Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi plant drwy oedrannau a chyfnodau ysgol

Pam ei fod yn bwysig

Un o rolau allweddol y gwasanaethau nyrsio ysgolion yw cefnogi plant wrth iddynt symud drwy wahanol gyfnodau bywyd ysgol, fel dechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf, neu symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd. Cyfeirir atynt yn y gwasanaethau cyhoeddus fel "pontio", mae'r cyfnodau allweddol hyn ym mywyd plentyn neu berson ifanc yn gyfleoedd hanfodol i gefnogi datblygiad a lles parhaus. Mae'r pwyntiau pontio’n wahanol i blant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol a'r rhai mewn ysgolion arbennig, fodd bynnag, mae pwyntiau pontio’n parhau yn nhermau'r cwricwlwm neu yn nhermau datblygiad er efallai na fydd y lleoliad yn newid ac i rai plant / pobl ifanc a addysgir gartref yn ystod blynyddoedd cynradd, gallant bontio i addysg uwchradd prif ffrwd, er enghraifft.

Felly, mae pwyntiau pontio yn addysg plentyn / person ifanc yn cyfeirio at amser arwyddocaol lle mae plentyn yn symud o un lefel addysgol a/neu leoliad i un arall.

Mae cefnogi plant / pobl ifanc a rhieni/gofalwyr i feddwl am sut maen nhw'n rheoli eu hymddygiad eu hunain/plentyn yn rhan o rôl y gwasanaethau nyrsio ysgolion. Byddant yn darparu cymorth drwy nifer o ddulliau gweithredu, fel:

  • gwaith grŵp
  • sesiynau un i un
  • gweithgaredd yn y dosbarth

Byddant yn cyflwyno sesiynau iechyd cyhoeddus i drafod y pynciau hyn a darparu gwybodaeth i annog plant a phobl ifanc i wneud dewisiadau iachach gwybodus trwy eu taith drwy gamau ysgol, waeth beth fo'u lleoliad.

Rydym yn edrych ar bwyntiau pontio allweddol ar gyfer plant oed ysgol yn yr adrannau nesaf.

Cartref, meithrinfa neu warchodwr plant i'r ysgol gynradd

Gall pontio fod yn amser cyffrous i blant, ond gall fod yn gyfnod heriol i rai plant hefyd a allai fod angen cymorth ychwanegol wrth iddynt ddod yn fwy annibynnol ar y teulu a datblygu eu potensial dysgu gan gynnwys sut i gymdeithasu ag eraill.

Bydd gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill, fel ymwelwyr iechyd, yn allweddol i nodi anghenion iechyd heb eu diwallu er mwyn sicrhau pontio di-dor a sicrhau llifo i mewn i wasanaethau nyrsio ysgolion a sicrhau bod cymorth parhaus yn cael ei ddarparu i'r plentyn a'r teulu. Mae hyn yn cael ei drafod yn fanwl yn adolygiad iechyd cychwyn yn yr ysgol y model gweithredu.

Bydd pob plentyn 5 oed yn cael adolygiad iechyd wrth gychwyn yn yr ysgol, gan y bydd rhan o'r adolygiad yn cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau nyrsio ysgolion o’r gwasanaeth ymwelwyr iechyd. Bydd gwasanaethau'n cael eu darparu gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion drwy lefel haenog o ymyriadau iechyd cyhoeddus yn seiliedig ar angen.

Ysgol gynradd neu wedi'i addysgu gartref i'r ysgol uwchradd

Wrth i blant a phobl ifanc symud i mewn oedran ysgol uwchradd a mynd drwyddo, bydd llawer ohonynt yn cyrraedd eu glasoed. Gall glasoed a'r newidiadau sy'n digwydd yn ystod y cyfnod hwn, yn emosiynol ac yn gorfforol, fod yn arbennig o heriol. Gall plant a phobl ifanc ddechrau arbrofi gydag ymddygiad cymryd risg fel:

Wrth iddynt ddysgu addasu a rheoli'r newidiadau hormonaidd hyn, maen nhw'n fwy agored hefyd i brofi gorbryder, problemau gyda hunan-barch isel a gallant ddechrau ymddygiad hunan-niweidio fel mecanwaith ymdopi.

Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn darparu gwybodaeth drwy amrywiaeth o sianeli digidol i bob plentyn ym mlwyddyn 6 neu sy'n agosáu at 12 oed. Bydd y wybodaeth yn cynnwys:

  • sut i gael mynediad at y nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgolion) mewn sesiynau galw heibio
  • amserlenni imiwneiddio
  • meithrin perthynas iach ag eraill
  • ymdrin â straen ac amgylcheddau newydd
  • newidiadau emosiynol a chorfforol yn ystod y glasoed
  • hydradu a maeth
  • sut i gysylltu â gweithwyr proffesiynol priodol i gael cyngor

Ysgol uwchradd i'r coleg neu'r gweithlu

Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor rheolaidd i bobl ifanc drwy nifer o sianeli digidol i'w haddysgu, eu hysbysu a'u cefnogi i wneud dewisiadau iachach o ran ffordd o fyw.

Ar ôl dechrau addysg ysgol uwchradd, bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn canolbwyntio ar gefnogi plant a phobl ifanc gyda'r pontio a pherthynas iach ag eraill. Bydd y pwyslais ar y plant a'r bobl ifanc yn ysgwyddo cyfrifoldeb am eu hiechyd eu hunain yn y meysydd canlynol:

  • newidiadau emosiynol a chorfforol trwy gyfnod y glasoed
  • perthynas iach ag eraill a ffordd iach o fyw
  • pwysigrwydd hunan-archwilio
  • cael mynediad i sesiynau galw heibio cyfrinachol

Cyn i'r bobl ifanc orffen addysg ffurfiol yn 16 oed, bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu â phobl ifanc, gyda'r nod o'u paratoi ar gyfer eu camau nesaf mewn bywyd. Mae hyn yn allweddol er mwyn sicrhau bod pobl ifanc yn gallu cymryd rheolaeth dros eu dewisiadau ffordd o fyw a deall sut i estyn allan am gymorth. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys:

  • sut i gael gafael ar gyngor iechyd rhywiol
  • cydsyniad mewn perthynas ag eraill
  • cael mynediad at wasanaethau meddyg teulu neu 111 i gael cyngor a chael mynediad i'w cofnodion imiwneiddio
  • cymorth iechyd meddwl os oes angen

Cefnogaeth lefel uwch a dwys

Bydd rhai plant a phobl ifanc angen haen uwch o gymorth yn ystod cyfnodau pontio ysgolion. Gall hyn fod oherwydd anghenion lles emosiynol presennol, gwendidau eraill, neu anghenion gofal iechyd cymhleth a all gynyddu effaith newidiadau fel y glasoed sydd wedi'u disgrifio uchod.

Yn y model gweithredu hwn, bydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn gweithio ar y cyd i asesu anghenion plentyn a chytuno ar sut mae sesiynau ystafell ddosbarth iechyd cyhoeddus yn cael eu darparu ym mhob ysgol. Mewn ysgolion arbennig, efallai y bydd rhai plant a phobl ifanc yn gallu cymryd rhan mewn sesiynau yn yr ystafell ddosbarth, gan ddefnyddio deunyddiau gweledol ac addasiadau ond ni fydd eraill. Felly, bydd y ddarpariaeth yn cael ei theilwra yn unol â hynny yn seiliedig ar angen o adeg cychwyn yn yr ysgol ymlaen. Bydd nyrsys sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig yn gweithio mewn model tîm o amgylch y plentyn i gefnogi'r addasiadau gofynnol. Mae cysylltu â rhieni/gofalwyr yn allweddol i hyn.

Gall plant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth fod yn fwy sensitif i newidiadau mewn wynebau, strwythur, trefn a'r amgylchedd. Bydd nyrsys sy'n gweithio mewn ysgolion arbennig yn cefnogi'r ysgol i reoli anghenion iechyd a lles y plentyn / person ifanc yn ystod cyfnodau pontio ysgol. Mae'r rôl cydlynu gofal, y mae'r nyrs mewn ysgolion arbennig yn ymgymryd â hi, yn bwysig i gefnogi cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a pharhad gofal ac i hyrwyddo prosesau rhannu gwybodaeth rhwng gwasanaethau. Dylid cynnal cyfarfodydd o leiaf 8 wythnos cyn y bydd pontio’n digwydd (er enghraifft, newid blwyddyn ysgol) os rhagwelir y bydd angen cymorth ychwanegol ar y plentyn neu'r person ifanc. Mae cynllunio amlddisgyblaethol yn allweddol i ddarparu proses bontio well a lleihau gorbryder i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd a lleihau unrhyw effaith andwyol ar iechyd a lles y plentyn.

Fel mewn lleoliadau prif ffrwd, y nod wrth i'r plentyn / person ifanc gyrraedd glasoed yw hyrwyddo ei ddealltwriaeth o risgiau a'i rymuso i wneud dewisiadau ffordd o fyw iachach hunanwybodus. Mae cefnogi'r plentyn neu'r person ifanc i ddatblygu hunanofal, wedi'i addasu i gydnabod naill ai ei anghenion gofal iechyd a lles wrth wella ei annibyniaeth, yn bwysig wrth iddo ddatblygu i gyfnod y glasoed.

Disgyblion sy'n ymadael â’r ysgol ac yn pontio i wasanaethau oedolion

Bydd angen pecyn gofal a chymorth parhaus ar rai pobl ifanc gan wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol yn dilyn eu pen-blwydd yn 18 oed. Mae pontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion yn broses gymhleth a dylai'r gwaith cynllunio ddechrau mor gynnar â 14 oed. Yn unol â'u cylch gwaith cydlynu gofal, mae'n bwysig i'r nyrs mewn ysgolion arbennig gysylltu â'r gweithiwr / gweithwyr proffesiynol sy'n arwain ar y gwaith o gynllunio pontio'r person ifanc a sefydlu a oes cydlynydd pontio wedi'i neilltuo. Bydd y person ifanc yn hysbys i wasanaethau nyrsio plant cymunedol lleol neu wasanaethau anabledd dysgu plant ac efallai y bydd ganddo weithiwr cymdeithasol presennol gyda gwasanaethau plant yr awdurdod lleol.

Gwasanaeth galw heibio cyfrinachol

Bydd y nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgolion), yn darparu sesiynau galw heibio cyfrinachol i blant ym mhob ysgol uwchradd prif ffrwd. Bydd y sesiynau galw heibio hyn yn cael eu cynnal yn wythnosol ar safle ysgol uwchradd yn ystod tymor ysgol ac yn ystod oriau ysgol. Mae'r sesiynau galw heibio hyn yn darparu gofod cyfrinachol lle gall plant a phobl ifanc deimlo'n gyfforddus i drafod pryderon iechyd neu emosiynol personol. Gall pob plentyn a pherson ifanc yn yr ysgol uwchradd gael mynediad at y gwasanaeth galw heibio hwn yn gyfrinachol. Ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu heblaw yn yr ysgol, bydd lleoliadau cyfleus eraill ar gael i blant a phobl ifanc gael mynediad at y gwasanaeth, er enghraifft, sesiynau bore coffi gyda theuluoedd, sesiynau galw heibio cymunedol, a hysbysebir drwy sianeli digidol.

Mae'r gwasanaethau nyrsio ysgolion wedi'u hyfforddi i fod ag ymwybyddiaeth ac i nodi lle gall problemau fod yn fwy cymhleth a gallu cefnogi, cyfeirio ac atgyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau eraill mwy priodol. Mae'r dull hwn yn meithrin ymddiriedaeth ac yn annog cyfathrebu agored, fel y gellir adnabod yn gynnar a rhoi cefnogaeth briodol.

Mae plant a phobl ifanc wedi dweud ei bod yn eithriadol o bwysig cael cysondeb gydag un nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgol), ar gyfer y sesiynau galw heibio wythnosol, gan eu bod yn teimlo bod hyn yn gwella effeithiolrwydd y gefnogaeth. Mae'n meithrin perthnasoedd seiliedig ar ymddiriedaeth rhwng y plentyn / person ifanc a'r nyrs gan greu amgylchedd cyfforddus ar gyfer cyfathrebu agored. Mae'r parhad hwn yn caniatáu i'r nyrs ddeall yn well anghenion y plentyn / person ifanc a darparu cymorth mwy personol dros amser, gan gynnwys osgoi'r angen i blant / pobl ifanc ailadrodd eu stori wrth weithwyr proffesiynol lluosog, sy'n aml yn rhwystr i bobl ifanc geisio cymorth yn y lle cyntaf.

Mae cyfrinachedd yn y sesiynau galw heibio hyn yn hanfodol ar gyfer creu lle diogel a chyfnewid gwybodaeth. Bydd y nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgol), sy'n gweithio o fewn polisi a chanllawiau diogelu’n sicrhau bod cyfrinachedd yn parhau, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol lle mae risg o niwed. Mae'r cyfrinachedd hwn yn helpu i feithrin ymddiriedaeth ac yn annog plant i rannu eu pryderon yn agored gyda'r sicrwydd y bydd eu preifatrwydd yn cael ei barchu.

Fel rhan o'r sesiynau galw heibio, bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn darparu cefnogaeth a thrafodaethau ynghylch iechyd rhywiol. Bydd y nyrs yn darparu gwybodaeth werthfawr am bynciau sy'n ymwneud â glasoed, perthynas ag eraill, ac arferion diogel. Mae'r sgyrsiau hyn yn grymuso pobl ifanc i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd a'u lles. Mae'n hanfodol drwy'r sesiynau hyn bod y nyrs yn darparu amgylchedd diogel ac anfeirniadol i blant / pobl ifanc ofyn cwestiynau a gofyn am gyngor ac arweiniad. Bydd mynediad i'r cynllun dosbarthu condomau ar gael drwy'r sesiynau galw heibio hefyd.

Un pwynt mynediad

Bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn darparu un pwynt mynediad i rieni/gofalwyr a theuluoedd gael mynediad at gyngor a chymorth. Bydd y dull hwn yn gwella effeithlonrwydd ac yn sicrhau bod teuluoedd yn cael eu cysylltu'n hawdd pan fydd angen y cymorth a'r cyngor. Bydd y wybodaeth pwynt mynediad unigol yn cael ei darparu i bob teulu drwy'r pecyn croeso cychwyn yn yr ysgol.