3 mewn 1", i hybu amddiffyniad rhag 3 chlefyd ar wahân:

  • tetanws
  • diphtheria
  • polio

Mae'n un pigiad a roddir i gyhyr y fraich uchaf.

Mae'r brechlyn MenACWY yn helpu i'ch amddiffyn rhag 4 achos gwahanol llid yr ymennydd a septisemia: brechlynnau grwpiau meningococaidd A, C, W ac Y.

Bydd cyfleoedd yn cael eu darparu i ddal i fyny gyda brechiadau i'r rhai sy'n colli brechiadau

Bydd cyfleoedd yn cael eu darparu i ddal i fyny gyda brechiadau ar gyfer y rhai sy'n colli brechiadau wedi'u trefnu i amddiffyn rhag ffliw tymhorol, y firws papiloma dynol, tetanws, diphtheria a pholio a llid yr ymennydd a septisemia (Fluenz, HPV, Td/IPV a MenACWY).