Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Cymru
Rwyf wedi gwneud cais heddiw i’r Goruchaf Lys am ganiatâd i gymryd rhan yn Atgyfeiriad Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban).
Mae rhai o’r cwestiynau a godwyd gan y Twrnai Cyffredinol a chan Adfocad Cyffredinol yr Alban yn yr Atgyfeiriad hwnnw yn codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn â phob setliad datganoli yn y Deyrnas Unedig. Nid cwestiynau sy’n berthnasol i’r Bil Albanaidd a setliad datganoli'r Alban yn unig mohonynt.
Gall yr Atgyfeiriad godi cwestiynau am rôl ddeddfwriaethol y deddfwrfeydd datganoledig ac am derfynau eu cymhwysedd deddfwriaethol. Gallai penderfyniad y llys felly gael effaith ar gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol a’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y Deyrnas Unedig.
Nid oes gan fy mhenderfyniad innau i wneud y cais unrhyw oblygiadau i’r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru. Fy mwriad i’n syml yw sicrhau bod dadansoddiad a rhesymeg y Goruchaf Lys yn yr Atgyfeiriad yn seiliedig ar yr holl wybodaeth, gan gynnwys unrhyw effaith bosibl ar setliad datganoli Cymru.
Disgwylir i’r Atgyfeiriad gael ei glywed gan y Goruchaf Lys ar 24 a 25 Gorffennaf.
Byddaf wrth reswm yn sicrhau bod yr Aelodau yn cael yr holl wybodaeth am yr Atgyfeiriad wrth iddo barhau yn y Goruchaf Lys, ac rwy’n bwriadu gwneud datganiad llafar yn fuan.